Ein rôl fel rheoleiddiwr cyllid pleidiau gwleidyddol
Rydym yn rheoleiddio cyllid a gwariant gwleidyddol. Rydym yn:
- sicrhau bod pobl yn deall y rheolau a cheisio rhwystro pobl rhag eu torri.
- gallu ymchwilio a chosbi pan fo pobl yn torri'r rheolau
- cyhoeddi data ar gyllid a gwariant gwleidyddol
MaeDeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)yn gosod rheolau ynghylch:
- o ble gall pleidiau gwleidyddol a grwpiau ac unigolion eraill a reoleiddir dderbyn arian
- faint gallant ei wario ar ymgyrchu mewn etholiadau penodol
- tryloywder ein system wleidyddol
Rydym yn gweithio i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio â'r rheolau hyn drwy:
- roi cyngor a chanllawiau i helpu pobl i ddeall y rheolau
- derbyn, dadansoddi a chyhoeddi gwybodaeth am roddion i bleidiau a gwariant ymgyrch
- monitro pa mor dda y dilynir y rheolau
- cynghori llywodraethau ar newidiadau i'r rheolau a gwneud argymhellion ar newidiadau
- delio gyda thor-rheolau
Rydym yn gweithredu gydag ymdriniaeth gymesur i sicrhau fod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cyflawni ein hamcanion. Rydym yn:
- targedu ein hadnoddau lle y cânt yr effaith fwyaf, ac
- yn osgoi gosod beichiau diangen ar y rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio
Mae hefyd rheolau ar gyfer ymgeiswyr, asiantiaid ac ymgyrchwyr eraill ynNeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (RPA)
Cyngor a Chanllawiau
Rydym yn cyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a'u hasiantiaid, ymgyrchwyr a sefydliadau ac unigolion eraill sydd â chyfrifoldebau o dan PPERA.
- Canllawiau i bleidiau
- Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
- Canllawiau i ymgyrchwyr
- Gwybodaeth ynghylch sefydliadau ac unigolion eraill yr ydym yn eu rheoleiddio
Mae ein canllawiau yma i helpu'r rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio i gydymffurfio â'r rheolau. Rydym yn cynnig cyngor yn ogystal, ac yn hapus i ateb cwestiynau ynghylch y rheolau. Rydym yn cynnal seminarau,gweminaraua hyfforddiant arbennig.
Rydym yma i'ch helpu, felly cysylltwch â ni. Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio ein rhif ffôn newydd 0333 103 1929 neu gallwch barhau i ddefnyddio'r hen rif 020 7271 0616 , neu e-bostio pef@electoralcommission.org.uk.
Datblygu polisi
Rydym yn cynghori llywodraethau ar newidiadau arfaethedig i'r rheolau ac yn gwneud argymhellion i newid lle credwn y byddai'r newid yn gwella'r system.
Ym mis Gorffennaf, yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o system bresennol y DU o reoliadau cyllid pleidiau ac etholiadau, fe gyhoeddom adroddiad o'n canfyddiadau, gan wneud argymhellion i'r Llywodraeth i ddiweddaru'r gyfraith ynghylch pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill. Bydd y newidiadau hyn yn gwella'r wybodaeth sydd ar gael i bleidleiswyr, yn gwella effeithiolrwydd y rheolau a gwneud y rhwymedigaethau yn fwy cymesur o ran y rheiny y mae'r Comisiwn yn eu rheoleiddio.
Darllen ein hadroddiad yn dilyn ein hadolygiad o'r system reoleiddio bresennol
Cyhoeddi gwybodaeth ynghylch rhoddion, cyfrifon pleidiau a gwariant
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ynghylch y rhoddion a'r benthyciadau, cyfrifon blynyddol a gwariant etholiadol y mae gofyn i bleidiau ac eraill adrodd amdanynt i ni:
Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth a dadansoddiad cryno o adroddiadau rhoddion chwarterol a chyfrifon blynyddol pleidiau:
- Dadansoddiad o roddion a benthyciadau a adroddwyd i ni gan bleidiau
- Dadansoddiad o ddatganiad cyfrifon blynyddol pleidiau
Monitro cydymffurfiaeth
Rydym yn gwirio'r wybodaeth sy'n cael ei gyflwyno gan bleidiau, ac yn gwerthuso risg y rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio i flaenoriaethu ein monitro. Cyn etholiadau a refferenda mawr/pwysig rydym hefyd yn monitro ymgyrchoedd targed i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio gyda'r rheolau ar wariant a rhoddion.
- Darllenwch ein nodyn briffio ar fonitro ymgyrchu ar gyfer Refferendwm yr UE (PDF) (Saesneg)
- Darllenwch ein nodyn briffio ar fonitro ymgyrchu ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ledled y DU ym mis Mai 2016 (PDF) (Saesneg)
- Darllenwch ein nodyn briffio ar fonitro ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2015 (PDF) (Saesneg)
Torri'r rheolau
Mae gennym bwerau gorfodi i ymchwilio yn rhagweithiol i honiadau fod rheolau wedi'u torri, yn ogystal â cham-bersonadu. Os ydym yn darganfod bod torri rheolau wedi digwydd, mae gennym bwerau i gyflwyno cosbau amrywiol. Os credwn y gallai'r tor-rheol gael effaith sylweddol ar dryloywder a chywirdeb cyllid pleidiau ac etholiadau, gallwn basio'r mater i'r heddlu neu'r awdurdod perthnasol sy'n erlyn.
Rydym yn cyhoeddi crynodebau o ganlyniadau ein holl waith achos. Fel arfer mae'r rhain yn fyr, ond weithiau byddwn yn cyhoeddi crynodeb fanylach.