Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr

Cyhoeddi: 29 May 2019

Gwnaeth 11 o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr roi gwybod eu bod wedi derbyn cyfanswm o £6,835,235 mewn rhoddion yn ystod chwarter cyntaf 2019, yn ôl y ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn dros £3.7 miliwn yn llai na'r swm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter blaenorol, rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Rhagfyr 2018.

Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau bob chwarter. O fewn y ffurflenni hyn, mae pleidiau yn rhoi gwybod am y canlynol:

  • rhoddion a dderbyniwyd uwchlaw'r trothwy o £7,500 (£1,500 i unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai sydd gyda'i gilydd yn adio i gyfanswm sy'n uwch na'r trothwy adrodd
  • rhoddion y dylid bod wedi rhoi gwybod amdanynt yn ystod chwarteri blaenorol;
  • rhoddion nas caniateir y maent wedi'u derbyn a chamau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

O ganlyniad i roddion nas caniateir sy'n cael eu dychwelyd a'n bod yn cael gwybod am rai rhoddion yn hwyr, gall y swm y mae plaid yn rhoi gwybod amdano mewn ffurflen chwarterol fod yn uwch na'r swm a dderbyniwyd.

Gwnaeth 13 o bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2019 ac roedd y rhain yn cynnwys:

Plaid

Cyfanswm y rhoddwyd gwybod amdano yn ystod Ch1 2019

Rhoddion a dderbyniwyd yn ystod Ch1 2019 (ac eithrio cyllid cyhoeddus)

Cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd yn ystod Ch1 2019

Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod Ch1

Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr

£40,000

£40,000

£0

£40,000

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol

£3,709,701

£3,614,163

£65,845

£3,680,008

Y Blaid Gydweithredol

£10,150

£10,150

£0

£10,150

Y Blaid Werdd

£45,911

£18,300

£27,611

£45,911

Y Blaid Lafur

£3,558,311

£2,023,714

£1,496,138

£3,519,852

Y Democratiaid Rhyddfrydol

£1,122,605

£755,122

£249,236

£1,004,358

Plaid Cymru

£24,928

£0

£24,928

£24,928

Y Blaid Renew

£149,999

£149,999

£0

£149,999

Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)

£259,034

£61,262

£197,772

£259,034

Plaid Brexit

£1,000

£0

£0

£0

Y Blaid Radicalaidd

£10,000

£10,000

£0

£10,000

Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP)

£117,525

£117,525

£0

£117,525

Plaid Cydraddoldeb Merched

£35,000

£35,000

£0

£35,000

Cyfanswm

£9,069,848

£6,835,235

£2,061,530

£8,896,765

Yn ogystal â'r rhoddion hyn, yn ystod chwarter cyntaf 2019, derbyniodd chwe phlaid gyfanswm o fwy na £2 miliwn mewn cyllid cyhoeddus (manylion yn y tabl uchod).

Mae'r cyfansymiau a gyhoeddwyd heddiw ac sydd wedi'u nodi uchod yn cynrychioli swm y rhoddion hynny sy'n ddigon mawr i fod uwchlaw'r trothwyon adrodd. Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd islaw trothwyon adrodd i'r Comisiwn. Gan eu hystyried fel cyfanswm, gall y rhain fod yn ffynonellau sylweddol o incwm i'r pleidiau.

Methodd wyth plaid â bodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion hyn yn unol â'i Bolisi Gorfodi a bydd yn cyhoeddi unrhyw sancsiynau i'w cymhwyso yn ddiweddarach.

Benthyg

Roedd gwerth benthyciadau dyledus i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr o 31 Mawrth 2019 yn £3,658,521 sy'n gynnydd o £166,397 o gymharu â diwedd y chwarter diwethaf (31 Rhagfyr 2018).

Meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:

"Mae cyhoeddi data am roddion a benthyciadau pleidiau ar ein cronfa ddata ar-lein yn golygu y gall pleidleiswyr weld yn glir o ble yn union y mae'r pleidiau gwleidyddol yn cael eu cyllid. Mae hyn yn arwain at system cyllid gwleidyddol mwy tryloyw a dibynadwy ac yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.

"Lle mae pleidiau yn methu â chyflwyno eu ffurflen ar amser, ac nad oes unrhyw esboniad rhesymol am fethiant o'r fath, byddwn yn cymryd camau cadarn i ddelio â hyn yn unol â'n Polisi Gorfodi."

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn ystod Ch1 2019

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi rhoddion a derbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir bob mis. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi etholedig perthnasol a chymdeithasau aelodau.

Yn ystod chwarter cyntaf 2019, derbyniwyd £120,316 roddion gan 62 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, yn ogystal â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.

Math o dderbynnydd a reoleiddir

Gwerth rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd yn Ch1 2019

Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor yn ystod Ch1 2019

Cyfanswm y rhoddion a dderbyniwyd yn ystod Ch1 2019

Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

£0

£14,590

£14,590

Aelodau o Gynulliad Llundain Fwyaf

£58,500

£0

£58,500

Meiri Etholedig

£113,096

£0

£113,096

Swyddogion etholedig (cynghorwyr)

£340,375

£0

£340,375

Cymdeithasau aelodau

£530,480

£59,495

£589,975

Aelodau o Senedd yr Alban

£3,780

£0

£3,780

Cyfansymiau

£1,046,231

£74,085

£1,120,316

Rhagor o wybodaeth

Mae crynodeb o'r rhoddion y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau Prydain Fawr yn ystod chwarter cyntaf 2019, gan gynnwys y rhoddwyr mwyaf a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.

I gael gwybodaeth am roddion a chyllid cyhoeddus y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau gwleidyddol a derbynwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon, darllenwch ein datganiad i'r wasg.

Mae manylion llawn am roddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau

Diwedd  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
    • galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.

    Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.

  2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a benthyciadau i'r Comisiwn Etholiadol bob chwarter. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am yr holl roddion a benthyciadau dros £7,500 sy'n gysylltiedig â'r blaid ganolog, neu dros £1,500 os yw'n gysylltiedig â'r uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
  3. Gan fod y pleidiau ond yn rhoi gwybod am roddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn, nid yw'r ffigurau yn cynnwys pob rhodd a benthyciad i bleidiau gwleidyddol. Caiff y rhoddion a'r benthyciadau o dan y trothwyon hyn eu cofnodi yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
  4. Ystyr cyllid cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i wrthbleidiau y naill i Dŷ'r Cyffredin a'r llall i Dŷ'r Arglwyddi.
  5. Nodwyd ar y gofrestr bod rhai rhoddion yn dod o'r Comisiwn Etholiadol. Grantiau Datblygu Polisi yw'r rhain, a gafodd eu sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sy'n cael eu cynrychioli gan ddau aelod presennol neu fwy yn Nhŷ'r Cyffredin. Nod y grantiau yw helpu pleidiau i ddatblygu polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiad. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn bob blwyddyn at y diben hwn. Roedd yn ofynnol i adrodd am Grantiau Datblygu Polisi fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 20016 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
  6. Roedd 346 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr yn ystod chwarter un 2019. Roedd yn ofynnol i 67 ohonynt gyflwyno adroddiad chwarterol ar roddion ac i 56 ohonynt gyflwyno gwybodaeth am fenthyg o fewn y dyddiad cau. Roedd y pleidiau gwleidyddol eraill wedi'u heithrio (oni bai eu bod wedi derbyn rhoddion) am eu bod wedi cyflwyno pedair ffurflen dim trafodion yn olynol.
  7. Mae'r ffigurau y rhoddwyd gwybod amdanynt ar gyfer rhoddion a benthyciadau chwarterol wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigurau ar gael ar ein gwefan.
  8. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ystyrir yn dderbynnydd a reoleiddir a'i ofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
  9. Mae Aelodau Seneddol yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i'r Gofrestr o Fuddiannau Ariannol Aelodau.
  10. Mae Aelodau o Senedd yr Alban yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i Gofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
  11. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn rhoi gwybod am eu rhoddion i ni yn uniongyrchol. Yna, rydym yn cyflwyno'r wybodaeth hon bob mis fel rhan o'n rôl yn darparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.

Newyddiadurwr