Cofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr yn 2022

Overview

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y cafodd canfas 2022 ym Mhrydain Fawr ei redeg ac yn ystyried sut mae’r diwygiadau canfas a gyflwynwyd yn 2020 wedi effeithio ar y cofrestrau etholiadol. 

Summary

Yn 2020, cyflwynwyd prosesau newydd er mwyn gwneud y canfas blynyddol yn fwy effeithiol. Mae’r prosesau hyn yn cynnwys cymharu y cofrestrau etholiadol gyda setiau data cyhoeddus eraill fel bod y Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gallu nodi aelwydydd lle mae’n debygol bod manylion preswylwyr yn debygol o fod wedi newid. Yna gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol dargedu eu hadnoddau at y cartrefi hyn (drwy eu neilltuo i ‘lwybrau’ gwahanol ar gyfer cysylltiadau dilynol). Canfas 2022 oedd y trydydd canfas i ddefnyddio’r cynllun yma.

Mae’r dadansoddiad hwn yn gosod ein mewnwelediad diweddaraf ar effaith a gaiff y diwygiadau canfas ar ansawdd y cofrestrau etholiadol. Fodd bynnag, ni allwn ffurfio casgliadau cadarn ar sail y dadansoddiad hwn yn unig. Ym mis Medi 2023, byddwn yn cyhoeddi darganfyddiadau ein hastudiaeth nesaf ar gywirdeb a chyfanrwydd y cofrestrau. Mae’r ymchwil hwn yn cynnwys cyfweld nifer o filoedd o aelwydydd ar draws y DU ac yn cymharu eu manylion presennol gyda’u cofnodion ar y gofrestr etholiadol. Bydd hyn yn ein galluogi i gynhyrchu amcangyfrif dibynadwy ar gyfer safon y cofrestrau ac o ganlyniad byddwn yn gallu gwneud dadansoddiad cadarn o’r effaith y mae’r diwygiadau canfas wedi ei gael ar y canlyniadau. Mae canlyniadau ein hastudiaethau blaenorol ar gael yma. 

Yn y cyfamser, mae ein dadansoddiad o’r data yn ymwneud â chanfas 2022 yn darparu cipolwg o berfformiad yn ystod blwyddyn benodol. Mae’r data yn awgrymu na fydd y prosesau newydd yn ddigonol er mwyn sicrhau bod cofrestrau yn cyd-fynd â chyflymder symudiadau y boblogaeth a gallwn weld patrymau amlwg yn ffurfio:

  • Mae rhai aelwydydd yn parhau i gael eu dyrannu i’r llwybr ‘anghywir’ o ganlyniad i amherffeithrwydd yn y broses paru data ac/neu’r oedi rhwng paru a chanfasio. Yn bron i 1 ym mhob 5 o’r ymatebion gan aelwydydd a ddyrannwyd i Lwybr 1 (lle roedd y broses paru data yn awgrymu nad oedd newid o ran cyfansoddiad yr aelwyd) adroddwyd newidiadau sylweddol i fanylion yr etholwyr.
  • Mae’r gyfradd ymateb ymhlith aelwydydd Llwybr 2 yn awgrymu efallai nad yw newidiadau angenrheidiol i fanylion etholwyr yn cael eu hadlewyrchu ar y cofrestrau. Ni ymatebodd treian aelwydydd Llwybr 2 (~2.4 miliwn) i’r canfas er gwaethaf y ffaith fod y broses paru data yn awgrymu fod newid wedi bod yng nghyfansoddiad yr aelwyd.
  • Mae nifer y cyflawnwyr cofrestredig (h.y. y rhai a fydd yn cyrraedd oedran pleidleisio yn fuan) yn parhau i ostwng, o bosibl o ganlyniad i’r gostyngiad yn y cyswllt y mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol bellach yn ei wneud ag aelwydydd Llwybr 1. Dechreuodd y gostyngiad yn nifer y cyflawnwyr cofrestredig ar ôl cyflwyno cofrestriad etholiadol unigol (IER) yn 2014. Parhaodd yn 2022, er bod y nifer wedi disgyn ar gyfradd is o lawer nag yn 2021 (-0.23% o’i gymharu â -28.70%).

Er ein bod yn gwybod mai digwyddiadau etholiadol ar raddfa fawr sy’n llywio ceisiadau cofrestru newydd yn fwyaf rhwydd, mae’n bwysig serch hynny bod y canfas a gweithgarwch cofrestru arall drwy gydol y flwyddyn yn cefnogi cofrestrau cywir a chyflawn. Gall hyn helpu i leihau’r niferoedd mawr o geisiadau cofrestru a dderbynnir yn syth cyn etholiadau mawr, pan fo capasiti staff Swyddogion Cofrestru Etholiadol eisoes dan bwysau.

Er mwyn helpu i sicrhau y gall pob pleidleisiwr cymwys ddweud ei ddweud mewn etholiadau, dylid moderneiddio'r system cofrestru etholiadol ymhellach ym Mhrydain Fawr. Dylai'r moderneiddio hwn gynnwys gwneud gwell defnydd o ddata cyhoeddus, gan gynnwys data o wasanaethau eraill y llywodraeth, fel bod cofrestru mor hawdd â phosibl i bleidleiswyr.

Yn ystod 2023, byddwn yn parhau i ddefnyddio'r fframwaith safonau perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol i adeiladu ar y gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddwn yn cefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ddatblygu ymhellach a defnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i'w helpu i ddeall ac adrodd ar effaith eu gweithgaredd yn well. Byddwn hefyd yn gofyn unwaith eto i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gwblhau arolwg yn ystod canfas 2023, i'n helpu i greu darlun o sut mae'r canfas yn dod yn ei flaen, yn ogystal â chefnogi ein hymgysylltiad â Swyddogion Cofrestru Etholiadol unigol a'u timau.

Ystadegau eraill y gofrestr

Yng Nghymru a’r Alban, gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau Y Senedd, Senedd yr Alban a chynghorau lleol. Cyflwynwyd y newid hwn yn 2015 yn yr Alban a 2020 yng Nghymru. 

Yn yr Alban, roedd 76,955 o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi’u cofrestru ar y cofrestrau llywodraeth leol ar ddiwedd canfas 2022 (gweler Tabl 4). Mae hyn yn ostyngiad o -1.3% ers 2021. O’u cymryd gydag amcangyfrifon poblogaeth NRS, mae hyn yn dangos bod tua dwy ran o dair o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn yr Alban wedi’u cynnwys ar gofrestrau llywodraeth leol.1

Mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled yr Alban yn parhau i ymgysylltu â phobl ifanc 16 ac 17 oed gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys postio uniongyrchol, cyfathrebu ffôn/testun, cysylltu ag ysgolion a phrifysgolion, cyhoeddi datganiadau i'r wasg, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, dosbarthu cylchlythyrau, a hysbysebu lleol, yn ogystal â gweithgaredd lleol gyda sefydliadau partner. 
 

Astudiaeth achos – Cyd-fwrdd Gwerth-rif Lothian

Mae Cyd-fwrdd Gwerth-rif Lothian – sy’n cwmpasu ardaloedd Cyngor Dinas Caeredin, Dwyrain Lothian, Midlothian a Gorllewin Lothian – yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i annog pobl ifanc 16 ac 17 oed i gofrestru, gan gynnwys e-byst uniongyrchol, mynychu digwyddiadau a chloddio data. Yn y dyddiau ar ôl iddynt anfon e-bost wedi'i dargedu, bu cynnydd mawr mewn ceisiadau cofrestru. Ar draws pedwar digwyddiad a fynychwyd, adroddwyd iddynt gofrestru 357 o fyfyrwyr yn uniongyrchol ac ymgysylltu â llawer iawn mwy. Roedd cloddio data rhestrau ysgol a gweithgareddau dilynol i’w priodoli i gynnydd o 6.6% yn nifer y disgyblion ysgol cofrestredig dros 16 oed (sy’n cyfateb i tua 1,075 o geisiadau), a chynnydd cyffredinol o 18.9% ar gyfer disgyblion ysgol dros 14 oed (oddeutu 5,754 o geisiadau).

Tabl 4. Nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gofrestrau llywodraeth leol yn yr Alban 2015-22

Blwyddyn pobl 16 ac 17 mlwydd oed
2015 48,962
2016 79,621
2017 83,536
2018 78,383
2019 73,777
2020 73,272
2021 77,958
2022 76,955

Yng Nghymru, roedd 36,722 o bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gofrestrau llywodraeth leol ar 1 Rhagfyr 2022. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 10.5% o’i gymharu â 2021, sy’n golygu bod cyfradd y twf yn nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed cofrestredig wedi arafu ers y canfas blaenorol, a welodd gynnydd o 115.1% o gymharu â 2020. O’u cymryd gydag amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yr ONS ar gyfer 2021, mae ein data canfas yn awgrymu bod ychydig dros hanner y rhai 16 ac 17 oed yng Nghymru wedi’u cynnwys ar y cofrestrau llywodraeth leol ar hyn o bryd.2

Ledled Cymru, cynhaliodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol amrywiaeth o weithgareddau i annog cofrestru ymhlith pobl ifanc 16 ac 17 oed. Gan ddefnyddio cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, penododd llawer o awdurdodau swyddogion ymgysylltu â’r cyhoedd dros dro ac mae’n ymddangos y bu cynnydd yn ystod yr ymgysylltu a gynhaliwyd yn y meysydd hynny. Barn gref yr awdurdodau lleol y buom yn siarad â nhw oedd y dylai’r adnodd hwn barhau i fod ar gael i sicrhau bod y sylfeini a osodwyd eisoes yn cael eu hadeiladu ac y gall y gwaith pwysig hwn barhau.

Yn ogystal â gweithgareddau ymgysylltu mwy safonol fel postio uniongyrchol, cyfathrebu ffôn/testun, cyswllt ag ysgolion, datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol, ymgymerodd rhai awdurdodau â gweithgareddau ychwanegol megis: 

  • creu baneri gwefan a fideos TikTok i'w rhannu ag ysgolion
  • gweithio gyda chynghorau ieuenctid a grwpiau partneriaeth ieuenctid 
  • anfon cardiau penblwydd yn 16 oed
  • hysbysebu mewn llochesi bysiau
  • sesiynau dros dro mewn ysgolion
  • sesiynau hyfforddi athrawon gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn Etholiadol

Astudiaeth achos – Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Ochr yn ochr â datblygu ymgyrch hysbysebu wedi’i thargedu at bobl ifanc 16-17 oed, ymgymerodd Cyngor Torfaen â nifer o weithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc yn yr ardal. Roedd hyn yn cynnwys recordio sawl fideo gyda disgyblion ysgol ar sut i bleidleisio a’r hyn y mae’r cyngor lleol yn ei wneud, gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo cofrestru trwy byrth post disgyblion a rhieni, a chynnal gwasanaethau a ffug etholiadau. Arweiniwyd y gweithgaredd hwn gan y Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad Etholiadol. Gwelodd Torfaen gynnydd o 9% mewn cofrestriadau ymhlith pobl ifanc 16-17 oed.

Gall dinesydd y DU sy’n byw dramor sydd wedi ei gofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf wneud cais i fod yn bleidleisiwr tramor. Mae angen adnewyddu'r cofrestriadau hyn yn flynyddol ar hyn o bryd. Cyfanswm yr etholwyr tramor ar gofrestrau 2022 ym Mhrydain Fawr oedd 79,665 (Tabl 5). 

Tabl 5. Nifer yr etholwyr tramor ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr 2015-22

Ardal 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022
Lloegr 97,572 241,097 205,687 113,833 185,513 170,196 94,908 73,407
Yr Alban 7,729 15,230 12,790 6,679 11,587 9,617 6,799 4,259
Cymru 2,940 7,567 6,995 3,678 6,969 5,169 2,958 1,999
Prydain Fawr 108,241 263,894 225,472 124,190 204,069 184,982 104,665 79,665

Mae hyn yn ostyngiad o -23.9% ers cyhoeddi’r cofrestrau yn 2021. Mae’n nodi parhad yn y dirywiad yn nifer yr etholwyr tramor cofrestredig sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers 2019. Mae’r gostyngiad hwn yn debygol o ganlyniad i’r ffaith na fu etholiad y gall etholwyr tramor bleidleisio ynddo ers etholiad cyffredinol seneddol y DU 2019.

Mae Deddf Etholiadau 2022 yn ymestyn nifer y dinasyddion tramor a fydd yn gymwys i gofrestru a phleidleisio, a hefyd yn newid y gofyniad i adnewyddu cofrestriad yn flynyddol i bob tair blynedd. Gallai ymestyn cymhwysedd arwain at nifer fawr o geisiadau yn cael eu cyflwyno yn agos at etholiad cyffredinol seneddol nesaf y DU, y bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol fod yn barod i'w rheoli. Byddwn yn cynnal gweithgareddau cymorth ac ymgysylltu wedi'u targedu gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn etholiad cyffredinol seneddol nesaf y DU.

Gostyngodd nifer y cofnodion cofrestr etholiadol dienw ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr o 3,097 yn 2021 i 2,842 yn 2022 (Tabl 6). 

Mae cofrestru di-enw ar gael i bobl sy’n bodloni anghenion arbennig, lle y byddai eu diogelwch nhw, neu rywun yn yr un aelwyd â nhw, mewn perygl. Mae pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddienw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol heb eu henw na'u cyfeiriad.

Tabl 6. Nifer yr etholwyr dienw ar y cofrestrau seneddol ym Mhrydain Fawr 2015-22

Ardal 2015 2016 2017 2018 2019 2020 2021 2022
Lloegr 2,151 2,194 2,440 2,550 3,214 3,064 2,788 2,539
Yr Alban 111 117 116 130 194 196 187 191
Cymru 74 74 85 108 138 114 122 112
Prydain Fawr 2,336 2,385 2,641 2,788 3,546 3,374 3,097 2,842

 

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf:

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mawrth 2023