Return to The Electoral Commission Homepage

Intro

Deunydd ymgyrchu deiseb yw deunydd a gyhoeddwyd i hyrwyddo llwyddiant neu fethiant deiseb adalw.

O dan Ddeddf Adalw ASau 2015, mae rheolau o ran rhoi argraffnodau ar ddeunydd deiseb adalw. 

Pryd bynnag y caiff deunydd deiseb adalw argraffedig ei gyhoeddi, mae’n rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu. 

Rydym yn cynnig cyngor a chanllawiau ar y rheolau hyn ond nid ydym yn eu gorfodi. Mater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron fydd penderfyniadau ar ymchwilio i droseddau argraffnodi a'u herlyn, a dylid cyfeirio unrhyw honiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth i'r heddlu. 

Mae'r rheolau ar argraffnodau yn berthnasol i bob ymgyrchydd deiseb, p’un a ydych wedi cofrestru gyda'r Swyddog Deisebau ai peidio. Mae'r daflen ffeithiau hon yn esbonio'r rheolau y mae rhaid i chi eu dilyn. 

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae argraffnodau hefyd yn ofynnol ar ddeunydd digidol penodol. Nid yw’r daflen ffeithiau yn cynnwys y rhan honno o’r gyfraith. Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gofynion ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol.
 

Beth yw deunydd deiseb adalw?

Beth yw ymgyrchydd deiseb adalw?

Ymgyrchwyr deisebau adalw yw unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu i hyrwyddo llwyddiant neu fethiant deiseb i adalw AS unwaith y mae deiseb wedi’i thanio o dan Ddeddf Adalw ASau 2015.

Beth yw deunydd deiseb adalw?

Deunydd deiseb adalw yw deunydd megis taflenni, hysbysebion a gwefannau a gyhoeddwyd i hyrwyddo llwyddiant neu fethiant deiseb adalw.

Mae yna reolau cyffredinol ar ddeunydd deiseb adalw, a gweithgareddau ymgyrchu eraill yr ymgymerir â nhw gan ymgyrchwyr deisebau adalw a all fod yn gymwys i chi hefyd. Mae'r rheolau hyn yn cynnwys terfynau gwario, rhoddion ac adrodd. Gallwch ddarllen mwy yn ein canllawiau i ymgyrchwyr deisebau adalw

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Hydref 2023

Beth sy'n rhaid i chi gynnwys?

Ar ddeunydd etholiadol wedi'i argraffu megis taflenni a phosteri, mae'n rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad:

  • yr argraffydd
  • yr hyrwyddwr
  • unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (a heb fod yr hyrwyddwr)

Yr hyrwyddwr yw'r person sydd wedi awdurdodi cyhoeddi’r deunydd.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad lle y gellir cysylltu â chi. Gallwch ddefnyddio cyfeiriad cartref, cyfeiriad swyddfa, neu gyfeiriad busnes. Gallwch hefyd ddefnyddio blwch SP neu wasanaeth blwch post arall.

Os byddwch yn rhoi hysbyseb mewn papur newydd print, nid oes angen i’ch hysbyseb gynnwys enw a chyfeiriad yr argraffydd, ond mae’n rhaid i enw a chyfeiriad argraffydd y papur newydd ymddangos ar dudalen gyntaf neu olaf y papur newydd. Mae’n rhaid i’r hysbyseb gynnwys y manylion eraill, fel sy’n arferol.

Os byddwch yn cael eich talu i gyhoeddi deunydd etholiadol, mae’n rhaid i’r deunydd gynnwys argraffnod sy’n cynnwys manylion pwy bynnag sy’n eich talu. Mae hyn gan taw naill ai nhw yw’r hyrwyddwr, neu rydych chi’n cyhoeddi’r deunydd ar eu rhan.

Ym mhob achos, mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr argraffnod yn rhestru’r holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth gyhoeddi a hyrwyddo’r deunydd.

Mae’n drosedd i argraffydd neu hyrwyddwr gyhoeddi deunydd etholiadol argraffedig heb argraffnod. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Hydref 2023

Esiampl o argraffnod

Os ydych yn ymgyrchydd deiseb cofrestredig, gall yr hyrwyddwr fod y person y rhoddwyd gwybod i’r Swyddog Deisebau amdano fel y ‘person cyfrifol’, neu rywun a awdurdodwyd ganddynt i fynd i wariant, neu’r sefydliad ei hun. 

Dylai argraffnod edrych fel hyn: 

Argraffwyd gan Armadillo Printing Ltd, 20 Heol y Bari, Caerdydd. 

Hyrwyddwyd gan J Smith ar ran y Grwp Ymgyrchu, y ddau o 110 Stryd Uchel, Caerffili. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Hydref 2023

Ble ddylech roi'r argraffnod?

Os yw eich deunydd yn ddogfen argraffedig un ochr - megis poster ffenestr - neu lle mae'r mwyafrif o wybodaeth ar un ochr, mae'n rhaid i chi roi'r argraffnod ar ochr yna’r ddogfen.

Os yw'n ddogfen argraffedig amlochrog, mae'n rhaid i chi ei roi ar y dudalen gyntaf neu'r olaf. 

Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gyfraith ynghylch ble y mae'n rhaid i argraffnodau ymddangos ar ddeunydd digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Hydref 2023