Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Rheoleiddio cyllid gwleidyddol ac ymgyrchu digidol: safbwynt y cyhoedd

Adroddiad gan GfK UK ar ran y Comisiwn Etholiadol.

Rheoleiddio cyllid gwleidyddol ac ymgyrchu digidol: safbwynt y cyhoedd (PDF)

Cefndir

Gofynnodd y Comisiwn Etholiadol i asiantaeth ymchwil GfK ymgymryd â gwaith ymchwil â'r cyhoedd. Roeddem am gael gwybod:

  • yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddeall am y ffordd y caiff ymgyrchoedd etholiadau a refferenda eu rheoleiddio ar hyn o bryd
  • yr egwyddorion a'r blaenoriaethau sydd ynghlwm wrth reoleiddio ymgyrchoedd, yn eu barn hwy
  • sut roeddent yn ymateb i ddeunydd ymgyrchu digidol a'r pryderon oedd ganddynt ynghylch ymgyrchu digidol
  • a oedd ganddynt unrhyw awgrymiadau i fynd i'r afael â'r pryderon hynny o safbwynt rheoleiddio.

Cynhaliodd GfK gyfres o grwpiau ffocws a chyfweliadau un i un ag aelodau o'r cyhoedd i drafod y pynciau hyn.  Fe'u cynhaliwyd mewn nifer o ddinasoedd ledled y DU. Dewiswyd y sawl a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil er mwyn sicrhau bod cymysgedd o grwpiau ethnig, oedran a chymdeithasol. Fe'u dewiswyd hefyd fel bod ganddynt farn wleidyddol wahanol a gwahanol lefelau o ymgysylltiad gwleidyddol.

Ymgyrchoedd digidol

Dywedodd y cyfranogwyr eu bod yn fwy tebygol o dalu sylw i negeseuon ymgyrchu digidol am fod mwy ohonynt a'u bod yn rhyngweithiol ac yn fwy diddorol, ond roeddent yn pryderu am ffynonellau'r negeseuon hynny ac yn cwestiynu eu credadwyedd. Roeddent o'r farn bod y rhyngrwyd yn rhoi mwy o gyfle i ffynonellau llai credadwy gamarwain pobl a lledaenu gwybodaeth ffug.  Roeddent yn pryderu ynghylch pwy oedd yn ariannu ymgyrchoedd digidol.

Rheoleiddio

Roedd y cyfranogwyr yn disgwyl y byddai ymgyrchoedd etholiadau a refferenda yn cael eu rheoleiddio. Roeddent yn disgwyl bod terfynau gwariant ar waith ond roeddent yn synnu pa mor uchel oeddent. Roeddent yn cytuno na ddylai arian na dylanwad tramor chwarae rhan mewn ymgyrchoedd yn y DU. Roeddent o'r farn nad oedd y ddirwy uchaf y gellid ei rhoi, sef £20,000, yn ddigon llym.   Roeddent yn meddwl tybed pa mor hawdd ydyw i'r cyhoedd gael gafael ar y data ar wariant a chyllid ar ein gwefan. Roeddent hefyd yn meddwl tybed pa mor ddefnyddiol yw cyhoeddi'r wybodaeth hon ar ôl etholiad. Roeddent yn synnu nad oedd y rheolau yn cwmpasu cynnwys negeseuon ymgyrchu.

Gwelliannau a'r camau nesaf

Roedd y cyfranogwyr yn teimlo y dylai fod cosbau llymach am dorri'r rheolau, mwy o dryloywder, ffynonellau niwtral i'r cyhoedd ddilysu gwybodaeth ymgyrchu a mwy o addysg i'r cyhoedd ynghylch ymgyrchu digidol.

Mae canlyniadau'r ymchwil hon wedi bwydo i mewn i'r hyn rydym wedi'i ysgrifennu yn ein hadroddiad ar ymgyrchu digidol.

  • Rydym wedi ailadrodd ein hargymhelliad y dylai deunydd digidol gynnwys argraffnod.  Byddai hyn yn helpu pleidleiswyr i wybod pwy sy'n gyfrifol am ymgyrch a'u helpu i benderfynu pa mor gredadwy yw'r deunydd.
  • Rydym wedi dweud y dylai pob un o lywodraethau a deddfwrfeydd y DU egluro na chaniateir i sefydliadau nac unigolion o dramor wario arian ar ymgyrchoedd etholiadau na refferenda.
  • Rydym wedi ailadrodd ein hargymhelliad y dylai'r ddirwy uchaf y gellid ei rhoi fod yn uwch na'r swm cyfredol o £20,000 fesul trosedd.
  • Rydym wedi dweud y dylai ymgyrchwyr ofyn am anfonebau mwy manwl ac ystyrlon gan eu cyflenwyr digidol er mwyn gwella tryloywder.
  • Rydym wedi dweud y byddwn yn gwneud cynigion i ymgyrchwyr a phob un o lywodraethau'r DU ynglŷn â newid y terfynau amser ar gyfer adrodd ar wariant. Byddai hyn yn golygu bod gwybodaeth ar gael i bleidleiswyr ac i ni yn gyflymach ar ôl ymgyrch, neu yn ystod ymgyrch.

Mae'r ymchwil hefyd yn nodi safbwyntiau'r cyhoedd am sawl mater arall nad aethom i'r afael â hwy yn ein hadroddiad ein hunain. Byddwn yn defnyddio'r rhain ar gyfer ein gwaith yn y dyfodol, lle y bônt yn berthnasol.

Ymchwil