Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar offeryn statudol drafft Llywodraeth y DU i ddiwygio'r broses o gynnal y canfasiad blynyddol o etholwyr

Rydym yn croesawu'r cynigion ar gyfer diwygio proses y canfasiad blynyddol ac yn eu gweld fel cam cyntaf pwysig yn y gwaith o foderneiddio'r system gofrestru etholiadol.

Pan gânt eu rhoi ar waith, bydd y newidiadau yn sicrhau proses fwy effeithlon ac yn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ddefnyddio eu hadnoddau cynyddol gyfyngedig i ganfod etholwyr cymwys y dylid eu hychwanegu at y gofrestr ac etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr.

Rhoi'r diwygiadau arfaethedig i'r canfasiad ar waith

Mae'r newidiadau arfaethedig yn dibynnu'n helaeth ar systemau paru data newydd. Os cânt eu rhoi ar waith mewn da bryd ar gyfer dechrau'r canfasiad nesaf yn ystod haf 2020, bydd yn hanfodol sicrhau bod yr elfennau digidol o'r diwygiadau yn cael eu datblygu a'u profi mewn ffordd gydgysylltiedig ac amserol.

Er mwyn sicrhau bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cael o leiaf chwe mis i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y newidiadau ac i feithrin y sgiliau a'r gallu i'w cyflawni, dylid cyflwyno'r ddeddfwriaeth a fydd yn galluogi canfasiad blynyddol diwygiedig i'r Senedd er mwyn gallu ei chymeradwyo a'i rhoi ar waith erbyn Rhagfyr 2019 fan bellaf.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno eu rheoliadau eu hunain er mwyn rhoi'r diwygiadau hyn ar waith ar gyfer eu cofrestrau llywodraeth leol perthnasol. Mae'n bwysig bod y rheoliadau mor gyson â phosibl ledled Prydain Fawr, er mwyn lleihau'r risg o ddrysu Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac etholwyr.

Mae'n hollbwysig ar gyfer amserlen canfasiad haf 2020 hefyd, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei chyflwyno i'w chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban a'i bod wedi cael ei rhoi ar waith erbyn Rhagfyr 2019 fan bellaf.

Diwygio a Moderneiddio Parhaus

Mae diwygiadau pellach a ddylai fod yn rhan o'r gwaith o foderneiddio'r broses gofrestru etholiadol ac a fyddai'n hwyluso'r broses ar gyfer dinasyddion a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Er enghraifft, gellid integreiddio'r broses yn ehangach i drafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill a galluogi dinasyddion i gofrestru ar yr un pryd ag y byddant yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Gellid defnyddio data'n well hefyd er mwyn casglu a chynnal cofrestrau etholiadol, fel sy'n digwydd mewn gwledydd eraill. Gallai Swyddogion Cofrestru Etholiadol, er enghraifft, ddefnyddio data cadarn gan sefydliadau cyhoeddus eraill drwy gydol y flwyddyn er mwyn nodi pobl sy'n gymwys i gofrestru ond nad ydynt wedi gwneud hynny. Byddai'r diwygiadau hyn yn cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod y cofrestrau yn fwy cywir a chyflawn.

Rydym wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb i ddangos sut y gellid rhoi'r newidiadau hyn ar waith yn y DU a byddwn yn eu cyhoeddi yn ystod yr haf.


This response sets out our views on the UK Government’s statutory instrument to amend the process for conducting the annual canvass of electors.

We have assessed:

  • whether the current annual canvass system meets its objectives of identifying people who should be added to the register, and identifying deletions from the register
  • the extent to which those objectives would be met if the order proposed by the UK Government was brought into force
  • the merits of alternative ways of meeting those objectives

Crynodeb

Croesawn gynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio'r broses ganfasio flynyddol ac ystyriwn fod hyn yn gam cyntaf pwysig tuag at foderneiddio'r system gofrestru etholiadol.

Rydym wedi asesu'r cynigion i ddiwygio'r broses ganfasio yn erbyn amcan y canfasiad, sef nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestr a nodi unrhyw etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr.

Dylai'r cynigion i ddiwygio'r broses ganfasio sicrhau mwy o effeithlonrwydd, gan alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ganolbwyntio eu hadnoddau mwyfwy prin ar y meysydd hynny â'r angen mwyaf ac felly gyflawni amcan y canfasiad yn well.

Fodd bynnag, mae llwyddiant unrhyw gamau i ddiwygio'r broses ganfasio yn dibynnu'n fawr ar adnoddau rhannu data newydd a gweithgareddau cynllunio a gweithredu gofalus a gwblheir mewn da bryd cyn dechrau canfasiad blynyddol 2020, a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2020.

Y tu hwnt i'r newidiadau a gynigir yn y rheoliadau drafft, gallai diwygiadau ychwanegol wella ymhellach effeithlonrwydd y broses gofrestru etholiadol. Ymhlith y rhain mae proses rhannu data digidol well rhwng sefydliadau sy'n cadw data cyhoeddus a Swyddogion Cofrestru Etholiadol; cofrestru awtomataidd ac awtomatig; ac integreiddio'r broses gofrestru etholiadol i fod yn rhan o drafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb o bob un o'r diwygiadau hyn a byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y canfyddiadau gyda'r Llywodraeth a grwpiau eraill â diddordeb.


Download our full report as a PDF


Y broses ganfasio ar hyn o bryd

Dros y degawdau diwethaf bu newidiadau mawr i agweddau allweddol ar y system gofrestru etholiadol, yn arbennig cyflwyno proses gofrestru dreigl drwy gydol y flwyddyn yn 2001, a chofrestru etholiadol unigol a chofrestru ar-lein yn 2014. Mae'r newidiadau hyn wedi golygu nad y canfasiad blynyddol yw'r unig ffordd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol nodi etholwyr newydd neu achos o newid cyfeiriad mwyach.

O dan y gofynion statudol llym presennol ar gyfer y canfasiad, rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gymryd yr un camau er mwyn cael ymateb gan bob cyfeiriad, hyd yn oed os na fu unrhyw newid i'r bobl sy'n byw yno sy'n gymwys i gael eu cofrestru.

Mae hyn yn golygu na all Swyddogion Cofrestru Etholiadol ganolbwyntio eu hadnoddau ar y meysydd hynny â'r angen mwyaf, ac mae angen swm anghymesur o adnoddau at ddibenion gwaith canfasio nad yw'n nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestru nac yn nodi etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr.

Ni chredwn fod y system bresennol yn cyflawni amcan y canfasiad cystal ag y dylai, ac ni chredwn ychwaith fod y model yn gynaliadwy yn y byrdymor i'r tymor canolig. Nodweddir y broses bresennol gan aneffeithlonrwydd, gyda swm anghymesur o adnoddau yn ofynnol i gyflawni gweithgarwch sy'n esgor ar ganlyniadau gostyngol.

Ein hasesiad

Fel rhan o'n hadroddiad mae'n ofynnol i ni asesu p'un a yw'r system bresennol yn cyflawni amcan y canfasiad, sef nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestr a nodi unrhyw etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr. Rydym wedi defnyddio tri math o dystiolaeth i wneud hyn:

  • Tystiolaeth ynghylch cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol. Rhydd syniad o ba mor effeithiol y bu prosesau cofrestru etholiadol presennol, gan gynnwys y canfasiad blynyddol, wrth gynnal y cofrestrau.
  • Tystiolaeth ynghylch y graddau mai'r canfasiad blynyddol yw'r prif ddull o gynnal y cofrestrau etholwyr o hyd.
  • Tystiolaeth ynghylch p'un a yw'r canfasiad blynyddol ar ei ffurf bresennol yn addas at y diben, yn enwedig o ystyried nad yw'n hyblyg a bod pwysau ar adnoddau o fewn llywodraeth leol.

Y system ganfasio flynyddol bresennol

Yn ei hanfod ymarfer casglu gwybodaeth am yr hyn a allai fod wedi'i ychwanegu at y gofrestr neu ei ddileu o'r gofrestr yw'r canfasiad blynyddol ac mae'n adnodd allweddol wrth helpu i gynnal cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau.

Yn hanesyddol, y canfasiad blynyddol oedd y prif adnodd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddod i wybod enwau a chyfeiriadau pobl â hawl i gofrestru ond sydd heb eu cofrestru, neu sydd wedi cofrestru heb fod ganddynt hawl i wneud hynny.

Dros y degawdau diwethaf, bu newidiadau mawr i agweddau allweddol ar y system gofrestru etholiadol sydd wedi cael effaith ar y ffordd y cynhelir y cofrestrau. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys cofrestru treigl (a gyflwynwyd yn 2001 er mwyn galluogi pobl i gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn); a chofrestru etholiadol unigol a chofrestru ar-lein yn 2014. Mae'r newidiadau hyn yn golygu nad y canfasiad blynyddol yw'r unig ffordd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol nodi etholwyr newydd neu achos o newid cyfeiriad mwyach.

Yn ystod y canfasiad blynyddol, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon ffurflen ganfasio (Ffurflen Ymholiadau Cartrefi (HEF)) i bob eiddo yn eu hardal. Mae'r HEF yn gofyn i breswylwyr nodi p'un a fu unrhyw newidiadau i gyfansoddiad y cartref. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i nodi unrhyw un sydd ar goll o'r gofrestr y gall fod angen ei wahodd i wneud cais i gofrestru, neu lle y gall unigolion fod wedi symud a bod angen ystyried p'un a ydynt yn gymwys i aros ar y gofrestr. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon dau lythyr atgoffa a chynnal o leiaf un ymweliad ag unrhyw eiddo nad yw'n ymateb. Nid ymarfer cofrestru yw'r canfasiad blynyddol oherwydd mae'n rhaid i unrhyw etholwyr cymwys posibl a nodir mewn HEF wneud cais i gofrestru'n unigol cyn y gellir eu hychwanegu at y gofrestr.

Cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau

Gwnawn ymchwil i fesur ansawdd y cofrestrau etholwyr yn rheolaidd. Mae tystiolaeth ynghylch cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau yn helpu i roi syniad o ba mor effeithiol yw'r dulliau presennol o gynnal y gofrestr.

Dangosodd ein hastudiaeth o gofrestrau Prydain Fawr ym mis Rhagfyr 2015 (y rhai a gyhoeddwyd ar ddiwedd y broses o newid i gofrestru etholiadol unigol) fod y cofrestrau llywodraeth leol 91% yn gywir ac 84% yn gyflawn, gyda'r cofrestrau seneddol 91% yn gywir ac 85% yn gyflawn. Golygodd y ffigurau hyn fod tua 8 miliwn o bobl ar goll o'r cofrestrau etholiadol.

Mae ein hymchwil i'r cofrestrau etholiadol ym Mhrydain Fawr yn cadarnhau bod cysylltiad rhwng mathau penodol o ddemograffeg a lefelau is neu uwch o gyflawnrwydd, gydag oedran a symudedd yn dal i gynrychioli'r newidynnau â'r effaith fwyaf: mae pobl ifanc a'r rhai sy'n fwy tebygol o symud tŷ yn llai tebygol o fod wedi cofrestru. Nododd ein hastudiaeth ym mis Rhagfyr 2015 fod:

  • Cysylltiad clir rhwng symud tŷ a chyflawnrwydd: gan mai cronfa ddata sy'n seiliedig ar eiddo yw'r gofrestr, mae mwy o symudedd yn gysylltiedig â lefelau is o gyflawnrwydd ond po hiraf y bydd unigolyn wedi bod yn byw mewn eiddo, y mwyaf tebygol y bydd o ymddangos ar y gofrestr etholwyr.
  • Cafwyd y lefel uchaf o gyflawnrwydd ar gyfer pobl 65 oed a throsodd (96%) gyda'r lefel isaf yn cael ei chofnodi ar gyfer cyrhaeddwyr (pobl ifanc 16 a 17 oed, 45%). Roedd hefyd ddirywiad mewn cyflawnrwydd ymhlith y rhai o dan 45 oed. Roedd y cwymp ymhlith pobl 18-19 oed, 25-34 oed a 35-44 oed yn ystadegol arwyddocaol.

Er bod tystiolaeth yn awgrymu bod cywirdeb y cofrestrau etholwyr wedi gwella'n sylweddol ers cyflwyno cofrestru etholiadol unigol (91% yn gywir ar 1 Rhagfyr 2015, gwelliant o bedwar pwynt canran wrth newid i gofrestru etholiadol unigol), gwnaethom amcangyfrif bod rhwng 4 a 4.5 miliwn o gofnodion anghywir ar gofrestrau etholwyr llywodraeth leol o hyd

Mae tystiolaeth ynghylch cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau yn awgrymu nad yw'r dulliau presennol a ddefnyddir i gynnal y cofrestrau, gan gynnwys y canfasiad blynyddol, yn gweithio mor effeithiol ag y gallent o reidrwydd, yn enwedig mewn perthynas â nodi grwpiau nas cofrestrir yn ddigonol yn draddodiadol. Un o fanteision diwygio'r broses ganfasio yw y gallai helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i fynd i'r afael â thangofrestru drwy ei gwneud hi'n haws targedu adnoddau yn y meysydd hynny â'r angen mwyaf, gan arwain at nodi a chofrestru etholwyr cymwys yn fwy effeithiol. Fodd bynnag, er ein bod o'r farn bod diwygio'r broses ganfasio yn gam cadarnhaol, bydd angen diwygio'r system gofrestru etholiadol llawer mwy er mwyn ateb heriau cyflawni cofrestrau cywir a chyflawn yn llawn. Ymhelaethir ar y pwynt hwn ym mhennod 4 o'r adroddiad hwn.

Cofrestru y tu allan i'r cyfnod canfasio

Gall gwybodaeth am batrymau gweithgarwch cofrestru etholiadol feithrin gwell dealltwriaeth o effeithiolrwydd y canfasiad blynyddol, yn enwedig pan gymharwn hwn â dulliau eraill o gynnal y gofrestr. Mae nifer gynyddol o ddinasyddion yn cofrestru y tu allan i'r cyfnod canfasio. Nododd datganiad polisi ar y cyd llywodraethau'r DU ‘in 2016 there were twice as many additions to the register outside the canvass period than during the canvass, signalling that the canvass itself is becoming less important in registering eligible electors’.

Dangosodd ein dadansoddiad ein hunain a gyhoeddwyd yn 2017 fod nifer y ceisiadau i'w gweld yn gysylltiedig â pha mor agos yw digwyddiadau etholiadol proffil uchel. Er enghraifft, cafodd mwy na 2.9 miliwn o geisiadau i gofrestru i bleidleisio eu gwneud rhwng cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 18 Ebrill 2017 a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar 22 Mai. Cafodd mwy na 96% o'r ceisiadau hyn eu gwneud gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Mae'n rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddefnyddio eu cyllidebau blynyddol lleol i ddelio ag effaith y fath ddigwyddiadau etholiadol cenedlaethol nas cynlluniwyd.

Mae'r cysylltiad cynyddol rhwng cofrestru etholiadol a digwyddiadau etholiadol yn golygu bod y canfasiad blynyddol dilynol yn llai tebygol o nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestr, sy'n tanseilio'r gwaith o gyflawni rhan annatod o amcan y canfasiad. Hefyd, ychydig iawn o hyblygrwydd sydd gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol i adlewyrchu hyn yn eu dulliau canfasio, gan arwain at aneffeithlonrwydd.

Mae rhyw fath o gyswllt ar lefel y cartref yn debygol, yn y byrdymor i'r tymor canolig o leiaf, o fod yn ddull allweddol o hyd a ddefnyddir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol i archwilio eu cofrestrau, adolygu cywirdeb eu cofnodion a chymryd camau i gael gwared ar gofnodion diangen, yn enwedig yn y blynyddoedd hynny pan nad oes unrhyw ddigwyddiadau pleidleisio mawr. Fodd bynnag, mae patrymau newidiol gweithgarwch cofrestru yn golygu bod adolygiad o'r canfasiad blynyddol yn amserol. Dylai hyn hefyd gynnwys archwilio'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol rhwng gweithgareddau sy'n benodol i etholiadau a'r canfasiad blynyddol o eiddo.

Mewn oes ddigidol, wrth i'r gwaith o foderneiddio ein hetholiadau fynd rhagddo, mae cyfle gwirioneddol i gyflawni mwy o welliannau sylfaenol i'r system. Dylai'r rhain ganolbwyntio ar fuddiannau a chostau atebion cofrestru mwy unedig, a gaiff eu llywio gan ddata, sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys arfarnu lle a fformat y canfasiad blynyddol mewn system o'r fath.

Anhyblygrwydd y canfasiad blynyddol

Mae'r bennod flaenorol yn tanlinellu un o'r prif broblemau gyda'r broses ganfasio bresennol: ei natur anhyblyg.

2.17Er mai amcan y canfasiad yw nodi unrhyw etholwr y gallai fod angen ei ychwanegu at y gofrestr etholwyr neu ei ddileu o'r gofrestr honno, nid yw'r rhan fwyaf o bobl (88% o breswylwyr ledled Prydain Fawr ar gyfartaledd) yn symud tŷ mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Er hyn, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, o 1 Gorffennaf bob blwyddyn, anfon Ffurflen Ymholiadau Cartrefi i bob cartref yn eu hardal sy'n dweud pwy sydd wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad hwnnw ac yn gofyn am i newidiadau gael eu nodi lle y bo angen. Pan na chânt ymateb i'r ffurflen gychwynnol honno mae'n rhaid iddynt anfon dau nodyn atgoffa drwy'r post ac ymweld â'r cartref er mwyn annog ymateb. Mae hyn yn golygu, yn dibynnu pryd neu os bydd cartref yn ymateb, y gellir cysylltu â nhw hyd at bedair gwaith yn ystod y canfasiad. Nid yw hyn yn ddefnydd arbennig o effeithlon o arian cyhoeddus ac mae'n cryfhau'r achos dros ddatblygu ffyrdd eraill o bennu p'un a yw unrhyw newidiadau yn debygol o fod wedi digwydd mewn perthynas ag unrhyw eiddo penodol.

Heriau o ran adnoddau

Datgelodd ymatebion i'n harolwg gwybodaeth reoli a anfonwyd at Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ddechrau mis Hydref 2017 fod nifer ohonynt yn wynebu heriau o ran adnoddau mewn perthynas â'r canfasiad, a arweiniai at broblemau yn recriwtio ac yn cadw nifer ddigonol o ganfaswyr. Roedd hefyd sawl achos lle yr ymddengys i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, mewn ymgais i ganfod dull mwy cost-effeithiol o ymdrin â'r canfasiad, fabwysiadu arferion nad oeddent yn gwbl unol â gofynion cyfreithiol dosbarthu ffurflenni HEF a chysylltu ag unrhyw un nad yw wedi ymateb iddynt.

Nid yw'r dull presennol o weithredu 'un ateb i bawb' yn ddigon hyblyg i fodloni gwahanol ofynion unigolion, mathau o eiddo na phwysau o ran adnoddau o fewn awdurdodau lleol, ac nid yw ychwaith yn golygu y gellir archwilio a defnyddio syniadau arloesol o ran prosesau a thechnoleg. Mae hyn yn tanseilio ymhellach effeithiolrwydd y dull gweithredu presennol.

Y broses ganfasio arfaethedig

Dylai'r broses ganfasio newydd alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr i ganolbwyntio eu hadnoddau yn y meysydd hynny â'r angen mwyaf, a chyflawni'n well amcan y canfasiad na'r system bresennol.

Drwy alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gael gafael ar ddata cenedlaethol cadarn am y boblogaeth breswyl, bydd yn eu helpu i nodi cyfeiriadau lle mae'n debygol y bu newid yn nifer y bobl sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio.

Bydd y broses arfaethedig yn lleihau cost y gweithgarwch sy'n ofynnol ar gyfer eiddo lle na fu unrhyw newid mewn preswylwyr; bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gallu canolbwyntio eu hymdrechion ar gyfeiriadau lle y bu newid.

Mae'r newidiadau hyn yn dibynnu'n fawr ar adnoddau rhannu data newydd, y bydd angen eu cyflwyno'n ofalus mewn da bryd cyn dechrau canfasiad blynyddol 2020, a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2020.

Datblygu'r model canfasio diwygiedig

Cafodd nifer o fodelau canfasio amgen eu treialu yn 2016 a 2017. Sefydlwyd y cynlluniau peilot gan Swyddfa'r Cabinet a Swyddogion Cofrestru Etholiadol unigol, a gwnaethom eu gwerthuso. Tanlinellodd ein gwerthusiad y potensial i wneud gwell defnydd o ddata er mwyn gwella effeithlonrwydd gwaith canfasio, yn enwedig drwy leihau'r gwaith dilynol y mae angen ei wneud gyda chartrefi y perir data ar eu cyfer ac arbed costau.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth o'r cynlluniau peilot, daeth llywodraethau'r DU, yr Alban a Chymru i'r casgliad mai model hybrid, a oedd yn dwyn ynghyd elfennau llwyddiannus pob un o'r modelau ac yn mireinio rhai prosesau, oedd y ffordd orau ymlaen. Darperir ar gyfer y model hwn yn y rheoliadau drafft sy'n ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal ymarfer paru data yn gyntaf, a fydd yn pennu p'un a ddylid dilyn proses ganfasio cyffyrddiad ysgafnach newydd neu'r broses ganfasio lawn wedi'i diwygio ar gyfer eiddo penodol. Y syniad yw y caiff y broses ganfasio ei symleiddio ar gyfer yr eiddo hynny nad ydynt yn debygol o fod wedi newid o ran cyfansoddiad y cartref, gan alluogi'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i dargedu ei adnoddau lle mae angen ymateb a diweddaru'r gofrestr etholwyr. Mae proses eithrio hefyd ar gyfer rhai mathau o eiddo nad ydynt yn gweddu cymaint i ddulliau canfasio traddodiadol – er enghraifft, cartrefi gofal, Tai Amlfeddiannaeth a neuaddau preswyl myfyrwyr – sy'n galluogi'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i geisio gwybodaeth am breswylwyr mewn ffordd wahanol.

Mae'n ofynnol i ni asesu p'un a fyddai'r broses ganfasio ddiwygiedig arfaethedig yn cyflawni amcan y canfasiad, sef nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestr a nodi unrhyw etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr.

Er mwyn ateb y cwestiwn hwn rydym wedi canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Ymarfer paru data'r canfasiad blynyddol
  • Y broses ganfasio ddiwygiedig lawn
  • Gohebiaeth y canfasiad a dyluniad y ffurflenni
  • Gwaith cynllunio a gweithredu effeithiol

Buddiannau posibl y cam paru data

Mae'r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal ymarfer paru data rhagnodedig, a defnyddir y canlyniadau i bennu p'un a ddylid dilyn proses 'cyffyrddiad ysgafn' neu'r broses ganfasio lawn wedi'i diwygio. Dylai hyn alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi cartrefi nad ydynt yn debygol o fod wedi newid cyfansoddiad, gan roi arwydd nad yw'n debygol y bydd angen ychwanegu na dileu etholwyr o'r gofrestr ar gyfer yr eiddo hynny. Bydd hyn yn arwain at ffordd fwy effeithlon o nodi cartrefi lle mae'n debygol bod eu cyfansoddiad wedi newid a lle byddai'r broses ganfasio lawn yn angenrheidiol. I'r perwyl hwnnw, dylai paru data olygu bod modd i amcan y canfasiad gael ei gyflawni o hyd, ond yn fwy effeithlon i'r graddau y byddai'r prosesau a ddilynir yn fwy cymesur â'r tebygolrwydd bod newid wedi digwydd mewn cartref penodol.

Bydd y broses ganfasio cyffyrddiad ysgafnach newydd yn lleihau cost y gweithgarwch sy'n ofynnol ar gyfer eiddo lle na fu unrhyw newid mewn preswylwyr – bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gallu canolbwyntio eu hymdrechion ar gyfeiriadau lle bu newid.

Amodau paru data llwyddiannus

Mae sawl ffactor a fydd yn bwysig i lwyddiant paru data. Mae a wnelo'r cyntaf â ph'un a fydd y setiau data i'w defnyddio i baru data o ansawdd digon uchel i alluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i wneud penderfyniadau cadarn ynghylch pa broses i'w dilyn ar gyfer pob eiddo yn eu hardal.

Mae'r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i gofnodion ar y gofrestr etholwyr gael eu paru yn erbyn set ddata genedlaethol; defnyddir System Gwybodaeth am Gwsmeriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau (CIS DWP) i wneud hyn. Mae'r datganiad polisi ar y cyd yn nodi bod set ddata CIS DWP 95.4% yn gywir, gan gyfeirio at ganlyniadau cynllun peilot paru data o 2012. Mae'r datganiad yn egluro bod CIS DWP  ‘is also acknowledged as one of the most comprehensive datasets in the country, covering virtually all those aged 16 years and above. Following discussions with DWP there is no reason to believe this accuracy rate has decreased, indeed it is more likely that the accuracy has probably increased’. Mae hyn yn awgrymu bod CIS DWP yn set ddata gynhwysfawr, a chywir ar y cyfan, gan roi rhywfaint o sicrwydd na ddylai ei defnyddio arwain at ganfasio eiddo mewn ffordd nad yw wedi'i thargedu'n briodol.

Nododd y gwerthusiad o 'gadarnhad' (h.y. paru data enwau a chyfeiriadau ar y gofrestr etholwyr yn erbyn CIS DWP er mwyn cefnogi'r broses o newid i gofrestru etholiadol unigol) fod 79% o etholwyr wedi'u paru yn erbyn cofnodion DWP. Mae hyn yn awgrymu bod gan y set ddata gwmpas cyffredinol da ac y dylai ddarparu sail gost-effeithiol i ddiwygio'r canfasiad.

Efallai y bydd ffynonellau data cenedlaethol dibynadwy eraill ar gael yn y dyfodol, a allai o bosibl wella effeithiolrwydd yr ymarfer paru data a pharatoi'r ffordd ar gyfer diwygiadau pellach i'r broses gofrestru. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau drafft wedi'u diogelu at y dyfodol yn y ffordd hon ac felly byddem yn argymell eu diwygio'n briodol.

Mae memorandwm esboniadol y rheoliadau drafft yn nodi y gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol ystyried  ‘any other information or local data sources they hold as part of the data match step’. Gall y wybodaeth hon gael ei hystyried fel rhan o benderfyniad Swyddog Cofrestru Etholiadol i ddilyn trywydd proses cyffyrddiad ysgafn mewn perthynas ag eiddo. Deallwn mai'r bwriad yw i Swyddogion Cofrestru Etholiadol allu cael gafael ar ddata lleol gan ddefnyddio Rheoliad 23, 35 neu 35A, ond byddem yn argymell, er mwyn sicrhau eglurder, y cyfeirir at y pwerau hyn yn benodol yn y rheoliadau drafft.

Yn fwy sylfaenol, rhaid sicrhau mai dim ond data lleol cywir, o ansawdd da, a ddefnyddir wrth baru cofnodion cofrestru etholiadol cyn y canfasiad blynyddol. Nid yw'r rheoliadau drafft yn nodi'r mathau o ffactorau y dylai Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu hystyried wrth benderfynu p'un a ddylid defnyddio setiau data lleol penodol ai peidio. Felly, bydd angen canllawiau clir er mwyn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi a defnyddio setiau da mewn modd priodol.

Pwysigrwydd parhaus canfasio llawn

Mae'r rheoliadau drafft yn darparu i'r broses ganfasio flynyddol lawn gael ei chynnal mewn achosion lle mae'r ymarfer paru data yn nodi y bu newid yng nghyfansoddiad cartref.

Cytunwn y dylai'r cyswllt cychwynnol ag eiddo sy'n destun y broses ganfasio lawn fod ar ffurf anfon ffurflen bapur i'r eiddo. Lle bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol o'r farn y gallai fod rhyw newid mewn meddiannaeth, ni fyddai'n rhesymegol cysylltu ag unigolyn sydd wedi'i gofrestru yn yr eiddo ar ffurf electronig.

Cytunwn y dylai Swyddogion Cofrestru Etholiadol barhau i orfod cysylltu â'r eiddo hyn sawl gwaith, er mwyn sicrhau eu bod yn cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen i nodi newidiadau i breswylwyr, neu gadarnhau na fu unrhyw newid mewn gwirionedd.

Hefyd, cefnogwn roi rhyw fath o ddisgresiwn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol amrywio'r ffordd y gwneir gwaith cyswllt dilynol, gan eu galluogi i dargedu eu hadnoddau yn seiliedig ar asesiad o'r hyn a wnaiff weithio orau. Dangosodd ein gwerthusiad o gynlluniau canfasiad blynyddol peilot 2017 y gallai defnyddio gwahanol ddulliau cysylltu arwain at gyfraddau ymateb uwch o gymharu â phan wnaed yr un peth droeon.

Bydd yn hanfodol cadw'r broses ganfasio lawn mewn achosion lle mae'r ymarfer paru data wedi nodi y bu newid yng nghyfansoddiad cartref er mwyn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni amcan y canfasiad, sef nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestr a nodi etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr.

Gohebiaeth y canfasiad a dyluniad y ffurflenni

Mae'r rheoliadau drafft yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i ddylunio tri math o ffurflen ganfasio bapur ysgrifenedig: ffurflen bapur i'w defnyddio yn ystod canfasiad cyffyrddiad ysgafn (Gohebiaeth Ganfasio A); ffurflen ganfasio i'w defnyddio ar gyfer y broses ganfasio lawn wedi'i diwygio (Ffurflen Ganfasio); a dewis amgen papur i'r Ffurflen Ganfasio i'w ddefnyddio yn ystod y broses ganfasio lawn (Gohebiaeth Ganfasio B). Nodwn nad oes gan Ohebiaeth Ganfasio B unrhyw gynnwys rhagnodedig. Croesawn yr hyblygrwydd a'r lle i arloesi a gynigir gan hyn a byddwn yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chyflenwyr meddalwedd rheoli etholiad (EMS) er mwyn sicrhau ei fod yn ddewis amgen effeithiol i'r Ffurflen Ganfasio. Byddwn hefyd yn cynnal profion ymhlith defnyddwyr er mwyn sicrhau bod yr ohebiaeth hon yn hawdd i ddinasyddion ei deall a'i chwblhau.

Gwaith cynllunio a gweithredu effeithiol

Mae'r newidiadau y darperir ar eu cyfer yn y rheoliadau drafft yn dibynnu'n fawr ar adnoddau paru data newydd. Bydd yn hanfodol datblygu a phrofi elfennau digidol o'r diwygiadau mewn modd amserol, a gyd-gysylltir, er mwyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno mewn da bryd ar gyfer dechrau canfasiad blynyddol 2020, a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2020. Mae'n amlwg bod y cyfle i roi'r cynigion ar waith yn fach ac nid oes fawr ddim lle i lithro.

Deallwn fod gwaith digidol yn mynd rhagddo mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gyda chyflenwyr EMS, DWP, Swyddfa'r Cabinet a gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol, er mwyn datblygu'r seilwaith angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o ddiwygio'r canfasiad. Bydd y gwaith hwn yn gofyn am gyfathrebu effeithiol rhwng partneriaid a sylw agos gan reolwyr er mwyn sicrhau bod elfennau allweddol o'r broses o ddiwygio'r canfasiad yn cael eu cyflawni ar amser. Bydd yn hanfodol gwneud newidiadau i systemau EMS a'r gwasanaeth digidol cofrestru etholiadol unigol er mwyn cefnogi ymarferion paru data lleol a chenedlaethol, ynghyd â chynnal asesiad cadarn o anghenion hyfforddi er mwyn nodi union ofynion Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau. Bydd hefyd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol allu cael gafael ar wybodaeth reoli ddibynadwy, drwy eu systemau EMS, er mwyn eu helpu i ddeall effaith eu gweithgareddau yn ystod y canfasiad blynyddol ar ei newydd wedd.

Dylai'r ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio'r broses ganfasio fod yn glir o leiaf chwe mis cyn i ganfasiad 2020 ddechrau (h.y. dylai rheoliadau gael eu gwneud gan y Senedd erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019). Bydd hyn yn galluogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y newidiadau, a darparu digon o amser i gynnal profion ymhlith defnyddwyr a chyfieithu ffurflenni a deunyddiau, yn ogystal â darparu canllawiau diwygiedig i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Bydd unrhyw oedi i'r broses o wneud y ddeddfwriaeth yn cynyddu'r risgiau o ran cyflwyno'r cynigion mewn ffordd amserol ac effeithiol.

Hefyd, bydd angen i lywodraethau'r DU ystyried sut y caiff y newidiadau pwysig hyn eu cyflwyno ochr yn ochr â diwygiadau sylweddol eraill ym meysydd cofrestru etholiadol ac etholfraint, sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan lywodraethau a deddfwrfeydd. Mae'r rhain yn cynnwys galluogi pob dinesydd Prydeinig sy'n byw dramor i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, galluogi'r rheini sy'n 16 a 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, ac ymestyn yr etholfraint yn etholiadau'r Alban i ddinasyddion o bob gwlad sy'n byw'n gyfreithlon yn yr Alban.

Ffyrdd eraill i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt

Y tu hwnt i'r newidiadau a gynigir yn y rheoliadau drafft, mae diwygiadau pellach a fyddai'n helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni amcan y canfasiad yn well yn y dyfodol.

Dylai llywodraethau'r DU adeiladu ar y defnydd o ddata DWP ar ddechrau'r canfasiad blynyddol, ac ystyried ffyrdd ychwanegol o wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholwyr. Dylent ddysgu o'r ffyrdd mae gwledydd eraill yn defnyddio data i lunio a chynnal cofrestrau etholwyr.

Gallai Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddefnyddio data cadarn oddi wrth sefydliadau cyhoeddus eraill drwy gydol y flwyddyn i nodi pobl nad ydynt wedi'u cofrestru ar hyn o bryd. Byddai cymryd camau i annog ceisiadau i gofrestru drwy gydol y flwyddyn yn gwella'r gwaith o baru â data DWP ar ddechrau'r canfasiad. Gellid datblygu'r gwaith diwygio hwn ymhellach drwy gyflwyno systemau cofrestru awtomataidd neu awtomatig.

Dylai'r broses gofrestru etholiadol hefyd gael ei hintegreiddio'n ehangach o fewn trafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill. Byddai hyn yn golygu y gellir gwneud cais i gofrestru i bleidleisio ar yr un pryd â defnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill, a byddai'n cynnig buddiannau posibl eraill o ran gwella cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau.

Rydym wedi cynnal astudiaethau o ddichonoldeb er mwyn dangos y gellid cyflwyno'r newidiadau hyn yn y DU. Byddwn yn cyhoeddi'r rhain yn haf 2019, ac edrychwn ymlaen at drafod y canfyddiadau gyda llywodraethau a grwpiau eraill â diddordeb.

Diwygio a moderneiddio'r broses yn barhaus

Mae diwygio'r canfasiad blynyddol yn gam pwysig tuag at foderneiddio'r system gofrestru etholiadol, ond dylid gwneud mwy er mwyn sicrhau bod gennym broses gofrestru effeithiol ac unedig drwy gydol y flwyddyn. Rydym am i lywodraethau'r DU ddatblygu cynlluniau tymor hwy ar gyfer diwygio cofrestru etholiadol sy'n adeiladu ar y cynigion o ran diwygio'r canfasiad.

Gweithredu ac integreiddio diwygiadau i'r broses ganfasio yn llwyddiannus o fewn arferion busnes yn ôl yr arfer yn y system gofrestru etholiadol yw'r flaenoriaeth glir yn y byrdymor i'r tymor canolig. Fodd bynnag, mae'r gwaith cyffredinol o ymgorffori dull o reoli'r canfasiad blynyddol sydd wedi'i lywio gan ddata'n fwy yn cynnig cryn gyfle i ddiwygio'r system ymhellach. Dylai hyn anelu at adlewyrchu disgwyliadau newidiol pobl mewn cymdeithas ddigidol drwy adeiladu ar y defnydd cynyddol o ddata ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat er budd dinasyddion ac er mwyn cyflawni arbedion effeithlonrwydd.

Y nod yw system gofrestru etholiadol sy'n fwy cysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan ei gwneud hi hyd yn oed yn symlach i gofrestru i bleidleisio i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Rhaid i hyn gynnwys ystyried y potensial i integreiddio ceisiadau mewn trafodion gwasanaeth cyhoeddus eraill, a gwneud gwell defnydd o ddata cenedlaethol i nodi pleidleiswyr newydd neu bobl sy'n symud tŷ. Hefyd, dylai dulliau cofrestru awtomatig gael eu hystyried ymhellach, gan ddysgu o brofiadau gwledydd eraill.

Astudiaethau dichonoldeb

Er mwyn helpu i lywio'r drafodaeth am waith diwygio a moderneiddio parhaus, yn ddiweddar gwnaethom gwblhau cyfres o astudiaethau dichonoldeb o'r diwygiadau canlynol:

Gwell defnydd o ddata cyhoeddus gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol

Ar hyn o bryd, mae data a ddelir yn lleol gan awdurdodau lleol ac eraill ar gael i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn helpu i nodi etholwyr posibl a rheoli eu cofrestrau etholwyr. Roeddem am archwilio buddiannau posibl darparu data cyhoeddus nad yw'n lleol i bleidleiswyr a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth helpu i nodi pobl sydd wedi newid cyfeiriad a diweddaru eu manylion gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft wrth wneud cais am drwydded yrru neu basbort.

Prosesau cofrestru uniongyrchol neu awtomatig

Gan adeiladu ar well defnydd o astudiaethau o ddata cyhoeddus, gwnaethom ystyried opsiynau i gynyddu'r lefel o awtomeiddio o fewn y system gofrestru etholiadol. Gwnaethom ystyried ymarferoldeb cyflwyno systemau: (a) cofrestru awtomatig – lle byddai dinasyddion yn cael eu hychwanegu at y gofrestr etholwyr, neu fod eu cyfeiriad yn cael ei ddiweddaru, heb fod angen iddynt gymryd unrhyw gamau pellach o gwbl; (b) cofrestru awtomataidd – lle byddai data dibynadwy yn sail i gais cofrestru etholiadol unigolyn, ond byddai angen i'r unigolyn barhau i gymryd rhai camau pellach i gadarnhau'r wybodaeth cyn cael ei ychwanegu at y gofrestr.

Integreiddio cofrestru etholiadol mewn trafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill

Gwnaethom ystyried i ba raddau y gallai'r broses gofrestru etholiadol ei gwneud yn bosibl i wneud cais i gofrestru i bleidleisio ar yr un pryd â defnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Nodi a rheoli ceisiadau i gofrestru dyblyg yn well

Gwnaethom hefyd ystyried sawl ffordd bosibl o nodi a rheoli ceisiadau dyblyg yn well o fewn y system er mwyn deall sut y gellid cyflwyno diwygiadau o'r fath yn y DU a llywio'r drafodaeth.

Yn bwysig, nodwyd bod y diwygiadau hyn yn ymarferol o safbwynt technegol ac y gellid eu cyflwyno heb newid strwythur y system gofrestru etholiadol yn sylweddol yn y DU. Yn arbennig, gallai'r dechnoleg a ddefnyddir gan Wasanaeth Digidol Cofrestru Etholiadol Unigol fod yn sail i'r diwygiadau hyn.

Byddai angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol allu defnyddio ystod ehangach o ffynonellau data cenedlaethol, gan gynnwys data trafodion sefydliadau yn cynnwys Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, Swyddfa Basbortau EM, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r rhai o fewn y sector addysg er mwyn helpu i nodi, targedu ac o bosibl gofrestru dinasyddion.

Ymhlith buddiannau posibl y diwygiadau hyn mae:

  • Gwella cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau drwy roi adnoddau ychwanegol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol nodi ac o bosibl gofrestru dinasyddion cymwys newydd, gan gynnwys grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol; a helpu i sicrhau bod cofnodion cofrestru etholiadol yn cael eu diweddaru
  • Cynnig dulliau cofrestru ychwanegol er mwyn gwneud y system gofrestru etholiadol yn fwy hygyrch
  • Gwella'r gallu i ganfod ac atal twyll, a darparu'r sail angenrheidiol i unrhyw newid i ffyrdd gwahanol o bleidleisio yn y dyfodol
  • Lleihau costau cyffredinol cofrestru etholiadol ymhellach drwy brosesau mwy effeithlon.

Bwriadwn gyhoeddi canfyddiadau'r astudiaethau dichonoldeb yr haf hwn a byddem yn croesawu'r cyfle i'w trafod â llywodraethau a grwpiau eraill â diddordeb.


Cefndir

Croesawn y cynigion i ddiwygio'r canfasiad cofrestru etholiadol blynyddol ym Mhrydain Fawr a'r cyfle i rannu sylwadau mwy penodol ar Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) 2019 drafft Llywodraeth y DU. Lansiodd Swyddfa'r Cabinet yr ymgynghoriad ffurfiol gyda'r Comisiwn Etholiadol ar 27 Mawrth 2019. Yna anfonwyd fersiwn ddrafft o'r rheoliadau drafft atom ar 21 Mai 2019 ac mae ein sylwadau a nodir yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu ein hadolygiad o'r fersiwn ddiweddarach honno.

Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn cyflwyno eu rheoliadau eu hunain er mwyn rhoi'r diwygiadau hyn ar waith mewn perthynas â chofrestrau llywodraeth leol yn yr Alban a Chymru, gyda'r nod o sicrhau bod y priod reoliadau mor gyson â phosibl, a thrwy hynny leihau'r risg o beri dryswch i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac etholwyr. Rydym wrthi'n ymateb i Reoliadau drafft Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (yr Alban) 2019 a disgwyliwn gael cais i ymateb i'r ddeddfwriaeth Gymreig yn fuan.

Mae Adran 8 o Ddeddf Gweinyddu a Chofrestru Etholiadol 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn baratoi adroddiad sy'n asesu'r canlynol:

  • P'un a yw'r system bresennol yn cyflawni amcan y canfasiad, sef nodi etholwyr cymwys a ddylai gael eu hychwanegu at y gofrestr a nodi unrhyw etholwyr y mae angen eu dileu o'r gofrestr
  • I ba raddau y byddai amcan y canfasiad yn cael ei gyflawni petai'r gorchymyn a wnaed o dan Adran 7 o Ddeddf Gweinyddu a Chofrestru Etholiadol 2013 yn dod i rym
  • *Rhinweddau ffyrdd eraill o gyflawni amcan y canfasiad.

Rydym wedi croesawu deialog gynnar â swyddogion o Swyddfa'r Cabinet ynghylch manylion technegol y rheoliadau drafft. Rhestrir yr ymholiadau a'r sylwadau technegol sy'n weddill gennym yn Atodiad A i'r adroddiad hwn.

Yn ystod yr ymgynghoriad cawsom sylwadau ar y cynigion i ddiwygio'r broses ganfasio a'r rheoliadau drafft gan Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA) a Chymdeithas Aseswyr yr Alban (SAA). Rydym wedi ystyried y rhain wrth lunio ein hymateb.

Mae'r sylwadau a roddir yn yr adroddiad hwn hefyd yn adeiladu ar ein hymateb ym mis Tachwedd 2018 i ddatganiad polisi ar y cyd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ar gynigion i ddiwygio'r canfasiad blynyddol.

Cyhoeddiadau