Return to The Electoral Commission Homepage

Intro

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae rheolau o ran rhoi argraffnodau ar ddeunyddiau etholiadol argraffedig. Rydym yn rheoleiddio cydymffurfiaeth gyda'r rheolau hynny.

Pryd bynnag y caiff deunydd etholiadol argraffedig ei gyhoeddi, mae’n rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu.

Mae’r rheolau parthed argraffnodau yn gymwys i bob plaid wleidyddol. Maent yn gymwys pryd bynnag y byddwch yn cynhyrchu deunydd argraffedig sy’n hyrwyddo eich plaid. Mae'r daflen ffeithiau hon yn esbonio'r rheolau y mae rhaid i chi eu dilyn.

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae argraffnodau hefyd yn ofynnol ar ddeunydd digidol penodol. Nid yw’r daflen ffeithiau yn cynnwys y rhan honno o’r gyfraith. Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gofynion ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol.

Beth yw deunydd etholiadol?

Deunydd etholiadol yw deunydd cyhoeddedig y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn un neu ragor o bleidiau gwleidyddol neu gategori o ymgeiswyr mewn etholiadau penodol.

Ar gyfer pleidiau gwleidyddol, bydd hyn yn cynnwys deunydd argraffedig megis taflenni a hysbysebion sy’n hyrwyddo’r blaid, ei hymgeiswyr a’i pholisïau, neu’n beirniadu pleidiau eraill, mewn etholiad.

Gweler ein Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am wybodaeth ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol megis postiadau cyfryngau cymdeithasol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Beth sy'n rhaid i chi gynnwys?

Ar ddeunydd etholiadol wedi'i argraffu megis taflenni a phosteri, mae'n rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad:

  • yr argraffydd
  • yr hyrwyddwr
  • unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (a heb fod yr hyrwyddwr)

Yr hyrwyddwr yw'r person sydd wedi awdurdodi cyhoeddi’r deunydd.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad lle y gellir cysylltu â chi. Gallwch ddefnyddio cyfeiriad cartref, cyfeiriad swyddfa, neu gyfeiriad busnes. Gallwch hefyd ddefnyddio blwch SP neu wasanaeth blwch post arall.

Os byddwch yn rhoi hysbyseb mewn papur newydd print, nid oes angen i’ch hysbyseb gynnwys enw a chyfeiriad yr argraffydd, ond mae’n rhaid i enw a chyfeiriad argraffydd y papur newydd ymddangos ar dudalen gyntaf neu olaf y papur newydd. Mae’n rhaid i’r hysbyseb gynnwys y manylion eraill, fel sy’n arferol.

Os byddwch yn cael eich talu i gyhoeddi deunydd etholiadol, mae’n rhaid i’r deunydd gynnwys argraffnod sy’n cynnwys manylion pwy bynnag sy’n eich talu. Mae hyn gan taw naill ai nhw yw’r hyrwyddwr, neu rydych chi’n cyhoeddi’r deunydd ar eu rhan.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr argraffnod yn rhestru’r holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth gyhoeddi a hyrwyddo’r deunydd.

Ar gyfer deunydd a gyhoeddir gan neu ar ran plaid sy'n hyrwyddo mwy nag un o ymgeiswyr y blaid, gan gynnwys ymgeiswyr ar restr plaid, nid oes angen i'r argraffnod gynnwys manylion pob ymgeisydd unigol. Yn lle hynny, gallwch gynnwys manylion y blaid ar yr argraffnod.  

Mae’n drosedd i argraffydd neu hyrwyddwr gyhoeddi deunydd etholiadol argraffedig heb argraffnod. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Tachwedd 2025

Esiampl o argraffnod

Gall yr hyrwyddwr fod yn drysorydd y blaid, swyddog arall yn y blaid, neu’r blaid ei hunan.

Dylai argraffnod safonol ar ddeunydd etholiadol plaid edrych fel a ganlyn:

Argraffwyd gan Armadillo Printing Ltd, 22 Thornfields Avenue, Glasgow, G9 1AB.

Hyrwyddwyd gan y Blaid Felyn, 110 High Street, Airdrie, AD1 1AD.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Ble ddylech roi'r argraffnod?

Os yw eich deunydd yn ddogfen argraffedig un ochr - megis poster ffenestr - neu lle mae'r mwyafrif o wybodaeth ar un ochr, mae'n rhaid i chi roi'r argraffnod ar ochr yna’r ddogfen.

Os yw'n ddogfen argraffedig amlochrog, mae'n rhaid i chi ei roi ar y dudalen gyntaf neu'r olaf. 

Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gyfraith ynghylch ble y mae'n rhaid i argraffnodau ymddangos ar ddeunydd digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025