Kieran Rix
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Ymunodd Kieran â'r Comisiwn ym mis Mawrth 2018.
Am y ddeng mlynedd diwethaf mae Kieran wedi gweithio ym myd trafnidiaeth, yn gyntaf yn yr Adran Drafnidiaeth lle arweiniodd ar strategaeth ariannol a bu'n gweithio ar gemau Olympaidd 2012, cyn ymuno â HS2 fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Yn fwyaf diweddar, bu'n gweithio yn Highways England fel Cyfarwyddwr Adran yn arwain ar y Strategaeth Buddsoddi mewn Ffyrdd.
Cyn ymuno â'r Adran Drafnidiaeth, cafodd Kieran yrfa amrywiol yn gweithio yn Nhrysorlys EM, Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Gyhoeddus (CIPFA) ac mewn llywodraeth leol. Mae'n gyfrifydd cymwys ac yn gymrawd CIPFA.