Amcangyfrifon cenedlaethol ar gywirdeb a chyflawnrwydd
Crynodeb
Mae'r siart isod yn nodi'r amcangyfrifon cywirdeb a chyflawnrwydd ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban yn y cofrestrau seneddol a llywodraeth leol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018.
Yn Lloegr, canfu bod y cofrestrau llywodraeth leol 89% yn gywir ac roedd cywirdeb y cofrestrau seneddol hefyd yn 89%. Roedd y gofrestr llywodraeth leol 83% yn gyflawn, ac roedd y gofrestr seneddol ychydig yn fwy cyflawn ar 85%.
Yng Nghymru, roedd cywirdeb y cofrestrau yn debyg i Brydain Fawr yn ei chyfanrwydd gyda'r gofrestr llywodraeth leol 89% yn gywir a'r gofrestr seneddol 88% yn gywir. Roedd cyflawnrwydd y cofrestrau llywodraeth leol a seneddol ychydig yn is na chyfartaledd Prydain Fawr (81% ac 82% yn ôl eu trefn).
Yn yr Alban, roedd cofrestrau seneddol 87% yn gywir ac roedd y cofrestrau llywodraeth leol 86% yn gywir. Roedd cyflawnrwydd yn agos at gyfartaledd Prydain Fawr gydag 83% ar gyfer cofrestrau llywodraeth leol ac 84% ar gyfer y cofrestrau seneddol.
Lloegr
Mae'r canlyniadau ar gyfer Lloegr ym mis Rhagfyr 2018 yn dangos y canlynol:
- Roedd cofrestrau seneddol 85% yn gyflawn ac 89% yn gywir
- Roedd cofrestrau llywodraeth leol 83% yn gyflawn ac 89% yn gywir.
Mae'r canfyddiadau yn arwain at amcangyfrif nad oedd rhwng 7.0 ac 8.1 miliwn o bobl yn Lloegr a oedd yn gymwys i fod ar y cofrestrau llywodraeth leol wedi'u cofrestru'n gywir ac amcangyfrif bod rhwng 4.0 a 4.8 miliwn o gofnodion anghywir ar y cofrestrau llywodraeth leol ym mis Rhagfyr 2018.
Cyflawnrwydd
Rhanbarth
Mae rhywfaint o amrywiaeth mewn cyflawnrwydd fesul rhanbarth yn Lloegr, gyda chyflawnrwydd yn amrywio o 76% yn Llundain i 91% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Rhanbarth | Rhagfyr 2015 | Rhagfyr 2018 |
---|---|---|
Lloegr | 84% | 83% |
Gogledd-ddwyrain Lloegr | 78% | 91% |
Gogledd-orllewin Lloegr | 84% | 85% |
Swydd Efrog a'r Humber | 82% | 87% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 83% | 83% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 88% | 86% |
Dwyrain Lloegr | 85% | 79% |
Llundain | 81% | 76% |
De-ddwyrain Lloegr | 87% | 84% |
De-orllewin Lloegr | 84% | 84% |
Trefol/gwledig
Yn Lloegr, roedd y cofrestrau llywodraeth leol yn 2018 84% yn gyflawn mewn ardaloedd gwledig ac 83% yn gyflawn mewn ardaloedd trefol.
Hyd cyfnod preswylio
Mae gwaith ymchwil blaenorol i'r cofrestrau wedi canfod cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd: gan fod cofrestru yn seiliedig ar breswylfa, mae mwy o symudedd yn gysylltiedig â lefelau is o gyflawnrwydd ond po hiraf y bydd unigolyn wedi bod yn byw mewn eiddo, y mwyaf tebygol y bydd o ymddangos ar y gofrestr etholwyr.
Fel y mae'r ffigur isod yn dangos, mae'r patrwm hwn yn parhau yn y cofrestrau llywodraeth leol ar gyfer Lloegr, gyda chyflawnrwydd yn 36% ymhlith y rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am hyd at flwyddyn o gymharu ag 83% i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 2 i 5 mlynedd a 90% i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 5 i 10 mlynedd. I'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 10 i 16 mlynedd, roedd cyflawnrwydd yn 88% ac i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am fwy nag 16 o flynyddoedd roedd yn 92%.

Deiliadaeth
Yn Lloegr, mae perchnogion tai (y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr a'r rhai sy'n prynu gyda morgais neu ranberchnogaeth) yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na phobl mewn mathau eraill o ddeiliadaeth.
Roedd cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr (91%) o gymharu â'r rhai mewn cartrefi â morgais (85%), rhentwyr cymdeithasol (83%) a rhentwyr preifat (58%).
Mae cysylltiad agos rhwng amrywiadau mewn cyflawnrwydd yn ôl deiliadaeth a hyd cyfnod preswylio, gyda rhentwyr preifat yn llawer mwy tebygol o fod wedi byw yn eu cyfeiriad am gyfnod byrrach na'r rhai sy'n byw mewn deiliadaethau eraill.
Oedran
Canfu bod lefelau cyflawnrwydd yn amrywio yn ôl grŵp oedran, gyda grwpiau hŷn yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru. Mae hwn yn ganfyddiad sydd wedi bod yn gyson drwy ein hymchwil.
Mae cyflawnrwydd yn 72% i'r rhai sy'n 18-34 oed ac mae'n uwch i'r rhai sy'n 35-54 oed (85%) ac yn 55+ oed (93%).
Crynodeb o fesurau cyflawnrwydd
Mae'r tabl isod yn darparu crynodeb o lefel cyflawnrwydd yn y mesurau allweddol a ddisgrifiwyd uchod a nifer o fesurau eraill sy'n gysylltiedig â chyflawnrwydd, megis grŵp economaidd-gymdeithasol a chenedligrwydd. Mae'r rhain hefyd yn cael eu cymharu â'r ffigurau ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd
Lloegr | Prydain Fawr | ||
---|---|---|---|
Trefol/gwledig | Trefol | 83% | 83% |
Gwledig | 84% | 85% | |
Rhyw | Gwryw | 82% | 83% |
Benyw | 83% | 83% | |
Oedran | 18-34 | 72% | 71% |
35-54 | 85% | 86% | |
55+ | 93% | 93% | |
Deiliadaeth | Yn berchen arno'n llwyr | 91% | 91% |
Morgais/perchnogaeth a rennir | 85% | 86% | |
Rhentiwr cymdeithasol | 83% | 83% | |
Rhentiwr preifat | 58% | 58% | |
Dim rhent/arall | 71% |
69% |
|
Grŵp economaidd-gymdeithasol | AB | 86% | 86% |
C1 | 84% | 84% | |
C2 | 80% | 80% | |
DE | 79% | 80% | |
Oedolion yn y cartref | 1 | 86% | 86% |
2 | 84% | 84% | |
3 to 5 | 81% | 81% | |
6+ | 79% | 78% | |
Amser yn byw yn y cyfeiriad | Hyd at flwyddyn | 36% | 36% |
Rhwng blwyddyn a 2 flynedd | 70% | 71% | |
Rhwng 2 a 5 mlynedd | 83% | 84% | |
Rhwng 5 a 10 mlynedd | 90% | 90% | |
Rhwng 10 ac 16 mlynedd | 88% | 88% | |
16 mlynedd neu fwy | 92% | 92% | |
Cenedligrwydd | Y DU ac Iwerddon | 85% | 86% |
Undeb Ewropeaidd | 54% | 54% | |
Y Gymanwlad | 62% | 62% |
Cywirdeb
Mae'r tabl isod yn dangos y mathau o wallau a welwyd ar gofrestrau llywodraeth leol mis Rhagfyr 2018. O ran Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd, mae'r rhan fwyaf o wallau mawr – sef y gwallau hynny a fyddai'n rhwystro rhywun rhag pleidleisio neu'n galluogi rhywun i bleidleisio pan na ddylai gael gwneud hynny – yn ymwneud â chofnodion sy'n cyfeirio at unigolion nad ydynt yn byw yn yr eiddo mwyach (10%).
Yn Lloegr, mae 9% o gofnodion yn cynnwys gwallau bach – y rhai hynny na fyddent yn rhwystro rhywun rhag pleidleisio. Mae'r ffigur hwn yn agos at yr un ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol (9%).
Lloegr | Prydain Fawr | |
---|---|---|
Cyfanswm y gwallau mawr | 10.9% | 11.2% |
Gwallau mawr – (a) | 10.1% | 10.4% |
Neb o'r un enw yn byw yn y cyfeiriad | ||
Gwallau mawr – (b) | ||
Enw cyntaf a/neu gyfenw yn anghywir ar y gofrestr | 0.5% | 0.4% |
Dim enw cyntaf a/neu gyfenw ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Wedi'u nodi fel dinasyddion y DU/Iwerddon/y Gymanwlad | 0.3% | 0.3% |
Gwallau mawr – (c) | ||
Yr enw ar y gofrestr yn cyfateb i enw anghymwys ar yr arolwg |
0.2% | 0.2% |
Cyrhaeddwyr - dyddiad geni ar goll neu'n anghywir | 0.1% | 0.1% |
Heb eu nodi fel dinasyddion yr UE | 0.2% | 0.2% |
Yn gywir gyda mân wallau | 8.9% | 9.1% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr wedi'i gamsillafu | 1.3% | 1.2% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr yn anghyflawn |
0.5% | 0.5% |
Enw canol ar goll o'r gofrestr | 6.1% | 6.4% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf wedi'u camsillafu neu'n anghyflawn ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf yn anghywir ar y gofrestr | 0.1% | 0.1% |
Nid oes gan yr unigolyn enw canol ond mae enw canol ar y cofrestrau (ymatebwyr yn unig) |
1.3% | 1.3% |
Cyfenw blaenorol yw'r cyfenw, neu tybir mai cyfenw blaenorol ydyw | 0.5% | 0.5% |
Enw cyntaf/canol neu gyfenw mewn trefn wahanol ar y gofrestr |
0.1% | 0.1% |
Dyddiad geni cyrhaeddwr yn gynharach ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Yr Alban
Mae'r canlyniadau ar gyfer yr Alban ym mis Rhagfyr 2018 yn dangos y canlynol:
- Roedd cofrestrau seneddol 84% yn gyflawn ac 87% yn gywir
- Roedd cofrestrau llywodraeth leol 83% yn gyflawn ac 86% yn gywir
Mae'r canfyddiadau yn arwain at amcangyfrif nad oedd rhwng 630,000 ac 890,000 o bobl yn yr Alban a oedd yn gymwys i fod ar y cofrestrau llywodraeth leol wedi'u cofrestru'n gywir ac amcangyfrif bod rhwng 400,000 a 745,000 o gofnodion anghywir ar y cofrestrau llywodraeth leol ym mis Rhagfyr 2018.
Cyflawnrwydd
Trefol/gwledig
Yn yr Alban, roedd y cofrestrau llywodraeth leol yn 2018 89% yn gyflawn mewn ardaloedd gwledig ac 82% yn gyflawn mewn ardaloedd trefol.
Hyd cyfnod preswylio
Mae gwaith ymchwil blaenorol i'r cofrestrau wedi canfod cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd: gan fod cofrestru yn seiliedig ar breswylfa, mae mwy o symudedd yn gysylltiedig â lefelau is o gyflawnrwydd ond po hiraf y bydd unigolyn wedi bod yn byw mewn eiddo, y mwyaf tebygol y bydd o ymddangos ar y gofrestr etholwyr.
Fel y mae'r ffigur isod yn dangos, mae'r patrwm hwn yn parhau yn y cofrestrau llywodraeth leol ar gyfer yr Alban, gyda chyflawnrwydd yn 32% ymhlith y rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am hyd at flwyddyn o gymharu ag 84% ymhlith y rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 2 i 5 mlynedd a 91% i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 5 i 10 mlynedd.
I'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 10 i 16 mlynedd, roedd cyflawnrwydd yn 95% ac i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am fwy nag 16 o flynyddoedd roedd yn 94%.
Deiliadaeth
Yn yr Alban, mae perchnogion tai (y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr a'r rhai sy'n prynu gyda morgais neu ranberchnogaeth) yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na phobl mewn mathau eraill o ddeiliadaeth.
Roedd cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr (95%) o gymharu â'r rhai mewn cartrefi â morgais (87%), rhentwyr cymdeithasol (81%) a rhentwyr preifat (49%).
Mae cysylltiad agos rhwng amrywiadau mewn cyflawnrwydd yn ôl deiliadaeth a hyd cyfnod preswylio, gyda rhentwyr preifat yn llawer mwy tebygol o fod wedi byw yn eu cyfeiriad am gyfnod byrrach na'r rhai sy'n byw mewn deiliadaethau eraill.
Oedran
Canfu bod lefelau cyflawnrwydd yn amrywio yn ôl grŵp oedran, gyda grwpiau hŷn yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru. Mae hwn yn ganfyddiad sydd wedi bod yn gyson drwy ein hymchwil.
Mae cyflawnrwydd yn 68% i'r rhai sy'n 18-34 oed ac mae'n uwch i'r rhai sy'n 35-54 oed (87%) ac yn 55+ oed (92%).
Crynodeb o fesurau cyflawnrwydd eraill
Mae'r tabl isod yn darparu crynodeb o lefel cyflawnrwydd yn y mesurau allweddol a ddisgrifiwyd uchod a nifer o fesurau eraill sy'n gysylltiedig â chyflawnrwydd, megis grŵp economaidd-gymdeithasol a chenedligrwydd. Mae'r rhain hefyd yn cael eu cymharu â'r ffigurau ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd
Yr Alban | Prydain Fawr | ||
---|---|---|---|
Trefol/gwledig | Trefol | 82% | 83% |
Gwledig | 89% | 85% | |
Rhyw | Gwryw | 85% | 83% |
Benyw | 82% | 83% | |
Oedran | 18-34 | 68% | 71% |
35-54 | 87% | 86% | |
55+ | 92% | 93% | |
Deiliadaeth | Yn berchen arno'n llwyr | 95% | 91% |
Morgais/perchnogaeth a rennir | 87% | 86% | |
Rhentiwr cymdeithasol | 81% | 83% | |
Rhentiwr preifat | 49% | 58% | |
Dim rhent/arall | 73% |
69% |
|
Grŵp economaidd-gymdeithasol | AB | 88% | 86% |
C1 | 85% | 84% | |
C2 | 80% | 80% | |
DE | 78% | 80% | |
Oedolion yn y cartref | 1 | 79% | 86% |
2 | 84% | 84% | |
3 to 5 | 85% | 81% | |
6+ | - | 78% | |
Amser yn byw yn y cyfeiriad | Hyd at flwyddyn | 32% | 36% |
Rhwng blwyddyn a 2 flynedd | 65% | 71% | |
Rhwng 2 a 5 mlynedd | 84% | 84% | |
Rhwng 5 a 10 mlynedd | 91% | 90% | |
Rhwng 10 ac 16 mlynedd | 95% | 88% | |
16 mlynedd neu fwy | 94% | 92% | |
Cenedligrwydd | Y DU ac Iwerddon | 85% | 86% |
Undeb Ewropeaidd | 58% | 54% | |
Y Gymanwlad | 68% | 62% |
Cywirdeb
Mae'r tabl isod yn dangos y mathau o wallau a welwyd ar gofrestrau llywodraeth leol mis Rhagfyr 2018. O ran Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd, mae'r rhan fwyaf o wallau mawr – sef y gwallau hynny a fyddai'n rhwystro rhywun rhag pleidleisio neu'n galluogi rhywun i bleidleisio pan na ddylai gael gwneud hynny – yn ymwneud â chofnodion sy'n cyfeirio at unigolion nad ydynt yn byw yn yr eiddo mwyach (13%).
Yn yr Alban, mae 11% o gofnodion yn cynnwys gwallau bach – y rhai hynny na fyddent yn rhwystro rhywun rhag pleidleisio. Mae'r ffigur hwn yn agos at yr un ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol (9%).
Yr Alban | Prydain Fawr | |
---|---|---|
Cyfanswm y gwallau mawr | 14.0% | 11.2% |
Gwallau mawr – (a) | 13.1% | 10.4% |
Neb o'r un enw yn byw yn y cyfeiriad | ||
Gwallau mawr – (b) | ||
Enw cyntaf a/neu gyfenw yn anghywir ar y gofrestr | 0.3% | 0.4% |
Dim enw cyntaf a/neu gyfenw ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Wedi'u nodi fel dinasyddion y DU/Iwerddon/y Gymanwlad | 0.4% | 0.3% |
Gwallau mawr – (c) | ||
Yr enw ar y gofrestr yn cyfateb i enw anghymwys ar yr arolwg |
0.1% | 0.2% |
Cyrhaeddwyr - dyddiad geni ar goll neu'n anghywir | 0.2% | 0.1% |
Heb eu nodi fel dinasyddion yr UE | 0.1% | 0.2% |
Yn gywir gyda mân wallau | 11.2% | 9.1% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr wedi'i gamsillafu | 0.9% | 1.2% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr yn anghyflawn |
0.3% | 0.5% |
Enw canol ar goll o'r gofrestr | 9.3% | 6.4% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf wedi'u camsillafu neu'n anghyflawn ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf yn anghywir ar y gofrestr | 0.0% | 0.1% |
Nid oes gan yr unigolyn enw canol ond mae enw canol ar y cofrestrau (ymatebwyr yn unig) |
1.3% | 1.3% |
Cyfenw blaenorol yw'r cyfenw, neu tybir mai cyfenw blaenorol ydyw | 0.5% | 0.5% |
Enw cyntaf/canol neu gyfenw mewn trefn wahanol ar y gofrestr |
0.0% | 0.1% |
Dyddiad geni cyrhaeddwr yn gynharach ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Cymru
Mae'r canlyniadau ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr 2018 yn dangos y canlynol:
- Roedd cofrestrau seneddol 82% yn gyflawn ac 88% yn gywir
- Roedd cofrestrau llywodraeth leol 81% yn gyflawn ac 89% yn gywir.
Mae'r canfyddiadau yn arwain at amcangyfrif nad oedd rhwng 410,000 a 560,000 o bobl yng Nghymru a oedd yn gymwys i fod ar y cofrestrau llywodraeth leol wedi'u cofrestru'n gywir ac amcangyfrif bod rhwng 200,000 a 330,000 o gofnodion anghywir ar y cofrestrau llywodraeth leol ym mis Rhagfyr 2018.
Cyflawnrwydd
Trefol/gwledig
Yng Nghymru, roedd y cofrestrau llywodraeth leol yn 2018 82% yn gyflawn mewn ardaloedd gwledig ac 81% yn gyflawn mewn ardaloedd trefol.
Hyd cyfnod preswylio
Mae gwaith ymchwil blaenorol i'r cofrestrau wedi canfod cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd: gan fod cofrestru yn seiliedig ar breswylfa, mae mwy o symudedd yn gysylltiedig â lefelau is o gyflawnrwydd ond po hiraf y bydd unigolyn wedi bod yn byw mewn eiddo, y mwyaf tebygol y bydd o ymddangos ar y gofrestr etholwyr.
Fel y mae'r ffigur isod yn dangos, mae'r patrwm hwn yn parhau yn y cofrestrau llywodraeth leol ar gyfer Cymru, gyda chyflawnrwydd yn 30% ymhlith y rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am hyd at flwyddyn o gymharu ag 83% i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 2 i 5 mlynedd a 5 i 10 mlynedd
I'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 10 i 16 mlynedd, roedd cyflawnrwydd yn 88% ac i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am fwy nag 16 o flynyddoedd roedd yn 91%.
Deiliadaeth
Yng Nghymru, mae perchnogion tai (y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr a'r rhai sy'n prynu gyda morgais neu ranberchnogaeth) yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na phobl mewn mathau eraill o ddeiliadaeth.
Roedd cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr (91%) o gymharu â'r rhai mewn cartrefi â morgais (78%), rhentwyr cymdeithasol (81%) a rhentwyr preifat (60%).
Mae cysylltiad agos rhwng amrywiadau mewn cyflawnrwydd yn ôl deiliadaeth a hyd cyfnod preswylio, gyda rhentwyr preifat yn llawer mwy tebygol o fod wedi byw yn eu cyfeiriad am gyfnod byrrach na'r rhai sy'n byw mewn deiliadaethau eraill.
Oedran
Canfu bod lefelau cyflawnrwydd yn amrywio yn ôl grŵp oedran, gyda grwpiau hŷn yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru. Mae hwn yn ganfyddiad sydd wedi bod yn gyson drwy ein hymchwil.
Mae cyflawnrwydd yn 67% i'r rhai sy'n 18-34 oed ac mae'n uwch i'r rhai sy'n 35-54 oed (84%) ac yn 55+ oed (95%).
Crynodeb o fesurau cyflawnrwydd
Mae'r tabl isod yn darparu crynodeb o lefel cyflawnrwydd yn y mesurau allweddol a ddisgrifiwyd uchod a nifer o fesurau eraill sy'n gysylltiedig â chyflawnrwydd, megis grŵp economaidd-gymdeithasol a chenedligrwydd. Mae'r rhain hefyd yn cael eu cymharu â'r ffigurau ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd
Cymru | Prydain Fawr | ||
---|---|---|---|
Trefol/gwledig | Trefol | 81% | 83% |
Gwledig | 82% | 85% | |
Rhyw | Gwryw | 80% | 83% |
Benyw | 82% | 83% | |
Oedran | 18-34 | 67% | 71% |
35-54 | 84% | 86% | |
55+ | 95% | 93% | |
Deiliadaeth | Yn berchen arno'n llwyr | 91% | 91% |
Morgais/perchnogaeth a rennir | 78% | 86% | |
Rhentiwr cymdeithasol | 81% | 83% | |
Rhentiwr preifat | 60% | 58% | |
Dim rhent/arall | 51% |
69% |
|
Grŵp economaidd-gymdeithasol | AB | 87% | 86% |
C1 | 82% | 84% | |
C2 | 82% | 80% | |
DE | 76% | 80% | |
Oedolion yn y cartref | 1 | 82% | 86% |
2 | 83% | 84% | |
3 to 5 | 77% | 81% | |
6+ | - | 78% | |
Amser yn byw yn y cyfeiriad | Hyd at flwyddyn | 30% | 36% |
Rhwng blwyddyn a 2 flynedd | 68% | 71% | |
Rhwng 2 a 5 mlynedd | 83% | 84% | |
Rhwng 5 a 10 mlynedd | 83% | 90% | |
Rhwng 10 ac 16 mlynedd | 88% | 88% | |
16 mlynedd neu fwy | 91% | 92% | |
Cenedligrwydd | Y DU ac Iwerddon | 82% | 86% |
Undeb Ewropeaidd | 57% | 54% | |
Y Gymanwlad | 59% | 62% |
Cywirdeb
Mae'r tabl isod yn dangos y mathau o wallau a welwyd ar gofrestrau llywodraeth leol mis Rhagfyr 2018. O ran Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd, mae'r rhan fwyaf o wallau mawr – sef y gwallau hynny a fyddai'n rhwystro rhywun rhag pleidleisio neu'n galluogi rhywun i bleidleisio pan na ddylai gael gwneud hynny – yn ymwneud â chofnodion sy'n cyfeirio at unigolion nad ydynt yn byw yn yr eiddo mwyach (11%).
Yng Nghymru, mae 10% o gofnodion yn cynnwys gwallau bach – y rhai hynny na fyddent yn rhwystro rhywun rhag pleidleisio. Mae'r ffigur hwn yn fwy na'r un ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol (9%).
Cymru | Prydain Fawr | |
---|---|---|
Cyfanswm y gwallau mawr | 11.7% | 11.2% |
Gwallau mawr – (a) | 10.8% | 10.4% |
Neb o'r un enw yn byw yn y cyfeiriad | ||
Gwallau mawr – (b) | ||
Enw cyntaf a/neu gyfenw yn anghywir ar y gofrestr | 0.3% | 0.4% |
Dim enw cyntaf a/neu gyfenw ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Wedi'u nodi fel dinasyddion y DU/Iwerddon/y Gymanwlad | 0.0% | 0.3% |
Gwallau mawr – (c) | ||
Yr enw ar y gofrestr yn cyfateb i enw anghymwys ar yr arolwg |
0.3% | 0.2% |
Cyrhaeddwyr - dyddiad geni ar goll neu'n anghywir | 0.0% | 0.1% |
Heb eu nodi fel dinasyddion yr UE | 0.3% | 0.2% |
Yn gywir gyda mân wallau | 9.7% | 9.1% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr wedi'i gamsillafu | 0.8% | 1.2% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr yn anghyflawn |
0.6% | 0.5% |
Enw canol ar goll o'r gofrestr | 8.1% | 6.4% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf wedi'u camsillafu neu'n anghyflawn ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf yn anghywir ar y gofrestr | 0.0% | 0.1% |
Nid oes gan yr unigolyn enw canol ond mae enw canol ar y cofrestrau (ymatebwyr yn unig) |
0.6% | 1.3% |
Cyfenw blaenorol yw'r cyfenw, neu tybir mai cyfenw blaenorol ydyw | 0.3% | 0.5% |
Enw cyntaf/canol neu gyfenw mewn trefn wahanol ar y gofrestr |
0.0% | 0.1% |
Dyddiad geni cyrhaeddwr yn gynharach ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |