Cyflawnrwydd ym Mhrydain Fawr
Canfyddiadau allweddol
- Roedd y cofrestrau llywodraeth leol ym Mhrydain Fawr 83% yn gyflawn, ac roedd y cofrestrau seneddol 85% yn gyflawn.
- Canfu'r astudiaeth mai prif ysgogwyr cyflawnrwydd is yw bod yn ieuengach, symud tŷ yn ddiweddar a ph'un a yw rhywun yn rhentu ei gartref gan landlord preifat. Mae'r pethau hyn sy'n ysgogi lefelau isel o gofrestru yn unol â'n canfyddiadau mewn astudiaethau cywirdeb a chyflawnrwydd blaenorol.
- Mae ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â lefelau is o gofrestru yn cynnwys ethnigrwydd, cenedligrwydd ac agweddau at gofrestru a phleidleisio.
Overview
Canfu bod y cofrestrau seneddol ar gyfer Prydain Fawr 85% yn gyflawn, ac roedd y cofrestrau llywodraeth leol 83% yn gyflawn yn gyffredinol. Bydd yr adran hon yn edrych ar y lefelau cyflawnrwydd mewn amrywiaeth o fesurau demograffig ac agweddol. Ac eithrio lle nodir yn wahanol, bydd y ffigurau a amlinellir yn ymwneud â'r cofrestrau llywodraeth leol gan fod y rhain yn cynnwys cyfran fwy o'r etholaeth. Pan na fydd cymariaethau a wneir yn y testun yn ystadegol bwysig, caiff hyn ei gydnabod.
Dosbarthiad trefol/gwledig
Ym Mhrydain Fawr mae gwahaniaeth bach (dau bwynt canran) rhwng lefelau cyflawnrwydd mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae cofrestrau mewn ardaloedd trefol 83% yn gyflawn erbyn hyn (o 84% yn 2015), ac mae cyflawnrwydd yn 85% mewn ardaloedd gwledig (86% yn 2015). Nid yw'r newidiadau o 2015 yn ystadegol bwysig.
Math o awdurdod lleol
Gwelwyd y newid mwyaf nodedig mewn cyflawnrwydd mewn mathau o awdurdod lleol ym mwrdeistrefi Llundain, lle mae cyflawnrwydd wedi gostwng o 81% yn 2015 i 76% yn 2018. Yn ogystal, bu gostyngiad mewn awdurdodau dosbarth o 86% yn 2015 i 84% yn 2018. Mae cyflawnrwydd mewn awdurdodau unedol (83%) wedi aros ar lefel debyg i 2015 (84%) a gwelwyd cynnydd bach mewn cyflawnrwydd ar gyfer bwrdeistrefi metropolitanaidd (o 83% i 86%). Mae'r lefelau cyflawnrwydd is ym mwrdeistrefi Llundain yn debygol o adlewyrchu symudedd sylweddol y boblogaeth yn Llundain sy'n gysylltiedig â'r sector rhent preifat mawr yn Llundain.
Prydain Fawr | 2015 | 2018 |
---|---|---|
Dosbarth | 86% | 84% |
Bwrdeistref Llundain | 81% | 76% |
Bwrdeistref fetropolitanaidd | 83% | 86% |
Awdurdodau unedol | 84% | 83% |
Hyd cyfnod preswylio
Mae gwaith ymchwil blaenorol i'r cofrestrau wedi canfod cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd: gan fod cofrestru yn seiliedig ar breswylfa, mae mwy o symudedd yn gysylltiedig â lefelau is o gyflawnrwydd ond po hiraf y bydd unigolyn wedi bod yn byw mewn eiddo, y mwyaf tebygol y bydd o ymddangos ar y gofrestr etholwyr.
Fel y mae'r ffigur isod yn dangos, mae'r patrwm hwn yn parhau yn y cofrestrau llywodraeth leol ar gyfer Prydain Fawr, gyda chyflawnrwydd ar 36% (cynnydd o 27% yn 2015) ymhlith y rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am hyd at flwyddyn o gymharu ag 84% ymhlith y rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 2 i 5 mlynedd a 90% i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 5 i 10 mlynedd.
I'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am 10 i 16 mlynedd, roedd cyflawnrwydd yn 88% ac i'r rhai sydd wedi byw yn eu cyfeiriad am fwy nag 16 o flynyddoedd roedd yn 92%.
Mae'r patrwm hwn yn gyson drwy ein hymchwil. Dyna pam rydym am weld newidiadau er mwyn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gael mynediad at ddata cyhoeddus cenedlaethol i'w helpu i dargedu adnoddau ar gyfeiriadau lle maent yn gwybod y cafwyd newid. Rydym hefyd am weld cofrestru etholiadol yn cael ei integreiddio'n fwy mewn trafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis gwneud cais am drwydded yrru neu ei diweddaru, er mwyn annog pleidleiswyr i ddiweddaru eu cofrestriad etholiadol fel rhan o dasg weinyddol arall sy'n gysylltiedig â symud tŷ.
Deiliadaeth
Mae deiliadaeth yn newidyn sydd wedi'i gysylltu'n gryf â lefelau cyflawnrwydd yn y gorffennol ac mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu'r canfyddiad hwnnw. Ym Mhrydain Fawr, mae perchnogion tai (y rhai sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr a'r rhai sy'n prynu gyda morgais neu ranberchnogaeth) yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na phobl mewn mathau eraill o ddeiliadaeth.
Ym Mhrydain Fawr, cafwyd gostyngiad bach mewn cyflawnrwydd ar gyfer perchen-feddiannwyr o 95% i 91%, a gostyngiad tebyg i'r rhai sy'n prynu eu cartref ar forgais (o 89% i 86%).
Dros yr un cyfnod, mae cyflawnrwydd i'r rhai sy'n rhentu eu cartrefi yn y sector rhent cymdeithasol wedi cynyddu: i'r rhai sy'n rhentu eu cartref gan awdurdod lleol, mae wedi cynyddu o 79% i 83%, ac i'r rhai sy'n rhentu o gymdeithas dai mae cyflawnrwydd wedi cynyddu o 78% i 82%. Rhentwyr preifat yw'r rhai sy'n lleiaf tebygol o fod â chofnodion cyflawn ar y gofrestr o hyd ac maent wedi parhau ar yr un lefel â'r hyn a gofnodwyd yn 2015.
Mae'r lefelau cyflawnrwydd is ymhlith rhentwyr preifat yn gysylltiedig â symudedd y boblogaeth gan fod rhentwyr preifat yn tueddu i symud yn amlach na'r rhai ar ddeiliadaethau eraill. Er enghraifft, mae Arolwg Tai Lloegr 2017-18 yn dangos bod 27% o rentwyr preifat yn Lloegr wedi byw yn eu cartref am lai na blwyddyn o gymharu â 6% o rentwyr cymdeithasol a 4% o berchen-feddiannwyr. Mae patrwm tebyg i'w weld yng Nghymru a'r Alban. Canfu Arolwg Cartrefi yr Alban yn 2017 fod 35% o breswylwyr yn y sector rhent preifat wedi bod yn byw yn eu cartref am lai na blwyddyn (6% i berchen-feddiannwyr a 9% yn y sector rhent cymdeithasol) a chanfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 fod 33% o rentwyr preifat wedi bod yn byw yn eu cartref am lai na blwyddyn (5% i berchen-feddiannwyr a 10% i rentwyr cymdeithasol).
Oedran
Gwelwyd bod lefelau cyflawnrwydd yn amrywio yn ôl grŵp oedran, gyda grwpiau hŷn yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru. Mae hwn yn ganfyddiad sydd wedi bod yn gyson drwy ein hymchwil.
Ym Mhrydain Fawr, gwelir y lefel uchaf o gyflawnrwydd ar gyfer pobl 65+ oed (94%) a chofnodir y lefel isaf ar gyfer cyrhaeddwyr (pobl ifanc 16-17 oed, 25%), sydd wedi gostwng o 45% yn 2015.
Yng Nghymru a Lloegr, mae dinasyddion yn gymwys i bleidleisio pan fyddant yn 18 oed, ond mae'r cofrestrau etholwyr hefyd yn cynnwys cofnodion 'cyrhaeddwyr' sef pobl ifanc 16 ac 17 oed a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed yn ystod y cyfnod 12 mis gan ddechrau ar 1 Rhagfyr ar ôl iddynt wneud cais.
Yn yr Alban, yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau lleol yw 16 oed. Mae hyn yn golygu bod hawl gan bob person ifanc 16 ac 17 oed yn yr Alban i fod ar y gofrestr llywodraeth leol a chyrhaeddwyr yw pobl ifanc 14 ac 15 oed a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 16 oed yn ystod y cyfnod 12 mis gan ddechrau ar 1 Rhagfyr ar ôl iddynt wneud eu cais. Fodd bynnag, nid yw'r newid i'r etholfraint wedi effeithio ar hawl i ymuno â'r gofrestr seneddol yn yr Alban felly mae cyrhaeddwyr 16/17 oed ar y gofrestr seneddol. Byddai newidiadau arfaethedig i'r etholfraint yng Nghymru yn golygu y byddai gan y bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru yr un hawl â'r Alban.
Mae nifer y cyrhaeddwyr wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, fel y gwelir yn y tabl isod.
Cyn 2015, gallai cyrhaeddwyr gael eu cofrestru gan riant neu warcheidwad drwy ffurflen ganfasio ar gyfer cartrefi. Cyflwynwyd Cofrestru Etholiadol Unigol yn 2014 ac o'r pwynt hwn mae wedi bod yn ofynnol i gyrhaeddwyr (a rhai o unrhyw oed sy'n cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf) gofrestru eu hunain, gan ddarparu 'gwybodaeth adnabod', sef dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol. Yna caiff y wybodaeth hon ei gwirio cyn y caiff enw ei ychwanegu at y gofrestr.
Ar ôl cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cyrhaeddwyr ar y cofrestrau seneddol a llywodraeth leol. Dangosodd ein dadansoddiad blaenorol yn 2016 y cafwyd gostyngiad o 40% yn nifer y cyrhaeddwyr ar y cofrestrau llywodraeth leol rhwng mis Chwefror/Mawrth 2014 a mis Rhagfyr 2015. Yn dilyn hyn, rhwng mis Rhagfyr 2015 a 2016, cynyddodd nifer y cyrhaeddwyr 17% ar gyfer cofrestrau llywodraeth leol a 22% ar gyfer cofrestrau seneddol. Fodd bynnag, nid yw nifer y cyrhaeddwyr ar y cofrestrau etholwyr wedi dychwelyd i'r un lefel â'r hyn a gafwyd gyda'r system cofrestru cartrefi eto.
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi argymell yn y gorffennol y gellid datblygu dull cofrestru mwy awtomatig ar gyfer cofrestru cyrhaeddwyr, er enghraifft, pan fydd unigolion yn derbyn eu rhif Yswiriant Gwladol.
Caiff rhifau Yswiriant Gwladol eu dyrannu'n awtomatig cyn i bobl gymwys gael eu pen-blwydd yn 16 oed a chaiff llythyr yn cynnwys manylion y rhif Yswiriant Gwladol ei anfon at unigolion i'r cyfeiriad sydd gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar eu cyfer. Gellid rhannu'r wybodaeth hon â Swyddogion Cofrestru Etholiadol, gan alluogi pobl ifanc 16 oed sydd wedi derbyn rhif Yswiriant Gwladol i gael eu hychwanegu at gofrestrau etholwyr ar yr amod bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn bodloni'r gofynion preswylio ar gyfer cofrestru.
Mae nifer gostyngol cyrhaeddwyr a gyflwynir isod yn pwysleisio pwysigrwydd archwilio diwygiadau o'r fath. Rydym yn credu ei bod hi'n bwysig diwygio'r maes hwn, yn enwedig gan y byddai newidiadau arfaethedig i'r etholfraint yng Nghymru yn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio ar yr un sail ag etholwyr o'r un oed yn yr Alban.
Yn y cyfamser, rydym yn credu y byddai galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gael mynediad at gyfresi data, megis y Gronfa Ddata Disgyblion, yn eu helpu i nodi cyrhaeddwyr yn haws
Cofrestr | 2013 | 2014 | 2015 | 2016 | 2017 | 2018 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Lloegr | Lleol | 387,292 | 260,715 | 244,781 | 293,430 | 279,388 | 268,396 |
Seneddol | 379,284 | 254,838 | 239,019 | 284,522 | 269,092 | 257,938 | |
Yr Alban | Lleol | 64,299 | 39,513 | 21,343 | 22,035 | 20,788 | 20,232 |
Seneddol | 63,471 | 38,963 | 24,827 | 41,561 | 43,357 | 41,296 | |
Cymru |
Lleol | 18,807 | 14,223 | 12,462 | 13,810 | 13,001 | 13,127 |
Seneddol | 18,595 | 14,065 | 12,339 | 13,651 | 12,794 | 12,948 | |
Prydain Fawr | Lleol | 470,398 | 314,451 | 278,586 | 329,275 | 313,177 | 301,755 |
Seneddol | 461,350 | 307,864 | 276,185 | 339,734 | 325,243 | 312,182 |
Fel y gwelir yn y ffigur isod, mae lefelau cyflawnrwydd yn ôl grŵp oedran wedi parhau'n sefydlog ers 2015, gydag ychydig o newid neu ddim newid o gwbl. Y grŵp oedran 35-44 (ar 82%) sydd agosaf at y cyfartaledd cyffredinol sef 83%. Uwchben y pwynt hwn mae gan bob grŵp oedran lefelau cyflawnrwydd tebyg ar y cyfan (o gwmpas 90%), ond mae cyflawnrwydd yn gostwng gyda phob grŵp oedran cyn hynny. Mae cyflawnrwydd yn 74% ar gyfer y rhai 25-34 oed, ymhlith y rhai 20-24 oed mae'n 68%, ac mae'n 66% ymhlith y rhai 18-19 oed.
Ethnigrwydd
Mae cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rhai â chefndir ethnig gwyn, sef 84%. Ym Mhrydain Fawr, gwelwyd y lefel isaf o gyflawnrwydd ymhlith y rhai o gefndiroedd ethnig "eraill", sef 62%. Mae gan y rhai o gefndiroedd ethnig Asiaidd a Du lefel debyg o gyflawnrwydd (76% a 75% yn ôl eu trefn), ac mae cyflawnrwydd yn 69% ymhlith y rhai o gefndiroedd cymysg.
Nid oedd y gostyngiadau ymddangosiadol mewn cyflawnrwydd o 2015 a gyflwynir isod yn ystadegol bwysig sy'n dangos bod yr un patrymau o wahaniaeth mewn cofrestru yn ôl ethnigrwydd yn parhau yn 2018.
Cenedligrwydd
Mae canfyddiadau yn cadarnhau ymchwil flaenorol sy'n dangos bod cyfraddau cofrestru yn is ymhlith gwladolion nad ydynt yn perthyn i'r DU nag ydynt ymhlith gwladolion y DU neu Iwerddon.
Mae dinasyddion y DU ac Iwerddon yn parhau i fod y rhai mwyaf tebygol o gael cofnodion llawn yn y gofrestr etholwyr, 86% ym Mhrydain Fawr, sydd yr un peth ag yn 2015. Mae cyflawnrwydd ar gyfer gwladolion y Gymanwlad ar 62% (61% yn 2015) ac mae'n 54% i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (53% yn 2015). Nid yw unrhyw rai o'r newidiadau ymddangosiadol ers 2015 yn ystadegol bwysig.
Rhyw
Er bod astudiaethau blaenorol wedi nodi bod menywod yn fwy tebygol o fod wedi'u cofrestru na dynion, yn yr astudiaeth hon ni welsom unrhyw wahaniaeth yn ôl rhyw. Ym Mhrydain Fawr, mae cyflawnrwydd yn 83% i ddynion a menywod.
Statws anabledd
Mae canlyniadau arolwg 2018 yn ailadrodd canfyddiadau arolygon blaenorol, gyda chyflawnrwydd yn uwch ymhlith yr etholwyr hynny ag anabledd corfforol (92%) neu fathau eraill o anableddau (93%).
Mae'r darlun ar gyfer y rhai ag anableddau meddyliol yn agosach at y cyfartaledd, gyda chyflawnrwydd yn 83% ar gyfer y grŵp hwn. Yn yr un modd, mae'r rhai heb unrhyw anableddau yn agos at y cyfartaledd cyffredinol ar 82%.
Grŵp economaidd-gymdeithasol
Mae grwpiau cymdeithasol yn effeithio ar lefelau cyflawnrwydd: ym Mhrydain Fawr, mae'r rhai sy'n perthyn i gartrefi AB (86%) ac C1 (85%) yn dangos lefel sylweddol uwch o gyflawnrwydd na'r rhai mewn cartrefi C2 (80%) a DE (80%). Ers 2015 bu gostyngiad yn y lefel cyflawnrwydd ymhlith y rhai mewn cartrefi C2 (o 86%), gan olygu bod y grŵp hwn yr un mor debygol o fod â chofnodion cyflawn ar y gofrestr â'r rhai o raddau cymdeithasol DE. Mae lefel cyflawnrwydd mewn cartrefi AB wedi gostwng o 88% yn 2015 ond cafwyd cynnydd o ddau bwynt canran ymhlith y rhai mewn cartrefi C1 (o 83%).
Cymhwyster uchaf
Ym Mhrydain Fawr, y rhai â chymwysterau Safon Uwch neu Highers yr Alban (81%) neu TGAU (81%) fel eu ffurf uchaf o gymhwyster academaidd yw'r grwpiau sydd leiaf tebygol o fod â chofnodion cyflawn ar y gofrestr. Mae cyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rhai sydd â graddau neu gymwysterau pellach, megis BTEC, yn ogystal â'r rhai a mathau eraill o gymwysterau neu ddim o gwbl (o bosibl yn gysylltiedig ag oedran). Mae hyn yn adlewyrchu'r patrwm a welwyd yn 2015, pan ofynnwyd y cwestiwn hwn gyntaf. Mewn cymwysterau eraill nid yw lefelau cyflawnrwydd yn amrywio llawer rhwng y lefel uchaf o gyrhaeddiad.
2015 | 2018 | |
---|---|---|
Gradd uwch | 87% | 84% |
Gradd | 86% | 83% |
BTEC | 84% | 86% |
Safon Uwch/Higher | 80% | 81% |
TGAU | 83% | 81% |
Arall | 83% | 85% |
Dim | 87% | 85% |
Nifer yr oedolion sy'n byw yn y cartref
Ym Mhrydain Fawr, mae cyflawnrwydd ymhlith cartrefi ag un oedolyn wedi cynyddu pedwar pwynt canran ers 2015, i 86%, gan roi hwn ymhlith y mathau o gartref sydd fwyaf tebygol o gael cofnod cyflawn ar y gofrestr ynghyd â chartrefi â dau oedolyn (84%). Mae cyflawnrwydd ar gyfer cartrefi â 6 oedolyn neu fwy yn 78% (75% yn 2015), ac i gartrefi â rhwng 3 a 5 oedolyn mae'n 81% (83% yn 2015).
Agweddau tuag at gofrestru a phleidleisio
Gwnaethom hefyd ofyn rhai cwestiynau i'r unigolyn y gwnaethom siarad ag ef ym mhob cartref ynghylch ei agweddau at gofrestru i bleidleisio a phleidleisio ei hun. Er bod hyn yn golygu nad yw'n sampl sy'n cynrychioli'r boblogaeth yn genedlaethol, mae'r canlyniadau yn cynnig ongl arall i ystyried y gydberthynas rhwng cofrestru ac agweddau at etholiadau.
Fel yn 2015, mae cyflawnrwydd yn is ymhlith cyfranogwyr â barn fwy negyddol am gofrestru i bleidleisio. Y rhai sy'n cytuno mai unig werth cofrestru i bleidleisio yw cael gwiriad credyd gwell sydd â'r lefel isaf o gyflawnrwydd, sef 68%, ac mae cyflawnrwydd ar 72% ymhlith y rhai sy'n dweud nad yw'n werth cofrestru o gwbl. Er bod gan y ddau grŵp hyn y lefelau isaf yn 2015, mae eu trefn wedi newid (gweler y ffigur isod).
Mae cyflawnrwydd yn 79% ymhlith y rhai sy'n credu mai dim ond os oes ots ganddynt pwy sy'n ennill etholiad y dylai pobl gofrestru i bleidleisio ac mae'n 85% ymhlith y rhai sy'n dweud bod dyletswydd ar bawb i gofrestru i bleidleisio.
Mae agweddau tuag at bleidleisio yn dangos patrwm tebyg, gyda'r lefel uchaf o gyflawnrwydd (84%) ymhlith y rhai sy'n teimlo bod dyletswydd ar bawb i bleidleisio o gymharu â'r rhai sy'n teimlo nad oes pwynt pleidleisio (78%) a'r rhai sy'n dweud mai dim ond os oes ots ganddynt pwy sy'n ennill etholiad y dylai pobl gofrestru i bleidleisio (79%).
Y nifer a bleidleisiodd mewn digwyddiadau etholiadol cenedlaethol diweddar
Er bod y cyfnod rhwng cofrestrau etholwyr mis Rhagfyr 2018 a'r etholiad cenedlaethol diweddaraf (Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn 2017) yn hwy nag yr oedd ar gyfer cofrestrau mis Rhagfyr 2015, gellir gweld yr un gydberthynas. Dangosodd y rhai a ddywedodd eu bod wedi pleidleisio yn etholiad cyffredinol diweddaraf y DU lefelau cyflawnrwydd uwch: yn 2015 92% oedd y lefel, ac yn 2018 roedd yn 88%. Roedd cyflawnrwydd yn is ymhlith y rhai a ddywedodd na wnaethant bleidleisio (er eu bod yn gymwys i wneud hynny), sef 72%. Roedd cyflawnrwydd i'r rhai nad oeddent yn gymwys i bleidleisio (dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf) yn 50%.
Roedd refferendwm 2016 ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn nodedig am fod y nifer a bleidleisiodd yn fwy nag etholiad cyffredinol y DU a ddaeth o'i flaen. Gan mai dyma'r arolwg cyntaf o gywirdeb a chyflawnrwydd ers y refferendwm, gwnaethom ofyn cwestiwn er mwyn deall y gydberthynas rhwng cymryd rhan yn y refferendwm hwnnw a chyflawnrwydd y cofrestrau.
Dangosodd batrwm tebyg iawn i gyfranogiad yn etholiad cyffredinol y DU yn 2017, gyda chyflawnrwydd ar ei uchaf ymhlith y rhai a ddywedodd eu bod wedi pleidleisio yn y refferendwm (88%). I'r rhai na wnaethant bleidleisio, roedd cyflawnrwydd yn 71% ac i'r rhai nad oeddent yn gymwys roedd cyflawnrwydd yn 53%.