Cofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr yn 2021

Overiew

About this report

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y cynhaliwyd canfasiad 2021 ym Mhrydain Fawr ac yn ystyried effaith barhaus y newidiadau i broses y canfas blynyddol, a gyflwynwyd yn 2020, ar y cofrestrau etholiadol.

Canfasiad 2021 oedd yr ail un i ddefnyddio’r prosesau newydd a gyflwynwyd yn 2020. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys cymharu’r cofrestrau gyda data cyhoeddus arall er mwyn rhoi gwybodaeth i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol y gallant ei defnyddio i dargedu eu hadnoddau mewn aelwydydd lle mae manylion y preswylwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi newid.

Er na allwn eto ddod i gasgliadau ar effaith y broses newydd ar gywirdeb a chyfanrwydd y cofrestrau, mae ein dadansoddiad o’r data sydd ar gael yn awgrymu problemau dichonadwy gydag effeithiolrwydd y canfasiad diwygiedig wrth gadw i fyny â symudiad poblogaeth: 

  • Mae’r broses paru data a/neu’r oedi rhwng paru a chanfasio yn golygu bod y llwybr ‘anghywir yn cael ei dyrannu i rai aelwydydd – rhoddodd bron i un ym mhob pump ymateb gan aelwydydd a ddyrannwyd i Lwybr 1 (lle nad oedd disgwyl y byddai newid yng nghyfansoddiad yr aelwydydd) wybod am newidiadau sylweddol i fanylion etholwyr.
  • Efallai na fydd newidiadau angenrheidiol i fanylion etholwyr yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau – ni wnaeth 2.4 miliwn o aelwydydd, sef traean o’r rheiny a ddyrannwyd i Lwybr 2 (lle disgwyliwyd newid yng nghyfansoddiad aelwydydd), ymateb i’r canfasiad. 
  • Mae’n bosibl bod y gostyngiad yn amlder y cyfathrebu gydag aelwydydd Llwybr 1 yn cyfrannu at dangofrestriad cyrhaeddwyr (sef y rheiny a fydd yn fuan yn cyrraedd yr oedran pleidleisio) – gwnaeth y gostyngiad yn nifer y cyrhaeddwyr cofrestredig, a ddechreuodd ar ôl cyflwyno’r cofrestru etholiadol unigol yn 2014, barhau yn 2021. Gostyngodd y nifer o gyrhaeddwyr cofrestredig gan 28.7% o gymharu â 2020.

Er ein bod yn gwybod bod ceisiadau cofrestru newydd yn cael eu gyrru ymlaen yn haws gan ddigwyddiadau etholiadol ar raddfa fawr, mae’n bwysig serch hynny bod y canfasiad a gweithgareddau cofrestru eraill drwy gydol y flwyddyn yn cefnogi cofrestrau cywir a chyflawn. Gall hyn helpu i ostwng y nifer fawr o geisiadau cofrestru a gafwyd yn union cyn etholiadau mawr, pan fydd capasiti staff y Swyddogion Cofrestru Etholiadol eisoes wedi’i ymestyn. 

Ein hastudiaethau ymchwil i gywirdeb a chyfanrwydd y cofrestrau yw’r asesiadau diffiniol o’u hansawdd cyffredinol. Bydd yr astudiaeth nesaf, sydd wedi’i chynllunio ar gyfer cofrestrau mis Rhagfyr 2022, yn caniatáu i ni asesu’n llawn effaith gyffredinol y prosesau canfasio newydd.  

Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i gynorthwyo a herio Swyddogion Cofrestru Etholiadol gan ddefnyddio’r fframwaith safonau perfformiad, ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau y byddwn yn gwneud defnydd llawn o’r data sydd ar gael. Dylai hyn helpu i roi dealltwriaeth well o effaith arferion penodol o fewn y fframwaith bresennol a’n cynorthwyo ni gyda nodi a rhannu arferion da.

Rydym hefyd yn argymell y dylai’r system gofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr gael ei moderneiddio ymhellach, er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn cael eu cofrestru’n gywir. Dylai hyn gynnwys defnydd gwell o ddata cyhoeddus, er enghraifft gan wasanaethau eraill y llywodraeth, i wneud cofrestru’n haws i bleidleiswyr, a system cofrestru mwy cydgysylltiedig i leihau cofrestriadau wedi’u dyblygu ac annog cofrestru drwy’r flwyddyn gyfan.  

Other register statistics

Pobl 16 ac 17 mlwydd oed (Cymru a’r Alban)

Yng Nghymru a’r Alban, gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru, yn etholiadau Senedd yr Alban ac mewn etholiadau cynghorau lleol. Cyflwynwyd y newid hwn yn 2015 yn yr Alban ac yn 2020 yng Nghymru.

Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â’r cofrestrau blynyddol a gyhoeddwyd ar ddiwedd canfasiad 2021. Nid yw’r data, felly, yn cynnwys y bobl ifanc 16 ac 17 oed hynny sydd o bosib wedi cofrestru i bleidleisio yn y cyfnod cyn etholiadau lleol mis Mai 2022 yn yr Alban a Chymru. Bydd data ar y nifer o bobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi cofrestru ar gyfer etholiadau mis Mai 2022 yn cael eu cyhoeddi gydag adroddiad y Comisiwn ar yr etholiadau hynny.

Yn yr Alban, adeg cyhoeddi’r cofrestrau blynyddol yn 2021, roedd 77,958 o bobl 16 ac 17 oed ar y cofrestrau llywodraeth leol (gweler Tabl 4). Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 6.4% ar 2020. Gydag amcangyfrifon poblogaeth y SYG, mae hyn yn nodi bod tua dau ym mhob tri o bobl 16 ac 17 oed ar gofrestrau llywodraeth leol yn yr Alban.1

Parhaodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar draws yr Alban i ymgysylltu â phobl ifanc 16 ac 17 oed ar ôl cyhoeddi’r cofrestrau diwygiedig i sicrhau eu bod wedi’u cofrestru cyn etholiadau mis Mai 2022. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu, megis postio uniongyrchol, ffôn/testun, cysylltu ag ysgolion a phrifysgolion, hysbysiadau i’r wasg, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron a hysbysebu lleol, yn ogystal â gweithgareddau lleol gyda sefydliadau partner. 

Tabl 4. Nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed ar y cofrestrau llywodraeth leol yn yr Alban yn 2015-21

Blwyddyn Pobl 16 ac 17 mlwydd oed
2015 48,962
2016 79,621
2017 83,536
2018 78,383
2019 73,777
2020 73,272
2021 77,958

Yng Nghymru, roedd 33,241 o bobl ifanc 16 ac 17 oed ar y cofrestrau llywodraeth leol ar 1 Rhagfyr 2021 (cynnydd o 115.1% ar 2020). Mae cymhariaeth gydag amcangyfrifon y SYG yn awgrymu bod llai na hanner o bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru ar y cofrestrau llywodraeth leol.2

Ar draws Gymru, cynhaliodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol ystod o weithgareddau i annog cofrestru ymhlith pobl ifanc 16 ac 17 oed. Gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, penododd nifer o awdurdodau swyddogion ymgysylltu cyhoeddus dros dro, ac yn yr ardaloedd hynny, ymddengys bod cynnydd wedi bod yn yr ystod o ymgysylltu a ymgymerwyd ag ef.

Yn ogystal â gweithgareddau ymgysylltu mwy safonol, megis postio uniongyrchol, ffôn/testun, cysylltu ag ysgolion, hysbysiadau i’r wasg, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyron, ymgymerodd rhai awdurdodau â gweithgareddau ychwanegol, megis: 

  • creu baneri gwefan a fideos TikiTok i’w rhannu gydag ysgolion
  • gweithio gyda chynghorau ieuenctid, grwpiau partneriaethau ieuenctid a Ffermwyr Ifanc Cymru.
  • anfon cardiau penblwydd yn 16 oed
  • hysbysebu mewn arosfannau bws
  • sesiynau dros dro yng nghanol dinasoedd
  • sesiynau hyfforddi i athrawon gan ddefnyddio adnoddau’r Comisiwn Etholiadol

Ar ôl cyhoeddi’r cofrestrau ond cyn etholiadau mis Mai 2022, anfonodd y rhan fwyaf o awdurdodau lythyr hysbysu aelwydydd, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid, ac roedd llawer o’r llythyrau a anfonwyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol oedd yn hyrwyddo estyniad yr etholfraint; roedd rhai hefyd yn amlygu atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml.

Astudiaeth achos: Cyngor Bro Morgannwg - allgymorth gyda phobl 16/17 oed

Rhoddodd Swyddog Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Cofrestru Etholiadol y Fro gyflwyniadau i ysgol a gynhaliodd diwrnod Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Gan weithio gydag aelod o wasanaeth ieuenctid y cyngor, maent wedi cynhyrchu pecyn cynhwysfawr ar gofrestru i bleidleisio, sut i bleidleisio a pham rydym yn pleidleisio. Roedd y pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am etholiadau a gwleidyddiaeth i geisio dangos pwysigrwydd y rhain i bobl ifanc. Roedd yn cynnwys pwy yw pwy yng ngwleidyddiaeth a’r hyn y mae gwleidyddwyr yn ei wneud, pa etholiadau y maent yn sefyll ynddynt a hefyd sut mae hyn yn cysylltu gyda’r pethau y gallai pobl ifanc ystyried eu bod yn bwysig, er mwyn iddynt gael dealltwriaeth fwy eang o’r broses bleidleisio gyfan. Rhoddwyd ychydig o dasgau syml iddynt i’w gwneud yn ystod y sesiwn i helpu i’w cadw’n brysur. 

Gwnaeth y gwaith allgymorth hwn helpu i gynyddu cyfraddau cofrestru pleidleiswyr yn yr ardal ymhlith pobl ifanc 14 ac 15 oed mewn blwyddyn gan 31.4% (o 1,263 i 1,660).

Etholwyr tramor

Gall dinesydd y DU sy’n byw dramor sydd wedi ei gofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor. Ar hyn o bryd mae angen adnewyddu’r cofrestriadau hyn yn flynyddol. Cyfanswm yr etholwyr tramor ar gofrestrau Prydain Fawr yn 2021 oedd 104,665.

Tabl 5. Nifer yr etholwyr tramor ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr yn 2015-21. 

Ardal 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021
Lloegr 97,572 241,097 205,687 113,833 185,513 170,196 94,908
Yr Alban 7,729 15,230 12,790 6,679 11,587 9,617 6,799
Cymru 2,940 7,567 6,995 3,678 6,969 5,169 2,958
Prydain Fawr 108,241 263,894 225,472 124,190 204,069 184,982 104,665

Mae hwn yn ostyngiad o 43.4% ers cyhoeddi’r gofrestr flynyddol yn 2020. Mae’n debygol bod y gostyngiad hwn o ganlyniad i’r ffaith nad oes etholiad wedi bod lle gall etholwyr tramor bleidleisio ers etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2019.

Mae Deddf Etholiadau 2022 yn ymestyn y nifer o ddinasyddion tramor a fydd yn gymwys i gofrestru a phleidleisio, a hefyd yn newid yr angen i adnewyddu cofrestriadau yn flynyddol i bob tair blynedd. Gallai ymestyn y cymhwystra arwain at nifer uchel o geisiadau yn agos at ddiwedd etholiad cyffredinol nesaf senedd u DU, y bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol baratoi ar ei gyfer.

Etholwyr dienw

Gostyngodd nifer yr etholwyr dienw ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr o 3,374 yn 2020 i 3,097 yn 2021.

Mae cofrestru dienw ar gael i bobl sy’n bodloni anghenion arbennig, y byddai eu diogelwch nhw, neu rywun yn yr un aelwyd â nhw, mewn perygl. Mae pobl sydd wedi cofrestru’n ddienw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol heb eu henw a’u cyfeiriad.

Tabl 6. Nifer yr etholwyr dienw ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr yn 2015-21.

Ardal 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021
Lloegr 2,151 2,194 2,440 2,550 3,214 3,064 2,788
Yr Alban 111 117 116 130 194 196 187
Cymru 74 74 85 108 138 114 122
Prydain Fawr 2,336 2,385 2,641 2,788 3,546 3,374 3,097

 

Variations in response rate

Parhaodd y gyfradd ymateb ar gyfer Llwybr 2 i gynyddu’n sylweddol yn 2021 (gweler Tabl 9), fel y gwnaeth yn 2020. Am yr ail flwyddyn yn olynol, yr Alban oedd â’r gyfradd ymateb isaf ymhlith eiddo Llwybr 2 (50.7%). Lloegr oedd â’r gyfradd uchaf (70.1%).

Tabl 9. Cyfradd ymateb ar gyfer Llwybrau 1 a 2, fesul gwlad a rhanbarth yn Lloegr 2021

Rhanbarth Llwybr 1 Llwybr 2
Lloegr 19.0% 70.1%
Gogledd-ddwyrain Lloegr 7.0% 62.7%
Gogledd-orllewin Lloegr 15.3% 63.2%
Swydd Gaerefrog a'r Humber 14.0% 67.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 18.8% 75.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 17.8% 71.2%
Dwyrain Lloegr 19.9% 75.8%
Llundain 20.4% 65.9%
De-ddwyrain Lloegr 26.0% 74.2%
De-orllewin Lloegr 22.6% 75.4%
Yr Alban 13.6% 50.7%
Cymru 15.6% 65.4%
Prydain Fawr 18.3% 68.1%

 

Major and minor changes per route

Newidiadau mawr a bach fesul llwybr

Mae natur yr ymatebion a geir hefyd yn bwysig. Gall aelwydydd sy’n ymateb gofnodi newid mawr (e.e. rhoi gwybod bod etholwr newydd dichonadwy yn breswylydd), newid bach (e.e. diwygio enw etholwr presennol) neu nodi nad oes dim newid o gwbl (h.y. cadarnhau manylion presennol aelodau aelwyd). Gall deall dosbarthiad y newidiadau hyn roi gwybod i ni beth yw cywirdeb y paru data.

O’r 9 miliwn o ymatebion a gafwyd ar draws bob llwybr, rhoddodd 2.7 miliwn o aelwydydd wybod am newid mawr (30.4%). Mae Tabl 10 yn dangos sut cafodd y newidiadau mawr hyn eu dosbarthu ar draws y tri llwybr. Mae’r patrwm yn cyd-fynd yn fras â 2020. 

Tabl 10. Dosbarthiad newidiadau mawr ar draws bob llwybr

  Nifer o newidiadau mawr  % o newidiadau mawr ar draws bob llwybr
Llwybr 1 830,743 30.4%
Llwybr 2 1,856,309 67.8%
Llwybr 3 49,339 1.8%
Cyfanswm 2,736,391 100.0%

Cafodd y gyfran uchaf o newidiadau mawr eu nodi gan aelwydydd Llwybr 2 – h.y. y rheiny a nodwyd yn ystod y cam paru data fel yr aelwydydd sydd fwyaf tebygol o roi gwybod am newidiadau i fanylion cofrestru preswylwyr. Fodd bynnag, fel yn 2020, roedd bron i draean o’r newidiadau mawr y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ymwneud ag aelwydydd Llwybr 1, lle'r oedd data’r DWP a/neu ddata lleol wedi dynodi ei fod annhebygol y byddai angen unrhyw newid.

Yr un fath ag yn 2020, o’r holl aelwydydd a ddyrannwyd i Lwybr 1 (21.7 miliwn) mae’r gyfran a roddodd wybod am newid mawr (830,743) yn fach (3.8%). Fodd bynnag, fel mae Ffigwr 1 isod yn dangos, o’r rheiny wnaeth ymateb, rhoddodd un ym mhob pump ohonynt wybod am newid mawr. O ran ansawdd y cofrestrau, mae hefyd yn annhebygol bod pob aelwyd yn Llwybr 1 oedd angen rhoi gwybod am newid wedi gwneud hynny – yn enwedig gan y byddent wedi cael cyswllt cyfyngedig gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.

Nid oes gennym ddata cymharol ar y nifer o newidiadau mawr a roddwyd gwybod amdanynt gan aelwydydd yn ystod y canfasiadau cyn y diwygiadau. Felly, nid yw'n glir i ba raddau y mae canfasiadau 2020 a 2021 yn anghyson â ffigurau hanesyddol. Fodd bynnag, mae’n glir naill ai nad yw’r broses paru data yn nodi’n gywir pob eiddo lle bydd angen newidiadau a/neu mae yna effaith o’r oedi rhwng pryd mae’r paru’n digwydd a phryd mae’r canfasio’n digwydd. 

Ffigwr 1. Y canran o aelwydydd a ymatebodd yn Llwybr 1 a Llwybr 2 a roddodd wybod am newidiadau mawr / bach / dim newidiadau (data a gasglwyd o Awdurdodau Lleol Llwybrau 4/5 lle gweithredwyd manyleb data wedi’i diwygio)1

Ffigwr 1. Y canran o aelwydydd a ymatebodd yn Llwybr 1 a Llwybr 2 a roddodd wybod am newidiadau mawr / bach / dim newidiadau (data a gasglwyd o Awdurdodau Lleol Llwybrau 4/5 lle gweithredwyd manyleb data wedi’i diwygio)

Fel rhan o’n gwaith gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol drwy gydol canfasiad 2021, rydym wedi ceisio deall y rhesymau dichonadwy dros y gyfran o newidiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt ar gyfer aelwydydd Llwybr 1. Gwnaeth llawer o’r rheiny y gwnaethom siarad â nhw amlygu rhesymau dichonadwy megis symud tai o fewn ardaloedd, priodasau, cyrhaeddwyr a marwolaethau. Gallai hefyd fod o ganlyniad i gywirdeb data, er enghraifft, cofnodion sydd ddim yn gyfredol yn cael eu defnyddio ar gyfer paru. Byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn dros ganfasiad 2022 er mwyn datblygu dealltwriaeth well o’r data a sut mae’r broses yn gweithio’n ymarferol

Ychwanegiadau a dileadau

Nid yw canfasio aelwydydd yn arwain yn uniongyrchol at gofrestriadau newydd. Pan fydd aelwyd yn rhoi gwybod bod etholwr newydd dichonadwy yn preswylio yno, mae’n dal yn rhaid i’r unigolyn gyflwyno cais i gael ei ychwanegu at y gofrestr. Pan fydd aelwyd yn rhoi gwybod bod angen dileu etholwyr o gofrestrau, byddai angen ail ddarn o dystiolaeth (e.e. data a ddelir yn lleol) cyn y byddai Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gallu cadarnhau’r dilead.

Mae’n rhaid dileu neu ychwanegu at gofnodion yn y cofrestrau am nifer o resymau, gan gynnwys mudo, symud tai a marwolaethau. Mae lefel yr ychwanegiadau a’r dileadau’n rhoi cipolwg ar p’un a yw gweithgareddau cofrestru’n cadw i fyny â newid yn y boblogaeth. Fel symudedd poblogaeth, mae’r her a wynebir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn amrywio ar draws y wlad. 

Fel yn 2020, mae dosbarthiad yr ychwanegiadau a’r dileadau yn ôl y disgwyl i raddau helaeth, gydag aelwydydd Llwybr 2 yn cyfrif am y gyfran fwyaf o newidiadau (gweler Tabl 11). Fodd bynnag, fel gyda newidiadau mawr yr aelwydydd, daeth mwy na thraean o ychwanegiadau a dileadau o aelwydydd lle tybiwyd bod y cyfansoddiad heb newid yn dilyn y paru data. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu naill ai rhywfaint o anghywirdeb wrth ddyrannu’r aelwydydd i lwybrau neu effaith sy’n deillio o symudiad poblogaeth rhwng paru a chanfasio. 

Tabl 11. Canran o ychwanegiadau a dileadau fesul llwybr

  Llwybr 1 Llwybr 2 Llwybr 3
Ychwanegiadau 37.1% 59.6% 3.4%
Dileadau 39.4% 57.3% 3.3%

Mae’r data hyn yn awgrymu bod o leiaf ychydig o newidiadau yn y boblogaeth ddim yn cael eu nodi gan y cofrestrau. Fodd bynnag ni allwn ddod i gasgliadau clir ar yr effaith gyffredinol – yn rhannol oherwydd effaith amrywiol digwyddiadau etholiadol y tu allan i’r canfasiad. 

Mae Tabl 12 isod yn dangos lefelau’r ychwanegiadau a’r dileadau yn ystod blynyddoedd diweddar (ar gyfer y flwyddyn lawn, nid dim ond ar gyfer y canfasiad). Yn 2020 a 2021 cafwyd ffigurau oedd yn is na llawer o flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, mae’n arferol gweld lefelau uwch, o ychwanegiadau yn enwedig, mewn blynyddoedd pan gynhelir digwyddiadau etholiadol sylweddol ar draws y DU (megis etholiadau cyffredinol y DU a refferendwm yr UE). Gall y ffigurau is yn 2020 gyfeirio’n uniongyrchol at effeithiau’r pandemig – ar allu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ganfasio ac ar y lefelau isel o symudiad poblogaeth.  

Tabl 12. Canran o ychwanegiadau a dileadau 2010-21

Blwyddyn Ychwanegiadau Dileadau
2010 13% 12%
2013 15% 15%
2015 15% 15%
2016 15% 13%
2017 13% 13%
2018 11% 12%
2019 13% 10%
2020 10% 10%
2021 11% 11%

Fel y nodwyd yn Nhabl 13 , rydym hefyd yn disgwyl gweld cyfran uwch o newidiadau’n cael eu nodi yn ystod y cyfnod canfasio, o gymharu â gweddill y flwyddyn, yn ystod blynyddoedd heb etholiadau ar draws y DU (e.e. 2018) – tuedd sy’n parhau yn 2020 a 2021.

Tabl 13. Canran yr ychwanegiadau yn ystod a thu allan i gyfnod canfasio 2015-21

Blwyddyn

Ychwanegiadau

Yn ystod y canfasiad

 

Y tu allan i’r canfasiad

Dileadau

Yn ystod y canfasiad

 

Y tu allan i’r canfasiad

2015 40% 60% 58% 43%
2016 38% 64% 54% 47%
2017 39% 61% 56% 44%
2018 68% 32% 68% 32%
2019 62% 38% 61% 39%
2020 56% 44% 64% 36%
2021 61% 39% 61% 39%

Caiff y pwynt hwn hefyd ei gefnogi gan ddata 2021 ar y gyfran o ychwanegiadau a dileadau a gofnodwyd yn ystod y cyfnod canfasio ar draws dair gwlad y Deyrnas Unedig (gweler Tabl 14). Roedd cyfran yr ychwanegiadau a dileadau yn ystod y canfasiad yn isaf yn yr Alban (39.0% a 55.0% yn y drefn honno), gyda Chymru ac yna Lloegr yn dilyn. Mae hyn yn cydfynd â’r lefel o ymgysylltiad yn etholiadau mis Mai 2021 lle'r oedd y niferoedd a bleidleisiodd yn uchaf yn yr Alban, yna yng Nghymru ac yn isaf ar draws Lloegr.

Tabl 14. Ychwanegiadau a dileadau yn ystod blwyddyn lawn a chyfnod canfasio fesul gwlad

 

Ychwanegiadau

Blwyddyn lawn

 

Y cyfnod canfasio

 

%  yn ystod y canfasiad 

Dileadau

Blwyddyn lawn

 

Y cyfnod canfasio

 

% yn ystod y canfasiad

Lloegr 4,308,807 2,777,863 64.5% 4,674,707 2,875,974 61.5%
Yr Alban 455,341 177,552 39.0% 415,722 228,843 55.0%
Cymru 245,670 112,310 45.7%     232,649 137,629 59.2%
Prydain Fawr 5,009,818 3,067,725 61.2% 5,323,078 3,242,446 60.9%

Mae’n bwysig bod y canfasiad a gweithgareddau cofrestru eraill drwy gydol y flwyddyn yn parhau i roi cofrestrau o ansawdd uchel trwy’r amser er mwyn osgoi diweddariadau sylweddol yn gorfod cael eu gwneud cyn etholiadau mawr. Rydym yn flaenorol wedi amlygu ein pryder y byddai’r system gofrestru, gan gynnwys y canfasiad, yn annhebygol fod yn gynaliadwy yn yr hir dymor ac wedi argymell y dylai llywodraethau archwilio prosesau cofrestru mwy awtomataidd. Er enghraifft, mynediad rheolaidd i ddata dibynadwy gan ystod ehangach o wasanaethau cyhoeddus ynghylch pobl sydd wedi diweddaru eu manylion cyfeiriad yn ddiweddar a fyddai’n galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gysylltu â nhw’n uniongyrchol yn eu cyfeiriad newydd i’w hannog i gofrestru i bleidleisio. Gallai integreiddio ceisiadau cofrestru etholiadol i drafodion gwasanaeth cyhoeddus eraill hefyd ei wneud yn haws i unigolion gadw eu manylion cofrestru yn ddiweddar ac yn gywir.

Er bod diwygio’r canfasiad wedi mynd i’r afael ag un agwedd o gynaliadwyedd – yr adnoddau a’r capasiti a ddefnyddiwyd drwy fynd ar ôl aelwydydd lle nad oes newid wedi bod – nid yw’n glir eto beth yw ei effaith ar yr agwedd allweddol arall – sef gallu’r system i nodi newidiadau yn y boblogaeth i ffwrdd o ddigwyddiadau etholiadol mawr. Bydd ein hastudiaeth cywirdeb a chyfanrwydd nesaf yn caniatáu i ni asesu’n fwy clir yr effaith cyffredinol ar y cofrestrau, gan y bydd yn cael ei chynnal ar ôl tair blynedd o’r canfasiad diwygiedig ym Mhrydain Fawr. 

Background

Cofrestrau etholiadol 

TNid oes cofrestr etholiadol genedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae 368 o gofrestrau etholiadol gwahanol yn cael eu crynhoi a’u cadw gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr, ac mae un gofrestr yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei chadw a’i chrynhoi gan y Prif Swyddog Etholiadol.

Mae gofyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadw dwy gofrestr etholiadol:

 

  • Cofrestr Seneddol – caiff hon ei defnyddio ar gyfer etholiadau Senedd y DU
  • Cofrestr llywodraeth leol – caiff hon ei defnyddio ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban, Senedd Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon, llywodraeth leol, a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae’r gofrestr etholiadol yn gronfa ddata sy’n seiliedig ar eiddo, gyda chofnodion wedi eu cysylltu ag eiddo. Mae hyn yn golygu bod ansawdd ei gwybodaeth yn cael ei heffeithio gan newid parhaus i’r boblogaeth, ac mae’n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu a dileu cofnodion y rheiny sy’n symud tŷ, etholwyr sydd wedi marw ac etholwyr cymwys newydd. 

Cyhoeddir cofrestrau newydd yn flynyddol, a chânt eu hadolygu y rhan fwyaf o fisoedd. Ym Mhrydain Fawr, mae yna broses o archwilio’r gofrestr yn flynyddol cyn y cyhoeddir fersiwn ddiwygiedig - yr enw ar hyn yw’r canfas blynyddol. Mae’n rhaid i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnal canfas blynyddol o’r holl eiddo yn eu hardal yn ôl y gyfraith, er mwyn cadarnhau eu cofnodion ar y gofrestr etholiadol a chanfod etholwyr sydd wedi symud tŷ neu nad oeddynt wedi’u cofrestru yn flaenorol.

Y canfasiad diwygiedig

Canfasiad 2021 oedd yr ail un i gael ei gynnal o dan fodel newydd sy’n cynnwys paru data rhwng cofrestrau etholiadol a chyfuniad o ddata cenedlaethol a lleol ar ddechrau’r broses. Mae’r paru data hwn yn rhoi gwybod i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol pa eiddo sy’n debygol o gael cyfansoddiad aelwyd sydd heb ei newid - bydd hyn yn eu galluogi i dargedu eu gweithgareddau canfasio yn unol â hynny. 

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yna’n dilyn un o’r tri llwybr ar gyfer pob eiddo:

  • Llwybr 1: Caiff eiddo eu gosod yn Llwybr 1 os yw cofnodion etholwyr cofrestredig yn cyfateb â data arall, megis yr hyn a ddelir gan y DWP, ac felly cymerir yn ganiataol bod cyfansoddiad yr aelwyd heb ei newid. Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu ag aelwydydd Llwybr 1 i’w gwahodd i roi gwybodaeth am unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd. Lle nad oes newidiadau i roi gwybod amdanynt, nid oes angen i’r aelwyd ymateb.

  • Llwybr 2: Caiff eiddo eu gosod yn Llwybr 2 os nad yw unrhyw un o gofnodion etholwyr cofrestredig yn cyfateb â data arall, megis yr hyn a ddelir gan y DWP, ac felly cymerir yn ganiataol bod cyfansoddiad yr aelwyd wedi newid a bod angen diweddaru’r gofrestr etholiadol. Mae angen i’r aelwydydd hyn ymateb i geisiadau am wybodaeth, p’un a oes angen iddynt roi gwybod am newid ai peidio.

  • Llwybr 3: Mae’r llwybr hon ar gael i’r eiddo hynny lle mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol o’r farn y gallant gael gwybodaeth ar breswylwyr drwy ‘berson cyfrifol unigol’ sy’n gweithredu ar ran y preswylwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Mae cartrefi gofal a neuaddau preswyl i fyfyrwyr yn enghreifftiau o eiddo Llwybr 3 arferol. Os na fydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gallu cael gwybodaeth am yr eiddo gan y ‘person cyfrifol unigol’, caiff yr eiddo ei roi o dan Lwybr 2

Ymgysylltu â’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol

Mae gan y Comisiwn y pŵer statudol i osod a monitro safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr, ac mae wedi bod yn gwneud hynny ers 2008. Ym mis Ionawr 2020 gwnaethom gychwyn ymgynghoriad ar gyfres newydd o safonau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, gwnaethom ohirio cwblhau’r safonau cyn canfasiad 2020. Fodd bynnag, gwnaethom sicrhau bod y safonau drafft a’r offer ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a ffurfiodd y rhain rhan allweddol o’n canllawiau, cymorth a phecyn heriau yn ymwneud â darparu’r canfasiad diwygiedig cyntaf ym Mhrydain Fawr. Cafodd y safonau newydd eu cwblhau a’u gosod gerbron Senedd y DU, Senedd yr Alban a Senedd Cymru ym mis Mehefin 2021.

Yn 2020 a 2021 rydym wedi defnyddio’r safonau i lywio ein hymgysylltiad gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch cofrestru etholiadol, ac i’w cynorthwyo a’u herio yn eu gwaith i gynnal a chadw’r cofrestrau etholiadol yn eu hardal. Wrth ymgysylltu â Swyddogion Cofrestru Etholiadol rydym wedi rhoi ffocws sylweddol ar eu cefnogi i ddatblygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) perthnasol a phriodol, gan eu helpu i bennu gwaelodlin ar gyfer eu perfformiad a gosod targedau sy’n dwyn i ystyriaeth eu hamgylchiadau neilltuol, a’u cefnogi wrth iddynt ddefnyddio’r data sydd ar gael i nodi meysydd lle gellir gwneud gwelliannau. Nawr bod y safonau wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, gallwn ddefnyddio’r data ar wybodaeth a gasglwyd i nodi patrymau dichonadwy sy’n datblygu. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r fframwaith safonau perfformiad drwy gydol y flwyddyn hon i adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn 2021, gan barhau i’w cynorthwyo i ddeall yn well a rhoi gwybod am effaith eu gweithgareddau gan ddefnyddio’r data sydd ar gael iddynt.

Yn benodol, rydym wedi nodi meysydd ymarfer a darnau allweddol o ddata rydym eisiau canolbwyntio arnynt wrth ymgysylltu a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ystod canfasiad 2022 – er enghraifft, pan fydd aelwydydd a ddyrannwyd i Lwybr 1 yn rhoi gwybod am nifer uchel o newidiadau mawr a phan na roddir ymatebion gan aelwydydd yn Llwybr 2. Bydd y data rydym wedi’u casglu hyd yma yn ein helpu i lywio a siapio’r ymgysylltiad hwnnw gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol unigol, gyda’r bwriad o ddatblygu dealltwriaeth well o effaith arferion a dulliau penodol - gall hyn, yn ei dro, ein helpu ni i adnabod a rhannu enghreifftiau o arfer da. 

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 16 Mai 2022

Diweddarwyd ddiwethaf: