Adroddiad 2018: Cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholwyr ym Mhrydain Fawr
Crynodeb
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn ymgymryd ag astudiaethau cywirdeb a chyflawnrwydd i fesur ansawdd y cofrestrau etholwyr er mwyn asesu sut mae hyn yn newid mewn ymateb i ddatblygiadau deddfwriaethol a newidiadau gweinyddol a phoblogaeth.
Caiff ansawdd y cofrestrau etholwyr ei fesur mewn dwy brif ffordd: eu cywirdeb a'u cyflawnrwydd.
Mae'r canlyniadau ar gyfer Prydain Fawr ym mis Rhagfyr 2018 yn dangos y canlynol:
- Roedd cofrestrau seneddol 85% yn gyflawn ac 89% yn gywir
- Roedd cofrestrau llywodraeth leol 83% yn gyflawn ac 89% yn gywir.
Arweiniodd y canfyddiadau at ddau brif amcangyfrif
- nid oedd rhwng 8.3 a 9.4 miliwn o bobl ym Mhrydain Fawr a oedd yn gymwys i fod ar y cofrestrau llywodraeth leol wedi'u cofrestru'n gywir
- roedd rhwng 4.7 a 5.6 miliwn o gofnodion anghywir ar y cofrestrau llywodraeth leol.
Dyma ein hastudiaeth gyntaf ers yr asesiad o gofrestrau yn 2015, yn dilyn y broses drosglwyddo i Gofrestru Etholiadol Unigol. Ers 2015, mae lefelau cyflawnrwydd wedi aros yn weddol gyson gyda gostyngiad o oddeutu 1 pwynt canran ar y cofrestrau llywodraeth leol, gyda chywirdeb yn gostwng dau bwynt canran.
Oedran a symudedd
Mae ein hymchwil yn cadarnhau bod oedran a symudedd yn parhau i fod y newidynnau cryfaf sy'n gysylltiedig â lefelau is o gyflawnder. Mae cynlluniau i ddiwygio'r canfasio blynyddol sy'n cychwyn yn 2020 yn gam cyntaf pwysig, gan alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ganolbwyntio adnoddau ar aelwydydd sydd wedi newid cyfansoddiad.
Moderneiddio cofrestru etholiadol
Fodd bynnag, mae mwy y gellid ac y dylid ei wneud i foderneiddio prosesau cofrestru ym Mhrydain Fawr i roi'r cyfle gorau i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl wedi'u cofrestru'n gywir.
Yn gynharach eleni gwnaethom gyhoeddi canfyddiadau cyfres o astudiaethau dichonoldeb yn archwilio sut y gellid cyflawni diwygiadau, gan gynnwys cofrestru awtomatig neu fwy awtomataidd. Canfu’r astudiaethau fod y newidiadau hyn yn ymarferol o safbwynt technegol a gweithredol ac y gellid eu gweithredu heb newid strwythur y system gofrestru etholiadol yn y DU yn radical.
Beth rydym yn olygu gyda cywirdeb a chyflawnrwydd
Caiff ansawdd y cofrestrau etholwyr ei fesur mewn dwy brif ffordd: eu cywirdeb a'u cyflawnrwydd.
Ystyr cywirdeb yw 'nad oes unrhyw gofnodion anwir ar y cofrestrau etholwyr'. Felly, mae cywirdeb yn mesur canran y cofnodion ar y cofrestrau sy'n ymwneud â phleidleiswyr sydd wedi'u dilysu ac sy'n gymwys sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw. Gall cofnodion anghywir ar y gofrestr ymwneud â chofnodion diangen (er enghraifft, yn sgil symud tŷ), nad ydynt yn gymwys ac sydd wedi'u cynnwys yn anfwriadol, neu sy'n dwyllodrus.
Ystyr cyflawnrwydd yw bod 'pawb sy'n gymwys i'w cynnwys ar gofrestr etholwyr wedi'u cofrestru’. Mae cyflawnrwydd yn cyfeirio at ganran y bobl gymwys sydd wedi'u cofrestru yn eu cyfeiriad presennol. Mae canran y bobl gymwys nad ydynt wedi'u cynnwys ar y gofrestr yn eu cyfeiriad presennol yn gyfystyr â'r gyfradd o dangofrestru.
Methodoleg
Mae'r amcangyfrifon cywirdeb a chyflawnrwydd a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar arolwg o dŷ i dŷ o 5,079 o gyfeiriadau ym Mhrydain Fawr mewn 127 o ardaloedd awdurdod lleol. Casglwyd y mwyafrif o'r wybodaeth o gyfweliadau wyneb yn wyneb mewn 4,968 o gartrefi a gynhaliwyd gan gyfwelwyr hyfforddedig gyda'r nod o gasglu gwybodaeth gan breswylwyr y gellid ei gwirio wedyn yn erbyn y manylion ar y cofrestrau etholwyr. Darparwyd nifer bach o holiaduron drwy'r post er mwyn ceisio cyrraedd y cyfeiriadau hynny lle na lwyddwyd i gynnal cyfweliad wyneb yn wyneb; o'r rhain, dychwelwyd 111 ohonynt. Cynhaliwyd y gwaith maes a dadansoddi data ar gyfer yr astudiaeth gan Ipsos MORI.
Mae'r dull hwn yn gyson â'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ein hasesiadau o'r cofrestrau yn 2014 a 2015. Dilyswyd y dull gweithredu hwn drwy astudiaeth ar wahân ('Cofrestru Etholiadol yn 2011') gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2011. Cafodd y canlyniadau o'r astudiaeth honno eu cymharu â'r rhai a gafodd eu cynhyrchu mewn astudiaethau o dŷ i dŷ blaenorol a chanfuwyd bod lefel uchel o gysondeb rhwng y canlyniadau a'r dulliau. Felly rydym yn hyderus yn yr amcangyfrifon a gynhyrchwyd gan ddefnyddio'r dull gweithredu arolwg o dŷ i dŷ.
Rydym hefyd yn cymharu rhai canfyddiadau penodol â'n hastudiaeth o'r cofrestrau yn 2015 er mwyn cael ymdeimlad o'r ffordd y mae ansawdd y cofrestrau wedi newid dros amser.
Mae unrhyw amcangyfrif o gywirdeb a chyflawnrwydd yn cynrychioli 'ciplun' ar adeg benodol yng nghylch bywyd y cofrestrau. Yn gyffredinol rydym wedi cymryd y ciplun hwn yn y cyfnod yn syth ar ôl casglu a chyhoeddi'r cofrestrau blynyddol pan, yn hanesyddol, roedd cyflawnrwydd y cofrestrau ar ei uchaf. Mae ein hastudiaethau blaenorol ar y pwnc yn awgrymu y gall cyflawnrwydd y cofrestrau ostwng cymaint ag un pwynt canran fis ar ôl cwblhau'r canfasiad. Byddem yn disgwyl i'r effaith hon fod yn llai amlwg ers cyflwyno'r broses gofrestru drwy gydol y flwyddyn a chofrestru ar-lein.
Yn unol ag astudiaethau blaenorol, mae'r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn ar gyfer y cofrestrau a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 1 Rhagfyr 2018. Rydym hefyd yn cyflwyno amcangyfrifon cenedlaethol ar y cyd â'r amcangyfrifon ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd.
Gan ddefnyddio'r ffigurau canrannol a gynhyrchwyd o'r ymchwil hon, mae'n bosibl amcangyfrif nifer y bobl nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir neu sydd â gwallau yn eu cofnodion ar y gofrestr. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol mai dim ond amcangyfrifon y gall y rhain fod am sawl rheswm.
Yn gyntaf, fel gydag unrhyw ganfyddiadau o arolwg, mae cywirdeb a chyflawnrwydd yr amcangyfrifon yn amodol ar gyfwng hyder (+/-1.1% a +/- 1.0% yn ôl eu trefn). Mae hyn oherwydd bod y canlyniadau yn dod o sampl o'r boblogaeth gyfan a arolygwyd. Mae'r cyfwng hyder yn dynodi'r ystod o amgylch unrhyw ystadegyn o'r arolwg lle mae gwerth gwirioneddol y boblogaeth yn debygol o fod.
Yn ail, mewn perthynas â chyflawnrwydd, nid yw'n bosibl pennu'n sicr faint y boblogaeth sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio ym Mhrydain Fawr. Caiff cymhwysedd ei bennu yn ôl oedran a chenedligrwydd. Mae data amcangyfrifol canol blwyddyn o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011, yn cynnig yr amcangyfrif mwyaf cywir o faint y boblogaeth. Serch hynny, er bod amcangyfrifon blynyddol ar gael sy'n cynnwys data am oedran, nid ydynt yn cynnwys gwybodaeth am genedligrwydd.
Mae unrhyw ymdrechion i gyfrifo nifer absoliwt y bobl nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir yn eu cyfeiriad presennol felly'n seiliedig ar amcangyfrif o gyflawnrwydd ac amcangyfrif o 9 gyfanswm y boblogaeth sy'n gymwys. Dim ond bras amcan y gall fod felly a dylid ei drin fel hynny.
Mae'r canfyddiadau o'r astudiaeth cywirdeb a chyflawnrwydd hon yn arwain at amcangyfrif nad oedd rhwng 8.3 a 9.4 miliwn o bobl ym Mhrydain Fawr a oedd yn gymwys i fod ar y cofrestrau llywodraeth leol wedi'u cofrestru'n gywir ym mis Rhagfyr 2018. Amcangyfrifodd ein hasesiad yn 2015 mai rhwng 7.8 ac 8.3 miliwn fyddai'r ffigur.
Er bod lefelau cyflawnrwydd wedi parhau'n sefydlog, dros amser mae'n ymddangos bod nifer amcangyfrifiedig y bobl sydd wedi'u cofrestru'n anghywir ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y boblogaeth wedi tyfu bron ddau y cant rhwng 2015 a 2018. Mae hefyd yn rhannol oherwydd cyfwng hyder ychydig ehangach ar gyfer amcangyfrifon 2018 gan fod maint y sampl yn llai.
Pwynt arall i'w nodi yw nad yw'r ystod a gyflwynir uchod yn golygu y dylai'r cofrestrau gynnwys 8.3 – 9.4 miliwn o gofnodion ychwanegol. Mae'n bosibl bod y rhai nad ydynt wedi'u cofrestru'n gywir ar y cofrestrau o hyd ond ar gyfer cyfeiriad blaenorol (cofnod anghywir) er enghraifft.
Mae'r amcangyfrifon hefyd yn caniatáu i gyfanswm y cofnodion anghywir ar gofrestrau mis Rhagfyr 2018 gael eu brasamcanu. Ym Mhrydain Fawr, mae'n debygol y bydd rhwng 4.7 a 5.6 miliwn o gofnodion anghywir ar y cofrestrau llywodraeth leol. Amcangyfrifodd ein hasesiad yn 2015 mai rhwng 4.0 a 4.5 miliwn fyddai'r ffigur.
Mae'r amcangyfrif hwn yn awgrymu bod nifer y cofnodion anghywir wedi cynyddu ond, wedi dweud hynny, fel gyda chyflawnrwydd mae ffactorau megis twf yn y boblogaeth a chyfwng hyder gwahanol yn chwarae rôl. Ar hyn o bryd mae llai o gofnodion anghywir nag yn 2014, pan gynhaliwyd yr astudiaeth ddiwethaf cyn cyflwyno cofrestru etholiadol unigol.