Logo

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Post-poll public opinion

Un o feysydd craidd gwaith y Comisiwn Etholiadol yw gwella hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd. Er mwyn deall agweddau'r cyhoedd, yn dilyn pob set o etholiadau rydym yn cynnal arolwg o sampl sy'n cynrychioli pobl y wlad yn yr ardaloedd hynny lle y cynhaliwyd etholiadau.

Ym mis Hydref cyhoeddwyd 'Pleidleisio yn 2017' (PDF). Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi ac yn dadansoddi canlyniadau'r arolygon ôl-etholiad a gynhaliwyd yn 2017 ac yn rhoi trosolwg o agweddau cyhoeddus at etholiadau a phleidleisio.

Darllenwch y blog cysylltiedig gan Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymchwil.

I gael y canlyniadau llawn a'r setiau data ar gyfer ein holl ymchwil, cyfeiriwch at ein llyfrgell adroddiadau ymchwil.

Canfyddiadau allweddol

Yn ystod etholiadau 2017, gwelwyd cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd o gymharu â'r etholiad cyfatebol diwethaf – etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau cynghorau'r Alban yn bennaf. Hefyd, ymddengys bod lefel yr ymgysylltiad ymysg grwpiau oedran iau yn etholiad cyffredinol y DU wedi gwella ers 2015 – dengys ein hymchwil y gwelwyd cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd ynghyd â chynnydd yn lefel yr ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o'r etholiad ei hun ac o'r pleidiau a'r ymgeiswyr a oedd yn sefyll yn yr etholiad.

Er hyn, gwnaethom ganfod tystiolaeth gref o ddiffyg ymgysylltiad parhaus, yn enwedig ymysg pobl ifanc, gyda'r etholiadau lleol. Er y gwelwyd cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau hyn, roedd yn gymharol isel o hyd. Gwnaethom holi pobl yn Lloegr lle y cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol p'un a oeddent o'r farn eu bod wedi cael digon o wybodaeth i wneud dewis hyddysg ynghylch pwy i bleidleisio drosto – anghytunodd un rhan o dair o'r holl ymatebwyr, yn cynnwys bron hanner y bobl 18-34 oed. Rhaid gwneud mwy er mwyn sicrhau bod pob pleidleisiwr yn gallu cael gafael ar wybodaeth am yr etholiadau hyn a phwy y gallant bleidleisio drostynt, a'u bod yn manteisio ar hynny.

Yn gadarnhaol, rydym wedi canfod eto bod y rhan fwyaf o bobl o'r farn bod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn effeithiol – gyda hyd yn oed mwy o hyder ymysg y sawl sy'n pleidleisio – a bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses o fwrw eu pleidlais. Fodd bynnag, ni ddylid llaesu dwylo yn y maes hwn ac amlygodd ein hymchwil ym mha feysydd lle rydym o'r farn y mae angen gwneud rhagor o waith.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y system o gofrestru i bleidleisio ceir cefnogaeth i welliant, gyda dwy ran o dair yn cefnogi'r syniad y dylai etholwyr gofrestru'n awtomatig pan gânt rif Yswiriant Gwladol. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein hasesiad o'r system gofrestru etholiadol gan amlygu sawl maes i'w gwella.

Yn olaf, mae'r canfyddiad o dwyll etholiadol yn broblem mewn etholiadau yn y DU o hyd. Er bod y mwyafrif helaeth o'r farn bod pleidleisio'n broses ddiogel ar y cyfan, mae lefel o bryder, er ei bod yn seiliedig ar y sylw a roddir yn y cyfryngau yn fwy nag ar brofiad uniongyrchol. Gwnaethom nodi ein hargymhelliad ar gyfer cyflwyno gofyniad i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr ddangos dogfen adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr, gan adlewyrchu'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i dreialu'r gofyniad i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod mewn nifer o etholiadau lleol ym mis Mai 2018, a bydd y Comisiwn yn cynnal ac yn cyhoeddi gwerthusiad llawn, annibynnol o'r treialon hyn erbyn haf 2018.

I gael y canlyniadau llawn a'r setiau data ar gyfer ein holl ymchwil, cyfeiriwch at ein llyfrgell adroddiadau ymchwil.

Ymchwil