Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

7. Gwneud y broses gofrestru etholiadol yn fwy unedig

Camau nesaf

Integreiddio cofrestru etholiadol mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill

Rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU er mwyn ystyried opsiynau i alluogi pobl i wneud cais i gofrestru i bleidleisio wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein eraill gan gynnwys, er enghraifft, wrth wneud cais am drwydded yrru neu basbort neu wrth gyflwyno ffurflenni treth.

Gwell defnydd o ddata cyhoeddus

Rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU er mwyn gwella cyfleoedd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gafael ar ddata oddi wrth ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill – yn enwedig lle caiff y data hynny eu cadw gan ddarparwyr cenedlaethol yn hytrach na darparwyr lleol – er mwyn eu galluogi i dargedu eu gweithgareddau gyda phleidleiswyr newydd neu'r sawl sydd wedi symud yn ddiweddar.

Archwilio goblygiadau cofrestru uniongyrchol neu awtomatig

Rydym am weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ledled y DU er mwyn archwilio sut y gallai dull mwy integredig o gofrestru pleidleiswyr gynnwys mwy o ddefnydd o gofrestru uniongyrchol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, neu brosesau cofrestru mwy awtomatig (er enghraifft, cofrestru pobl ifanc yn uniongyrchol wrth iddynt gael rhif yswiriant gwladol).


Mae cyflwyno'r system gofrestru etholiadol unigol a gwasanaeth cofrestru ar-lein wedi trawsnewid y broses gofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr dros y tair blynedd diwethaf. Nawr mae angen i holl lywodraethau'r DU adeiladu ar y llwyddiant pwysig hwn, a pharhau i foderneiddio'r broses gofrestru etholiadol er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Rydym am weld camau cynnar i ddechrau datblygu agenda uchelgeisiol ar gyfer moderneiddio'r broses gofrestru etholiadol ymhellach dros y pum mlynedd nesaf.

Fel y nodwyd gennym eisoes yn ein cyfres o adroddiadau ar weithredu'r system gofrestru etholiadol unigol ym Mhrydain Fawr, credwn ei bod hi'n amser i'r DU esblygu'r system bresennol, sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar bleidleiswyr yn cymryd camau i gofrestru eu hunain, er mwyn gwneud y broses gofrestru etholiadol yn fwy unedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n golygu ystyried prosesau cofrestru uniongyrchol neu awtomatig a allai greu cofrestri etholiadol mwy cywir a chyflawn mewn ffordd fwy effeithlon na'r prosesau canfasio presennol sy'n defnyddio adnoddau helaeth.

Nid yw'r heriau sy'n wynebu Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn unigryw i'r DU – mae amrywiaeth o ddemocratiaethau newydd a sefydledig ledled y byd wedi ystyried ymatebion i dueddiadau demograffig a chyfathrebu digidol sy'n newid yn gyflym, ac wedi symud i gyfeiriad gweithdrefnau cofrestru mwy uniongyrchol neu awtomatig. Gall y DU ddysgu o wledydd eraill o ran yr hyn sy'n gweithio, ac mae angen i ni gyflwyno newidiadau a all esgor ar welliannau sylweddol i gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestri etholiadol.


Integreiddio cofrestru etholiadol mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill

Mae poblogrwydd cofrestru ar-lein yn adlewyrchu disgwyliadau cynyddol y cyhoedd am argaeledd llwyfannau ar-lein ar gyfer cwblhau trafodion, gan gynnwys gwasanaethau'r llywodraeth. Mae argaeledd llwyfannau ar-lein i ddefnyddio ystod fwyfwy eang o wasanaethau cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd i wneud y broses gofrestru etholiadol hyd yn oed yn symlach i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.

Mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol eisoes wedi gweithio gyda darparwyr addysg uwch lleol i integreiddio ceisiadau cofrestru etholiadol o fewn prosesau cofrestru myfyrwyr. Roedd hi’n ga cadarnhaol, wrth i'r Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil fynd ar ei hynt drwy'r Senedd yn gynharach eleni, fod Llywodraeth y DU wedi gallu cynnwys pwerau a fydd yn galluogi'r Swyddfa Myfyrwyr newydd i'w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cofrestredig yn Lloegr weithio gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wella proses gofrestru etholiadol myfyrwyr. Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau a'r Swyddfa Myfyrwyr i sicrhau bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol a sefydliadau addysg uwch yn cael canllawiau effeithiol er mwyn eu helpu i wella proses gofrestru myfyrwyr.

Roeddem hefyd yn falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth y DU cyn etholiad cyffredinol 2017 er mwyn sicrhau bod ystod eang o wefannau'r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn cyfeirio at y gwasanaeth cofrestru ar-lein. Ar brif safle GOV.UK roedd y rhain yn cynnwys tudalennau trafnidiaeth a thrwyddedau gyrru; tudalennau pasbort, fisa a gwasanaeth consylaidd; a thudalennau budd-daliadau a chredydau treth.

Mae gwledydd eraill wedi rhoi gweithdrefnau ar waith lle gellir gwneud cais i gofrestru fel pleidleisiwr ar y cyd â defnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw Deddf Cofrestru Pleidleiswyr Cenedlaethol UDA 1993 (neu'r "Motor Voter Act") sy'n gofyn i bob talaith yn yr UD gynnig cofrestru mewn asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus fel adrannau cerbydau modur. Mae democratiaethau eraill yn cynnig cyfleoedd tebyg, gan gynnwys yng Nghanada lle gall dinasyddion wneud cais i gofrestru pan fyddant yn cyflwyno eu ffurflenni treth blynyddol.


Gwell defnydd o ddata cyhoeddus

Ar hyn o bryd gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gafael ar ddata lleol a gedwir gan awdurdodau lleol ac eraill er mwyn helpu i nodi darpar bleidleiswyr a rheoli eu cofrestri etholiadol, ac rydym wedi darparu canllawiau ar sut i nodi ffynonellau data priodol a sut i reoli a defnyddio'r data hynny. Hefyd, yn fuan, byddwn yn cyhoeddi adnodd arfer da sy'n defnyddio enghreifftiau o'r ffyrdd y mae Swyddogion Cofrestru Etholiadol wedi defnyddio data i wneud y cofrestri yn eu hardal leol yn fwy cywir a chyflawn.

Rydym am weld camau pellach yn cael eu cymryd gan holl lywodraethau'r DU er mwyn archwilio buddiannau posibl darparu data cyhoeddus nad yw'n lleol i bleidleiswyr a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth helpu i nodi pobl sydd wedi newid cyfeiriad a diweddaru eu manylion gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft wrth wneud cais am drwydded yrru neu basbort. Mae'r profiad a gafwyd wrth gynnal yr ymarfer paru dogfennau cadarnhau wrth newid i IER ym Mhrydain Fawr hefyd yn dangos y potensial i symleiddio'r broses a ddefnyddir i ddilysu hunaniaeth etholwyr cyn eu hychwanegu at y gofrestr.

Yn gynharach eleni cafodd Deddf yr Economi Ddigidol Gydsyniad Brenhinol ar ôl iddi gael ei chymeradwyo gan Senedd y DU. Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau y bwriedir iddynt ei gwneud hi'n haws i gyrff cyhoeddus rannu data a gedwir ganddynt er mwyn gwella'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion. Byddwn yn ystyried ymhellach gyda Rhaglen Moderneiddio Trefniadau Cofrestru Etholiadol Swyddfa'r Cabinet pa gyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r darpariaethau hyn i wella'r broses o lunio a chadw cofrestri etholiadol, yn arbennig ddefnyddio data sy'n ddigon dibynadwy er mwyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol allu nodi pobl nas cofrestrwyd yn gywir yn well.


Cofrestru uniongyrchol neu awtomatig

Mae sawl gwlad eisoes wedi gweithredu mathau o gofrestru etholiadol uniongyrchol neu awtomatig er mwyn helpu i ateb heriau sy'n debyg i'r rhai sydd bellach yn wynebu Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys Awstralia, Canada a thaleithiau amrywiol yn yr UD. Mae'r systemau hyn yn galluogi'r rheini sy'n gyfrifol am gadw'r gofrestr etholiadol i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi o ffynonellau cyhoeddus eraill, neu i ddiweddaru eu manylion pan fyddant yn symud heb i'r pleidleisiwr orfod "ailgofrestru" yn ei gyfeiriad newydd.

Yn Awstralia, mae deddfwriaeth yn caniatáu i Gomisiwn Etholiadol Awstralia gofrestru dinasyddion yn uniongyrchol neu ddiweddaru eu manylion ar y gofrestr etholiadol ar sail gwybodaeth gan asiantaethau eraill y llywodraeth, gan gynnwys yr asiantaethau nawdd cymdeithasol ffederal a thrwydded gyrru cenedlaethol. Mae'r Comisiwn yn ysgrifennu at ddarpar bleidleiswyr er mwyn eu hysbysu ei fod yn bwriadu ychwanegu eu henw at y gofrestr neu ddiweddaru eu manylion, tra hefyd yn rhoi'r cyfle i'r pleidleisiwr newid manylion os oes angen. Dengys data a gyhoeddwyd gan y Comisiwn, yn ystod y chwe mis rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Mai 2017, y cafwyd ychydig o dan 55% o'r holl gofrestriadau newydd, ailgofrestriadau a chofrestriadau wedi'u diweddaru drwy ei raglen Cofrestru Uniongyrchol a Diweddaru Ffederal.

Hefyd, dangosodd dadansoddiad diweddar o brosesau cofrestru pleidleiswyr awtomatig yn nhalaith Oregon yr UD amrywiaeth o fuddiannau i bleidleiswyr a gweinyddwyr etholiadol:

Mae'r fath brosesu awtomatig yn cryfhau democratiaeth drwy gynyddu nifer y pleidleiswyr. Gall ei symlrwydd arbed cryn gostau i daleithiau ac ardaloedd, gwneud y rhestrau cofrestru pleidleiswyr yn fwy cywir a chyfredol, a gwneud y system bleidleisio yn fwy diogel. Dyma'r cam rhesymegol nesaf wrth greu system cofrestru pleidleiswyr effeithlon, diogel a modern ar gyfer yr 21ain ganrif.

Center for American Progress, 2017

Cydnabyddwn y byddai cyflwyno prosesau cofrestru awtomatig neu fwy uniongyrchol yn newid sylweddol i bolisi cofrestru etholiadol y DU, ac y gall fod pryderon hefyd ynghylch goblygiadau rhoi'r gorau i'w gwneud yn ofynnol i ddinasyddion unigol fod yn uniongyrchol gyfrifol am eu cofrestru etholiadol eu hunain. Serch hynny, credwn ei bod yn bwysig parhau i archwilio'r goblygiadau, y buddiannau posibl a chostau newidiadau mwy sylfaenol i fframwaith cofrestru etholiadol y DU, yn ogystal â'r gwelliannau mwy uniongyrchol a chynyddol a nodir uchod.

Etholiadau & refferenda