Cofrestrau etholiadol
Overview
Ar adeg cyhoeddi cofrestrau blynyddol 2020, roedd 46,906,270 o gofnodion ar y cofrestrau seneddol yn y DU. Roedd y ffigur hwn yn ostyngiad o 168,578 (0.4%) o gymharu â chofrestrau blynyddol 2019, a welodd gynnydd o 2.8% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'n debygol mai cynnydd yn nifer y ceisiadau cyn cyhoeddi cofrestrau 2019 o ganlyniad i etholiad cyffredinol y DU yn 2019 oedd yn gyfrifol am y gostyngiad hwn yn nifer y cofnodion ar gofrestrau 2020 o gymharu â chofrestrau 2019, ynghyd â llai o weithgarwch cofrestru yn 2020 sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r ffaith na chafodd unrhyw etholiadau eu cynnal oherwydd pandemig y coronafeirws.
Er i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau wynebu heriau penodol yn sgil COVID-19, roedd y canfasiad diwygiedig cyntaf ym Mhrydain Fawr yn llwyddiannus ar y cyfan, a thrwy ymarferion paru data cenedlaethol a lleol, caniatawyd i Swyddog Cofrestru Etholiadol dargedu eu hadnoddau at y cartrefi hynny lle roedd angen gwneud newidiadau i'r cofrestrau.
Y cofrestrau etholiadol
Ar adeg cyhoeddi cofrestrau blynyddol 2020, roedd 46,906,270 o gofnodion ar y cofrestrau seneddol a 49,063,707 o gofnodion ar y cofrestrau llywodraeth leol yn y Deyrnas Unedig.
Gwelwyd gostyngiad o 168,578 (0.4%) yng nghyfanswm y cofnodion seneddol o gymharu â chofrestrau blynyddol 2019, a welodd gynnydd o 2.8% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r tabl isod yn dangos y newid rhwng cofrestrau blynyddol 2019 a 2020 ar gyfer pob rhan o'r DU:
2019 | 2020 | % newid | |
---|---|---|---|
Lloegr | 39,476,140 | 39,298,264 | -0.5% |
Yr Alban | 3,988,550 | 4,012,429 | +0.6% |
Cymru | 2,313,851 | 2,304,640 | -0.4% |
Gogledd Iwerddon | 1,296,307 | 1,290,937 | -0.4% |
Y Deyrnas Unedig | 47,074,848 | 46,906,270 | -0.4% |
Gwelwyd gostyngiad o 90,059 (0.2%) yng nghyfanswm y cofnodion ar y cofrestrau llywodraeth leol o gymharu â 2019.
Roedd y newid yn nifer y cofnodion ar gofrestrau llywodraeth leol yn amrywio ledled y DU. Yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (1.4%) y gwelwyd y gostyngiad mwyaf, ond cofnodwyd cynnydd yn yr Alban (1.0%) o gymharu â chofrestrau blynyddol 2019.
Fodd bynnag, dylid nodi mai ym mis Tachwedd y cyhoeddodd y mwyafrif o Swyddogion Cofrestru Etholiadol gofrestrau blynyddol 2019. Roedd hyn yn golygu nad oedd y cofrestrau'n cynnwys y rhai a gofrestrodd yn y cyfnod cyn y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer etholiad cyffredinol y DU, sef 26 Tachwedd 2019.
Mae'r tabl isod yn nodi maint y cofrestrau llywodraeth leol yn 2019 a 2020 ac yn dangos y newid canrannol ar gyfer gwahanol rannau o'r DU:
2019 | 2020 | % newid | |
---|---|---|---|
Lloegr | 41,306,474 | 41,186,293 | -0.3% |
Gogledd-ddwyrain Lloegr | 1,941,751 | 1,956,275 | +0.7% |
Gogledd-orllewin Lloegr | 5,524,983 | 5,461,941 | -1.1% |
Swydd Efrog a'r Humber | 3,989,849 | 4,025,884 | +0.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 3,634,684 | 3,583,548 | -1.4% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 4,308,174 | 4,276,920 | -0.7% |
Dwyrain Lloegr | 4,673,209 | 4,653,094 | -0.4% |
Llundain | 6,097,439 | 6,116,260 | +0.3% |
De-ddwyrain Lloegr | 6,829,241 | 6,813,201 | -0.2% |
De-orllewin Lloegr | 4,307,144 | 4,299,170 | -0.2% |
Yr Alban | 4,167,361 | 4,208,923 | +1.0% |
Cymru | 2,349,434 | 2,342,478 | -0.3% |
Prydain Fawr | 47,823,269 | 47,737,694 | -0.2% |
Gogledd Iwerddon | 1,330,497 | 1,326,013 | -0.3% |
Y Dernas Unedig | 49,153,766 | 49,063,707 | -0.2% |
Yn gyffredinol, gellir esbonio'r newidiadau yn nifer yr etholwyr cofrestredig mewn ardal drwy'r canlynol:
- Newid ym maint y boblogaeth sy'n gymwys i bleidleisio. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i fudo rhyngwladol, mudo mewnol, pobl ifanc yn dod yn ddigon hen i bleidleisio a phobl sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn marw.
- Newid yng nghyfran y boblogaeth gymwys sy'n cofrestru i bleidleisio. Gallai hyn ddigwydd o ganlyniad i newidiadau yn y dulliau canfasio a ddefnyddir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol i gofrestru pleidleiswyr, etholiad diweddar neu gynnydd yn niddordeb y cyhoedd yn y darlun gwleidyddol.
- Newid i'r diffiniad o gymhwysedd. Er enghraifft, yn 2020 estynnwyd yr hawl i bleidleisio i bob gwladolyn tramor a oedd â'r hawl i aros yng Nghymru a'r Alban ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Senedd/Senedd yr Alban. Estynnwyd yr hawl i bleidleisio hefyd i bobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer yr un etholiadau yng Nghymru yn 2020.
Cymariaethau â chofrestrau mis Mawrth 2020
Cyhoeddodd SYG ystadegau mewn perthynas â chofrestrau etholiadol ar 2 Mawrth 2020. Fe'u lluniwyd i ategu'r adolygiad o ffiniau etholaethau seneddol y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2023.
Fel y nodwyd uchod, mae'r Alban yn sefyll allan fel yr unig wlad lle y gwelwyd cynnydd yn nifer y cofrestriadau rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Rhagfyr 2020. Fodd bynnag, o gymharu â'r cofrestrau ar gyfer mis Mawrth 2020 (sy'n cynnwys y bobl a gofrestrodd yn y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig yn 2019), mae'r ffigurau ar gyfer yr Alban yn gyson â rhai'r gwledydd eraill.
Mawrth 2020 | PAR 2020 | % newid | |
---|---|---|---|
Lloegr | 39,860,421 | 39,298,264 | -1.4% |
Yr Alban | 4,079,612 | 4,012,429 | -1.6% |
Cymru | 2,322,677 | 2,304,640 | -0.8% |
Gogledd Iwerddon | 1,295,688 | 1,290,937 | -0.4% |
Y Dernas Unedig | 47,558,398 | 46,906,270 | -1.4% |
Mawrth 2020 | PAR 2020 | % newid | |
---|---|---|---|
Lloegr | 41,684,472 | 41,186,293 | -1.2% |
Yr Alban | 4,227,659 | 4,208,923 | -0.4% |
Cymru | 2,358,070 | 2,342,478 | -0.7% |
Gogledd Iwerddon | 1,329,947 | 1,326,013 | -0.4% |
Y Dernas Unedig | 49,600,148 | 49,063,707 | -1.1% |
Other register statistics
Mae cofrestrau etholiadol yn cynnwys pobl a fydd yn troi'n 18 oed yn Lloegr ac 16 oed yng Nghymru a'r Alban ac a fydd, felly, yn gymwys i bleidleisio (yn dibynnu ar yr etholfraint ar gyfer pob etholiad), yn ystod oes y gofrestr. Cyfeirir at y grŵp hwn fel cyrhaeddwyr.
Yn gyffredinol, mae nifer y cyrhaeddwyr ar y cofrestrau seneddol a llywodraeth leol yn parhau i ostwng. Gwelwyd gostyngiad o 21.0% yn nifer y cyrhaeddwyr ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr. Gwelwyd gostyngiad o 18.0% yn y niferoedd ar y cofrestrau llywodraeth leol.
Caiff y lleihad cyffredinol yn nifer y cyrhaeddwyr ei ysgogi gan y newid yn Lloegr – yno gwelwyd lleihad sylweddol yn y niferoedd a oedd wedi cofrestru ar gofrestrau seneddol a llywodraeth leol (25.9% a 26.1% yn y drefn honno). Mae'n debygol mai'r rheswm am hyn, yn rhannol o leiaf, yw'r ffaith bod cyrhaeddwyr blaenorol wedi cyrraedd oedran pleidleisio erbyn hyn a bod llai o weithgarwch cofrestru wedi mynd rhagddo yn 2020 yn sgil gohirio'r etholiadau lleol yn Lloegr ym mis Mai 2020. Fodd bynnag, ni allwn ddiystyru'r posibilrwydd mai'r canfasiad diwygiedig fu'n gyfrifol am o leiaf rywfaint o'r newid hwn, a byddwn yn parhau i adolygu hyn er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o'r sefyllfa a lliniaru'r gostyngiad.
Gwelwyd cynnydd yn nifer y cyrhaeddwyr cofrestredig yng Nghymru a'r Alban. Yn yr Alban, gwelwyd cynnydd bach yn y niferoedd ar y cofrestrau seneddol (0.9%) a mwy na dwbl y niferoedd ar y cofrestrau llywodraeth leol (103.1%). Mae'n debygol mai gweithgarwch cofrestru ymhlith pleidleiswyr o dan 16 oed, a fyddai wedyn yn gymwys i bleidleisio yn etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai 2021, sy'n gyfrifol am hyn.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd sylweddol hefyd yn y niferoedd ar y cofrestrau seneddol (11.6%) a'r cofrestrau llywodraeth leol (11.2%). Unwaith eto, mae'n debygol mai gweithgarwch cofrestru ymhlith pleidleiswyr iau a fyddai'n gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021, lle roedd gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf, sy'n gyfrifol am y cynnydd hwn.
Nifer y cyrhaeddwyr ar gofestrau seneddol | Nifer y cyrhaeddwyr ar gofrestrau llywodraeth leol | |||||
---|---|---|---|---|---|---|
2019 | 2020 | % newid | 2019 | 2020 | %newid | |
Lloegr | 254,384 | 188,472 | -25.9% | 265,624 | 196,346 | -26.1% |
Yr Alban | 38,171 | 38,518 | +0.9% | 14,577 | 29,599 | +103.1% |
Cymru | 12,942 | 14,437 | +11.6% | 13,170 | 14,640 | +11.2% |
Prydain Fawr | 305,497 | 241,427 | -21.0% | 293,371 | 240,585 | -18.0% |
Mae'r oedran pleidleisio yn is ar gyfer rhai etholiadau yng Nghymru a'r Alban (etholiadau Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau lleol) o gymharu ag etholiadau yn Lloegr. Cyflwynwyd y newid yn yr Alban yn 2015 ac yng Nghymru yn 2020.
Mae a wnelo'r ffigurau yn yr adran hon â'r cofrestrau blynyddol a gyhoeddwyd ar ddiwedd canfasiad 2020 (h.y. rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021). Felly, nid yw'r data yn cynnwys unrhyw un a gofrestrodd yn y cyfnod cyn yr etholiadau yng Nghymru a'r Alban ym mis Mai 2021.
Yn yr Alban, ar adeg cyhoeddi'r gofrestr flynyddol yn 2020, roedd cyfanswm o 73,272 o bobl ifanc 16 ac 17 oed ar y gofrestr llywodraeth leol. Mae'r tabl isod yn dangos y duedd o ran y nifer sydd wedi cofrestru ers i'r newid hwn gael ei gyflwyno.
2015 | 2016 | 2017 | 2018 | 2019 | 2020 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Pobl ifanc 16/17 oed ar gofrestrau Llywodraeth Leol | 48,962 | 79,621 | 83,536 | 78,383 | 73,777 |
73,272 |
Yng Nghymru, ar adeg cyhoeddi'r cofrestrau blynyddol yn 2020, roedd cyfanswm o 15,457 o bobl ifanc 16 ac 17 oed ar y gofrestr llywodraeth leol.
Cyhoeddir data ar nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed a oedd wedi cofrestru ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021 ochr yn ochr ag adroddiadau'r Comisiwn ar yr etholiadau.
Gall dinesydd o'r DU sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor. Mae'n ofynnol iddo adnewyddu ei gofrestriad bob 12 mis. Cyfanswm nifer yr etholwyr tramor ar y cofrestrau ym Mhrydain Fawr ar gyfer 2020 oedd 184,982.
2015 | 2016 | 2017 | 2018 | 2019 | 2020 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Lloegr | 97,572 | 241,097 | 205,687 | 113,833 | 185,513 | 170,196 |
Yr Alban | 7,729 | 15,230 | 12,790 | 6,679 | 11,587 | 9,617 |
Cymru | 2,940 | 7,567 | 6,995 | 3,678 | 6,969 | 5,169 |
Prydain Fawr | 108,241 | 263,894 | 225,472 | 124,190 |
204,069 |
184,982 |
Mae hyn yn ostyngiad o 9% ers cyhoeddi'r gofrestr flynyddol yn 2019 ac, oherwydd yr angen i adnewyddu'r cofrestriad bob 12 mis, mae'n debygol mai absenoldeb digwyddiadau etholiadol y gallai'r etholwyr hyn fod wedi pleidleisio ynddynt sy'n gyfrifol i raddau helaeth.
Gwelwyd lleihad yn nifer y cofnodion dienw ar gofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr, o 3,546 yn 2019 i 3,374 yn 2020.
Gall pobl sy'n bodloni rhai gofynion penodol, y mae eu diogelwch hwy, neu ddiogelwch rhywun yn yr un cartref, mewn perygl, gofrestru'n ddienw. Nid yw enw na chyfeiriad pobl sy'n cofrestru'n ddienw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol.
2015 | 2016 | 2017 | 2018 | 2019 | 2020 | |
---|---|---|---|---|---|---|
England | 2,151 | 2,194 | 2,440 | 2,550 | 3,214 | 3,064 |
Scotland | 111 | 117 | 116 | 130 | 194 | 196 |
Wales | 74 | 74 | 85 | 108 | 138 | 114 |
Great Britain | 2,336 | 2,385 | 2,641 | 2,788 | 3,546 | 3,374 |
Canfasiad blynyddol 2020
Yn ogystal ag adolygu prif ffigurau'r etholaeth, rydym hefyd yn dadansoddi gwybodaeth am weithgareddau Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod canfasio blynyddol. Nid oes unrhyw ganfasiad blynyddol cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'n rhaid i'r canfasiad ddechrau rhwng 1 Gorffennaf a 30 Tachwedd, ond nid oes angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gwblhau'r holl weithgarwch canfasio o reidrwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Canfasiad 2020 oedd y cyntaf i'w gynnal o dan fodel newydd sy'n cynnwys paru data ar y cofrestrau etholiadol â chyfuniad o ddata cenedlaethol a lleol ar ddechrau'r broses. Caiff y Swyddog Cofrestru Etholiadol wybod, drwy'r ymarfer paru data hwn, yr eiddo hwnnw lle nad yw cyfansoddiad y cartref yn debygol o fod wedi newid, gan ei alluogi i dargedu ei weithgarwch canfasio mewn ffordd briodol.
Yna, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn dilyn un o dri llwybr ar gyfer pob eiddo:
- Llwybr 1: Defnyddir y llwybr hwn ar gyfer eiddo lle mae'r etholwyr cofrestredig yn cyfateb i ddata eraill, a thybir nad yw cyfansoddiad y cartref wedi newid. Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â chartrefi Llwybr 1 i'w gwahodd i ddarparu gwybodaeth am unrhyw newidiadau, ond nid yw'n ofynnol i'r cartref ymateb os na fu unrhyw newidiadau.
- Llwybr 2: Defnyddir y llwybr hwn ar gyfer eiddo lle nad oedd yr etholwyr cofrestredig cyfredol yn cyfateb i'r data eraill, a thybir bod cyfansoddiad y cartref wedi newid sy'n golygu y byddai angen diweddaru'r gofrestr etholiadol. Mae'n ofynnol i'r cartrefi hyn ymateb i geisiadau am wybodaeth, p'un a oes angen iddynt roi gwybod am newid ai peidio.
- Llwybr 3: Defnyddir y llwybr hwn ar gyfer eiddo lle mai'r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o gael gwybodaeth am breswylwyr, ym marn y Swyddog Cofrestru Etholiadol, yw bod un ‘person cyfrifol’ yn gweithredu ar ran yr holl breswylwyr. Mae enghreifftiau o'r mathau hyn o eiddo yn cynnwys cartrefi gofal a neuaddau preswyl myfyrwyr. Os na fydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn llwyddo i gael gwybodaeth am yr eiddo gan ‘berson cyfrifol’, bydd angen iddo ddefnyddio proses Llwybr 2 i ganfasio'r mathau hyn o eiddo.
Mae'r adrannau isod yn dilyn trywydd rhesymegol bras drwy'r canfasiad – yn dechrau gyda dyrannu cartrefi i lwybrau gwahanol, cyn symud ymlaen i edrych ar yr ymatebion a dderbynnir gan gartrefi, ac yna'r ceisiadau a dderbynnir gan unigolion. Yn olaf, rydym yn ystyried data ar effaith y gweithgarwch cofrestru etholiadol – newidiadau i'r cofrestrau (h.y. ychwanegiadau a dileadau).
Casglu data
Ar ôl i'r cofrestrau blynyddol gael eu cyhoeddi, mae'r Comisiwn yn gofyn am ddata gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, ynghyd â gwybodaeth am eu proses ganfasio.
Mae'r dadansoddiad a'r canlyniadau yn yr adran hon yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwn gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Derbyniwyd ymatebion gan 366 o ardaloedd awdurdod lleol ledled Prydain Fawr.
Cartrefi a ddyrennir i bob llwybr
Cyffredinol
Ar ddechrau'r canfasiad, caiff pob cofrestr ei pharu yn erbyn data'r Adran Gwaith a Phensiynau ac yna bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn defnyddio'r canlyniadau i'w helpu i ddyrannu eiddo i lwybrau. Yn dilyn yr ymarfer paru data cenedlaethol hwn, mae ein data yn dangos bod 19.5 miliwn o eiddo wedi cael ei ddyrannu i Lwybr 1 a 9.3 miliwn i Lwybr 2.
Yn ogystal, mae gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol y disgresiwn i ddefnyddio setiau data lleol fel y Dreth Gyngor i gynnal ymarferion paru data er mwyn helpu gyda'r broses o ddyrannu eiddo i lwybrau.
Cynhaliodd y mwyafrif o Swyddogion Cofrestru Etholiadol ymarfer paru data lleol a'r Dreth Gyngor oedd y set ddata fwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd. Yn ôl y rhai a ymatebodd, y data hyn oedd y mwyaf defnyddiadwy a chywir. Y data mwyaf poblogaidd ar ôl hynny oedd data ar fudd-dal tai.
Cafodd y cam paru data lleol effaith sylweddol ar gyfanswm y ffigurau ar gyfer dyrannu llwybrau fel y dangosir yn y tabl isod.
Number allocated by national data matching | Number allocated after local data matching | Change (%) | |
---|---|---|---|
Route 1 | 19.5 million | 21.4 million | +10% |
Route 2 | 9.3 million | 7.5 million | -19% |
Route 3 | N/A | 277,000 | N/1 |
Mae cyfran yr eiddo a ddyrannwyd i Lwybr 2 (26% ar ôl y cam paru data lleol) yn debyg i'r hyn a ragfynegwyd yn natganiad polisi llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban ar gyfer diwygio'r canfasiad, a oedd yn rhagweld y byddai'n rhaid i tua chwarter o'r eiddo fod yn ddarostyngedig i broses Llwybr 2 yn genedlaethol.
Gwyddom fod rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi llwyddo i ddefnyddio ystod o ddata lleol ar ddibenion paru data, ond derbyniwyd adborth gennym hefyd yn ystod canfasiad blynyddol 2020 ac yn dilyn hynny a oedd yn awgrymu ei bod hi'n anos cael gafael ar setiau data eraill. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi mynd ati i ehangu ein canllawiau ar y broses o baru data lleol cyn canfasiad 2021. Rydym wedi cynnwys canllawiau ychwanegol ar bŵer Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gael gafael ar ddata, ac wedi tynnu sylw at rai ystyriaethau ymarferol o ran sut i weithio gyda thimau eraill mewn awdurdodau lleol i gael gafael ar ddata. Yn ogystal, yn ystod y canfasiad eleni, rydym yn bwriadu gweithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi enghreifftiau o arferion da y gallwn eu rhannu â Swyddogion Cofrestru Etholiadol eraill er mwyn eu helpu i gael gafael ar amrywiaeth o ffynonellau data lleol a'u defnyddio'n effeithiol.
Amrywiad o ran y llwybr a ddyrennir
Gan siarad yn gyffredinol, mae'r broses o ddyrannu eiddo i bob llwybr yn awgrymu bod y darlun ar draws gwledydd Prydain Fawr yn gymharol sefydlog. Yn Lloegr, roedd y dyraniadau yn debyg rhwng rhanbarthau, er nad yw'n syndod efallai mai Llundain gofnododd y gyfran leiaf o ddyraniadau Llwybr 1 (66.4%). Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy o symudiadau o fewn y boblogaeth yn Llundain, gyda mwy o eiddo yn methu â chael ei baru â data presennol ac yn cael ei ddyrannu i Lwybr 2 er mwyn nodi newidiadau yng nghyfansoddiad y cartref.
Mae'r tabl isod yn dangos cyfran yr eiddo a ddyrannwyd i bob llwybr ar gyfer pob rhanbarth:
Route 1 | Route 2 | Route 3 | |
---|---|---|---|
England | 73.4% | 25.7% | 0.9% |
North East | 78.9% | 20.8% | 0.3% |
North West | 73.4% | 25.9% | 0.8% |
Yorkshire and the Humber | 73.2% | 25.4% | 1.4% |
East Midlands | 74.9% | 23.8% | 1.3% |
West Midlands | 73.4% | 25.3% | 1.4% |
East of England | 76.9% | 22.5% | 0.6% |
London | 66.4% | 32.6% | 1.0% |
South East | 73.4% | 25.9% | 0.7% |
South West | 75.8% | 23.7% | 0.5% |
Scotland | 72.1% | 26.6% | 1.3% |
Wales | 75.1% | 23.7% | 1.2% |
Great Britain | 73.3% | 25.7% | 1.0% |
Cyfraddau ymateb cartrefi
Nod y broses o ddiwygio'r canfasiad oedd galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i sicrhau y gallai eu hadnoddau gael eu targedu at gartrefi lle roedd angen gwneud newidiadau i'r cofrestrau. Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd angen i bob cartref ymateb, hyd yn oed os nad oedd unrhyw newidiadau i'w nodi. O'r herwydd, roedd cryn dipyn o ymdrech ac adnoddau yn cael eu defnyddio yn ymdrin â chartrefi lle nad oedd y cyfansoddiad wedi newid, heb unrhyw fudd i ansawdd y cofrestrau.
Yng nghanfasiad 2020, derbyniwyd tua 8.8 miliwn o ymatebion gan gartrefi ar bob un o lwybrau'r canfasiad. Mae hyn yn cymharu â'r 23.8 miliwn o ymatebion a gafwyd i Ffurflenni Ymholiadau Cartrefi yng nghanfasiad 2019. Mae'r ymateb cyffredinol is hwn yn awgrymu bod y cynnydd mewn gweithgarwch wedi'i dargedu yn y canfasiad diwygiedig wedi llwyddo i leihau nifer yr ymatebion diangen.
Hefyd, fel y'i rhagwelwyd ym mholisi llywodraethau'r DU ar ddiwygio'r canfasiad, cafwyd cyfradd ymateb sylweddol uwch ymhlith y cartrefi hynny ar Lwybr 2, lle roedd yr ymarfer paru data wedi dangos bod mwy o debygolrwydd bod newid mewn preswylwyr, o gymharu â Llwybr 1 (66% o gymharu ag 18%). Hefyd, Llwybr 2 yw'r llwybr lle mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol sicrhau bod cartrefi yn ymateb, drwy anfon negeseuon atgoffa a chysylltu â hwy mewn ffyrdd gwahanol.
Er bod y cydbwysedd hwn o ymatebion rhwng Llwybrau 1 a 2 yn gadarnhaol, mae'n bwysig nodi, er bod angen i bob cartref ar Lwybr 2 ymateb, na chafwyd ymateb gan fwy na thraean ohonynt. Mae hyn yn golygu nad yw'r manylion ar gyfer y cartrefi hyn wedi cael eu diweddaru, pan fo'r broses paru data yn awgrymu bod angen diweddaru'r cofrestrau. Bydd angen parhau i fonitro'r maes hwn mewn canfasiadau yn y dyfodol. Bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'r Comisiwn yn gallu defnyddio'r fframwaith safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol hefyd i'w helpu i ddadansoddi'r data a deall a, lle y bo'n briodol, fynd i'r afael â'r rhesymau dros hyn.
Roedd lefel yr ymateb ar gyfer Llwybr 2 yn amrywio'n sylweddol, fel y dangosir yn y tabl isod, gyda'r Alban yn cofnodi'r gyfradd ymateb isaf ar gyfer Llwybr 2 (50%) a Lloegr yn cofnodi'r gyfradd ymateb fwyaf (67%). Yn Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth â'r gyfradd ymateb isaf i Lwybr 1 a Llwybr 2.
Route 1 | Route 2 | |
---|---|---|
England | 18.5% | 67.4% |
North East | 7.4% | 59.3% |
North West | 13.5% | 61.8% |
Yorkshire and the Humber | 14.6% | 70.5% |
East Midlands | 16.4% | 72.5% |
West Midlands | 19.5% | 69.3% |
East of England | 17.6% | 72.3% |
London | 19.6% | 59.7% |
South East | 25.7% | 71.5% |
South West | 23.1% | 72.4% |
Scotland | 14.9% | 50.0% |
Wales | 14.9% | 63.6% |
Great Britain | 18.0% | 65.5% |
Mathau o ymatebion gan gartrefi
Gall cartrefi sy'n ymateb i'r canfasiad nodi newid mawr (e.e. dangos bod darpar etholwr newydd yn byw yno), mân newid (e.e. newid enw etholwr presennol) neu ddim newid o gwbl (h.y. cadarnhau'r manylion presennol).
Nododd cyfanswm o 2.6 miliwn o gartrefi a ymatebodd yn ystod canfasiad 2020 newid mawr yn eu manylion cofrestru. Roedd hyn yn cynrychioli 30% o'r 8.8 miliwn o ymatebion a dderbyniwyd ar gyfer pob llwybr. Dosbarthwyd y newidiadau mawr hyn fesul llwybr fel a ganlyn:
- Newidiadau mawr – Llwybr 1: 791,720 (30%)
- Newidiadau mawr – Llwybr 2: 1,801,283 (69%)
- Newidiadau mawr – Llwybr 3: 26,835 (1%)
Unwaith eto, mae hyn yn dangos, ar y cyfan, bod yr eiddo hwnnw yn Llwybr 2 lle nododd y broses paru data ei bod yn fwy tebygol bod angen newid manylion cofrestru'r preswylwyr, wedi nodi'r gyfran fwyaf o newidiadau yn ystod y canfasiad. Fodd bynnag, cafodd bron i draean o'r newidiadau mawr y rhoddwyd gwybod amdanynt eu nodi gan eiddo a ddyrannwyd i Lwybr 1, lle roedd y data wedi nodi nad oedd angen unrhyw newid.
Mae'n bwysig cofio, o'r holl gartrefi a ddyrannwyd i Lwybr 1 (21.4 miliwn), mai cyfran ohonynt (4%) sy'n rhoi gwybod am newid mawr (791,000). Fodd bynnag, mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r broses baru yn nodi'n gywir yr holl eiddo lle y bydd angen gwneud newidiadau. Byddwn yn defnyddio'r safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi'r gwaith a wnawn gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol drwy gydol canfasiad 2021 er mwyn i ni ddeall graddfa ac effaith hyn yn well.
Nododd 6.1 miliwn o gartrefi eraill (70% o'r cartrefi a ymatebodd) fân newidiadau i'w manylion cofrestru, os o gwbl. Er mwyn sicrhau bod y data hyn yn fwy defnyddiol yn y dyfodol, byddwn yn gweithio gyda darparwyr meddalwedd rheoli etholiadol i rannu'r categori hwn yn ‘dim newidiadau’ a ‘mân newidiadau’.
Ceisiadau unigol
Nid yw gweithgarwch canfasio ag eiddo yn arwain yn uniongyrchol at gofrestriadau. Er enghraifft, lle y bydd cartref yn nodi bod darpar etholwr newydd yn byw yno, bydd angen i'r unigolyn hwnnw wneud cais i gofrestru o hyd.
Yn y flwyddyn hyd at gyhoeddi'r gofrestr flynyddol yn 2020, derbyniwyd cyfanswm o 5.3 miliwn o geisiadau i gofrestru i bleidleisio. O'r ceisiadau hyn, derbyniwyd 2.8 ohonynt (53%) yn ystod y cyfnod canfasio.
Mae swm blynyddol y ceisiadau yn dweud wrthym a yw'r cofrestrau yn nodi lefelau disgwyliedig o newid yn y boblogaeth. Er bod nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn 2020 (5.3 miliwn) yn is o lawer na'r nifer a dderbyniwyd yn 2019 (7.5 miliwn), roeddent yn gyson â'r nifer a dderbyniwyd yn 2018 (5.3 miliwn). Mae'n debygol mai'r ffaith na chynhaliwyd unrhyw etholiadau oherwydd pandemig y coronafeirws oedd yn gyfrifol am y lefel is o weithgarwch cofrestru yn 2020. Yn 2018, ni chafwyd unrhyw etholiadau cenedlaethol proffil uchel – dim ond mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol yn Lloegr y cafodd etholiadau eu cynnal.
Mae cyfran y ceisiadau a gafwyd yn ystod y canfasiad, o gymharu â gweddill y flwyddyn, yn dweud rhywbeth wrthym am effeithiolrwydd cymharol y canfasiad ei hun wrth ysgogi cofrestriadau newydd. Yn 2020, roedd cyfran y ceisiadau a gafwyd yn ystod y canfasiad (53%) yn is nag yn 2019 (66%) a 2018 (62%), ond yn llawer uwch nag yn 2017 (37%).
Mae'n debygol mai'r cyfnod cofrestru ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU a gynhaliwyd yn ystod y canfasiad yn 2019 oedd yn gyfrifol am y sefyllfa yn 2020 o gymharu â 2019, pan welwyd mwy o geisiadau. Yn 2017, cynhaliwyd etholiad cyffredinol y DU ym mis Mehefin ac arweiniodd hyn at fwy o geisiadau y tu allan i'r cyfnod canfasio.
Efallai mai llai o ganfasio personol yn 2020 oedd yn gyfrifol, yn rhannol o leiaf, am y gyfran is o geisiadau a wnaed yn 2020 o gymharu â 2018. Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl nodi i ba raddau y gellir priodoli'r gostyngiad hwnnw i gyfyngiadau'r pandemig o gymharu â'r broses o ddiwygio'r canfasiad. Felly, byddwn yn parhau i fonitro'r data hyn yn y dyfodol.
Newid ar y cofrestrau: achosion o ychwanegu a dileu
Mae data ar ychwanegiadau a dileadau yn y cofrestrau yn cynnig dealltwriaeth dda ynghylch a yw gweithgarwch cofrestru yn cadw i fyny â newidiadau yn y boblogaeth. Mae data ar ychwanegiadau a dileadau yn rhan greiddiol o'r safonau perfformiad newydd a fydd yn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i fesur a monitro effaith eu gweithgareddau cofrestru.
Defnyddir sawl ffynhonnell wahanol i wneud newidiadau i'r cofrestrau. Er enghraifft, unwaith y caiff ceisiadau eu derbyn a'u prosesu, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu etholwyr cymwys newydd; gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol hefyd ddefnyddio data a gasglwyd gan gartrefi a ffynonellau data presennol eraill i nodi cofnodion sy'n gysylltiedig â'r rhai sydd wedi symud tŷ a'r rhai sydd wedi marw, y bydd angen iddynt gymryd camau i'w dileu. Gan fod symudedd y boblogaeth yn amrywio ledled y wlad, felly hefyd graddau'r her y mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn eu hwynebu wrth sicrhau cywirdeb a chyflawnder y cofrestrau etholiadol.
Gwnaethpwyd cyfanswm o 4.7 miliwn o ychwanegiadau i'r cofrestrau a 4.9 miliwn o ddileadau o'r cofrestrau yn y flwyddyn rhwng cyhoeddi cofrestrau blynyddol 2019 a chyhoeddi'r cofrestrau blynyddol ar gyfer 2020. Mae hyn yn cynrychioli 10% o'r cofrestrau yn cael ei ychwanegu a 10% ohonynt yn cael ei ddileu yn ystod y flwyddyn.
Roedd nifer yr ychwanegiadau yn 2020 (4.7 miliwn) yn is na'r nifer a gofnodwyd yn 2019 (6.3 miliwn). Roedd nifer yr ychwanegiadau a gofnodwyd yn ystod y cyfnod canfasio (2.7 miliwn) hefyd yn is nag yn 2019 (3.9 miliwn). Fodd bynnag, mae'n debygol, unwaith eto, mai'r etholiadau oedd yn gyfrifol am hyn – cynhaliwyd tair set o ddigwyddiadau etholiadol yn 2019, gan gynnwys Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, lle gwelwyd llawer o'r gweithgarwch cofrestru yn ystod y cyfnod canfasio. Ni chynhaliwyd unrhyw etholiadau yn 2020 oherwydd COVID-19.
Roedd nifer y dileadau yn 2020 (4.9 miliwn) yn debyg iawn i'r ffigur a gofnodwyd ynn 2019 (4.9 miliwn). Roedd nifer y dileadau yn ystod y cyfnod canfasio yn 2020 (3.1 miliwn) hefyd yn debyg iawn i'r ffigur yn 2019 (3.0 miliwn).
Mae cyfran yr ychwanegiadau a'r dileadau ar gyfer pob llwybr yn gyson â'r disgwyliadau i raddau helaeth, gyda mwy o newidiadau yn cael eu nodi o fewn cartrefi Llwybr 2. Er, yn yr un ffordd â lefel y newidiadau mawr o fewn cartrefi, sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag ychwanegiadau a dileadau, mae'r data yn dangos bod ychydig dros draean o'r newidiadau a wnaed i'r cofrestrau yn ymwneud â chartrefi lle na wnaeth y broses paru data awgrymu bod angen gwneud unrhyw newidiadau. Nid yw'n bosibl dweud, gan ddefnyddio un flwyddyn o ddata yn unig, a fydd hyn yn parhau i fod yn nodwedd o'r canfasiad diwygiedig ac, os felly, beth fyddai'r effaith tymor hwy. Mae hwn yn faes y byddwn yn parhau i'w fonitro.
Route 1 | Route 2 | Route 3 | |
---|---|---|---|
Additions | 36% | 61% | 4% |
Deletions | 37% | 59% | 4% |
Roedd cyfran yr ychwanegiadau a'r dileadau a wnaed yn ystod canfasiad 2020 yn amrywio ledled Prydain Fawr.
Additions(full year) | Additions (canvass period) | % during canvass | Deletions (full year) | Deletions (canvass period) | % during canvass | |
---|---|---|---|---|---|---|
England | 4,140,112 | 2,334,069 | 56.4% | 4,313,424 | 2,794,723 | 64.8% |
Scotland | 399,272 | 199,357 | 49.9% | 364,996 | 212,364 | 58.2% |
Wales | 198,336 | 135,994 | 68.6% | 183,207 | 127,860 | 69.8% |
Great Britain | 4,737,720 | 2,669,420 | 56.3% | 4,861,627 | 3,134,947 | 64.5% |
Mae'r siart isod yn dangos bod cyfran yr ychwanegiadau (56%) yn ystod y canfasiad yn 2020 yn is nag yn 2019 (62%) a bod cyfran y dileadau yn ystod y canfasiad blynyddol yn 2020 (64%) yn uwch nag yn 2019 (61%).
Mae lefel yr ychwanegiadau a'r dileadau yn bwysig am ei bod yn dweud wrthym a yw'r cofrestrau yn debygol o fod yn fwy neu'n llai cywir a chyflawn. Fel gyda cheisiadau, mae'n bosibl mai ffactorau allanol sy'n bennaf cyfrifol am y patrwm o gymariaethau blynyddol rhwng ychwanegiadau a dileadau (yn enwedig amseru etholiadau cenedlaethol pwysig a'r pandemig y llynedd). Fodd bynnag, nid yw'n bosibl dod i gasgliadau ynghylch pa effaith, os o gwbl, y mae'r newidiadau i'r broses ganfasio wedi'i chael, ar ôl blwyddyn yn unig o'r canfasiad newydd. Byddwn yn parhau i gasglu a dadansoddi'r data hyn er mwyn monitro'r tueddiadau dros amser.
Background
Nid oes unrhyw gofrestr etholiadol genedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Caiff cyfanswm o 368 o gofrestrau etholiadol gwahanol eu llunio a'u cadw gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr, a cheir un gofrestr ar gyfer Gogledd Iwerddon, a gaiff ei llunio a'i chadw gan y Prif Swyddog Etholiadol.
Mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadw dwy gofrestr etholiadol:
- Y gofrestr seneddol – a ddefnyddir ar gyfer etholiadau Senedd y DU
- Y gofrestr llywodraeth leol – a ddefnyddir ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, llywodraeth leol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Cronfa ddata sy'n seiliedig ar eiddo yw'r gofrestr etholiadol, gyda chofnodion arni wedi'u cysylltu ag eiddo. Mae hyn yn golygu bod newidiadau parhaus i'r boblogaeth yn effeithio ar ansawdd ei gwybodaeth ac mae angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu a dileu cofnodion ar gyfer y rhai sy'n symud tŷ, etholwyr sydd wedi marw ac etholwyr newydd cymwys.
Caiff cofrestrau newydd eu cyhoeddi'n flynyddol a'u hadolygu y rhan fwyaf o fisoedd. Ym Mhrydain Fawr, mae proses lle y caiff y gofrestr ei harchwilio'n flynyddol cyn i fersiwn ddiwygiedig gael ei chyhoeddi. Yr enw ar y broses hon yw'r canfasiad blynyddol. Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnal canfasiad blynyddol o bob eiddo yn ei ardal er mwyn cadarnhau'r cofnodion ar ei gofrestr etholiadol a nodi etholwyr sydd wedi symud neu oedd heb gofrestru'n flaenorol.
Canfasiad blynyddol 2020 oedd y cyntaf ers cyflwyno diwygiadau i'r broses. Mae'r model newydd hwn yn golygu nad oes angen ymatebion gan gartrefi y nodwyd, drwy baru data â chronfeydd data cenedlaethol a lleol, nad yw cyfansoddiad y cartref wedi newid yn ddiweddar.
Nod y model canfasio newydd yw galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr i dargedu eu hadnoddau yn well at gartrefi lle mae'n debygol y bydd angen diweddaru'r gofrestr etholiadol.
Mae'r data a'r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn deillio o ddata y mae'r Comisiwn Etholiadol yn eu casglu gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ddiwedd y canfasiad blynyddol. Fel arfer, cyhoeddir cofrestrau blynyddol erbyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Er mwyn ystyried effaith y pandemig, gallai Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyhoeddi eu cofrestr flynyddol hyd at 1 Chwefror 2021. Fodd bynnag, er symlrwydd, cyfeirir at y cofrestrau fel cofrestrau blynyddol 2020 drwyddi draw.