Y Comisiwn Etholiadol

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Ymateb i gais Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am sylwadau ar God Ymarfer ar gyfer defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ymgyrchu gwleidyddol

20 Rhagfyr 2018

Mae'r ymateb hwn yn nodi safbwyntiau'r Comisiwn Etholiadol ar gais Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am sylwadau ar God Ymarfer ar gyfer defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ymgyrchu gwleidyddol.

Crynodeb

Mae'n bleser gennym ymateb i gais Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am sylwadau, a gobeithio y byddwn yn helpu'r Swyddfa i ddatblygu'r Cod Ymarfer drafft. Rydym yn croesawu ffocws Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y defnydd o ddata personol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n cyd-fynd â'n nod o sicrhau gwell tryloywder i bleidleiswyr.

Rhaid i'r sawl sy'n trin data personol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol gydymffurfio â'r rheolau diogelu data. Mae'n creu tryloywder ar gyfer pleidleiswyr ynghylch pwy sy'n ceisio dylanwadu arnynt. Rydym yn cytuno â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ei bod yn bwysig bod pawb sy'n trin data personol fel rhan o ymgyrch wleidyddol yn ymwybodol o'r Cod ac yn cael eu cwmpasu ganddo. Bydd hyn yn sicrhau bod ganddynt y canllawiau i gydymffurfio â chyfraith diogelu data.

Dylai'r Cod gadarnhau hawliau pleidleiswyr i sicrhau bod eu data yn cael eu diogelu a gwybod sut y caiff eu data eu defnyddio, a hawliau ymgyrchwyr i ddefnyddio data penodol at ddibenion ymgyrchu.

Dylai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod yn glir ynghylch y niweidiau y mae'r Cod yn mynd i'r afael â nhw, a'r ffordd y bydd y Cod yn delio â nhw. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y cais am bŵer newydd. Bydd yn helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ddrafftio'r Cod, ac yn helpu eraill i ymateb i'r ymgynghoriad pellach arfaethedig.

Dylai'r Cod nodi'n glir y diffiniad o weithgareddau ymgyrchu gwleidyddol. Dylai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd ystyried ehangu'r diffiniad y tu hwnt i ymgyrchu gwleidyddol sy'n gysylltiedig ag etholiad neu refferendwm.  Mae ein hymateb yn rhoi awgrymiadau i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth eu hystyried.

Mae'n bwysig bod fframwaith cyfreithiol clir a chydlynol ar waith i ymgyrchwyr yn cynnwys ar gyfraith etholiadol a chyfraith diogelu data. Felly, dylai cyd-destun y Cod geisio ategu cyfraith etholiadol, ein Codau gwariant arfaethedig ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr, a'n Cod Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr.

Byddem yn croesawu rhagor o drafodaethau gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wrth i'r Swyddfa ddadansoddi'r ymatebion a datblygu ei Chod. Bydd y trafodaethau hyn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o effaith gyffredinol y Cod. Byddant hefyd yn ein galluogi i gyflwyno ymateb llawn i'r ymgynghoriad diweddarach ar y Cod Ymarfer.

Ymateb

Rydym yn croesawu ffocws Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y defnydd o ddata personol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol

Mae'n cyd-fynd â'n nod o sicrhau gwell tryloywder i bleidleiswyr. Rhaid i'r sawl sy'n trin data personol ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol gydymffurfio â'r rheolau diogelu data. Mae'n creu tryloywder ar gyfer pleidleiswyr ynghylch pwy sy'n ceisio dylanwadu arnynt.

Mae cyfathrebu rhwng pleidleiswyr a phobl sydd am gael eu hethol yn agwedd bwysig ar y broses ddemocrataidd. Mae ymgyrchwyr bob amser wedi defnyddio data personol er mwyn targedu'r etholwyr a gwneud y defnydd gorau o'u hadnoddau ymgyrchu. Fodd bynnag, mae ymgyrchu digidol wedi newid y ffordd y caiff ymgyrchu gwleidyddol ei gynnal. Er bod cyfathrebu ar-lein yn fodd i gynyddu cyfranogiad, mae hefyd yn codi cwestiynau ynghylch sut y caiff data eu defnyddio i dargedu pleidleiswyr.

Yn gynharach eleni, gwnaethom gomisiynu gwaith ymchwil i agwedd y cyhoedd ar ymgyrchu digidol a rheoleiddio cyllid gwleidyddol (GfK: Political finance regulation and digital campaigning: a public perspective, cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018). Dywedodd y grwpiau ffocws y gallai hysbysebion wedi'u targedu neu negeseuon gan ymgyrchwyr fod yn ddefnyddiol. Ond roeddent yn pryderu am y ffordd roedd eu data personol yn cael eu casglu a'u defnyddio. Mae hyn yn dangos bod pleidleiswyr am ddeall mwy ynghylch pwy sy'n cynnal ymgyrchoedd gwleidyddol a sut maent yn gwneud hynny.

Rheoleiddio ymgyrchu gwleidyddol

Nid oes rheoleiddiwr unigol yn gyfrifol am reoleiddio'r rhyngrwyd. Bydd angen i unrhyw gamau i fynd i'r afael â phryderon y cyhoedd fod yn ymdrech ar y cyd gan reoleiddwyr y DU. Mae ein cylch gorchwyl yn gorgyffwrdd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn.

Fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol, mae gennym rôl yn hyrwyddo buddiannau pleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall ymgyrchwyr gael gwybodaeth i bleidleiswyr. Rydym yn rheoleiddio er mwyn sicrhau bod ymgyrchwyr yn dilyn y rheolau ar wariant ar etholiadau a refferenda. Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am wariant ar ymgyrchu yn cynnwys cost y data a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am sicrhau bod tryloywder i'r unigolyn o ran sut y caiff ei ddata personol eu prosesu a'u defnyddio. Rydym yn cefnogi'r broses o gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael i bleidleiswyr ynghylch y ffordd y caiff eu data eu defnyddio i'w targedu.

Mae'r gorgyffwrdd yn ein cylchoedd gorchwyl yn golygu bod yn rhaid i ni a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth gydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, byddem yn croesawu rhagor o drafodaethau gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wrth i'r Swyddfa baratoi'r Cod Ymarfer drafft.

Nod y Cod

Rydym yn argymell y dylai'r Cod gadarnhau'r egwyddor o sicrhau gwell tryloywder i'r unigolyn gyda'r angen i ymgyrchwyr a phleidleiswyr allu cyfathrebu â'i gilydd.

Rydym yn deall mai nod Cod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw gwella tryloywder ynghylch sut y caiff data personol eu defnyddio ar gyfer ymgyrchu gwleidyddol. Dylai'r Cod fod yn ffynhonnell canllawiau ymarferol i bleidiau ac ymgyrchwyr gydymffurfio â chyfraith diogelu data. Yn dilyn hynny, rydym yn rhagweld y bydd gan bleidleiswyr fwy o hyder yn y ffordd y caiff eu data eu casglu a'u defnyddio.

Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig sicrhau y gall pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr eraill gyfathrebu â phleidleiswyr. Mae ymgyrchu a thrafod yn rhan hanfodol o'r broses ddemocrataidd. Yn gyfreithiol, caiff ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr fynediad at ddata personol penodol, fel cofrestrau etholiadol. Cânt ddefnyddio'r data hynny er mwyn cyfathrebu â'r etholaeth at ddibenion ymgyrchu, ac er mwyn sicrhau bod rhoddion gan unigolion yn rhai a ganiateir.

Dylai'r Cod gadarnhau hawliau pleidleiswyr i sicrhau bod eu data yn cael eu diogelu a gwybod sut y caiff eu data eu defnyddio, gyda hawliau ymgyrchwyr i ddefnyddio data penodol at ddibenion ymgyrchu.

Creu Cod statudol

Nodwn fod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi gofyn i Lywodraeth y DU am bŵer newydd i greu'r Cod hwn. Bwriedir iddo greu sail statudol i'r Cod. Bydd hyn yn rhoi'r un statws i'r Cod ag i bedwar Cod arall Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Rydym yn awgrymu y dylai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod yn glir ynghylch y niweidiau y mae'r Cod newydd yn ceisio mynd i'r afael â nhw, a'r ffordd y bydd y Cod yn delio â nhw. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y cais am bŵer newydd. Rydym yn credu y bydd hyn yn helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ddrafftio'r Cod. Bydd hefyd yn helpu eraill i ymateb i'r ymgynghoriad y mae swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ei gynllunio.

Gallwn weld buddiannau rhoi Cod statudol ar waith, er mwyn pwysleisio pwysigrwydd y pwnc dan sylw a sicrhau gorfodadwyedd. Er enghraifft, rydym newydd gynnal ymgynghoriad ar Godau statudol arfaethedig yn ymwneud â gwariant ar etholiadau gan ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol. Bydd ein Codau yn creu sicrwydd ynghylch sut i gydymffurfio â'r rheolau cyllid gwleidyddol ac yn mynd i'r afael â meysydd penodol lle y gallai cyfraith etholiadol fod yn gliriach. Bydd y Codau yn gymwys pan fydd y terfynau gwariant ar gyfer etholiadau ar waith. Maent yn cwmpasu rhai agweddau ar y ffordd i adrodd ar wariant sy'n gysylltiedig â defnyddio a chasglu data wrth ymgyrchu.

Byddai gennym ddiddordeb mewn cyfnewid safbwyntiau â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar yr hyn mae pob un ohonom yn ei ddysgu o ddatblygu'r priod Godau hyn.

Diffinio ymgyrchu gwleidyddol

Mae cais Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am safbwyntiau yn nodi y bydd y Cod yn diffinio ymgyrchu gwleidyddol fel a ganlyn: “[an] activity, which relates to elections or referenda, in support of, or against, a political party, a referendum campaign or a candidate standing for election”. Mae'r diffiniad yn dda, ond efallai y bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ystyried rhai materion ychwanegol:

Diffinio beth yw gweithgarwch ymgyrchu gwleidyddol

Gall ymgyrchu gwleidyddol ddigwydd unrhyw bryd, fel y nodir yn y cais am safbwyntiau. Mewn cyfraith etholiadol, mae cyfnod o amser cyn etholiad neu refferendwm lle mae'r rheolau ar wariant ar ymgyrchu yn gymwys. Gelwir hyn yn 'gyfnod a reoleiddir'. Mae angen i ymgyrchwyr sy'n gwario arian ar lunio deunydd ymgyrchu ar gyfer yr etholiad neu'r refferendwm hwn y tu allan i'r cyfnod a reoleiddir, ond sy'n ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod, gofnodi'r gost o hyd. Yn yr un modd, mae'n rhesymol y caiff data a gesglir ar unrhyw adeg mewn pryd at ddiben etholiad neu ymgyrch refferendwm eu cwmpasu gan y Cod.

Mae rhywfaint o orgyffwrdd yn niffiniad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o weithgareddau ymgyrchu gwleidyddol, a'r diffiniad o weithgareddau etholiadau a refferenda mewn cyfraith etholiadol. Mae diffiniad arfaethedig Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ehangach na'r gweithgareddau a gaiff eu diffinio mewn cyfraith etholiadol. Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch rhwng y ddau ddiffiniad, dylai'r Cod nodi ei ddiffiniad o weithgarwch ymgyrchu gwleidyddol yn fanylach, ac egluro sut mae'n gysylltiedig â diffiniadau mewn cyfraith etholiadol. Byddem yn fwy na pharod i gyfrannu at yr agwedd hon.

Ehangu'r diffiniad y tu hwnt i ymgyrchu gwleidyddol mewn etholiadau a refferenda

Er bod ymgyrchu gwleidyddol yn aml yn digwydd ar gyfer etholiad neu refferenda, gall hefyd ddigwydd mewn cysylltiad â gweithgareddau eraill. Er enghraifft:

  • Mewn cysylltiad â materion mewnol pleidiau. Gallai hyn gynnwys etholiadau i ddewis ymgeiswyr a gweithgareddau eraill i aelodau. Gallai hefyd gwmpasu etholiadau ar gyfer arweinyddiaeth mewn plaid wleidyddol.
  • Ymgyrchoedd yn seiliedig ar faterion. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd na chânt eu cynnal yn y cyfnod cyn etholiad neu refferendwm, ond sy'n ceisio dylanwadu ar farn wleidyddol yn y DU. Gallai'r ymgyrchoedd hyn gael eu hanelu at ddylanwadu ar farn y cyhoedd neu farn a phenderfyniadau gwleidyddion.

Dylai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ystyried p'un a ddylid ehangu cwmpas y Cod er mwyn iddo fod yn gymwys yn y sefyllfaoedd hynny o ganlyniad i'r ymatebion a gaiff i'r cais am safbwyntiau a'r pŵer maent yn ei geisio.

Rydym o'r farn bod dadleuon cryf o blaid cymhwyso'r Cod at faterion mewnol pleidiau. Er enghraifft:

  • Bydd etholiadau ar gyfer arweinyddiaeth mewn plaid yn cael effaith hirdymor ar ymgyrchoedd etholiadol y blaid. Gan nad yw'r llinell rhwng ymgyrchu etholiadol ar gyfer y cyhoedd ac ymgyrchu mewnol o fewn plaid bob amser yn glir i'r cyhoedd, efallai y bydd pobl yn disgwyl y dylid cwmpasu Cod yn ymwneud â'r materion gwleidyddol hyn.
  • Ceir rheolau eisoes mewn cyfraith etholiadol sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelodau pleidiau gwleidyddol ddatgan rhoddion a dderbyniwyd ganddynt mewn perthynas â datblygu eu gweithgareddau gwleidyddol eu hunain ymhellach. Byddai hynny'n ffactor perthnasol i'w ystyried os bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn bwriadu i gwmpas y Cod hwn gysylltu'n agos â chwmpas cyfraith etholiadol.

Os bydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ehangu'r diffiniad arfaethedig i gynnwys ymgyrchoedd sy'n seiliedig ar fater penodol, byddai'n estyn y Cod i ymgyrchoedd nad ystyrir eu bod ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn draddodiadol. Byddai hyn yn ehangu ymhellach y diffiniad o ymgyrchu gwleidyddol, a byddai angen i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddisgrifio'n ofalus pa fath o ymgyrchoedd y dylid eu cwmpasu. Er enghraifft, gallai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddewis diffiniad sy'n debyg i sut mae cyfraith etholiadol yn cwmpasu gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae'r rheolau hyn yn cwmpasu gwariant y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr yn ystod cyfnodau etholiadau. Neu gallai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddewis diffiniad sy'n ehangach na hynny. Er enghraifft, os yw am i'r Cod gwmpasu unrhyw ymgyrchoedd sy'n ymwneud â dylanwadu ar farn y cyhoedd y tu allan i gyfnodau etholiadau, neu farn a phenderfyniadau gwleidyddion.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am yr ymatebion i'r rhan hon o'r cais am safbwyntiau, ac rydym yn fwy na pharod i helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ystyried sut i ddiffinio cwmpas y Cod arfaethedig yn fanylach. Os na fwriedir i'r Cod fod yn gymwys yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn awgrymu y dylid egluro'r rheswm dros y penderfyniad hwn yn y Cod er mwyn osgoi dryswch.

I bwy y dylai'r Cod fod yn gymwys

Rydym yn cytuno â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ei bod yn bwysig bod pawb sy'n trin data personol fel rhan o ymgyrch wleidyddol yn ymwybodol o'r Cod ac yn cael eu cwmpasu ganddo. Bydd hyn yn sicrhau bod ganddynt y canllawiau i gydymffurfio â chyfraith diogelu data.

Rydym yn cytuno bod gan y sawl sy'n darparu gwasanaethau i ymgyrchwyr, er enghraifft cwmnïau dadansoddeg data a llwyfannau digidol, gyfrifoldebau ar y cyd dros drin data personol. Gallai'r Cod fod yn gyfle defnyddiol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fynd i'r afael ag unrhyw faterion maent wedi'u nodi mewn perthynas â darparwyr gwasanaethau. Yn ein hadroddiad ar ymgyrchu digidol (Mehefin 2018) gwnaethom argymell y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol ar ymgyrchwyr i ddarparu anfonebau mwy manwl ac ystyrlon gan eu cyflenwyr digidol. Dylai'r anfonebau nodi gwybodaeth sy'n ein helpu i gymhwyso'r rheolau ar wariant. Rydym yn credu y byddai newid y rheolau ar adrodd hefyd yn helpu i wella tryloywder ar y ffordd y caiff hysbysebion eu targedu gan ymgyrchwyr a darparwyr gwasanaethau. Credwn fod hyn yn mynd law yn llaw â cheisio mwy o eglurder ar y ffordd y mae ymgyrchwyr a'u cyflenwyr yn trin data personol.

Gall fod gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth resymau dros gyfyngu'r Cod i fathau penodol o sefydliadau. Er enghraifft, oherwydd yr awdurdodaeth y gall y Cod fod yn gymwys iddi. Byddai gennym ddiddordeb mewn trafod hyn ymhellach â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn seiliedig ar yr ymatebion a gânt a'r math o bŵer cyfreithiol maent yn ei geisio.

Rydym yn gobeithio y bydd y rhai sy'n defnyddio data personol ar gyfer ymgyrchoedd gwleidyddol yn achub ar y cyfle i roi sylwadau ar y cwestiynau penodol yn y papur sy'n ceisio safbwyntiau. Mae'n galonogol bod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ac yn ymgynghori â nhw.

Cynnwys y Cod

Dylai Cod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth geisio ategu cyfraith etholiadol a'n Codau gwariant arfaethedig ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr, a'r Cod Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr (Rhagfyr 2014). Rydym yn ystyried ei bod yn bwysig bod fframwaith cyfreithiol clir a chydlynol ar waith ar gyfer ymgyrchwyr yn cynnwys ar gyfraith etholiadol a chyfraith diogelu data.

Dylai'r Cod gydnabod bod gan bleidiau ac ymgyrchwyr gyfyngiadau gwariant mewn etholiadau. Mae'n debyg y bydd cydymffurfiaeth â chyfraith diogelu data yn draul etholiad adroddadwy. Mae costau casglu a dadansoddi data i'w defnyddio wrth dargedu pleidleiswyr mewn etholiadau yn cyfrif tuag at derfyn gwariant plaid a rhaid adrodd am hyn wrthym ni. Bydd angen i'r gost hon gynnwys agweddau ar gydymffurfiaeth â chyfraith diogelu data. Dylai'r Cod hefyd gydnabod y bydd ymgyrchwyr yn annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio. Mae hynny'n golygu y byddant mewn rhai achosion yn trin ceisiadau i gofrestru a cheisiadau ar gyfer pleidleisio absennol. Rhaid trin y ceisiadau hynny â gofal a'u trosglwyddo i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn croesawu rhagor o drafodaethau â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod canllawiau ar y ddwy gyfres o reolau yn gyson ac yn glir. Dylai'r Codau fod yn unol ag egwyddorion rheoleiddio gwell.

Nodwn y bwriedir i'r Cod roi canllawiau ar y defnydd o gofrestrau etholiadol. Croesawn y broses o gynnwys y pwnc hwnnw yn y Cod, a amlygwyd yn adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Democracy Disrupted? (Gorffennaf 2018). Credwn y bydd ymgyrchwyr a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cael budd o gael mwy o eglurder ar sut y dylent sicrhau bod yr etholwyr yn ymwybodol o'r ffordd y caiff eu data eu defnyddio. Mae hwn yn gam pwysig a fydd yn gwella tryloywder i bleidleiswyr.

Rydym yn awgrymu y dylai Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth asesu'r problemau y bwriedir i'r Cod fynd i'r afael â nhw yn ofalus, gan y bydd yn helpu i nodi'r cynnwys cywir.  Gobeithio y bydd y Cod yn gallu manteisio ar wersi o ymchwiliad dadansoddeg data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac archwiliadau a gynlluniwyd ag ymgyrchwyr gwleidyddol er mwyn iddo roi enghreifftiau ymarferol o agweddau ar gyfraith diogelu data y mae angen i ymgyrchwyr gael help â hi.

Byddem yn croesawu rhagor o drafodaethau â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y pynciau a gwmpesir gan y Cod wrth iddo gael ei ddatblygu. Byddwn hefyd yn cyflwyno ymateb llawnach i'r ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer drafft pan gaiff ei gyhoeddi.

Cyhoeddiadau