Logo

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

6. Cydbwyso adnoddau cofrestru etholiadol

Camau nesaf

Rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU er mwyn adolygu cydbwysedd cyllid ac adnoddau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol fel y gellir sicrhau bod adnoddau priodol ar gael ar gyfer gweithgarwch etholiadol penodol yn ogystal â gweithgareddau parhau fel y canfas blynyddol o eiddo.

Byddwn yn parhau i werthuso cynlluniau peilot er mwyn profi dulliau newydd o gynnal gweithgareddau canfasio blynyddol, a byddwn yn gweithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Llywodraeth y DU er mwyn ystyried goblygiadau'r gwerthusiadau hynny i ddyfodol y canfas blynyddol.


Mae ein hadroddiadau blaenorol ar weithredu system gofrestru etholiadol unigol wedi tanlinellu'r ffaith bod cyflwyno cofrestru ar-lein yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o wneud cais i gofrestru pan gânt eu cymell gan etholiadau sydd ar y gorwel, yn hytrach nag mewn ymateb i gyswllt gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ystod y cyfnod canfasio blynyddol. Dengys ein dadansoddiad o 2017 unwaith eto fod nifer sylweddol o bobl yn dewis gwneud cais i gofrestru i bleidleisio'n uniongyrchol mewn ymateb i etholiadau mis Mai ac etholiad cyffredinol mis Mehefin.

Bu angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol brosesu nifer sylweddol o geisiadau cofrestru etholiadol yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2017, nad oeddent yn ddisgwyliedig nac wedi'u cynllunio o ran eu nifer na'u hamseru. Tra caiff Swyddogion Canlyniadau etholiadau Senedd y DU eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU am gostau gweinyddu'r etholiad, caiff Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu hariannu'n gyfan gwbl gan yr awdurdod lleol sydd wedi'u penodi. Mae hyn yn golygu y bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU wedi gorfod defnyddio eu cyllidebau blynyddol lleol i ddelio ag effaith digwyddiad etholiadol cenedlaethol nas cynlluniwyd.

Rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU er mwyn adolygu cydbwysedd cyllid ac adnoddau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol fel y gellir sicrhau bod adnoddau priodol ar gael ar gyfer gweithgarwch etholiadol penodol yn ogystal â gweithgareddau parhau fel y canfas blynyddol o eiddo. Rydym hefyd yn cydnabod bod cwestiynau parhaus ynghylch effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac amseru'r canfas blynyddol presennol, ac rydym hefyd yn gweithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddfa'r Cabinet i werthuso cynlluniau peilot i dreialu gwahanol ddulliau o weithredu.


Cynlluniau peilot canfas 2016

Yn ystod canfas 2016, profodd Swyddogion Cofrestru Etholiadol tair ardal awdurdod lleol effeithiolrwydd dau ddull gwahanol o gynnal canfas o gartrefi. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr gynnal canfas o gartrefi bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob cartref gael Ffurflen Ymholiad y Cartref a rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol sicrhau y ceir ymateb i'r ffurflen honno (hyd yn oed os nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau) gan ddefnyddio o leiaf ddau nodyn atgoffa ac un ymweliad â'r cartref.

Mae costau sylweddol ynghlwm wrth yr ymarfer hwn ac mae cryn dipyn o'r amser a'r adnoddau yn mynd tuag at gael ymatebion gan gartrefi lle nad oes unrhyw newidiadau i'r pleidleiswyr cofrestredig. Cynlluniwyd y cynlluniau peilot hyn i brofi effeithiolrwydd dulliau gwahanol o ganfasio sy'n gofyn am lai o adnoddau.

Y prosesau a brofwyd oedd:

  • Dirnadaeth - Defnyddio data i bennu'r dull o ganfasio (Birmingham a De Lakeland): dechreuodd hyn gydag ymarfer paru data rhwng y gofrestr etholiadol a data lleol eraill. Cafodd pleidleiswyr a allai gael eu paru eu canfasio mewn ffordd ysgafnach na'r rhai na ellid eu paru.
  • Defnyddio Llythyrau Hysbysu Cartrefi yn lle Ffurflen Ymholiad y Cartref (Ryedale): mae Llythyrau Hysbysu Cartrefi yn debyg i Ffurflenni Ymholiad y Cartref am eu bod yn rhestru'r pleidleiswyr cofrestredig mewn eiddo ond yn wahanol i Ffurflen Ymholiad y Cartref nid oes angen ymateb (ac nid oes gofyniad cyfreithiol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol sicrhau eu bod yn cael ymateb). Fel rhan o'r cynllun peilot cysylltwyd â rhai cartrefi unwaith ar ffurf Llythyr Hysbysu Cartrefi ac nid anfonwyd unrhyw negeseuon atgoffa. Gallai cartrefi ymateb i'r Llythyr Hysbysu Cartrefi ar-lein neu dros y ffôn.

Canfyddiadau

Mae ein gwaith dadansoddi yn gyfyngedig i'r nifer fach o ardaloedd peilot yn 2016 a'r ffaith mai grwpiau rheoli bach a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, mae'r data sydd wedi dod i law yn awgrymu bod y dull presennol a ddeddfwyd o ganfasio yn fwy effeithiol na'r dulliau peilot o ran nodi symudiad y boblogaeth ac felly gadw cofrestri etholiadol cywir a chyflawn. Fodd bynnag, roedd amrywiadau o ran y gwahanol ddulliau a brofwyd.

Fel y mae Siart 2 isod yn ei ddangos, ar gyfer De Lakeland a Ryedale roedd gwahaniaeth sylweddol rhwng nifer y pleidleiswyr newydd a ychwanegwyd a chofnodion afraid a ddilëwyd o'r cofrestri yn dibynnu p'un a ddefnyddiwyd y dull presennol neu'r dull peilot o ganfasio.

Siart 2: Canlyniadau cynlluniau peilot canfasio 2016 - ychwanegu a dileu

Canlyniadau cynlluniau peilot canfasio 2016 - ychwanegu a dileu

Grwp rheoli - Cysylltwyd a chartrefi yn y grwp hwn ar sail y dull canfasio traddodiadol

Grwp trin – Cafodd cartrefi yn y grwp hwn eu canfasio yn ol y proses beilot. Y prosesau hyn oedd:

Model dirnadaeth. Ceisiodd y Swyddog Cysylltu Etholiadol baru pleidleiswyr cofrestredig a data lleol. Cysylltwyd a chartrefi lle gellid paru pleidleiswyr yn gadarnhaol ar ffurf Llythyr Hysbysu Cartrefi sydd, yn wahanol ir Ffurflen Ymholiad y Cartref.


Mae canlyniadau Birmingham, a brofodd yr un model â De Lakeland, yn dangos llai o fwlch mewn ychwanegiadau rhwng y grŵp rheoli a'r grŵp triniaeth a lefel debyg o ddileu cofnodion. Mae'r gwahaniaeth rhwng Birmingham a De Lakeland yn debygol o fod oherwydd cywirdeb y broses paru data a gynhaliwyd ar ddechrau'r broses gan y ddau awdurdod.

Dylai'r set o gynlluniau peilot a gynllunnir yn 2017 ddarparu ystod ehangach o wybodaeth o ansawdd uwch ac felly bydd modd cynnal gwerthusiad cadarnach.

Mae'r cynlluniau peilot cychwynnol cyfyngedig hyn yn awgrymu y gallai'r prosesau a brofwyd sicrhau cryn arbedion o gymharu â'r canfas presennol. Mae hyn yn amlwg yn beth pwysig a chadarnhaol i'r awdurdodau lleol sy'n gorfod ariannu gweithgareddau cofrestru etholiadol.

Fodd bynnag, mewn unrhyw asesiad terfynol o newidiadau i ofynion y canfas presennol byddai angen i'r lleihad hwn mewn costau gael ei ystyried yn erbyn y canfyddiadau ynghylch pa mor dda y byddai'r prosesau posibl newydd yn cadw'r cofrestri. Er enghraifft, dros amser, byddai llai o achosion o ychwanegu at y cofrestri a dileu ohonynt yn cael effaith gronnol andwyol ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestri etholiadol oherwydd ni fyddai achosion o symud tŷ yn cael eu nodi.

Gallai unrhyw bleidlais newydd proffil uchel wrthbwyso'r fath ddirywiad drwy greu diddordeb ac felly geisiadau. Fodd bynnag, nodwn uchod fod rheoli gweithgareddau cyn pleidlais fawr eisoes yn her a fyddai, y gellid dadlau, hyd yn oed yn fwy petai'r cofrestri yn llai cyfredol ar ddechrau'r cyfnod etholiadol.

Fel y nodir uchod, nid yw'r data o 2016, sydd ond yn cwmpasu tri awdurdod lleol, yn ei gwneud yn bosibl i lunio casgliadau pendant o blaid nac yn erbyn y newidiadau peilot a chynhelir set bellach, mwy o faint o gynlluniau peilot yn ystod canfas 2017. Bydd y Comisiwn hefyd yn gwerthuso'r cynlluniau peilot hyn ac yn cyhoeddi ein canfyddiadau ym mis Mehefin 2018.

Etholiadau & refferenda