Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

1. Y twf mewn ymgyrchu digidol

Mae ymgyrchoedd da sy'n cyfathrebu â phleidleiswyr yn rhan ganolog o etholiadau a refferenda sy'n cael eu rhedeg yn dda. Pan fydd ymgyrchwyr yn egluro eu polisïau a'u barn wleidyddol yn glir, gall pleidleiswyr arfer eu hawl i bleidleisio mewn ffordd fwy ystyrlon a hyddysg.

Yn y DU, mae tystiolaeth yn dangos bod ymgyrchwyr yn gwneud defnydd cynyddol o ffyrdd newydd o gyfathrebu er mwyn cyrraedd pleidleiswyr. Yn benodol, maent yn aml yn defnyddio gwasanaethau hysbysebu a brynir gan gwmnïau digidol a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Google, YouTube, Snapchat, Twitter neu Instagram. Mae'r siart isod yn dangos bod cyfran yr arian y mae ymgyrchwyr wedi'i wario ar hysbysebion digidol wedi parhau i gynyddu yn ystod y degawd hwn.

Gwariant gan ymgyrchwyr ar hysbysebion digidol fel canran o gyfanswm y gwariant ar hysbysebu. 2011 - 0.3%, 2014 - 1.7%, 2015 - 23.9%, 2016 - 32.3%, 2017 - 42.8%

Mae'r siart hon yn dangos y gwariant a nodwyd gan ymgyrchwyr ar eu ffurflenni gwariant statudol ar gyfer etholiadau Senedd y DU yn 2015 a 2017; etholiadau Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011 a 2016; etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2011, 2016 a 2017;  a'r refferenda ar aelodaeth o'r UE yn 2016, Annibyniaeth yr Alban yn 2014 a newid system bleidleisio'r DU yn 2011.

Ond nid yw'r siart hon yn dangos y darlun llawn o ran hysbysebion digidol mewn etholiadau a refferenda. Dim ond data gwariant ar gyfer y llwyfannau digidol mwyaf adnabyddus a nodir, y mae ymgyrchwyr cofrestredig wedi ein hysbysu amdanynt.

Nid hysbysebu yw'r unig ffordd y mae ymgyrchwyr yn mynd ati i gyfathrebu â phleidleiswyr ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol. Gall ymgyrchwyr 'hoffi', 'rhannu' a 'phostio' negeseuon am ddim, gyda'r posibilrwydd o gyrraedd cynulleidfaoedd eang.

Gall adnoddau ymgyrchu digidol ei gwneud hi'n haws ac yn rhatach i ymgyrchwyr dilys gyfathrebu â phleidleiswyr. Mae ymgyrchwyr sy'n rhannu eu polisïau a'u barn wleidyddol â phleidleiswyr yn arwydd o ddemocratiaeth iach. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai technegau newydd a ddefnyddir i gyrraedd pleidleiswyr arwain at lai o hyder yn uniondeb etholiadau a refferenda.

Gall pobl feddwl nad yw'r gyfraith yn cwmpasu technegau newydd. Gall y technegau hyn gael eu camddefnyddio hefyd. Er enghraifft, gallai fod yn haws i unigolion neu gyfundrefnau o dramor geisio dylanwadu ar bleidleiswyr ar-lein heb fod ganddynt unrhyw bresenoldeb corfforol yn y wlad. Gall ymgyrchwyr yn y DU hefyd geisio osgoi'r terfynau ar wariant drwy ymgymryd â gweithgarwch digidol cudd.

Mae'r twf mewn ymgyrchu digidol yn codi materion pwysig ar gyfer nifer o reoleiddwyr a sefydliadau, yn ogystal â ni. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymchwilio i'r defnydd o ddata personol a dadansoddeg data gan ymgyrchoedd gwleidyddol, pleidiau, cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a sefydliadau masnachol eraill. O fewn Senedd y DU, mae'r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn parhau i ymchwilio i effaith 'newyddion ffug' ar ddemocratiaeth fodern.

Mae llywodraethau a deddfwyr wedi mynegi pryderon ynghylch y camddefnydd ehangach o ddulliau cyfathrebu digidol mewn llawer o wledydd. Yn y DU, mae'r Prif Weinidog, Pennaeth y Gwasanaeth Diogelwch a'r Twrnai Cyffredinol wedi tynnu sylw at y risgiau y gallai llywodraethau tramor drefnu ymgyrchoedd ysbïo ac ymyrraeth seiber yn y DU. Nid yw hyn yn gyfyngedig i ymyrraeth mewn etholiadau ac mae'n rhan o ymgais ehangach i greu aflonyddwch.

Mae pleidleiswyr, ymgyrchwyr ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith wedi codi pryderon ynghylch aflonyddu, ymyrraeth a chamddefnyddio ymgyrchoedd digidol yn ystod etholiadau a refferenda diweddar yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon. Mae deddfwyr yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc a'r DU wedi nodi cynigion ar gyfer rheoleiddio ymgyrchoedd digidol yn statudol, ac mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau cyhoeddi eu cynigion diwygio eu hunain.

Mae'r pryderon hyn wedi bwydo i mewn i drafodaeth ehangach ynghylch diwygio'r rheolau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a dulliau cyfathrebu digidol yma yn y DU ac mewn gwledydd eraill ledled y byd. Yn sgil cyhoeddi ei phapur gwyrdd ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd, mae Llywodraeth y DU wedi llunio ei Siarter Ddigidol – rhaglen waith i gytuno ar arferion a rheolau ar gyfer y byd ar-lein a'u rhoi ar waith. Nod y rhaglen yw sicrhau bod yr hawliau sydd gan bobl all-lein yn cael eu diogelu ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu ar ledaeniad ac effaith camhysbysu y bwriedir iddo gamarwain pobl er budd gwleidyddol, personol a/neu ariannol.

Ein rôl wrth reoleiddio ymgyrchoedd digidol

Rydym wedi bod yn edrych ar y risgiau a'r heriau sydd ynghlwm wrth ymgyrchoedd digidol o ran rheolau etholiadau a refferenda yn y DU. Fel rheoleiddiwr, ein prif rôl yn y maes hwn yw monitro a gorfodi rheolau ynghylch o ble y daw'r arian ar gyfer ymgyrchoedd a sut mae ymgyrchwyr yn gwario arian, gan gynnwys yr arian a gaiff ei wario ar ymgyrchoedd digidol y bwriedir iddynt ddylanwadu ar bleidleiswyr yn y DU.

Aethom ati i siarad â phleidiau gwleidyddol ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017 ac edrych ar ffurflenni gwariant ymgyrchwyr mewn etholiadau a refferenda eraill a gynhaliwyd yn ddiweddar. Rydym wedi siarad â'r prif gwmnïau cyfryngau cymdeithasol sy'n gweithio yn y DU. Rydym hefyd wedi gwneud gwaith ymchwil â'r cyhoedd er mwyn holi eu barn am ymgyrchoedd digidol.

“Cafwyd cydnabyddiaeth gan rai, er y gall pobl edrych ar negeseuon ar-lein gydag amheuaeth, roedd perygl y gallai gwybodaeth heb ei wirio gael dylanwad o hyd i ryw raddau. Derbyniwyd bod natur ymgyrchoedd digidol yn ei gwneud yn anodd i ddarganfod ffynhonnell ar gyfer yr holl ddeunyddiau a dderbyniant.”
GfK, Political finance regulation and digital campaigning: a public perspective

Rydym yn helpu ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r rheolau ac rydym yn mynd ati i weithredu os cânt eu torri.  Fodd bynnag, rydym hefyd am sicrhau bod gan bleidleiswyr hyder yn y rheolau sy'n ymwneud â chyllid gwleidyddol mewn oes ddigidol.

Mae ein gwaith cynnar yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar nodi'r heriau pwysicaf sy'n wynebu rheolau cyllido a gwariant ar gyfer ymgyrchoedd digidol etholiadau a refferenda yn y DU. Mae gweddill yr adroddiad hwn yn nodi ein syniadaeth gyfredol a'n hawgrymiadau cyntaf ynghylch sut y dylai'r DU ddechrau ymateb i'r heriau sydd ynghlwm wrth ymgyrchu digidol.

Mae Senedd y DU wedi gofyn i ni adrodd ar etholiadau a refferenda, adolygu cyfraith etholiadol ac argymell newidiadau os credwn fod angen eu cyflwyno. Mae Senedd a Llywodraeth yr Alban yn gyfrifol am etholiadau a gynhelir yn yr Alban yn unig. Mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am etholiadau a gynhelir yng Nghymru yn unig. Rydym yn gweithio gyda phob llywodraeth berthnasol ar y newidiadau i gyfraith etholiadol y maent yn gyfrifol amdanynt. Dyna pam bod rhai o'n hargymhellion yn berthnasol i bob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU, nid dim ond Llywodraeth a Senedd y DU.

2. Pwy sy'n cynnal ymgyrchoedd digidol? >

Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchu a rhoddion