Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol
Ynglŷn â'r canllawiau hyn
Paratowyd y canllawiau hyn gan y Comisiwn Etholiadol, a'u cyflwyno gerbron Senedd y DU, yn unol ag adran 54 o Ddeddf Etholiadau 2022.
Mae'n gymwys drwy Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Diben y canllawiau hyn yw:
- esbonio'r broses o weithredu Rhan 6 o'r Ddeddf, sy'n ymwneud â'r wybodaeth y dylid ei chynnwys gyda deunydd digidol a sut i gydymffurfio â'i gofynion
- esbonio'r modd y bydd y Comisiwn Etholiadol a'r heddlu yn cyflawni eu swyddogaethau gorfodi pan fydd achos o dorri neu amheuaeth o dorri Rhan 6 o'r Ddeddf.
Pan fydd y canllawiau'n dweud bod yn rhaid gwneud rhywbeth, mae hyn yn golygu ei fod yn ofyniad mewn deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth.
Mae'r canllawiau yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at hyrwyddwr y deunydd, ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. Mae hyn oherwydd mai'r hyrwyddwr a/neu unrhyw un y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran fydd yn cyflawni trosedd o dan adran 48 o Ddeddf Etholiadau 2022 os caiff deunydd ei gyhoeddi sy'n groes i Ran 6 o'r Ddeddf.
Caiff y termau allweddol eu hesbonio yn y canllawiau, a'u rhoi fel rhestr yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y ddogfen.
Mae'n rhaid i'r Comisiwn Etholiadol a'r heddlu ystyried y canllawiau wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 6 o'r Ddeddf.
Gall y Comisiwn Etholiadol gynnig diwygiadau i'r canllawiau hyn o bryd i'w gilydd yn unol â'r Ddeddf neu pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi cyfarwyddyd i wneud hynny.
Mae'r enghreifftiau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn yn ymwneud â swyddogaethau llwyfannau digidol ym mis Mai 2023. Bydd yr egwyddorion cyffredinol a nodir yn y canllawiau yn parhau i fod yn gymwys os bydd swyddogaethau yn newid, neu os caiff llwyfannau newydd eu cyflwyno.
Cyflwyniad
Pan gaiff deunydd ymgyrchu penodol ei gyhoeddi, rhaid iddo gynnwys manylion penodol er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei gyhoeddi.
Gelwir y manylion hyn yn ‘argraffnod’. Mae'r argraffnod yn helpu i sicrhau tryloywder i bleidleiswyr ynglŷn â phwy sy'n ymgyrchu.
Mae cyfreithiau eisoes yn bodoli ledled y DU ar y gofyniad i gael argraffnodau ar ddeunydd etholiadau, refferenda a deisebau adalw argraffedig, ac ar ddeunydd etholiad digidol a ddefnyddir yn etholiadau datganoledig yr Alban. Ceir gwybodaeth am y deddfau hyn yng nghanllawiau anstatudol y Comisiwn Etholiadol.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gael argraffnodau ar rai mathau o ddeunydd electronig. Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ddeunydd electronig fel ‘deunydd digidol’. Caiff enghreifftiau o'r mathau o ddeunydd digidol y mae angen argraffnod arnynt eu hegluro yn y canllawiau.
Nid yw'r gofynion i gael argraffnodau digidol yn gymwys i ddeunydd digidol a gyhoeddir cyn dechrau Rhan 6 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, os caiff y deunydd hwnnw ei ailgyhoeddi ar ôl dechrau'r Ddeddf, bydd y deunydd a ailgyhoeddir yn ddarostyngedig i'r gofynion.