Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

4. Pwy sy'n talu am ymgyrchoedd digidol?

Argymhellion

  • Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol roi rheolaethau newydd ar waith i gadarnhau bod pobl neu sefydliadau sydd am dalu i ddangos hysbysebion gwleidyddol am etholiadau a refferenda yn y DU wedi'u lleoli yn y DU neu wedi'u cofrestru i bleidleisio yma.
  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU egluro na chaniateir i sefydliadau nac unigolion o dramor wario arian ar ymgyrchoedd etholiadau na refferenda. Byddai angen iddynt ystyried sut y gallai hyn gael ei orfodi a'r effaith ar ryddid barn.
  • Dylai Llywodraeth a Senedd y DU nodi'n glir mewn cyfraith na all ymgyrchwyr dderbyn arian gan gwmnïau nad ydynt wedi gwneud digon o arian yn y DU i ariannu swm eu rhodd neu fenthyciad.
  • Dylai Llywodraeth a Senedd y DU ystyried, ar y cyd â ni, sut y dylid gwella'r rheolaethau ar roddion a benthyciadau er mwyn atal arian tramor rhag cael ei ddefnyddio yng ngwleidyddiaeth y DU. Gellid addasu rheoliadau gwyngalchu arian diweddar er mwyn sicrhau dulliau gwell o asesu risg a diwydrwydd dyladwy.
  • Dylai Llywodraeth a Senedd y DU newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod yn rhaid i bob plaid ac ymgyrchydd refferendwm newydd sydd ag asedau neu rwymedigaethau gwerth mwy na £500 gyflwyno datganiad o asedau a rhwymedigaethau pan fydd yn cofrestru. Dylai'r datganiad gynnwys amcangyfrif o'r costau y mae'r ymgyrchydd wedi mynd iddynt wrth brynu neu ddatblygu'r data a ddelir ganddo pan fydd yn cofrestru.

Mae'r rheolau a luniwyd gan Senedd y DU yn golygu mai dim ond y rheini sydd â diddordeb gwirioneddol yng ngwleidyddiaeth y DU all ddefnyddio eu harian i ddylanwadu ar bleidleiswyr. Yr unig grwpiau a all roi arian i bleidiau neu ymgyrchwyr, neu gofrestru fel ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, yw pobl sy'n byw yn y DU neu sydd wedi cofrestru i bleidleisio yma, neu sefydliadau sydd wedi'u lleoli yma. Ond mae adnoddau cyfathrebu digidol byd-eang yn herio'r rheolau hyn.

Gwahardd gwariant o'r tu allan i'r DU

Mae ymgyrchwyr cofrestredig yn y DU wedi bod yn agored ynglŷn â'u defnydd o ymgyrchoedd digidol i gyrraedd pleidleiswyr. Fodd bynnag, gall unrhyw un o'r tu allan i'r DU dalu am hysbysebion ar lwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol hefyd er mwyn targedu pleidleiswyr yn y DU. Mae hyn yn golygu y gall pobl nad oes hawl ganddynt i gofrestru fel ymgyrchwyr wario arian i ddylanwadu ar bleidleiswyr yn y DU o hyd. Gallai'r arian hwn ddod o wladwriaethau tramor neu sefydliadau ac unigolion preifat.

Er bod egwyddor gyffredinol na chaiff arian o dramor ei ganiatáu, nid yw'r rheolau yn gwahardd gwariant o dramor yn benodol. Mae rheolau'r DU yn nodi isafswm y mae'n rhaid i bobl neu sefydliadau ei wario ar weithgarwch ymgyrchu cyn bod yn rhaid iddynt gofrestru fel ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae hyn yn golygu na fyddai unigolyn neu sefydliad o dramor sy'n gwario llai na'r symiau hyn wedi torri unrhyw gyfreithiau etholiadol penodol yn y DU.

Nod y rheolau hyn oedd lleihau'r risg y byddai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn gwario gormod, a sicrhau mwy o dryloywder heb gyfyngu ar ryddid barn. Ar adeg llunio'r rheolau yn 2000, roedd Llywodraeth a Senedd y DU yn pryderu ynghylch rhoddion tramor i bleidiau gwleidyddol. Nid oeddent wedi ystyried y posibilrwydd y gallai ffynonellau o dramor brynu hysbysebion ymgyrchu yn uniongyrchol yn y DU.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU a'r gwasanaethau diogelwch wedi nodi eu barn hwythau ynglŷn ag ymyrraeth dramor. Nodwyd ei bod hi'n debygol bod ffynonellau o dramor wedi defnyddio adnoddau digidol a chyfryngau cymdeithasol i geisio ymyrryd ac amharu ar ymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn y DU.  Mae ymchwil academaidd hefyd wedi dechrau dangos bod ffynonellau o dramor, yn ôl pob tebyg, wedi ymgymryd â rhywfaint o weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn y DU.

Nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael i ni ar hyn o bryd yn awgrymu bod hyn wedi digwydd yn y DU ar yr un raddfa honedig ag a welwyd yn ystod etholiad arlywyddol yr UD yn 2016.  Byddwn yn parhau i siarad â Llywodraeth y DU a'r gwasanaethau diogelwch ynglŷn ag unrhyw dystiolaeth arall a ddaw i law.  Sut bynnag, mae unrhyw weithgarwch o'r fath yn annerbyniol. Mae'r Llywodraeth wedi ein hysbysu ei bod yn effro i'r bygythiad y caiff y broses etholiadol ei thanseilio a ffyrdd eraill o geisio camddefnyddio'r broses honno neu danseilio sefydliadau democrataidd.

Mae Facebook, Google a Twitter wedi dweud y byddant yn rhoi rheolaethau newydd ar waith i gadarnhau bod pobl neu sefydliadau sydd am dalu i ddangos hysbysebion gwleidyddol am etholiadau yn yr Unol Daleithiau wedi'u lleoli yno. Hoffem weld rheolaethau tebyg yn cael eu cyflwyno ar gyfer etholiadau a refferenda yn y DU.

Byddai gosod gwaharddiad penodol ar unrhyw wariant ymgyrchu o dramor yn atgyfnerthu'r rheolau ar gyfer etholiadau a refferenda yn y DU ymhellach. Byddai rheolaethau'r cwmnïau digidol a chyfryngau cymdeithasol eu hunain yn un ffordd o atal arian tramor rhag cael ei wario ar hysbysebu neu hyrwyddo digidol.

Byddai angen i'r DU ystyried yn ofalus oblygiadau ymarferol a chyfreithiol gwahardd unrhyw wariant ymgyrchu o dramor, gan gynnwys sut y gallai gwaharddiad gael ei orfodi a'r effaith ar ryddid barn. Dylai hefyd ystyried yr effaith y byddai hynny'n ei chael ar ddinasyddion y DU sy'n byw dramor ac sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau a refferenda yn y DU, gan gynnwys newidiadau sydd wedi'u cynnig mewn Bil i Senedd y DU i alluogi unrhyw ddinesydd y DU sy'n byw dramor i gofrestru i bleidleisio yn y DU.

Atal gweithgarwch ariannu gan gwmni o'r tu allan i'r DU

Gall cwmnïau sydd wedi'u cofrestru yn y DU neu yn un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n cynnal busnes yn y DU roi neu fenthyg arian i ymgyrchwyr yn y DU. Gall y cwmnïau hyn hefyd gofrestru fel ymgyrchwyr.

Nid oes rhaid i'r cwmnïau hyn ddangos eu bod wedi gwneud digon o arian yn y DU i'w roi neu ei fenthyg i ymgyrchwyr.  Mae hyn yn golygu y gallai ymgyrchwyr dderbyn arian a ddaeth yn wreiddiol o'r tu allan i'r DU. Gallai hyn gynnwys nwyddau neu wasanaethau y mae cwmnïau yn eu rhoi i ymgyrchwyr fel rhodd neu am bris gostyngol, gan gynnwys gwasanaethau ymgyrchu digidol.

Yn 1998 a 2011, dywedodd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus na ddylai cwmnïau o dramor allu defnyddio is-gwmnïau yn y DU at ddiben rhoi arian i ymgyrchwyr yn unig. Dylai cwmnïau ddangos eu bod wedi gwneud digon o arian yn y DU i'w roi neu ei fenthyg i ymgyrchwyr.

Yn 2013, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth a Senedd y DU ystyried a oedd y rheolau yn ddigon cadarn i atal ymgyrchwyr rhag defnyddio arian sy'n dod o'r tu allan i'r DU. Nodwyd gennym y dylai'r rheolau fod yn fwy cyson â'r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

Ailadroddwyd yr argymhelliad hwn yn ein hadroddiad ar refferendwm yr UE yn 2016. Nid yw Senedd y DU wedi newid y rheolau hyn eto, ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn trafod y mater â ni.

Gwella rheolaethau ar roddion a benthyciadau

Byddai hefyd yn helpu i ystyried ffyrdd eraill o wella'r rheolaethau ar yr arian y mae ymgyrchwyr yn ei dderbyn. Mae rheolau gwyngalchu arian yn y DU yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gymryd camau i sicrhau nad oes unrhyw gysylltiad amlwg rhwng arian a gweithgarwch troseddol. Cafodd y rheolau hyn eu diweddaru gan Lywodraeth y DU yn 2017.

Credwn y gallai rhai o'r adnoddau a ddefnyddir gan fusnesau i asesu risg a diwydrwydd dyladwy cwsmeriaid gael eu hystyried hefyd fel rhan o'r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr mewn etholiadau a refferenda yn y DU. Gallai'r mathau hyn o newidiadau helpu i sicrhau na chaiff arian tramor ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn y DU, gan gynnwys ymgyrchoedd digidol.

Asedau a data ymgyrchwyr newydd

Dim ond ar ôl i ymgyrchwyr gofrestru â ni y mae'r rheolau ar roddion a benthyciadau yn gymwys iddynt.  Nid yw'r rheolau yn gofyn am dryloywder ynghylch yr arian a'r asedau y mae ymgyrchwyr yn meddu arnynt cyn iddynt gofrestru.

Hyd yn oed ar ôl i blaid gofrestru, gall fod 18 mis nes bod yn rhaid iddi gyflwyno ei datganiad o gyfrifon cyntaf. Mae'r cyfrifon hyn yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa ariannol plaid newydd, ond mae'r rheolau'n golygu na fydd pleidleiswyr nac ymgyrchwyr eraill yn cael gwybod am sefyllfa ariannol gynnar ymgyrchydd. Mae hefyd yn golygu bod gennym lai o wybodaeth i gynllunio ein gwaith monitro a rheoleiddio arall a rhoi ffocws iddo.

Felly, yn 2013, gwnaethom argymell y dylai pob plaid newydd gyflwyno datganiad o asedau a rhwymedigaethau sy'n werth mwy na £500 wrth gofrestru. Rydym hefyd o'r farn y dylai'r gofyniad hwn fod yn gymwys i bob ymgyrchydd refferendwm sy'n gorfod cofrestru â ni.

Mae setiau data a chronfeydd data yn asedau fwyfwy gwerthfawr ar gyfer cynnal ymgyrchoedd etholiadol wedi'u targedu. Dylai'r datganiad gynnwys amcangyfrif o'r costau y mae'r ymgyrchydd wedi mynd iddynt wrth brynu neu ddatblygu'r data a ddelir ganddo pan fydd yn cofrestru.

5. Gorfodi'r rheolau >

Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchu a rhoddion