Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

3. Gwariant ar weithgarwch ymgyrchu digidol

Argymhellion

  • Dylai fod yn ofynnol i ymgyrchwyr ddarparu anfonebau mwy manwl ac ystyrlon gan eu cyflenwyr digidol er mwyn gwella tryloywder.
  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU newid y rheolau ar gyfer adrodd ar wariant. Dylent ei gwneud yn ofynnol i ymgyrchwyr is-rannu eu ffurflenni gwariant yn wahanol fathau o wariant. Dylai'r categorïau hyn roi mwy o wybodaeth am yr arian a gaiff ei wario ar ymgyrchoedd digidol.
  • Dylai hysbysebion ar gyfer etholiadau a refferenda yn y DU sy'n ymddangos ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gael eu labelu er mwyn dangos y ffynhonnell yn glir. Dylai eu cronfeydd data ar-lein o hysbysebion gwleidyddol gydymffurfio â'r rheolau ar gyfer etholiadau a refferenda yn y DU.
  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU newid y gyfraith fel bod costau staff sy'n gysylltiedig ag ymgyrch yn cael eu cynnwys yn y terfynau ar wariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol mewn etholiadau a refferenda.
  • Byddwn yn gwneud cynigion i ymgyrchwyr a phob un o lywodraethau'r DU ar sut i wella'r rheolau a'r terfynau amser ar gyfer adrodd ar wariant. Rydym am sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bleidleiswyr ac i ni yn gyflymach ar ôl ymgyrch, neu yn ystod ymgyrch.
  • Dylem ni a llywodraethau a deddfwrfeydd y DU ailystyried pryd y dylai'r rheolaethau ar wariant a chyllid ddod i rym cyn refferendwm.

Mae cyfraith etholiadol y DU yn gosod terfynau ar faint o arian y gall ymgyrchwyr ei wario ar weithgarwch ymgyrchu yn ystod y 'cyfnod a reoleiddir' cyn etholiadau a refferenda. Y cyfnod a reoleiddir yw'r cyfnod pan fydd y rheolau ar wariant yn gymwys. Mae'r arian a gaiff ei wario ar weithgarwch ymgyrchu digidol a gynhelir yn ystod y cyfnod hwnnw yn cyfrif tuag at derfynau gwariant ymgyrchwyr. Er enghraifft, mae'r cyfnod a reoleiddir yn para 12 mis cyn etholiad Senedd y DU a phedwar mis cyn etholiad Senedd yr Alban. Y cyfnod a reoleiddir cyn refferendwm yr UE oedd 10 wythnos.

Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgyrchwyr refferendwm anfon manylion eu gwariant atom ar ôl yr etholiad neu'r refferendwm. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gwariant i'r Swyddog Canlyniadau etholiadau lleol. Byddwn yn cyhoeddi manylion y gwariant ar ein gwefan.

Tryloywder hysbysebion gwleidyddol digidol

Gall ymgyrchwyr ddefnyddio adnoddau digidol a chyfryngau cymdeithasol i gyfeirio eu negeseuon at y bobl hynny y maent yn fwyaf awyddus i'w cyrraedd. Mae ymgyrchwyr yn defnyddio'r data personol sydd ganddynt hwy a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i dargedu pleidleiswyr. Maent yn targedu pleidleiswyr yn seiliedig ar ffactorau demograffig fel oedran a rhyw, ac ar sail eu diddordebau a'u lleoliad ffisegol. Gelwir hyn yn aml yn 'ficro-targedu' gan fod ymgyrchwyr yn gallu anfon negeseuon sydd wedi'u teilwra i grwpiau penodol o bleidleiswyr yn seiliedig ar y wybodaeth hon. Gallant hefyd addasu'r negeseuon a anfonir yn gyflym iawn i gyd-fynd â'r hyn sy'n ymddangos fel pe bai'n gweithio orau gyda grwpiau neu unigolion penodol.

Dim ond y pleidleisiwr, yr ymgyrchydd a'r llwyfan sy'n gwybod at bwy y mae'r negeseuon wedi'u hanfon. Dim ond y cwmni a'r ymgyrchydd sy'n gwybod pam bod pleidleisiwr wedi'i dargedu a faint o arian a wariwyd ar ymgyrch penodol. Dyna pam bod y term 'hysbysebion tywyll' wedi'i ddefnyddio i ddisgrifio micro-targedu, er ei fod yn berffaith gyfreithlon.

Nododd pobl a gymerodd ran yn ein hymchwil ddiweddar y gallai negeseuon wedi'u targedu gan ymgyrchwyr fod yn ddefnyddiol os oedd hynny'n golygu eu bod yn cael gwybodaeth a oedd yn fwy perthnasol ac yn fwy diddorol iddynt. Ond roeddent yn pryderu am y ffordd yr oedd eu data personol wedi'u casglu a'u defnyddio. Dywedodd pobl hefyd y byddent yn pryderu am negeseuon wedi'u targedu sy'n lledaenu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.

Codwyd pryderon eraill ynghylch tryloywder gwariant ar hysbysebion gwleidyddol digidol a gwaith targedu cysylltiedig. Mae'r rheolau ar gyfer etholiadau yn y DU yn gosod terfynau gwariant er mwyn atal ymgyrchwyr rhag gwario cymaint yn fwy na'u gwrthwynebwyr fel y byddai hynny'n rhoi mantais annheg iddynt. Fel rhan o hyn, mae'n rhaid i ymgyrchwyr nodi faint y maent wedi'i wario ar lunio ac anfon negeseuon wedi'u targedu at bleidleiswyr drwy sianeli digidol. Mae hyn yn cynnwys negeseuon sydd wedi'u targedu at grwpiau penodol o bobl mewn etholaeth benodol.

Dylai pleidiau gwleidyddol adrodd ar y costau sy'n gysylltiedig â llawer o wahanol fathau o negeseuon mewn etholiadau. Ond os yw'r negeseuon yn hyrwyddo ymgeisydd penodol, gall y rheolau ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd adrodd ar gost y negeseuon hynny. Nid yw'r rheolau hyn yn gweithio'n iawn os nad yw ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn adrodd ar yr arian a gaiff ei wario ganddynt ar negeseuon wedi'u targedu yn erbyn y terfyn cywir.

Rydym am gadarnhau bod ymgyrchwyr wedi adrodd yn gywir ar yr arian y maent yn ei wario yn erbyn y terfyn cywir. Byddai'n ddefnyddiol pe bai'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ymgyrchwyr gynnwys argraffnod ar eu holl ddeunydd ymgyrchu digidol.

Anfonebau manylach

Byddai'n ddefnyddiol pe bai anfonebau ymgyrchwyr yn dangos manylion y grwpiau o bobl y gwnaethant eu targedu â hysbysebion digidol.  Er bod yn rhaid darparu anfoneb ar gyfer unrhyw wariant sy'n fwy na £200, nid yw'r gyfraith yn nodi pa mor fanwl y dylai'r anfoneb fod.

Prin iawn yw'r manylion a geir ar rai anfonebau ac mae hynny'n golygu ei bod hi'n anodd os nad yn amhosibl gwybod ar beth y gwariwyd yr arian a ble. Er enghraifft, mae ymgyrchwyr wedi rhoi anfonebau i ni gan Facebook sydd ond yn dweud "ymgyrch 1, ymgyrch 2". Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr eraill wedi darparu anfonebau mwy manwl ac ystyrlon.  Mae eu hanfonebau yn dangos testun y negeseuon ymgyrchu a anfonwyd at bleidleiswyr neu wybodaeth am y rhan o'r wlad a dargedwyd.

Dylai fod yn ofynnol i ymgyrchwyr ddarparu anfonebau gan gyflenwyr sy'n cynnwys gwybodaeth fwy ystyrlon am fanylion eu hymgyrchoedd. Dylent gynnwys y negeseuon a ddefnyddiwyd yn yr ymgyrchoedd hynny, y rhannau.

Diwygio'r categorïau gwariant

Caiff gwariant ar weithgarwch ymgyrchu ei ddatgan i ni o dan gategorïau cyffredinol fel 'hysbysebu'. Nid oes unrhyw gategori cyfreithiol penodol ar gyfer ymgyrchu digidol. Gallwn weld o'n cofnodion bod gwahanol ymgyrchwyr wedi'i ddatgan o dan gategorïau gwariant gwahanol, ond 'hysbysebu' yn bennaf.

Ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015, gwnaethom argymell y dylid diwygio categorïau gwariant er mwyn rhoi gwybodaeth fwy defnyddiol am yr hyn y mae ymgyrchwyr wedi gwario arian arno. Nid yw'r argymhelliad hwn wedi'i roi ar waith hyd yn hyn, ond byddai'n adnodd ychwanegol gwerthfawr i olrhain a chadarnhau faint sy'n cael ei wario ar ymgyrchu digidol.

Credwn y gallai fod yn rhy syml i ychwanegu categori 'digidol' newydd at y categorïau hynny sy'n bodoli eisoes. Mae'r categorïau sy'n bodoli eisoes yn canolbwyntio ar y gwahanol ddulliau o gyfathrebu â phleidleiswyr, gan gynnwys 'deunydd digymell i etholwyr' neu 'hysbysebu' neu 'ddigwyddiadau'. Pe bai categori yn cael ei gyflwyno ar gyfer 'gwariant digidol', gallai'r holl wariant hwnnw gael ei gynnwys mewn un categori mawr yn seiliedig ar y dull cyfathrebu.  Ni fyddai'r wybodaeth yn hawdd ei defnyddio ac ni fyddai'n cynyddu tryloywder.

Yn hytrach, byddai'n well creu is-gategorïau i gofnodi pa gyfrwng neu fformat a ddefnyddiwyd ar gyfer y gweithgarwch. Mae angen i'r ateb fod yn ymarferol er mwyn i ymgyrchwyr adrodd ar eu gwariant. Mae angen iddo hefyd ddarparu gwybodaeth ystyrlon ar gyfer pawb sy'n ei ddefnyddio.

Cronfeydd data o hysbysebion gwleidyddol

Mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau nodi sut y gallent wneud hysbysebion gwleidyddol yn fwy tryloyw. Mae Facebook, Google a Twitter wedi dweud y byddant yn sicrhau bod ymgyrchwyr sy'n eu talu i ddangos hysbysebion gwleidyddol yn cynnwys labeli i ddangos pwy sydd wedi talu am yr hysbysebion hynny.

Maent hefyd wedi dweud eu bod yn bwriadu cyhoeddi eu cronfeydd data eu hunain o hysbysebion gwleidyddol y maent wedi cael eu talu i'w dangos ar-lein. Bydd y cronfeydd data hyn yn cynnwys gwybodaeth am dargedu, cyrhaeddiad gwirioneddol a'r arian a wariwyd ar yr hysbysebion hynny.

Nod y cwmnïau hyn yw cyhoeddi eu cronfeydd data yn barod ar gyfer yr etholiadau canol tymor a gynhelir yn yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd 2018. Aeth rhai ohonynt ati hefyd i gyhoeddi data cyn y refferendwm a gynhaliwyd yn Iwerddon ym mis Mai 2018. Mae Facebook wedi dweud ei fod yn bwriadu cyhoeddi data tebyg cyn yr etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Mai 2019.

Mae prosiect 'Who targets me?' yn brosiect a arweinir gan ddinasyddion a sefydlwyd gan Sam Jeffers a Louis Knight-Webb ychydig cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017. Aethant ati i greu meddalwedd y gallai pleidleiswyr ei gosod ar eu porwyr gwe a oedd yn olrhain yr hysbysebion gwleidyddol a welwyd ganddynt ar Facebook. Argymhellodd y prosiect y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gyhoeddi'r holl hysbysebion a ddangosir ganddynt ar wefan ganolog.

Mae rhai sefydliadau fel y Sefydliad Ymarferwyr Hysbysebu hefyd yn cefnogi'r syniad o greu cofrestr gyhoeddus ganolog o hysbysebion gwleidyddol ar-lein, yn hytrach na gadael y dasg honno yn nwylo'r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol eu hunain.

Rydym yn croesawu bwriad pob un o'r cynigion hyn. Byddai cronfeydd data o'r fath yn sicrhau mwy o dryloywder i bleidleiswyr. Byddent hefyd yn ei gwneud yn haws i ni orfodi'r rheolau ar wariant. Byddem yn gallu gweld pa hysbysebion y mae ymgyrchydd wedi'u trefnu a faint a dalwyd amdanynt. Er enghraifft, pe baem yn gallu gweld bod rhai ymgyrchwyr yn targedu hysbysebion at yr un pleidleiswyr, gallai awgrymu eu bod yn gweithio gyda'i gilydd.

Disgwyliwn i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol sicrhau bod eu cronfeydd data newydd o hysbysebion gwleidyddol yn adlewyrchu'r rheolau ar gyfer etholiadau a refferenda yn y DU, a'u bod yn darparu gwybodaeth ystyrlon i ni ac i bleidleiswyr. Rydym am i bob un o'r prif gwmnïau cyfryngau cymdeithasol sy'n dangos hysbysebion etholiadol yn y DU sicrhau eu bod yn creu cronfeydd data o'r fath. Disgwyliwn iddynt drafod â ni p'un a allant gyhoeddi eu data yn yr un fformat.

Hysbysebion y telir amdanynt a chyrhaeddiad organig

Mae ymgyrchu digidol yn costio arian i ymgyrchwyr os ydynt yn talu cwmnïau fel Facebook i dargedu eu negeseuon at bleidleiswyr. Fodd bynnag, gall ymgyrchwyr hefyd ledaenu eu negeseuon am ddim drwy annog eu cefnogwyr i'w rhannu â ffrindiau a theulu. Gelwir hyn yn gyrhaeddiad 'organig'. Mae adroddiadau yn y cyfryngau yn honni i'r Blaid Lafur a Momentum wneud hyn yn effeithiol yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2017.

Mae'r rheolau cyfredol ar gyfer ymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn canolbwyntio ar yr arian y mae ymgyrchwyr yn ei wario. Nid ydynt yn ymdrin â'r cyrhaeddiad organig y gall ymgyrchwyr ei ddefnyddio. Er enghraifft, byddai'r rheolau'n cwmpasu'r costau sy'n gysylltiedig â thargedu hysbyseb neu neges at gefnogwyr ar-lein ymgyrchydd.  Ond ni fyddai unrhyw gostau ychwanegol pe bai'r cefnogwyr hynny yn rhannu'r neges yn ehangach gyda'u cysylltiadau ar-lein.  Gall hyn fod yn effeithiol iawn os yw negeseuon yn ddoniol neu'n drawiadol.

Gallai rhai pobl ystyried ei bod hi'n annheg os oes gan rai ymgyrchwyr fwy o gyrhaeddiad organig nag eraill, ond gallai hyn hefyd ysgogi ymgyrchwyr i ddenu mwy o gefnogwyr er mwyn ehangu eu cyrhaeddiad organig.

Yn hyn o beth, nid yw ymgyrchu digidol yn wahanol i ddulliau mwy traddodiadol o ymgyrchu, lle mae rhai ymgyrchwyr yn fwy effeithiol nag eraill.  Mae denu mwy o bleidleiswyr i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn beth da i'r ymgyrchoedd hynny ac i ddemocratiaeth ynddo'i hun, yn ein barn ni.

Lluniwyd y rheolau cyfredol yn 2000. Bryd hynny, roedd hi'n anoddach i ledaenu negeseuon yn eang ac yn rhad drwy gyrhaeddiad organig. Erbyn hyn, mae ymgyrchwyr yn dibynnu llai ar wario arian ar hysbysebion y telir amdanynt er mwyn cyrraedd rhai pleidleiswyr yn uniongyrchol, ond mae angen arian arnynt o hyd er mwyn creu a rheoli cronfeydd data o gefnogwyr a thargedu'r negeseuon a all ddatblygu cyrhaeddiad organig.

Bydd yn bwysig parhau i ystyried a yw'n ddigon i reoleiddio'r arian y mae ymgyrchwyr yn ei wario ar etholiadau a refferenda. Mae cwestiwn ynghylch a ddylai'r DU reoleiddio gweithgarwch ymgyrchu yn ystod etholiadau a refferenda mewn ffyrdd gwahanol.

Gwariant heb ei reoleiddio ar staffio

Nid yw'r arian y mae pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr refferendwm yn ei dalu i staff a gyflogir ganddynt yn uniongyrchol i weithio ar eu hymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn cyfrif tuag at eu terfynau gwariant, ond mae'n cyfrif tuag at derfynau gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac ymgeiswyr.

Cynhaliwyd cyfarfodydd â sawl plaid wleidyddol ac ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2017 i drafod sut y gwnaethant ddefnyddio ymgyrchu digidol a'r cyfryngau cymdeithasol fel rhan o'u hymgyrchoedd. Dywedodd pob un ohonynt fod ganddynt eu staff parhaol eu hunain yn gweithio ar eu hymgyrchoedd digidol, ac aeth pob un ohonynt ati i gyflogi staff ychwanegol neu ymgynghorwyr ar gyfer yr etholiad. Dywedodd pob un o'r pleidiau wrthym fod yr agwedd ddigidol yn rhan fwyfwy pwysig o'u hymgyrchoedd.

Ers 2013, rydym wedi argymell y dylai'r costau yr eir iddynt wrth gyflogi staff i weithio ar ymgyrchoedd etholiadau a refferenda gyfrif tuag at derfynau gwariant pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr refferendwm.  Byddai hyn yn mynd i'r afael â bwlch amlwg ac anghysondeb yn y rheolau sy'n caniatáu i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr refferendwm wario symiau mawr o arian o bosibl ar weithgarwch ymgyrchu heb fod angen iddynt eu datgelu. Byddai'r symiau y mae ymgyrchwyr yn eu gwario ar ymgyrchu digidol yn fwy tryloyw hefyd.

Gwella dealltwriaeth am wariant a reoleiddir

Mae'r rheolau ar gyfer etholiadau yn y DU yn cwmpasu'r costau ymgyrchu pwysicaf, ond ymddengys fod rhai newyddiadurwyr a sylwebyddion yn ansicr ynghylch y costau a gwmpesir.

Mae'r rheolau'n cwmpasu'r costau yr eir iddynt wrth ddangos hysbysebion ar lwyfannau digidol neu wefannau. Maent yn cynnwys y costau yr eir iddynt wrth ddosbarthu a thargedu deunyddiau ymgyrchu digidol neu ddatblygu a defnyddio cronfeydd data ar gyfer ymgyrchu digidol. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os prynwyd y galedwedd neu'r feddalwedd yn wreiddiol y tu allan i'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer adrodd ar wariant.

Mae terfynau gwariant a rheolau ar gyfer adrodd ar wariant yn gymwys i'r arian a gaiff ei wario ar hysbysebu yn ystod ymgyrchoedd. Mae'r un rheolau'n berthnasol p'un a yw ymgyrchwyr yn defnyddio technegau hirsefydlog, megis ymgyrchoedd postio deunydd argraffedig neu fyrddau poster, neu rai mwy newydd, megis negeseuon e-bost a hysbysebion ar-lein.

Codau Statudol ar wariant etholiadol

Ar hyn o bryd, rydym yn drafftio codau ymarfer statudol ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr. Nod y codau yw rhoi enghreifftiau o'r ffordd y mae'r gyfraith yn gymwys i wahanol fathau o wariant ac egluro hynny'n well. Mae'r codau drafft yn nodi'r ffordd y dylai ymgyrchwyr roi gwybod am weithgarwch ymgyrchu digidol a'r defnydd a wneir o ddata.

Rydym yn paratoi'r codau hyn i'w cymeradwyo gan Senedd y DU, fel bod canllawiau statudol ar gael i ymgyrchwyr ar y ffordd y mae'r gyfraith yn gymwys i wariant etholiadol. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban hefyd wedi dangos diddordeb mewn cyflwyno codau ar gyfer etholiadau yng Nghymru a'r Alban. Y gobaith yw y caiff y codau eu cymeradwyo mewn pryd ar gyfer yr etholiadau mawr nesaf yn 2021 a 2022.

Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y codau statudol ar wariant etholiadol yn ddiweddarach yn 2018. Anogwn ystod eang o ymatebion er mwyn gwella'r Codau drafft cyn iddynt gael eu cyflwyno i ddeddfwyr.

Pryd a sut rydym yn derbyn gwybodaeth am wariant

Mae gan ymgyrchwyr sy'n gwario o dan £250,000 dri mis i gyflwyno eu ffurflenni gwariant i ni ar ôl etholiad neu refferendwm. Mae gan ymgyrchwyr sy'n gwario £250,000 neu fwy chwe mis i wneud hynny.

Mae hwn yn gyfnod hir ar ôl i'r ymgyrchoedd ddod i ben. Yn ystod y cyfnod hwn, nid oes gan bleidleiswyr unrhyw wybodaeth am faint o arian a wariwyd gan ymgyrchwyr, nac ar beth y gwariwyd yr arian hwnnw, er mwyn dylanwadu ar y canlyniad.

Roedd aelodau o'r cyhoedd a gymerodd ran yn ein hymchwil o'r farn ei bod hi'n rhy hwyr i gyflwyno ffurflenni gwariant ar ôl i ymgyrch ddod i ben. Roedd rhai o'r farn y dylai ymgyrchwyr adrodd ar wariant yn ystod yr ymgyrch.

Ar hyn o bryd, gall ymgyrchwyr ddewis cyflwyno eu ffurflenni i ni yn electronig neu ar bapur. Os derbynnir cofnodion papur, mae'n rhaid i ni ddefnyddio adnoddau mewngofnodi data sy'n arwain at oedi cyn eu cyhoeddi. Mae'n cymryd mwy o amser i ni wirio gwybodaeth ar y ffurflenni gwariant papur a'i chroeswirio â gwybodaeth arall a ddelir gennym cyn y gallwn ei chyhoeddi.

Dylai pleidleiswyr allu gweld sut mae ymgyrchwyr wedi gwario eu harian cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad neu refferendwm tra bod y mater yn gyfredol. Byddai terfynau amser cynharach i ymgyrchwyr gyflwyno eu ffurflenni gwariant yn ei gwneud yn haws i bleidleiswyr ddeall hyn. Pe bai'n rhaid i ymgyrchwyr gyflwyno cofnodion electronig i ni, byddai hefyd yn golygu y gallem nodi unrhyw broblemau posibl yn gyflymach ar ôl yr etholiad neu'r refferendwm.

Pryd mae'r rheolau ar wariant a chyllid yn gymwys i ymgyrchwyr

Mae cyfraith etholiadol y DU yn gosod terfynau ar faint o arian y gall ymgyrchwyr ei wario ar weithgarwch ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn etholiadau a refferenda.

Mae'r adeg pan fo'r rheolau ar wariant yn gymwys wedi amrywio ar gyfer sawl refferendwm. Ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban, roedd y rheolaethau ar wariant yn gymwys am 16 wythnos. Ar gyfer refferendwm yr UE, roeddent yn gymwys am 10 wythnos.

Roedd y cyfnod rhwng pasio'r ddeddfwriaeth ar gyfer y refferendwm a'r adeg y daeth y rheolau ar wariant i rym yn wahanol hefyd. Gall ymgyrchwyr ddefnyddio'r bwlch hwn i wario symiau mawr o arian nad ydynt yn cyfrif tuag at eu terfynau gwariant. Ceir problemau tebyg o ran pryd y daw'r rheolau ar wariant i rym a ph'un a all ymgyrchwyr ddefnyddio'r bwlch hwn i godi arian na chaiff ei gwmpasu gan y rheolau.

4. Pwy sy'n talu am ymgyrchoedd digidol? >

Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchu a rhoddion