Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

2. Pwy sy'n cynnal ymgyrchoedd digidol?

Argymhellion

  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod yn rhaid i ddeunydd digidol gynnwys argraffnod sy'n nodi pwy sy'n gyfrifol am yr ymgyrch a phwy grëodd y deunydd.

Mae ymgyrchwyr yn defnyddio llwyfannau digidol i ymgyrchu yn ystod etholiad neu refferendwm. Mae'r ymgyrchwyr hyn yn amrywio o bleidiau gwleidyddol cofrestredig i ymgyrchwyr unigol. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol gofrestru â ni er mwyn i ymgeiswyr sefyll etholiad. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgyrchwyr refferendwm sydd am wario mwy na swm penodol gofrestru â ni hefyd.  Dim ond pobl sy'n byw yn y DU neu sydd wedi cofrestru i bleidleisio yma, neu sefydliadau sydd wedi'u lleoli yma, all gofrestru.

Pwy sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd ar-lein?

Mae'n rhaid i ddeunydd ymgyrchu argraffedig gynnwys gwybodaeth am bwy sy'n gyfrifol am yr ymgyrch a phwy grëodd y deunyddiau. Gall pleidleiswyr weld pwy sy'n dosbarthu'r deunydd hwn drwy edrych ar yr argraffnod arno. Mae gennym rôl yn y gwaith o sicrhau bod y rheolau hyn ynghylch cynnwys 'argraffnod' ar ddeunydd ymgyrchu yn cael eu dilyn. Ond nid ydym yn rheoleiddio'r cynnwys arall na'r dadleuon a ddefnyddir mewn deunydd ymgyrchu.

Efallai na fydd yn glir pwy sy'n gyfrifol am ymgyrch ar-lein gan nad yw'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ymgyrchwyr gynnwys argraffnod ar ddeunydd digidol. Efallai na fydd yn glir bod rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'i bostio gan ymgyrchydd oherwydd gall negeseuon ymddangos fel pe baent wedi'u postio gan unigolion sy'n mynegi barn bersonol.

Gall ymgyrchwyr brynu 'botiau' a thalu pobl i ledaenu eu negeseuon ymgyrchu, ac mae hyn yn gamarweiniol os na all pleidleiswyr weld bod hyn wedi digwydd.

Rhaglen feddalwedd awtomataidd yw bot sy'n dynwared ymddygiad dynol ar y cyfryngau cymdeithasol drwy bostio, hoffi a siarad â phobl go iawn.  'Trôl' yw person go iawn sy'n treulio amser ar wefannau a'r cyfryngau cymdeithasol yn postio negeseuon cynhennus neu amherthnasol a gwneud sylwadau er mwyn cythruddo pobl eraill.

Gall sefydliadau neu unigolion greu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol 'ffug'. Maent yn esgus mai cyfrifon pobl go iawn ydynt ac yn ceisio dylanwadu ar farn drwy bostio negeseuon neu hoffi a rhannu negeseuon pobl eraill.

Weithiau mae ymgyrchwyr mewn gwledydd eraill yn talu trôls i ledaenu eu negeseuon ac ymosod ar eu gwrthwynebwyr.

Mae'r wasg wedi rhoi sylw i achosion lle mae'r pleidiau sydd mewn grym mewn gwledydd eraill wedi defnyddio botiau a chyfrifon ffug ac wedi talu trôls i 'dynnu sylw' at eu negeseuon ymgyrchu pan maent yn sefyll i gael eu hailethol. Mae'n ymddangos wedyn fel pe bai ganddynt gefnogaeth ar lawr gwlad – ffenomen a elwir yn 'astroturfing'. Nod hyn yw rhoi'r argraff bod ymgyrch yn un boblogaidd. Ond nid yw'r gefnogaeth yn ddilys gan nad yw wedi dod oddi wrth bobl go iawn. Y blaid sydd wedi creu'r gefnogaeth honno ac wedi talu arian amdani.

Mae sawl prosiect ymchwil academaidd wedi ystyried y defnydd a wnaed o fotiau a chyfrifon ffug i dynnu sylw at negeseuon ymgyrchu ar Twitter yn ystod refferendwm yr UE a'r ymgyrchoedd a gynhaliwyd yn ystod etholiad yr UD yn 2016. Er iddynt nodi bod rhwydweithiau o fotiau a chyfrifon ffug ar waith yn ystod yr ymgyrchoedd hyn ac ar ôl hynny, nid yw'n glir pa effaith a gawsant ar y canlyniad, os o gwbl.

Nid ydym yn credu bod unrhyw beth o'i le ar ymgyrchwyr yn defnyddio botiau i bostio negeseuon yn hysbysu pleidleiswyr am eu polisïau a'u barn wleidyddol. Ond dylai fod yn glir pwy sy'n gwneud hynny. Yn yr un modd, nid ydym yn credu bod unrhyw beth o'i le ar ymgyrchwyr yn dweud wrth eu staff am bostio negeseuon ymgyrchu. Ond mae'r mathau hyn o ymgyrchu yn broblem os cânt eu defnyddio i dwyllo pleidleiswyr ynglŷn â phwy yw ymgyrchydd neu lefel wirioneddol y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi, neu os cânt eu defnyddio i gam-drin pobl.

Argraffnodau ar ddeunydd digidol

Rydym wedi bod yn argymell ers 2003 y dylai deunydd ymgyrchu ar-lein gynnwys argraffnod. Wedyn, byddai ymgyrchwyr yn gorfod nodi pwy ydynt er mwyn sicrhau ei bod yn glir pwy sy'n ymgyrchu. Ar hyn o bryd, rydym yn cynghori ymgyrchwyr i gynnwys argraffnod, er nad yw hynny'n ofynnol o dan y gyfraith.

Gallai hyn gynnwys negeseuon a gaiff eu postio gan fotiau a thrôls sy'n cael eu talu. Er y gellir postio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim, mae'n costio arian i gyflogi pobl a phrynu botiau. Mae'r costau hyn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant ymgyrchydd ar gyfer etholiad neu refferendwm. Byddai ymgyrchydd nad yw'n cynnwys argraffnod yn wynebu'r risg o gael dirwy.

Byddai cynnwys argraffnodau ar negeseuon ymgyrchu digidol yn ein helpu hefyd i orfodi'r rheolau ar wariant, gan y byddai gennym syniad gwell o bwy ddylai gofrestru a chyflwyno ffurflen gwariant ar ôl etholiad neu refferendwm.

Roedd hi'n ofynnol i ddeunydd digidol gynnwys argraffnod ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Gweithiodd hynny'n dda ar y cyfan. Cafwyd rhai cwestiynau ynghylch y mathau o ddeunydd digidol yr oedd y gyfraith yn gymwys iddynt, gan gynnwys barn bersonol. Gallwn ddysgu o'r profiad hwn wrth ystyried unrhyw ofyniad newydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn ymgynghori ar p'un a ddylid newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod yn rhaid i ddeunydd digidol gynnwys argraffnod. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gyfle da i glywed barn ymgyrchwyr ac eraill ynghylch sut y gallai'r rheolau newydd weithio.

Gwirionedd deunydd ymgyrchu digidol a newyddion

Un o'r prif bryderon ynghylch gwybodaeth ar-lein yw p'un a yw'n wir. Yn ystod ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau a refferenda, mae a wnelo'r pryder hwn â chynnwys deunydd ymgyrchu digidol a'r newyddion sy'n ymddangos ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol pleidleiswyr. Roedd newyddion ffug yn destun pryder sylweddol yn ystod etholiad arlywyddol yr UD ac wedi hynny.

Dangosodd yr ymchwil a wnaed gennym ag aelodau o'r cyhoedd eu bod yn ymddiried llai mewn deunyddiau ar-lein. Roeddent hefyd yn pryderu am gynnwys a ffynhonnell y deunydd hwnnw. Roeddent o'r farn bod y rhyngrwyd yn rhoi mwy o gyfle i ffynonellau llai credadwy gamarwain pobl a lledaenu gwybodaeth ffug. Yn eu barn hwy, roedd newyddion ffug yn amrywio o straeon cwbl ffug i newyddion go iawn a oedd yn cael eu hystumio i gyd-fynd ag agenda wleidyddol.

Nid ydym mewn sefyllfa i fonitro faint o wirionedd sydd i honiadau ymgyrchoedd, ar-lein neu fel arall. Fodd bynnag, drwy newid y gyfraith i'w gwneud yn ofynnol i ddeunydd digidol gynnwys argraffnod, bydd modd i bleidleiswyr asesu pa mor gredadwy yw negeseuon ymgyrchu.  Bydd pleidleiswyr wedyn yn gwybod pwy yw'r ffynhonnell ac mewn sefyllfa well i benderfynu pa mor gredadwy ydyw.

Rolau eraill

Nid yw'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i honiadau a wneir mewn deunydd ymgyrchu ddweud y gwir na bod yn ffeithiol gywir. Ond mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad ffeithiau anwir am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd. Ni ddylai deunydd ymgyrchu gymell eraill i gyflawni troseddau. Mae'r heddlu yn ymchwilio i honiadau o'r fath.

Gall Awdurdod Ystadegau'r DU gwyno wrth ymgyrchwyr os yw'n credu eu bod wedi camddefnyddio ystadegau swyddogol yn eu deunydd ymgyrchu. Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn goruchwylio hysbysebion ymgyrchu mewn perthynas â rhai pynciau gwleidyddol, ond nid oes ganddo rôl i'w chwarae mewn ymgyrchoedd etholiadau neu refferenda.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ymchwiliad i ymddygiad bygythiol mewn bywyd cyhoeddus, ac argymhellodd y dylai pleidiau gwleidyddol lunio codau ymddygiad ar gyfer ymddygiad bygythiol. Credwn y dylai ymgyrchwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb hefyd dros dôn eu dadleuon a'r honiadau a wneir ganddynt yn eu deunydd ymgyrchu.

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n gyfrifol am y rheolau hynny sy'n ymwneud â'r ffordd y mae sefydliadau yn y DU yn defnyddio data personol. Mae'n ystyried sut mae ymgyrchwyr, cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ac eraill yn defnyddio data personol at ddibenion gwleidyddol.

Disgwylir i'r Comisiynydd Gwybodaeth gyhoeddi adroddiad ar p'un a oes angen i ymgyrchwyr newid y ffordd y maent yn defnyddio data personol pleidleiswyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddwn yn gweithio gyda'r Comisiynydd i roi canllawiau i ymgyrchwyr i'w helpu i wneud unrhyw newidiadau.

3. Gwariant ar weithgarwch ymgyrchu digidol >


Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchu a rhoddion