yn-gadeirydd y Comisiwn Etholiadol, Jenny Watson, yn cael CBE yn Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines
Mae newyddion am Jenny Watson wedi rhoi CBE
Mae Jenny watson, cyn-gadeirydd y Comisiwn Etholiadol, wedi cael CBE yn Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i ddemocratiaeth etholiadol.
Gan wneud sylwadau, dywedodd Syr John Holmes, cadeirydd presennol y Comisiwn Etholiadol:
Mae Bwrdd a staff y Comisiwn Etholiadol am gynnig llongyfarchion gwresog i Jenny ar yr anrhydedd yma. Mae ei harweinyddiaeth gynhwysfawr ac ysbrydoledig dros wyth mlynedd wedi cael effaith fawr ar y Comisiwn, ac mae'r systemau sy'n tanategu ein democratiaeth yn destament i'w gwybodaeth a'i hymroddiad i'r rôl.
Roedd Jenny yn gadeirydd i'r Comisiwn Etholiadol am wyth mlynedd, gan oruchwylio darparu nifer o ddigwyddiadau etholiadol, rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU a dadlau'r achos dros welliannau i'r system etholiadol. Fe wnaeth hi ddadlau dros gofrestru etholiadol unigol ac yna - wedi iddo gael ei gymryd ymlaen gan y llywodraeth - fe wnaeth hi weithio'n ddiwyd i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Roedd hi'n bencampwr ymdrechion i wella hygyrchedd pleidleisio ac i gyrraedd grwpiau tan gofrestredig, a sicrhaodd bod gwasanaeth y Comisiwn yn hyblyg i fodloni anghenion seneddau a chynulliadau’r DU wrth i ddatganoli fynd yn ei flaen. Fel cadeirydd cynta'r Comisiwn, roedd Jenny hefyd yn Brif Swyddog Cyfrif ar gyfer tri refferendwm - gan gynnwys Refferendwm yr UE - ac roedd yn hanfodol yn arwain y Comisiwn drwy'r etholiadau hyn yn llwyddiannus.
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol drwy:
- 020 7271 0704 (Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.