Cefndir yr astudiaeth hon
Cyd-destun hanesyddol
Mae ffigur 2.1 isod yn dangos yr amcangyfrifon cywirdeb a chyflawnrwydd a luniwyd rhwng 1996 a 2018. Nid yw amcangyfrifon cyflawnrwydd cenedlaethol wedi cael eu llunio'n rheolaidd, ond maent wedi cael eu llunio gyda rhyw fesur o gysondeb sy'n ein galluogi i wneud cymariaethau dilys dros amser. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon cywirdeb y gellir eu cymharu wedi cael eu llunio'n llai aml.
Er y defnyddiwyd dulliau gwahanol i gyfrifo cywirdeb, mae'r amcangyfrifon a luniwyd ym 1981 ac wedi hynny o 2011 i 2018 yn dangos bod cywirdeb y cofrestrau etholwyr wedi parhau'n gymharol gyson dros amser.1
2
3
Mae lefelau cyflawnrwydd wedi cynnwys mwy o amrywiadau. Roedd y lefelau uchaf a gofnodwyd ym 1950 a 1966 (96% erbyn diwedd y canfasiad ym 1950 a 1966) ond roeddent wedi gostwng rhywfaint erbyn 1981 (94%) ac eto ym 1991 (91-93%) a 2001 (91-92%)4 . Daeth y gostyngiad graddol hwn o 1966 i 2000 yn sgil cynnydd yn symudedd y boblogaeth ac mae'r gostyngiad yn y 1980au a'r 1990au cynnar wedi cael ei gysylltu â'r Tâl Cymunedol (y cyfeirir ato'n eang fel 'treth y pen') lle amcangyfrifir y tynnodd 350,000 o bobl eu henwau oddi ar y cofrestrau etholwyr mewn ymdrech i osgoi talu'r dreth newydd5 .
Gostyngodd lefelau cyflawnrwydd yn fwy sylweddol ar ôl 2001, gan ostwng i 85% yn 2011. Mae'r gostyngiad hwn wedi cael ei gysylltu â newid yn y boblogaeth, symudedd y boblogaeth oherwydd amgylchiadau tai newidiol, llai o ymdrechion i gynnwys y cyhoedd mewn democratiaeth etholiadol ac arferion cofrestru newidiol, ynghyd â llai o ymatebion i ffurflenni yn y 2000au cynnar. Yn y dadansoddiad o ganlyniadau 2018, rydym yn ystyried y ffactorau hyn er mwyn gosod ein canfyddiadau yng nghyd-destun yr heriau datblygol sy'n gysylltiedig â chynnal cofrestrau cywir a chyflawn.
Ym mis Rhagfyr 2018, roedd 45,775,758 o gofnodion ar y cofrestrau etholwyr seneddol a 47,785,498 o gofnodion ar y cofrestrau llywodraeth leol yn y DU.
Roedd cofrestrau mis Rhagfyr 2018 yn cynrychioli gostyngiad yn nifer y cofnodion ar y cofrestrau o fis Rhagfyr 2017 lle roedd nifer y cofnodion ar y cofrestrau etholwyr yn y DU ar ei uchaf yn dilyn Refferendwm yr UE yn 2016 ac etholiad cyffredinol y DU ym mis Mehefin 2017.
Ar y cyfan, roedd gostyngiad o 0.8% yn nifer y cofnodion ar y cofrestrau seneddol a gostyngiad o 0.3% ar y cofrestrau llywodraeth leol rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Rhagfyr 2018. Mae hyn yn dilyn dwy flynedd lle mae maint y cofrestrau wedi cynyddu – er mai dim ond cynnydd bach a gafwyd rhwng mis Rhagfyr 2016 a 2017 pan gynyddodd y cofrestrau seneddol 0.8% a'r cofrestrau llywodraeth leol 1.2%1 .
Mae'r astudiaeth hon yn ystyried ansawdd y cofrestrau hyn o fis Rhagfyr 2018 ar gyfer Prydain Fawr. Cyhoeddir asesiad ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n bwysig nodi er y gall y cofrestrau gynnwys mwy o gofnodion na'n hasesiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2015, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eu bod yn fwy cyflawn. Mae hyn oherwydd na chaiff unrhyw ddyfarniad ar gywirdeb y cofnodion ei wneud mewn ystadegau gweinyddol ac felly caiff pob cofnod ei gyfrif yn gyfartal ni waeth faint o wirionedd sydd ynddo. Mae'r asesiad hwn yn ein galluogi i wneud dyfarniad ar ansawdd y cofrestrau ac felly bennu pa mor gyflawn ydynt.
Cronfa ddata yn seiliedig ar eiddo yw'r cofrestrau etholwyr ac, er mwyn cynnal cofrestrau cywir a chyflawn, mae'n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu a dileu cofnodion ar gyfer unigolion sydd wedi symud tŷ, ynghyd â dileu cofnodion ar gyfer y rheini sydd wedi marw ac ychwanegu cofnodion ar gyfer etholwyr newydd cymwys a'r rheini nas cofrestrwyd yn flaenorol.
Mae'r ffigur isod yn cyflwyno ychwanegiadau a dileadau fel canran o gofnodion ar gofrestrau llywodraeth leol ym mis Rhagfyr o 2015 i 2018. Mae'r ffigur hwn yn dangos y cafwyd mwy o weithgarwch yn 2015 yn dilyn y broses drosglwyddo i Gofrestru Etholiadol Unigol ac mae hyn yn awgrymu bod cofrestrau mis Rhagfyr 2015 – y cofrestrau y seiliwyd ein hasesiad cywirdeb a chyflawnrwydd diwethaf arnynt – o ansawdd uchel (fel y profwyd gan ein hasesiad yn 2015).
Yn nodedig, yn 2016 a 2017, roedd mwy o ychwanegiadau yn y cyfnod cofrestru parhaus nag yng nghyfnod canfasio'r hydref, ond cafodd dileadau eu cofnodi'n bennaf yn ystod cyfnod canfasio'r hydref o hyd. Fodd bynnag, yn 2018 cafodd mwy o ychwanegiadau eu cofnodi yn ystod cyfnod canfasio'r hydref nag yn ystod y cyfnod cofrestru parhaus. Mae'r gwahaniaeth hwn rhwng y blynyddoedd yn debygol o fod o ganlyniad i'r ffaith nad oedd etholiad cenedlaethol mawr yn 2018. Yn 2016 a 2017 fel ei gilydd, roedd digwyddiadau etholiadol proffil uchel sef y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd ac Etholiad Cyffredinol Senedd y DU. Cafwyd llawer o weithgarwch cofrestru cyn y digwyddiadau hyn.
Yn 2018 roedd etholiadau llywodraeth leol mewn 150 o ardaloedd awdurdod lleol yn Lloegr ac ni chafwyd etholiadau yng Nghymru na'r Alban. Mae'r data hyn yn dangos gwerth cyfnod canfasio'r hydref o ran cynnal cofrestrau etholwyr o ansawdd da, yn enwedig yn y blynyddoedd lle mae llai o weithgarwch etholiadol.
Ffordd arall o gyflwyno'r wybodaeth hon, sy'n pwysleisio effaith etholiadau ar bryd y ceir ychwanegiadau a dileadau yn ystod y flwyddyn, yw edrych ar gyfran yr ychwanegiadau a dileadau yn ystod y cyfnod canfasio a'r cyfnod cofrestru parhaus. Mae'r ffigur isod yn cyflwyno hyn ar gyfer 2017 a 2018. Mae hyn yn dangos y pwynt uchod ymhellach, sef ein bod yn tueddu i weld mwy o ychwanegiadau yn ystod y cyfnod cofrestru parhaus mewn blwyddyn ag etholiad proffil uchel (61% o ychwanegiadau yn 2017), ac mewn blynyddoedd â llai o etholiadau mae'r canfasiad yn parhau i fod y prif ddull ar gyfer ychwanegu a dileu cofnodion o'r cofrestrau (68% i'r ddau).
Cofnod o enwau a chyfeiriadau pobl sy'n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau a refferenda yw'r cofrestrau etholwyr. Y cofrestrau yw sail y broses bleidleisio: maent yn darparu rhestr o'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio, ac ni all y rhai nad ydynt wedi'u cynnwys ar y cofrestrau gymryd rhan mewn etholiadau a refferenda.
Caiff y cofrestrau eu defnyddio at ddibenion cyhoeddus eraill hefyd, megis cynnal adolygiadau o ffiniau, dewis pobl i ymgymryd â gwasanaeth rheithgor yng Nghymru a Lloegr a chynorthwyo gyda mesurau gorfodi'r gyfraith, yn ogystal ag ar gyfer gwiriadau credyd, ac mae fersiwn wedi'i golygu o'r cofrestrau, sy'n cynnwys manylion y rhai nad ydynt wedi dewis peidio ag ymddangos arni, ar gael i unrhyw un sydd am brynu copi.
Nid oes un gofrestr etholwyr unigol ym Mhrydain Fawr ond mae un ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol pob awdurdod lleol yn gyfrifol am lunio a chynnal y rhestr leol o etholwyr.
Ni all pob preswylydd yn y Deyrnas Unedig gofrestru i bleidleisio ac mae cymhwysedd i gofrestru yn uniongyrchol gysylltiedig â'r cymhwysedd i bleidleisio sy'n amrywio gan ddibynnu ar y math o etholiad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gadw:
- Cofrestr seneddol: dyma'r rhestr o etholwyr a ddefnyddir ar gyfer etholiadau Senedd y DU;
- Cofrestr llywodraeth leol: caiff hon ei defnyddio ar gyfer etholiadau i Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol
Cymru ynghyd ag etholiadau llywodraeth leol, etholiadau maerol ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau lleol, datganoledig ac etholiadau Senedd Ewrop ers 1999. Felly mae hawl gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i fod ar y gofrestr llywodraeth leol. Er mwyn pleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU, mae'n rhaid i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd hefyd gwblhau ffurflen gofrestru ychwanegol (y cyfeirir ati'n eang fel 'UC1') er mwyn datgan eu bod yn bwriadu pleidleisio yn y DU yn hytrach nag yn eu gwlad wreiddiol.
Mae'r tabl isod yn nodi'r hawl i bleidleisio yn ôl dinasyddiaeth. Nid yw'r rhai nad ydynt wedi'u rhestru yn y tabl hwn yn gymwys i fod ar un o'r ddwy gofrestr1
.
Dinasyddiaeth | Cofrestr | ||
---|---|---|---|
Senedd y DU | Llywodraeth leol | ||
Prydeinig | ü | ü | Seneddol a llywodraeth leol |
Y Gymanwlad* | ü | ü | |
Gwyddelig | ü | ü | |
Yr Undeb Ewropeaidd | X | ü | Llywodraeth leol |
Nodiadau:* Dinasyddion sy'n preswylio yn y DU sydd naill ai â chaniatâd i aros neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnynt
Mae gan ddinasyddion Prydeinig sydd wedi ymddangos ar gofrestr etholwyr yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf (neu roeddent yn preswylio yn y DU ac yn rhy ifanc i gael eu cofrestru ar yr adeg honno) yr hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr etholwyr hefyd fel etholwyr tramor a gallant bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop a Senedd y DU. Maent wedi'u cofrestru yn yr un etholaeth seneddol â'r un roeddent ynddi cyn iddynt fynd dramor neu, os oeddent yn rhy ifanc i gofrestru, yn yr etholaeth lle roedd eu rhiant neu warcheidwad wedi'i gofrestru.
Yng Nghymru a Lloegr, mae dinasyddion yn gymwys i bleidleisio pan fyddant yn 18 oed, ond mae'r cofrestrau etholwyr hefyd yn cynnwys cofnodion 'cyrhaeddwyr' sef pobl ifanc 16 ac 17 oed a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed yn ystod y cyfnod 12 mis gan ddechrau ar 1 Rhagfyr ar ôl iddynt wneud cais.
Yn yr Alban, yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau lleol yw 16 oed. Mae hyn yn golygu bod hawl gan bob person ifanc 16 ac 17 oed yn yr Alban i fod ar y gofrestr llywodraeth leol a chyrhaeddwyr yw pobl ifanc 14 ac 15 oed a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 16 oed yn ystod y cyfnod 12 mis gan ddechrau ar 1 Rhagfyr ar ôl iddynt wneud eu cais. Fodd bynnag, nid yw'r newid i'r etholfraint wedi effeithio ar hawl i ymuno â'r gofrestr seneddol yn yr Alban felly mae cyrhaeddwyr 16/17 oed ar y gofrestr seneddol. Bydd newidiadau arfaethedig i'r etholfraint yng Nghymru yn golygu y bydd gan y bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru yr un hawl â'r Alban.
Cronfa ddata sy'n seiliedig ar eiddo yw'r gofrestr etholwyr, gyda chofnodion arni wedi'u cysylltu ag eiddo. Mae hyn yn golygu bod newidiadau parhaus i'r boblogaeth yn effeithio ar ansawdd ei gwybodaeth ac mae'n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu a dileu cofnodion ar gyfer y rhai sy'n symud tŷ, dileu cofnodion i etholwyr sydd wedi marw ac ychwanegu cofnodion i etholwyr newydd cymwys.
Ym Mhrydain Fawr, caiff cofrestr newydd ei llunio'n flynyddol a'i hadolygu y rhan fwyaf o fisoedd. Un elfen allweddol o lunio'r gofrestr flynyddol yw ein gwaith canfasio o dŷ i dŷ. Cynhelir y mwyafrif o waith canfasio rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd.
Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnal canfas blynyddol o bob eiddo yn ei ardal er mwyn cadarnhau'r cofnodion ar ei gofrestr etholwyr a nodi etholwyr sydd wedi symud neu oedd heb gofrestru'n flaenorol.
Yn ystod y canfasiad blynyddol, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon Ffurflen Ymholiadau Cartrefi (HEF) i bob cartref (a chymryd camau dilynol gyda'r rhai nad ydynt yn ymateb). Mae'r ffurflen hon yn gofyn i'r ymatebydd ymateb i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gydag enwau unrhyw unigolion nad ydynt yn preswylio yn yr eiddo mwyach a'r rhai sydd bellach yn preswylio yn yr eiddo ac yn gymwys.
Ers cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol, nid yw'n bosibl mwyach i unigolyn gael ei ychwanegu at y gofrestr os caiff ei enw ei ychwanegu ar Ffurflen Ymholiadau Cartrefi a gaiff ei dychwelyd. Pan fydd Ffurflenni Ymholiadau Cartrefi yn cynnwys unigolion newydd (nad ydynt wedi'u cofrestru), caiff llythyr arall ei anfon – Gwahoddiad i Gofrestru (ITR) – gyda ffurflen gais ar gyfer cofrestru i unigolion o'r fath ei chwblhau. Y cais hwn sy'n gofyn am rif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni'r unigolyn sy'n caniatáu iddo gael ei gofrestru. Gall unigolion wneud cais i gofrestru ar-lein.
Ni all Swyddog Cofrestru Etholiadol ddileu cofnod yn seiliedig ar y ffaith bod enw wedi'i groesi allan ar Ffurflen Ymholiadau Cartrefi a gafodd ei dychwelyd ychwaith (fel y gallai o dan gofrestriad cartref) – felly bydd angen ail ffynhonnell o wybodaeth arno neu bydd rhaid iddo adolygu hawl yr unigolyn i aros ar y gofrestr.
Disgwylir i'r canfasiad blynyddol yn 2020, gan ddechrau o fis Gorffennaf 2020, fod y cyntaf o dan fodel canfasio diwygiedig. Nod y broses ganfasio newydd yw galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr i ganolbwyntio eu hadnoddau yn well yn y meysydd hynny â'r angen mwyaf, a chyflawni amcan y canfasiad yn well na'r system bresennol.
Y syniad yw y caiff y broses ganfasio ei symleiddio ar gyfer yr eiddo hynny nad ydynt yn debygol o fod wedi newid o ran cyfansoddiad y cartref, gan alluogi'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i dargedu ei adnoddau lle mae angen ymateb a diweddaru'r gofrestr etholwyr. Mae proses eithrio hefyd ar gyfer rhai mathau o eiddo nad ydynt yn gweddu cymaint i ddulliau canfasio traddodiadol – er enghraifft, cartrefi gofal, Tai Amlfeddiannaeth a neuaddau preswyl myfyrwyr – sy'n galluogi'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i geisio gwybodaeth am breswylwyr mewn ffordd wahanol.
Mae'r Comisiwn o'r farn bod y diwygiadau hyn yn gam cyntaf pwysig mewn ymdrech i foderneiddio prosesau cofrestru etholiadol. Gellir gweld ein hymateb llawn i gynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio'r broses ganfasio flynyddol yma.
Ers 2004, y Comisiwn Etholiadol sydd wedi bod y prif gorff yn y DU ar gyfer ymchwilio i'r cofrestrau etholwyr gyda'r nodau hirdymor canlynol:
- Darparu trosolwg o gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon
- Llywio canllawiau a chymorth y Comisiwn ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y grwpiau hynny sy'n fwy tebygol o beidio â bod wedi'u cofrestru'n ddigonol a thrwy hynny lywio ein dull gweithredu ar gyfer gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd mewn perthynas ag etholiadau a chofrestru pleidleiswyr.
- Olrhain yn barhaus y ffordd y mae cofrestrau etholwyr yn newid mewn ymateb i ddatblygiadau deddfwriaethol a newidiadau gweinyddol a phoblogaeth a defnyddio'r wybodaeth hon i lywio ein rôl o ran craffu ar gynigion a pholisïau i ddiwygio'r system gofrestru.
Mae'r astudiaeth hon o gofrestrau 1 Rhagfyr 2018 yn sefydlu gwaelodlin wrth i ni geisio mesur effaith newidiadau sydd ar ddod ar y canfasiad blynyddol.
Er mwyn mesur effaith diwygiadau ar y canfasiad blynyddol, rydym yn disgwyl cynnal dwy astudiaeth ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau:
- ‘Cyn y mesur’: Wedi'i gyflwyno yn yr adroddiad hwn yn mesur cofrestrau 2018 cyn diwygio'r canfasiad blynyddol.
- ‘Ar ôl y mesur’: Er mwyn asesu effaith y diwygiadau ar y canfasiad blynyddol rydym yn disgwyl iddynt gael eu cyflwyno yn 2020.
Byddwn hefyd yn casglu amrywiaeth o ddata arall ac yn gweithio ar y cyd â Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ddeall effaith y prosesau canfasio diwygiedig a sut maent yn gweithio yn ymarferol.
- 1. Todd a Butcher, Electoral registration in 1981 (1981). Amlinellodd yr astudiaeth hon amcangyfrifon ar gyfer y cofrestrau ym mis Ebrill 1981 a defnyddiodd yr amcangyfrifon hyn i gyfrifo cywirdeb posibl y cofrestrau ar adeg y dyddiad cymwys ar gyfer y canfasiad (Hydref 1980). Canfu'r astudiaeth fod rhwng 10.4% ac 13.5% o'r enwau ar gofrestrau mis Ebrill 1981 yn perthyn i bobl nad oeddent yn byw yn y cyfeiriad oedd wedi'i restru yn y cofrestrau erbyn yr amser hwnnw. Gwnaeth y Swyddfa Cyfrifiadau ac Arolygon Poblogaeth (OPCS) hefyd amcangyfrif bod cyfran yr enwau ar y cofrestrau a oedd yn anghywir ym mis Hydref 1981 rhwng 6.1% a 9.4%. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Gwnaeth astudiaeth OPCS ym 1991 hefyd ystyried cofnodion diangen ar y cofrestrau ym Mhrydain Fawr ar adeg Cyfrifiad 1991. Canfu'r astudiaeth nad oedd rhwng 6.0% a 7.9% o'r enwau a restrwyd mewn cyfeiriadau a feddiannwyd ar adeg y cyfrifiad yn cyfateb i bobl a oedd yn byw yno ar y pryd. Fodd bynnag, yn wahanol i astudiaeth 1981, ni chafodd amcangyfrif o ganran yr enwau ar y cofrestrau a oedd wedi'u rhestru mewn cyfeiriadau nas meddiannwyd ar adeg y cyfrifiad eu hychwanegu at y ganran hon. O ganlyniad, nid yw'r ffigurau yn cynrychioli darlun llawn o raddfa bosibl yr anghywirdebau ar y cofrestrau. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Roedd y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cywirdeb cofrestrau 2014 yn wahanol i'r un a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2011. ↩ Back to content at footnote 3
- 4. P.G Gray ac A. Gee, Electoral registration for parliamentary elections: an enquiry made for the Home Office (HMSO: Llundain 1967) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. McLean, I. a Smith, J. The UK poll tax and the electoral register: unintended consequences? (1991), Prifysgol Warwick, Economic Research Papers, N. 398. Yn ddiweddarach, cynyddodd McLean a Smith yr amcangyfrif hwn i 600,000 o bobl. Y Comisiwn Etholiadol, The completeness and accuracy of electoral registers in Great Britain (Mawrth 2010) ↩ Back to content at footnote 5
- 1. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/elections/electoralregistration/bulletins/electoralstatisticsforuk/2018 ↩ Back to content at footnote 1
- 1. Mae rhai eithriadau penodol i'r rheolau hyn. Er enghraifft, mae carcharorion a gollfarnwyd yn colli eu hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar ni waeth beth fo'u dinasyddiaeth. ↩ Back to content at footnote 1