Return to The Electoral Commission Homepage

Intro

O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a deddfwriaeth gysylltiedig, mae rheolau o ran rhoi argraffnodau ar ddeunydd etholiadol argraffedig. 

Deunydd etholiadol ymgeisydd yw unrhyw ddeunydd y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd mewn etholiad. 

Pryd bynnag y caiff deunydd etholiadol argraffedig ei gyhoeddi, mae’n rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu. 

Rydym yn cynnig cyngor a chanllawiau ar y rheolau hyn ond nid ydym yn eu gorfodi. Mater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron fydd penderfyniadau ar ymchwilio i droseddau argraffnodi a'u herlyn, a dylid cyfeirio unrhyw honiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth i'r heddlu. 

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae argraffnodau hefyd yn ofynnol ar ddeunydd digidol penodol. Nid yw’r daflen ffeithiau yn cynnwys y rhan honno o’r gyfraith. Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gofynion ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol.

Beth yw deunydd etholiadol ymgeisydd?

Deunydd etholiadol ymgeisydd yw deunydd cyhoeddedig megis taflenni a hysbysebion y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd mewn etholiad.

Mae deunydd etholiadol ymgeisydd hefyd yn cynnwys deunydd sy’n beirniadu ymgeiswyr eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Beth sy'n rhaid i chi gynnwys?

Ar ddeunydd etholiadol wedi'i argraffu megis taflenni a phosteri, mae'n rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad:

  • yr argraffydd
  • yr hyrwyddwr
  • unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (a heb fod yr hyrwyddwr)

Yr hyrwyddwr yw'r person sydd wedi awdurdodi cyhoeddi’r deunydd.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad lle y gellir cysylltu â chi. Gallwch ddefnyddio cyfeiriad cartref, cyfeiriad swyddfa, neu gyfeiriad busnes. Gallwch hefyd ddefnyddio blwch SP neu wasanaeth blwch post arall.

Os byddwch yn rhoi hysbyseb mewn papur newydd print, nid oes angen i’ch hysbyseb gynnwys enw a chyfeiriad yr argraffydd, ond mae’n rhaid i enw a chyfeiriad argraffydd y papur newydd ymddangos ar dudalen gyntaf neu olaf y papur newydd. Mae’n rhaid i’r hysbyseb gynnwys y manylion eraill, fel sy’n arferol.

Os byddwch yn cael eich talu i gyhoeddi deunydd etholiadol, mae’n rhaid i’r deunydd gynnwys argraffnod sy’n cynnwys manylion pwy bynnag sy’n eich talu. Mae hyn gan taw naill ai nhw yw’r hyrwyddwr, neu rydych chi’n cyhoeddi’r deunydd ar eu rhan.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr argraffnod yn rhestru’r holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth gyhoeddi a hyrwyddo’r deunydd.

Ar gyfer deunydd a gyhoeddir gan neu ar ran plaid sy'n hyrwyddo mwy nag un o ymgeiswyr y blaid, gan gynnwys ymgeiswyr ar restr plaid, nid oes angen i'r argraffnod gynnwys manylion pob ymgeisydd unigol. Yn lle hynny, gallwch gynnwys manylion y blaid ar yr argraffnod.  

Mae’n drosedd i argraffydd neu hyrwyddwr gyhoeddi deunydd etholiadol argraffedig heb argraffnod. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Tachwedd 2025

Esiamplau o argraffnod

Ar gyfer deunydd yr ymgeisydd, yr asiant fydd yr hyrwyddwr fel arfer. Fel arfer, yr ymgeisydd fydd y person y mae’r deunydd yn cael ei gyhoeddi ar ei ran.

Dylai argraffnod ar ddeunydd ymgyrchu ymgeisydd ymddangos fel hyn:

  • Argraffwyd gan [enw a chyfeiriad yr argraffydd]         
  • Hyrwyddwyd gan [enw a chyfeiriad yr asiant], ar ran [enw a chyfeiriad yr ymgeisydd]. 

Er enghraifft:

Argraffwyd gan Armadillo Printing Ltd, 22 Thornfields Avenue, Glasgow, G9 1AB.

Hyrwyddwyd gan John Smith, 110 High Street, Airdrie, AD1 1AD ar ran Jane Smith o 112 High Street Airdrie, AD1 1AD.

neu lle rydych yn defnyddio cyfeiriad swyddfa:

Argraffwyd gan Armadillo Printing Ltd, 22 Thornfields Avenue, Glasgow, G9 1AB. 

Hyrwyddwyd gan John Smith, ar ran Jane Smith o 112 High Street, Airdrie, AD1 1AD.

Os yw’r deunydd yn ddigidol, nid oes argraffydd, ac felly rhaid i argraffnod digidol ar ddeunydd ymgyrchu ymgeisydd ymddangos fel hyn:

Hyrwyddwyd gan John Smith, ar ran Jane Smith, y ddau o 112 High Street, Airdrie, AD1 1AD.

Pan fydd yr ymgeisydd hefyd yn hyrwyddo’r deunydd, nid oes angen rhan ‘ar ran’ yr argraffnod. Gall hyn ddigwydd pan fydd ymgeisydd yn asiant i’w hun.

Er enghraifft:

Argraffwyd gan Armadillo Printing Ltd, 22 Thornfields Avenue, Glasgow, G9 1AB. 

Hyrwyddwyd gan Jane Smith o 112 High Street, Airdrie, AD1 1AD.

Os yw’r ymgeisydd hefyd yn argraffu taflenni gan ddefnyddio’i argraffydd ei hun, dylai’r argraffnod ymddangos fel hyn:

Argraffwyd ac hyrwyddwyd gan Jane Smith o 112 High Street, Airdrie, AD1 1AD.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Ble ddylech roi'r argraffnod?

Os yw eich deunydd yn ddogfen argraffedig un ochr - megis poster ffenestr - neu lle mae'r mwyafrif o wybodaeth ar un ochr, mae'n rhaid i chi roi'r argraffnod ar ochr yna’r ddogfen.

Os yw'n ddogfen argraffedig amlochrog, mae'n rhaid i chi ei roi ar y dudalen gyntaf neu'r olaf. 

Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gyfraith ynghylch ble y mae'n rhaid i argraffnodau ymddangos ar ddeunydd digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025

Pa mor fawr y dylai argraffnodau fod? 

Ar gyfer deunydd printiedig yn etholiadau Senedd yr Alban, mae maint penodol ar gyfer argaffnodau. Ar gyfer deunydd printiedig o faint A4 neu fwy:  

  • rhaid i'r ysgrifen fod o leiaf mor fawr â maint 11 Times New Roman heb fod wedi'i gulhau  
  • rhaid bod bwlch rhwng llinellau’r ysgrifen o 3mm o leiaf  

Ar gyfer deunydd printiedig sy’n llai na maint A4:  

  • rhaid i'r ysgrifen fod o leiaf mor fawr â maint 9 Times New Roman heb ei gulhau  
  • rhaid bod bwlch o 2mm o leiaf rhwng llinellau’r ysgrifen  

Rydym yn argymell bod eich argraffnodau hefyd o faint tebyg ar ddeunydd printiedig sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad arall.  

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025