Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

4. Ceisiadau cofrestru etholiadol dyblyg

Camau nesaf

Rydym am weithio gyda llywodraethau'r DU er mwyn ystyried sut i ymgorffori gwiriadau mwy awtomatig yn y gwasanaeth cais ar-lein fel ei bod yn glir os yw rhywun wedi gwneud cais eisoes.

Byddwn yn gweithio gyda holl lywodraethau'r DU a Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn adolygu gweithgareddau ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd a negeseuon ar wefan y llywodraeth a gwefannau eraill sy'n cyfeirio at y gwasanaeth cofrestru ar-lein, a gwella geiriad y gwasanaeth cofrestru ar-lein er mwyn atgoffa ymgeiswyr nad oes angen iddynt efallai wneud cais arall. Dylai'r newidiadau hyn gael eu datblygu a'u gweithredu cyn gynted â phosibl fel eu bod ar waith mewn da bryd i gofrestru cyn etholiadau mis Mai 2018 fan bellaf.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda chyflenwyr y Feddalwedd Reoli Etholiadol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Llywodraeth y DU er mwyn ystyried a nodi ffyrdd o wella'r broses o nodi a phrosesu ceisiadau dyblyg er mwyn lleihau'r baich gweinyddol ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff, ddylai gynnwys archwilio sut gallai gwell cyfathrebu rhwng cofrestrau ar wahân wella hyn.


Ar hyn o bryd mae'r system gofrestru ar-lein yn galluogi pobl i wneud cais i gofrestru hyd yn oed os ydynt eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y gwasanaeth cofrestru ar-lein a'r cofrestri etholiadol, a gedwir ar wahân ar gronfeydd data lleol gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol systemau meddalwedd reoli. Mae hyn yn golygu na all y systemau gwahanol gyfathrebu â'i gilydd yn uniongyrchol ar hyn o bryd ac felly nid yw'n bosibl nodi nac atal y fath geisiadau dyblyg yn awtomatig.

Ar ôl refferendwm yr UE ym mis Mehefin 2016, gwnaethom dynnu sylw at ddata a oedd yn dangos bod 38% o'r ceisiadau a wnaed yn ystod yr ymgyrch yn rhai dyblyg. Am ei bod mor rhwydd gwneud cais i gofrestru ar-lein, o gymharu ag anhawster cysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol awdurdod lleol dros y ffôn neu drwy e-bost i gadarnhau a oedd rhywun wedi cofrestru'n barod, gwelwyd llawer o bobl yn dewis gwneud cais arall.

Gwnaethom weithio gyda Llywodraeth y DU, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol  a Chymdeithas Aseswyr yr Alban cyn etholiadau mis Mai ac etholiad cyffredinol mis Mehefin i ddiweddaru negeseuon ar ein holl wefannau a safle cofrestru i bleidleisio GOV.UK er mwyn egluro nad oedd angen i bleidleiswyr wneud cais arall os oeddent eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Eglurodd ein gwefan, os oedd pleidleiswyr wedi derbyn cerdyn pleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol ddydd Iau 4 Mai, neu wedi pleidleisio ynddynt, nad oedd angen iddynt wneud cais arall ar gyfer etholiad cyffredinol y DU. Hefyd ychwanegodd Swyddfa'r Cabinet dudalen newydd at ddechrau'r broses gofrestru ar-lein er mwyn tynnu sylw defnyddwyr at y neges hon cyn y gallent barhau i wneud cais.

Er hyn, mae amcangyfrifon cychwynnol Swyddogion Cofrestru Etholiadol o gyfran y ceisiadau dyblyg a gafwyd cyn etholiad cyffredinol 2017 wedi amrywio o 30% o'r cyfanswm a wnaed mewn rhai ardaloedd i 70% mewn eraill. Rydym wrthi'n casglu data gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar geisiadau dyblyg a ddylai roi ffigur mwy cywir ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol. Hyd yn oed heb y data manwl hynny, mae'r gwahaniaeth rhwng nifer y ceisiadau a wnaed rhwng 1 Rhagfyr 2016 a 22 Mai 2017 (tua 4.9 miliwn) a'r newid net yn nifer y pleidleiswyr ar y cofrestri yn y cyfnod hwnnw (tua 1.4 miliwn o gofnodion cofrestr wedi'u hychwanegu) yn awgrymu bod cyfran sylweddol o geisiadau yn debygol o fod wedi bod yn rhai dyblyg. Fe wnaeth Swyddogion Cofrestru Etholiadol adrodd fod rhai ceisiadau gan bleidleiswyr oedd am newid eu dewis pleidleisio ar gyfer yr etholiad – er enghraifft, o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio i bleidlais bost neu ddirprwy.

Unwaith yn rhagor, mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi tynnu sylw at effaith weinyddol sylweddol prosesu ceisiadau dyblyg cyn yr etholiad cyffredinol. Rhaid i bob cais unigol gael ei archwilio'n ofalus er mwyn cadarnhau p'un a yw'n gais dyblyg ai peidio, er y gall rhai systemau rheoli etholiadol a ddefnyddir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol helpu i reoli'r llif gwaith hwn yn fwy effeithlon.

Mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau gwasanaethau etholiadol o fewn awdurdodau lleol hefyd wedi codi pryderon y cafwyd y cynnydd sylweddol mewn gwaith er mwyn prosesu ceisiadau cofrestru cyn etholiad cyffredinol mis Mehefin wrth i lawer hefyd redeg etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017 ac wedyn baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Unwaith eto, cawsom adborth gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phleidleiswyr yn uniongyrchol y byddai'n fwy defnyddiol petai modd i bobl ddefnyddio'r system gofrestru ar-lein i weld a oeddent eisoes wedi llwyddo i gofrestru i bleidleisio cyn cyflwyno cais newydd. Caiff cyfleusterau tebyg eu cynnig i bleidleiswyr mewn democratiaethau tebyg eraill yn barod, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd a Gweriniaeth Iwerddon.

Rydym am ddechrau gweithio gyda Llywodraeth y DU yn gyflym er mwyn ystyried sut y gellid gwella systemau presennol ac ymdrin â'r effaith weinyddol a gwastraff ymdrech Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau yn sgil ceisiadau dyblyg. Cyn hyn rydym wedi argymell y dylai cyfleuster 'chwilio' ar-lein gael ei gynnig i bleidleiswyr weld a ydynt eisoes wedi cofrestru, ac rydym hefyd yn awyddus i ystyried opsiynau ar gyfer gwella'r gwasanaeth cofrestru ar-lein presennol. Er enghraifft, gallai fod yn bosibl i'r gwasanaeth ar-lein hysbysu ymgeiswyr os ydynt eisoes wedi gwneud cais ar-lein cyn iddynt wneud cais arall i fynd i’r afael â’r borblem wrth ei gwraidd.

Mae yna hefyd gamau mwy uniongyrchol y gall y Comisiwn, Llywodraeth y DU a llywodraethau ac asiantaethau cyhoeddus eraill eu cymryd er mwyn helpu i leihau nifer y ceisiadau dyblyg.

Ymhlith y camau hyn mae adolygu gweithgareddau ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd a negeseuon ar wefan y llywodraeth a gwefannau eraill sy'n cyfeirio at y gwasanaeth cofrestru ar-lein, a gwella geiriad y gwasanaeth cofrestru ar-lein er mwyn atgoffa ymgeiswyr nad oes angen iddynt efallai wneud cais arall. Dylai Llywodraeth y DU hefyd ystyried y ffordd orau o gysylltu ffurflenni cais pleidlais absennol a gwybodaeth a geir ar wefan Dy Bleidlais Di y Comisiwn, yn hytrach nag awgrymu y gellid defnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein i wneud cais am bleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy.

Etholiadau & refferenda