Edrychodd ein hymchwil ar yr hyn y mae pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yn ei feddwl am wleidyddiaeth a phleidleisio. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ddefnyddio cyfuniad o arolwg ar-lein, gyda 2,516 o bobl, a sawl grŵp ffocws yn hydref/gaeaf 2024.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Canfyddiadau allweddol

  • Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl ifanc ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth y DU – yn enwedig gwleidyddiaeth leol. Maent yn aml yn teimlo nad yw gwleidyddiaeth yn effeithio ar eu bywydau bob dydd.
  • Fodd bynnag, yn galonogol, mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc (tua dwy ran o dair) yn meddwl ei bod yn bwysig dysgu mwy am wleidyddiaeth y DU. Mae bron i dri chwarter yn credu y dylai gwleidyddiaeth gael ei haddysgu mwy mewn ysgolion neu golegau. Er bod llawer o bobl ifanc yn cael eu gwybodaeth wleidyddol o’r cyfryngau cymdeithasol, maent yn fwy tebygol o ymddiried yn y wybodaeth a glywant am wleidyddiaeth yn yr ysgol neu'r coleg.
  • Mae diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn cynyddu gydag oedran ac yn amrywio yn ôl pethau eraill, fel ble mae pobl yn byw, cefndir eu teulu, a faint o siarad sy’n digwydd am wleidyddiaeth gartref. Er enghraifft, mae pobl ifanc sy’n byw yn Llundain neu’n dod o deuluoedd incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn malio am wleidyddiaeth y DU.
  • Mae hyn hefyd yn effeithio ar sut mae pobl ifanc yn meddwl am bleidleisio. Mae'r rhai sy'n siarad mwy am wleidyddiaeth gartref neu yn yr ysgol yn fwy hyderus am wybod sut i bleidleisio mewn etholiad.
  • Fodd bynnag, mae llawer o bobl ifanc yn dal i fod yn ansicr ynghylch pleidleisio. Maen nhw eisiau gwybod mwy am sut mae pleidleisio’n gweithio, pam ei fod yn bwysig, ac i bwy y dylen nhw bleidleisio.
  • Os yw pobl ifanc yn deall sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio a pham ei bod yn bwysig, maent yn fwy tebygol o gymryd rhan. Er mwyn gwneud gwleidyddiaeth yn fwy diddorol, dylid ei haddysgu mewn ffyrdd diddorol, gydag ymweliadau gan bobl sy'n gweithio ym myd gwleidyddiaeth neu drwy ffug etholiadau.