Return to The Electoral Commission Homepage

Rhagarweiniad

Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymgyrchu’n lleol ar gyfer is-etholiad y Senedd ar neu cyn 6 Mai 2026.

O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau ynghylch faint y gallant wario ar weithgareddau ymgyrchu yn y cyfnod cyn rhai etholiadau.

Mae’r canllaw hwn yn egluro sut mae’r rheolau’n gymwys.

Ymgyrchoedd lleol

Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr yn is-etholiad y Senedd, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol. 

O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn etholaeth.

Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.

Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Hydref 2025

Terfynau gwariant

Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £500 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.1  Mae hwn yn cael ei adnabod fel swm a ganiateir. Mae'n berthnasol unwaith y bydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd swyddogol.

Y dyddiad cynharaf y gall rhywun ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod y daw'r swydd yn wag. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch pryd mae pobl yn dod yn ymgeiswyr yn ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn is-etholiadau’r Senedd

Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y swm a ganiateir.

Dim ond os yw ymgeisydd neu asiant yn yr etholiad wedi awdurdodi hynny yn ysgrifenedig y gallwch wario mwy na'r swm a ganiateir.2  Gwariant ymgeisydd fydd y gwariant awdurdodedig a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3  Os ydych wedi’ch awdurdodi i ysgwyddo gwariant ymgeisydd, dylech ddarllen ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Hydref 2025

Adrodd am wariant awdurdodedig

Os rhoddir awdurdodiad, bydd angen i’r asiant gynnwys eich gwariant yn ffurflen gwariant yr ymgeisydd. Bydd angen i chi roi’r manylion angenrheidiol i’r asiant er mwyn i’r gwariant hwnnw gael ei gynnwys. Bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad a’u cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau perthnasol ymhen 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.

Bydd y ffurflen gwariant a’r ffurflenni datganiad ar gael cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir.

Yn y ddwy ddogfen mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • enw’r etholaeth
  • dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad (gall eich Swyddog Canlyniadau lleol roi gwybod i chi beth yw’r dyddiad hwn)
  • enw’r ymgeisydd a awdurdododd y gwariant, neu y gwnaeth ei asiant awdurdodi’r gwariant
  • eich enw fel y sefydliad neu’r unigolyn a ysgwyddodd y gwariant

Yn y ffurflen bydd angen i chi gynnwys cyfanswm eich gwariant, a bydd rhaid i chi atodi awdurdodiad ysgrifenedig yr ymgeisydd neu’r asiant ar gyfer eich gwariant.

Yn y datganiad mae’n rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir, ac yn cynnwys manylion am yr hyn yr oedd y gwariant arno o dan “y materion yr ysgwyddwyd y gwariant ar eu cyfer”.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Hydref 2025

Argraffnodau

O dan y gyfraith, mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu gynnwys manylion sy’n dangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae'n darparu tryloywder i bleidleiswyr.

Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod.

Gall fod angen argraffnodau ar ddeunydd digidol a deunydd argraffedig.

Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol – ledled y DU

Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig: Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mehefin 2024