Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

5. Gorfodi'r rheolau

Argymhellion

  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU gynyddu'r pwerau sydd gennym i gael gafael ar wybodaeth y tu hwnt i ymchwiliad.
  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU gynyddu ein pwerau i rannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill pan fo hynny er budd y cyhoedd.
  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU gynyddu'r ddirwy uchaf y gallwn ei rhoi i ymgyrchwyr am dorri'r rheolau.
  • Dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU roi pwerau i ni ymchwilio i ymgeiswyr yr amheuir eu bod wedi torri'r rheolau ar gyfer ymgeiswyr a rhoi cosbau iddynt.
  • Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wella eu polisïau ar ddeunydd a hysbysebion ymgyrchu ar gyfer etholiadau a refferenda yn y DU.

Mae cyfraith etholiadol y DU yn pennu gofynion mewn perthynas â'r broses o ariannu ymgyrchoedd etholiadau a refferenda a'r gwariant yr eir iddo. Mae methiant i gydymffurfio â'r rheolau yn drosedd. Fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol, mae gennym bwerau i ymchwilio i achosion o dorri'r rheolau.  Gallwn roi cosb ariannol, a elwir yn gosb sifil. Gall yr heddlu hefyd ymchwilio i achosion a amheuir o dorri'r rheolau a sicrhau y caiff achosion eu herlyn yn y llys.

Cynyddu ein pwerau i gael gafael ar wybodaeth

Gall deunyddiau ymgyrchu digidol gael eu dosbarthu'n syth i gynulleidfaoedd targed mawr. Gall hyn gael effaith uniongyrchol ar ymgyrch etholiadol neu refferendwm. Felly, mae'n bwysig ein bod yn gallu ymchwilio i bryderon ynglŷn ag ymgyrch. Rydym am wneud hyn mewn 'amser real' ac ar ôl y bleidlais.

Mae gennym bwerau eang i gasglu tystiolaeth wrth ymchwilio i weld a oes trosedd wedi'i chyflawni eisoes. Mae a wnelo'r rhan fwyaf o'r troseddau y gallwn ymchwilio iddynt â'r broses o adrodd i ni.  Gall hyn ddatgelu problemau gyda gwariant neu gyllid ymgyrchydd yn ystod ymgyrch. Erbyn i ni dderbyn yr adroddiadau, mae'r ymgyrch wedi hen ddod i ben. Y dull a ffefrir gennym yw ceisio atal y rheolau rhag cael eu torri, neu unioni mater mor gyflym â phosibl.  Mae ein pwerau yn fwy cyfyngedig pan fydd angen i ni wneud ymholiadau y tu hwnt i ymchwiliad.

Gall fod angen i ni wneud cais am wybodaeth gan gyflenwyr adnoddau ymgyrchu digidol am y cyfrif gwreiddiol, neu gallwn ofyn i bleidiau ac ymgyrchwyr ddarparu atebion cyflym i'n cwestiynau am y gweithgarwch digidol. Mae ein pwerau statudol i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu tystiolaeth yn cwmpasu pob sefydliad ac unigolyn a reoleiddir o dan y gyfraith – gan gynnwys ymgyrchwyr cofrestredig.  Fodd bynnag, dim ond deunydd sy'n ymwneud ag incwm a gwariant y mae'r pwerau y gallwn eu defnyddio y tu hwnt i ymchwiliad yn ei gwmpasu. Nid yw ein pwerau yn ymestyn i drydydd partïon fel cyflenwyr llwyfannau digidol.

Argymhellwn y dylid ehangu ein pwerau i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu dogfennau, gwybodaeth ac esboniadau y tu hwnt i ymchwiliad. Dylai fod gennym y pŵer i ofyn am wybodaeth gan unrhyw berson y gall fod ganddo ddeunydd perthnasol yn ei feddiant. Gofynnodd y Comisiynydd Gwybodaeth am bwerau tebyg yn ddiweddar a rhoddodd Senedd y DU y pwerau hynny i'w sefydliad.

Pe bai gennym y pŵer hwn, gallem fynnu bod cyflenwyr gwasanaethau neu lwyfannau digidol yn darparu'r wybodaeth berthnasol sydd ganddynt. Byddai'r newid hwn yn cyflymu pethau pan fyddem yn asesu pryderon a nodir gennym neu pan fyddai honiadau yn dod i law. Byddai hefyd yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am ymgyrch sy'n cynnwys nifer o wahanol ymgyrchwyr a chyflenwyr.

Gwella ein pwerau i helpu i orfodi cyfreithiau eraill

Ein prif rôl yw sicrhau bod ymgyrchwyr yn cydymffurfio â'r rheolau ar gyllid gwleidyddol.  Weithiau, mae gennym wybodaeth sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth â fframweithiau cyfreithiol eraill, fel y gyfraith diogelu data.  Fodd bynnag, nid yw bob amser yn glir p'un a allwn rannu'r wybodaeth honno â'r rheoleiddiwr neu'r corff perthnasol sy'n gorfodi'r gyfraith.

Mae gennym bŵer clir i rannu gwybodaeth sy'n ymwneud â chyfraith etholiadol â chyrff perthnasol. Ond rydym yn dibynnu ar bwerau sefydliadau eraill i'n galluogi i rannu gwybodaeth nad yw'n ymwneud â'n swyddogaethau cyfreithiol.  Mae'r bwlch hwn yn y pwerau sydd gennym i rannu gwybodaeth yn gymwys yn y DU a thu hwnt.

Yn ffodus, o ran materion diogelu data, mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) bŵer sy'n ein galluogi i ddarparu a derbyn gwybodaeth sy'n ymwneud â'i swyddogaethau. Heb hynny, ni fyddai gennym y pŵer i drosglwyddo gwybodaeth sy'n ymwneud ag achosion o dor diogelwch data i'r ICO. Fodd bynnag, mae'r pŵer yn dibynnu arnom i benderfynu a oes angen y wybodaeth ar yr ICO er mwyn cyflawni ei swyddogaethau. Gallai hyn arafu ein gallu i drosglwyddo gwybodaeth berthnasol yn y dyfodol.

Byddai'n well gennym gael pŵer cyffredinol sy'n ein galluogi i rannu gwybodaeth â rheoleiddwyr eraill neu gyrff gorfodi'r gyfraith os credwn y byddai hynny er budd y cyhoedd. Byddai hyn yn ein galluogi i drosglwyddo gwybodaeth yn fwy rhagweithiol lle y bo angen a symleiddio ein prosesau.

Atgyfnerthu ein pwerau i orfodi'r rheolau

Y ddirwy uchaf y gallwn ei rhoi am dorri rheolau'r DU ar gyllid gwleidyddol yw £20,000 am bob trosedd. Rydym wedi nodi'n flaenorol bod y swm hwn yn rhy isel. Mae ymgyrchwyr yn gwario miliynau o bunnoedd ar etholiadau a refferenda yn y DU, gan gynnwys gweithgareddau ymgyrchu digidol.

Rydym yn pryderu y gallai dirwy uchaf o £20,000 gael ei hystyried yn gost gwneud busnes i rai ymgyrchwyr. Nid yw'r gosb hon yn ffordd effeithiol o atal ymgyrchwyr rhag cyflawni troseddau.

Pan fo troseddau wedi'u cyflawni eisoes, nid yw'r gosb hon yn gymesur â'r effaith y gallai llawer o'r troseddau ei chael.  Mae hyn yn arbennig o wir pan nad yw ymgyrchwyr yn bleidiau gwleidyddol sefydledig, er enghraifft yng nghyd-destun refferendwm. Gallai'r ymgyrchwyr hyn boeni llai am y niwed a wneir i'w delwedd neu eu henw da yn y dyfodol.

Rydym am i lywodraethau a deddfwrfeydd y DU newid y gyfraith sy'n gosod terfyn ar y ddirwy uchaf y gallwn ei rhoi. Dylid cynnal ymgynghoriad ar lefel y ddirwy.  Credwn y dylai fod yn debyg i'r dirwyon a roddir gan reoleiddwyr eraill.

Ar hyn o bryd, dim ond yr heddlu ac erlynwyr all ymchwilio os byddant yn amau bod rheolau ymgeiswyr wedi'u torri. Yn y gorffennol, rydym wedi argymell y dylem gael pwerau i ymchwilio i achosion o dorri'r rheolau sy'n ymwneud â gwariant a rhoddion ymgeiswyr mewn etholiadau mawr. Byddai hyn yn cyfateb â'n cyfrifoldeb am wariant a rhoddion sy'n ymwneud â phleidiau ac ymgyrchwyr eraill. Byddai'r newid hwn, a'r newidiadau eraill a argymhellwyd gennym, yn ein helpu i ganfod a yw ymgeiswyr a phleidiau yn adrodd yn gywir ar eu gwariant digidol yn erbyn eu terfynau eu hunain.

Yr hyn y gall cwmnïau digidol a chyfryngau cymdeithasol ei wneud

Rydym am i'r cwmnïau digidol a chyfryngau cymdeithasol eu hunain wneud mwy er mwyn helpu i wella hyder mewn ymgyrchoedd digidol.  Maent wedi dangos eisoes eu bod yn gallu helpu i gynnal cyfreithiau penodol mewn gwahanol wledydd. Er enghraifft, maent wedi datblygu adnoddau er mwyn helpu i sicrhau nad yw eu defnyddwyr yn torri cyfreithiau hawlfraint.

Maent hefyd wedi dangos ei bod hi'n bosibl cymryd camau gweithredu mewn perthynas â hysbysebion gwleidyddol. Ar gyfer yr etholiadau a gynhelir yn yr Unol Daleithiau yn hydref 2018, mae Facebook, Google a Twitter wedi dweud y byddant yn mynd ati i gadarnhau a yw ymgyrchwyr wedi'u lleoli yno. Ni chaniateir iddynt ymgyrchu os nad ydynt wedi'u lleoli yno. Rydym am iddynt wneud newidiadau tebygol i'w polisïau hysbysebu yn y DU. Byddai hyn yn helpu i wella cydymffurfiaeth â rheolau'r DU cyn i bleidleiswyr hyd yn oed weld hysbysebion ymgyrchu.

Aeth Facebook a Google ati i newid eu polisïau ar hysbysebion gwleidyddol cyn y refferendwm yn Iwerddon ym mis Mai 2018, gyda Facebook yn atal ymgyrchwyr o'r tu allan i Iwerddon rhag prynu hysbysebion refferendwm a Google yn gwahardd unrhyw hysbysebion yr oedd modd talu amdanynt mewn perthynas â'r refferendwm.

Cafodd y ddau gwmni eu beirniadu gan ymgyrchwyr a sylwebyddion am gyflwyno'r newidiadau hyn yn agos iawn at y diwrnod pleidleisio.  Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar eu cynlluniau cyn hynny.

Rydym am i gwmnïau digidol a chyfryngau cymdeithasol sicrhau bod eu polisïau ar hysbysebion gwleidyddol yn adlewyrchu ein rheolau ar ymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn well. Gallai hyn gynnwys dileu hysbysebion neu ddeunydd ymgyrchu nad ydynt yn dangos yn glir pwy sy'n gyfrifol am eu hyrwyddo.  Gallai gynnwys cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth i ni am ymgyrchwyr y credwn eu bod wedi torri'r rheolau. Gallent hefyd chwilio am ymgyrchwyr y credant eu bod wedi torri'r rheolau a rhoi gwybod i ni.

Rydym hefyd am sicrhau y gall pobl yn y DU ddisgwyl i bob cwmni sy'n gweithredu yma ymdrin â hysbysebion gwleidyddol yn yr un ffordd, yn hytrach na bod gan gwmnïau gwahanol bolisïau unigol gwahanol.  Mae hyn yn golygu bod angen iddynt ymgynghori a gweithio'n agos gyda ni a chydag ymgyrchwyr yn y DU. Mae hefyd yn golygu y bydd angen i ni gadarnhau a yw cwmnïau newydd yn datblygu llwyfannau neu wefannau poblogaidd y bydd ymgyrchwyr yn dechrau eu defnyddio yn y DU yn y dyfodol.

Byddwn yn mynd ati i fonitro pa mor dda y mae cynigion gwirfoddol cwmnïau digidol a chyfryngau cymdeithasol yn gweithio yn yr etholiadau nesaf. Os nad yw'r cynigion yn gweithio'n dda, dylai llywodraethau a deddfwyr yn y DU ystyried rheoleiddio uniongyrchol.

Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchu a rhoddion