Cywirdeb ym Mhrydain Fawr
Canfyddiadau allweddol
- Roedd y cofrestrau llywodraeth leol ym Mhrydain Fawr 89% yn gywir, ac roedd y cofrestrau seneddol 89% yn gywir.
- Ym mis Rhagfyr 2018, roedd gan 11% o gofnodion wallau mawr ac roedd gan 9% o gofnodion ar y gofrestr wallau bach.
Mathau o wallau
Roedd y cofrestrau llywodraeth leol a seneddol ym Mhrydain Fawr 89% yn gywir.
Mathau o wallau
Wrth ddadansoddi cywirdeb y cofrestrau etholwyr, gellir nodi nifer o wahanol fathau o wallau. Yna gellir categoreiddio'r gwallau hyn fel gwall 'mawr' neu wall 'bach':
• Mae'r categori gwallau mawr yn cynnwys y canlynol:
a) cofnodion sy'n cyfeirio at unigolion nad ydynt yn byw yn y cyfeiriad hwnnw mwyach
b) cofnodion a all atal unigolyn rhag bwrw ei bleidlais mewn gorsaf bleidleisio (er enghraifft, enw anghywir);
c) y gwallau hynny a fyddai'n golygu y gallai rhywun bleidleisio pan nad yw'n gymwys i wneud hynny (e.e. dyddiad geni anghywir i rywun dan 18 oed).
• Gwallau bach yw'r rhai na fyddent yn atal rhywun rhag bwrw ei bleidlais (er enghraifft, cofnod â gwall sillafu).
Roedd gan gyfanswm o 11% o gofnodion wall mawr (cynnydd o gymharu â 9% yn 2015) a'r un mwyaf cyffredin oedd nad oedd unrhyw un o'r un enw yn y cyfeiriad hwnnw wrth i ni gynnal ein harolwg (10%). Mae hyn yn cyfeirio at gofnodion ar y gofrestr ar gyfer unigolion nad ydynt yn byw yn yr eiddo mwyach.
Ym Mhrydain Fawr, roedd gan 9% o gofnodion ar y gofrestr wallau bach. Yr un mwyaf cyffredin oedd i enw canol fod ar goll yn y gofrestr, a dyma oedd yr achos i 6% o gofnodion.
Gweler dadansoddiad o'r mathau o wallau a ddefnyddiwyd i gyfrifo cywirdeb y cofrestrau llywodraeth leol yn y tabl isod:
Rhagfyr 2015 |
Rhagfyr 2018 |
|
---|---|---|
Cyfanswm y gwallau mawr | 9.4% | 11.2% |
Gwallau mawr – (a) | 8.8% | 10.4% |
Neb o'r un enw yn byw yn y cyfeiriad | ||
Gwallau mawr – (b) | 0.3% | 0.7% |
Enw cyntaf a/neu gyfenw yn anghywir ar y gofrestr | 0.1% | 0.4% |
Dim enw cyntaf a/neu gyfenw ar y gofrestr | - | 0.0% |
Wedi'u nodi fel dinasyddion y DU/Iwerddon/y Gymanwlad | 0.2% | 0.3% |
Gwallau mawr – (c) | 0.3% | 0.5% |
Yr enw ar y gofrestr yn cyfateb i enw anghymwys ar yr arolwg |
0.1% | 0.2% |
Cyrhaeddwyr - dyddiad geni ar goll neu'n anghywir | 0.1% | 0.1% |
Heb eu nodi fel dinasyddion yr UE | 0.1% | 0.2% |
Yn gywir gyda gwallau bach | 10.4% | 9.1% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr wedi'i gamsillafu | 1.0% | 1.2% |
Enw cyntaf/cyfenw ar y gofrestr yn anghyflawn | 0.5% | 0.5% |
Enw canol ar goll o'r gofrestr | 7.8% | 6.4% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf wedi'u camsillafu neu'n anghyflawn ar y gofrestr | 0.1% | 0.0% |
Enw canol neu lythrennau cyntaf yn anghywir ar y gofrestr | 0.1% | 0.1% |
Nid oes gan yr unigolyn enw canol ond mae enw canol ar y cofrestrau (ymatebwyr yn unig) |
0.2% | 1.3% |
Cyfenw blaenorol yw'r cyfenw, neu tybir mai cyfenw blaenorol ydyw | 0.5% | 0.3% |
Enw cyntaf/canol neu gyfenw mewn trefn wahanol ar y gofrestr |
0.1% | 0.1% |
Dyddiad geni cyrhaeddwr yn gynharach ar y gofrestr | 0.0% | 0.0% |
Nodweddion demograffig
Mae archwilio natur ddemograffig anghywirdeb ar y cofrestrau etholwyr yn fwy heriol; yn ôl ei natur, nid yw'n bosibl cofnodi manylion demograffig ar gyfer cofnodion ar y gofrestr nad ydynt yn cyfateb i breswylydd yn ystod cyfweliad. Nid yw ychwaith yn bosibl ystyried eiddo sy'n adfeiliedig neu'n gwbl wag. Er mwyn darparu rhywfaint o arweiniad ar y patrymau cywirdeb yn ôl nodweddion cartrefi gwahanol, mae'r dadansoddiad isod yn ystyried data cartrefi lle cynhaliwyd cyfweliad â phreswylydd. Fodd bynnag, darlun cyfyngedig a geir gan y data hyn o hyd ac felly rhaid cymryd gofal wrth ymdrin â'r wybodaeth.
Deiliadaeth
Mae cywirdeb yn ôl deiliadaeth yn dilyn patrwm tebyg i gyflawnrwydd, gyda chartrefi perchen-feddiannwyr fwyaf tebygol o gael cofnodion cywir ar y gofrestr (95%). Ym Mhrydain Fawr, mae gan eiddo lle mae'r cartref yn cael ei brynu ar forgais (neu drwy ranberchnogaeth) neu ei rentu gan landlord cymdeithasol lefel debyg o gywirdeb (91-95%) ond mae gan gartrefi a gaiff eu rhentu'n breifat lefel is o gywirdeb, sef 81%.
Gradd gymdeithasol
Caiff gradd gymdeithasol ei chyfrifo ar lefel y cartref hefyd, yn seiliedig ar alwedigaeth y prif enillydd incwm. Yma eto, mae cysylltiad agos rhwng patrwm cywirdeb a chyflawnrwydd gyda graddiant bach yn seiliedig ar radd gymdeithasol; cartrefi AB sydd fwyaf cywir a chartrefi DE sydd leiaf cywir. Serch hynny, mae pob un o fewn pum pwynt canran o'i gilydd.
Cywirdeb cofrestrau etholwyr llywodraeth leol yn ôl gradd gymdeithasol
Prydain Fawr | |
---|---|
AB | 94% |
C1 | 93% |
C2 | 93% |
DE | 89% |
Hyd cyfnod yn y cyfeiriad
Mae cywirdeb yn dilyn yr un patrwm â chyflawnrwydd wrth edrych ar ba mor hir y mae preswylwyr wedi byw yn eu llety. Ym Mhrydain Fawr mae cywirdeb yn debyg i'r holl breswylwyr sydd wedi byw yn eu cyfeiriad presennol am o leiaf flwyddyn, yn 93% neu'n uwch, ond mae'n llawer llai i gartrefi lle mae'r preswylydd presennol wedi bod yn byw yno am lai na blwyddyn (56%).