Logo

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Etholiadau llywodraeth leol 2017 yng Nghymru

Crynodeb

Ddydd Iau 4 Mai, 2017, cynhaliwyd etholiadau ym mhob un o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ein dadansoddiad ac ymchwil gyda phleidleiswyr ac ymgyrchwyr yn dangos lefelau uchel o fodlonrwydd a hyder yn y modd y cafodd yr etholiadau hyn eu cynnal ledled y wlad.

Roedd 2.28 miliwn o etholwyr wedi'u cofrestru ar gyfer yr etholiadau hyn, a'r nifer a bleidleisiodd oedd 42%, sy'n uwch na'r 38.9% a bleidleisiodd yn yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio a rheoli'r etholiadau hyn. Ymhlith y rhain mae Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol a'u holl staff. Roedd rheoli'r etholiadau hyn yn heriol iawn, a chynyddodd yr her hon ar 18 Ebrill pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU y byddai etholiad cyffredinol Senedd y DU yn cael ei gynnal ar 8 Mehefin. Mae'r ffaith bod yr etholiadau llywodraeth leol hyn wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus heb unrhyw broblemau sylweddol yn adlewyrchu'r gwaith caled a wnaed gan bawb dan sylw ac rydym yn ddiolchgar am eu mewnbwn.

Rydym hefyd yn ddiolchgar i Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar, am ei waith i helpu i gydlynu a rheoli'r etholiad hwn. Credwn fod y grŵp hwn, a sefydlwyd yn ffurfiol ddechrau 2017 ac a arweinir gan uwch Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru, yn allweddol i'r gwaith o reoli digwyddiadau etholiadol effeithiol yng Nghymru yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at weld sut y gall y grŵp hwn wella arferion gwaith yn ogystal â pharhau i ddatblygu ei hun fel pwynt arbenigedd mewn perthynas â rheoli etholiadol yng Nghymru.

Rydym yn gwneud argymhellion yn yr adroddiad sy'n benodol i ddigwyddiadau etholiadol yn y dyfodol yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Datblygu Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru
  • Sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn briodol gan ddeddfwyr a bod yr holl adnoddau a deunydd angenrheidiol yn cael eu llunio'n ddwyieithog mewn modd amserol
  • Casglu data cenedlaethol ar y nifer sy'n pleidleisio yn yr etholiadau lleol yn 2022

Yn ogystal ag ystyried y newidiadau hyn sy'n benodol i Gymru, rydym hefyd am weld cynnydd tuag at roi diwygiadau mwy sylweddol ar waith mewn dau faes:

  • Gwella'r broses gofrestru etholiadol er mwyn sicrhau bod y broses yn fwy cydgysylltiedig ac wedi'i hintegreiddio â gwasanaethau cyhoeddus eraill ac yn adlewyrchu disgwyliadau dinasyddion yn well.
  • Moderneiddio a symleiddio cyfraith etholiadol, yn unol ag argymhellion Comisiynau'r Gyfraith yn y DU yn 2016.


Cynllunio

Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru

Yn 2016 fe wnaethom argymell sefydlu Grŵp Cyflawni Cymru parhaol i wella a phrif ffrydio cynllunio ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol a thrafod prif feysydd o bryder cyffredin.

Fe wnaeth y grŵp - a elwir bellach yn Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru - gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2017 i weithio ar yr etholiadau lleol.  Trafododd y Bwrdd faterion megis cynllunio prosiectau, rheoli risg, enwebiadau, amseru'r cyfrif, ymwybyddiaeth y cyhoedd a phartneriaethau, hygrededd etholiadol a delio gyda chwynion.

Mae gan y Bwrdd rôl bwysig i'w chwarae yn dod á rhanddeiliaid ynghyd a chynnig barn gyson ar faterion etholiadol yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig nawr yng ngŵydd cynigion diweddar gan Lywodraeth Cymru, ac ymgynghoriad mwy diweddar Diwygio Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru (PDF).

Argymhelliad 1: Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gymryd rhan ym Mwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Dylai hefyd ystyried sut y gellid datblygu rôl y Bwrdd yn y tymor canolig i'r hirdymor er mwyn cefnogi rhaglen moderneiddio etholiadol gyffredinol Llywodraeth Cymru. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ystyried p'un a ddylai'r Bwrdd ddod yn grŵp statudol, fel yn yr Alban.


Yn ôl i'r cynnwys


Ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd

Gwnaethom gynnal ymgyrch i annog pobl i fynd ar-lein i gofrestru i bleidleisio erbyn y terfyn amser ar 13 Ebrill. Ein nod oedd cyrraedd cynulleidfa gyffredinol a grwpiau nas cofrestrir yn ddigonol, gan gynnwys myfyrwyr, pobl sy'n symud tŷ, y rhai rhwng 18 a 34 oed a phobl sy'n rhentu eiddo preifat. Defnyddiodd yr ymgyrch hysbysebion teledu, radio ac ar-lein yn ogystal â gweithgareddau gyda phartneriaid a gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus.

Rhwng 20 Mawrth, pan ddechreuodd ein hymgyrch, a'r terfyn amser ar gyfer cofrestru ar 13 Ebrill, cafwyd 25,000 o ychwanegiadau at y cofrestri etholiadol yng Nghymru.

Gweithio mewn partneriaeth

Gan adeiladu ar ein gwaith partneriaeth llwyddiannus mewn digwyddiadau etholiadol blaenorol, gwnaethom gydweithio â'r partneriaid a oedd gennym eisoes a chwilio am gyfleoedd newydd i hyrwyddo ein neges am gofrestru pleidleiswyr.

Gwnaethom weithio gyda llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Facebook a Nextdoor i sicrhau bod nodyn yn atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio yn ymddangos yn ffrydiau newyddion defnyddwyr yng Nghymru.

Gwnaethom lunio a rhannu adnoddau ar gyfer sefydliadau partner, gan gynnwys delweddau a thestun ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thempledi ar gyfer posteri a chynnwys ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau.

Gwnaethom hefyd gydweithio â phartneriaid penodol i lunio adnoddau ar y cyd. Roedd hyn yn cynnwys cydweithio ag RNIB Cymru i lunio taflen ffeithiau yn disgrifio'r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr â cholled golwg, fel dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy mewn gorsafoedd pleidleisio.



Deddfwriaeth a'r papur pleidleisio

Mae'r gyfraith ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru wedi'i nodi mewn nifer fawr o ddarnau ar wahân o ddeddfwriaeth, y mae rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu'n gynharach, ac nid yw'n addas i'r diben mwyach. Gall cymhlethdod y ddeddfwriaeth ei gwneud hi'n anodd i Swyddogion Canlyniadau a'u staff reoli etholiad, a gwneud y broses o gymryd rhan mewn etholiad yn heriol i bleidiau, ymgeiswyr a'u hasiantiaid.

Yn 2016, nododd Comisiynau'r Gyfraith yn y DU argymhellion ar gyfer cydgyfnerthu, symleiddio, diweddaru a gwella deddfwriaeth etholiadol.  Byddai rhoi'r newidiadau hyn ar waith yn ei gwneud hi'n haws o lawer i Swyddogion Canlyniadau a'u staff weinyddu etholiadau, gan leihau'r risg o wallau ac arwain at brofiad gwell o etholiadau i bleidleiswyr a'r rhai sy'n sefyll etholiad.

Argymhelliad 2: Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i roi argymhellion Comisiynau'r Gyfraith ar waith

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi argymhellion Comisiynau'r Gyfraith ar waith, i'r graddau y maent yn gymwys i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau Cynlluniad Cenedlaethol Cymru, pan gaiff pwerau deddfu ar gyfer yr etholiadau hyn eu datganoli yn 2018.

Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg

Following our report on the National Assembly for Wales’s elections in 2016, a Welsh Language Legislation Advisory Group was set up. The role of the group is to scrutinise Welsh language electoral legislation, note any discrepancies, and offer corrections and improvements.

Gweithred gyntaf y grŵp oedd ymateb i Swyddfa'r Cabinet ynghylch y Gorchmynion Diwygio ar gyfer y papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau mis Mai y sonnir amdanynt uchod. Cytunodd y grŵp fod y geiriad Cymraeg yn adlewyrchu'r geiriad Saesneg yn gywir, ond cododd faterion eraill yn ei ymateb hefyd:

  • Gallai'r geiriad sy'n cyfeirio at gynghorau plwyf fod yn gamarweiniol i rai Swyddogion Canlyniadau. Roedd y grŵp o'r farn y dylid ystyried peidio â chynnwys ‘cyngor plwyf’ ar ffurflenni sy'n gysylltiedig ag etholiadau yng Nghymru, a diwygio'r defnydd o'r gair “cynghorwyr / councillors” er mwyn adlewyrchu'r rôl mewn wardiau un aelod yn gywir, sef pwynt a godwyd yn flaenorol gan Swyddogion Canlyniadau a'r Comisiwn/
  • Dylai'r holl ddeddfwriaeth berthnasol fod ar waith o leiaf chwe mis cyn y diwrnod pleidleisio fel y gall Swyddogion Canlyniadau baratoi'n briodol ar gyfer yr etholiad sydd ar ddod, yn unol ag argymhellion blaenorol y Comisiwn.

Mae'r grŵp hwn wedi creu fforwm er mwyn sicrhau bod materion sy'n ymwneud â deddfwriaeth Gymraeg yn cael eu trafod mewn modd cydlynol. Mae hefyd wedi sicrhau bod ymateb cyson yn cael ei roi i ymgynghoriadau ynghylch Gorchmynion ffurflenni Cymraeg a deddfwriaeth arall o'r fath.

Argymhelliad 3: Adolygu deddfwriaeth ar gyfer papurau pleidleisio a deunyddiau i bleidleiswyr

Rydym yn argymell y dylai'r Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth berthnasol, er mwyn sicrhau y creffir ar bapurau pleidleisio ac unrhyw ddeunyddiau ategol angenrheidiol a bod unrhyw welliannau'n cael eu nodi. Dylid cwblhau'r adolygiad hwn mewn pryd i alluogi Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i wneud unrhyw ddiwygiadau deddfwriaethol er mwyn cyflawni'r gwelliannau hyn, a sicrhau eu bod ar waith o leiaf chwe mis cyn yr etholiadau nesaf.



Gweinyddu'r etholiadau

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol oedd hanner nos, nos Iau 13 Ebrill, a chyflwynwyd 27,903 o geisiadau rhwng 20 Mawrth a'r terfyn amser.

Dywedodd gweinyddwyr etholiadol fod nifer sylweddol o'r ceisiadau yn geisiadau dyblyg, lle'r oedd pleidleiswyr wedi cyflwyno cofrestriadau newydd heb sylweddoli eu bod eisoes wedi'u cofrestru i bleidleisio. Ychwanegodd hyn bwysau sylweddol yn ystod cyfnod a oedd eisoes yn brysur iawn i staff etholiadau.

Argymhelliad 4: Lleihau nifer ceisiadau dyblyg a'u heffaith

Rydym am weithio gyda llywodraethau'r DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er mwyn ystyried sut i ymgorffori gwiriadau mwy awtomatig yn y gwasanaeth cais ar-lein, fel ei bod yn glir os yw rhywun sy'n gwneud cais eisoes wedi'i gofrestru neu wedi cyflwyno cais yn ddiweddar, er enghraifft.

Y diwrnod pleidleisio a'r broses gyfrif

Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol ar y diwrnod pleidleisio, ac ymdriniodd Swyddogion Canlyniadau a'u staff yn effeithiol ag unrhyw fân broblemau y tynnwyd ein sylw atynt ar y diwrnod. Yn yr un modd, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw faterion sylweddol yn ymwneud â dilysu a chyfrif y pleidleisiau yn yr etholiadau hyn.

Ers 2016, rydym wedi darparu sgriptiau dwyieithog i Swyddogion Canlyniadau eu defnyddio ym mhob etholiad yng Nghymru. Cafwyd ymateb da i'r sgriptiau yn yr etholiad hwn a chawsant eu canmol gan y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg a Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Drwy gydweithio â'r Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg, byddwn yn parhau i ddarparu'r adnodd hwn ac yn ceisio ei ddatblygu, yn ogystal â datblygu'r defnydd o'r Gymraeg mewn etholiadau, ble bynnag y bo hynny'n berthnasol ac yn briodol.

Argymhelliad 5: Adnoddau i hybu etholiadau dwyieithog yng Nghymru

Rydym yn argymell y dylai'r Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg a phartneriaid cysylltiedig eraill weithio i greu adnoddau a fydd yn hybu datblygiad parhaus etholiadau dwyieithog yng Nghymru.

Nifer a bleidleisiodd

Roedd rhai achosion o awdurdodau ddim yn cyhoeddi data am y nifer a bleidleisiodd. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r cyfryngau, academyddion a phleidleiswyr gyfrifo'r nifer a bleidleisiodd yng Nghymru.

Mae'n deg i'r etholaeth, y cyfryngau a gwleidyddion ddisgwyl cael data cyflym a dibynadwy am y nifer a bleidleisiodd a'r canlyniadau, a chredwn y dylid gwneud ymdrechion pellach i gyflawni'r amcan hwn yn yr etholiadau nesaf.

Argymhelliad 6: Casglu data ar y nifer a bleidleisiodd ar gyfer etholiadau yn y dyfodol

Rydym yn argymell y dylai Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru ystyried sut y dylai data ar y nifer a bleidleisiodd gael eu casglu a'u cyhoeddi'n briodol yn etholiadau llywodraeth leol 2022.



Ymgeiswyr ac ymgyrchwyr

O'r 1,254 o seddau a oedd ar gael yn etholiadau mis Mai, ymladdwyd 1,161 ohonynt a chafodd 92 o ymgeiswyr eu hethol yn ddiwrthwynebiad. Gohiriwyd etholiadau mewn dwy ward oherwydd marwolaeth ymgeiswyr, ac nid oedd unrhyw ymgeiswyr yn sefyll etholiad mewn un sedd ym Mhowys.

Cyfeiriadau cartref ymgeiswyr

A number of candidates expressed concern about their home address being included on the ballot paper. The safety of candidates is of course important but so is transparency of information for voters.

Yn ei phapur ymgynghori diweddar ar ddiwygio etholiadol, awgrymodd Llywodraeth Cymru na ddylai fod yn angenrheidiol cyhoeddi cyfeiriad cartref ymgeisydd mewn llenyddiaeth etholiadol mwyach. Mae'r Comisiwn yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ystyried y gofyniad hwn, a byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad maes o law.

Enwebiadau ymgeiswyr

Fel mewn etholiadau blaenorol, codwyd cwestiynau ynghylch defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflenni enwebu, y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.

Mae'r gyfraith yn darparu y caiff ymgeisydd ofyn am gael defnyddio ei enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin ar y papur pleidleisio os yw'n defnyddio enw sy'n wahanol i unrhyw rai o'i enwau gwirioneddol yn gyffredin.

Rydym o'r farn y dylai ymgeiswyr allu defnyddio unrhyw enw a ddefnyddir yn gyffredin mewn perthynas â nhw, ar yr amod nad yw'r enw yn peri dryswch na thramgwydd i'r etholaeth. Ni ddylai fod yn rhaid i ymgeisydd sydd ond yn defnyddio ei enw cyntaf ddefnyddio ei enw canol ar y papur pleidleisio ac, yn yr un modd, ni ddylai fod yn rhaid i ymgeisydd sy'n defnyddio ei enw canol gynnwys ei enw cyntaf ar y papur pleidleisio.

Argymhelliad 7: Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin

Rydym yn parhau i argymell y dylai llywodraethau ddiwygio'r gyfraith er mwyn galluogi ymgeiswyr i ddefnyddio unrhyw rai o'u henwau a roddwyd, fel eu henw canol, fel enw a ddefnyddir yn gyffredin, heb gyfyngu enwau a ddefnyddir yn gyffredin i'r rhai sy'n wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw a roddwyd yn unig.



Uniondeb etholiadol

Ym mis Chwefror 2017, gwnaethom gynnal seminar ar uniondeb a oedd yn dwyn ynghyd y Pwyntiau Cyswllt Unigol (SPOCs) penodedig o fewn pob ardal heddlu sy'n gweithredu fel pwyntiau cyswllt allweddol ar gyfer pob mater sy'n ymwneud ag uniondeb etholiadol.

Gwnaethom hefyd gynnal sesiwn friffio gyda swyddog arweiniol SPOC newydd Heddlu Gogledd Cymru, a sesiwn loywi gyda holl swyddogion arweiniol yr heddlu yng Nghymru. Hefyd, aeth SPOCs o Gymru i seminar hyfforddi ar gyfer y DU gyfan, a gynhaliwyd yn Birmingham ar 3 Chwefror 2017 ac a drefnwyd ar y cyd gan y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO).

Roedd y seminarau hyn yn gyfle i rannu canllawiau, cyngor ac arfer da ar atal camymddwyn a delio ag ef cyn etholiadau.

Mae'r rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru yn dal i gredu bod pleidleisio'n ddiogel rhag twyll a chamddefnydd, gyda 75% o ymatebwyr i'n hymchwil i farn y cyhoedd yn nodi bod pleidleisio yn gyffredinol yn ddiogel, o gymharu â 79% a oedd yn credu hyn yn 2012.


Etholiadau & refferenda