Pwyllgor y Llefarydd
Ar y dudalen hon cewch wybodaeth am y Pwyllgor y Llefarydd a sut mae'n gweithio.
Sefydlwyd Pwyllgor y Llefarydd gan yr un Ddeddf Seneddol a greodd y Comisiwn Etholiadol.
Ymysg pethau eraill, mae'r Pwyllgor yn:
- goruchwylio'r gweithdrefnau ar gyfer dewis unigolion i'w cynnig ar gyfer eu penodi neu eu hail-benodi fel Comisiynwyr Etholiadol (gan gynnwys Cadeirydd y Comisiwn)
- archwilio ein hamcangyfrifon a'n cynlluniau pum mlynedd
Sut rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor y Llefarydd
Bob blwyddyn ry'n ni'n cyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant, ynghyd â chynllun strategol pum mlynedd i Bwyllgor y Llefarydd. Gallant wedyn addasu'r rhain cyn eu cyflwyno i Dŷ'r Cyffredin.
Nid yw ein Cadeirydd nac unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn yn aelodau o Bwyllgor y Llefarydd. Fodd bynnag efallai bydd gofyn i'n Cadeirydd a'n Prif Weithredwr fynychu cyfarfodydd, sydd fel arfer yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn
Mae Bridget Phillipson AS wedi'i benodi gan y Llefarydd i ateb cwestiynau gan ASau am ein gwaith ni.
Darganfod mwy
Mae adroddiadau ar weithgareddau'r Pwyllgor Llefarydd, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd ar gael i'w gweld ar dudalen Pwyllgor y Llefarydd ar wefan y Senedd:
- Darllenwch fwy am Bwyllgor y Llefarydd ar wefan y Senedd.
- Gweld aelodaeth bresennol Pwyllgor y Llefarydd.
Mae atebion i gwestiynau ysgrifenedig a thrawsgrifiadau cwestiynau llafar i'w cael yn Hansard drwy wefan y Senedd: