Intro
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae rheolau o ran rhoi argraffnodau ar ddeunydd etholiadol argraffedig.
Pryd bynnag y caiff deunydd etholiadol argraffedig ei gyhoeddi, mae’n rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu.
Gall y rheolau ar argraffnodau fod yn berthnasol i holl ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, p'un a ydych wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol ai peidio.
Mae rheolau argraffnodau gwahanol yn gymwys i ymgeiswyr yn etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban. Gweler Argraffnodau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau - Etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban am ragor o fanylion.
Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio’r rheolau y mae rhaid i chi eu dilyn wrth ymgyrchu mewn unrhyw etholiad arall.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae argraffnodau hefyd yn ofynnol ar ddeunydd digidol penodol. Nid yw’r daflen ffeithiau yn cynnwys y rhan honno o’r gyfraith. Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gofynion ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol.
Beth yw ymgyrchydd nad yw’n blaid?
Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mewn cyfraith etholiadol, gelwir yr unigolion neu'r sefydliadau hyn yn 'drydydd partïon'. Lle mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol fe'u gelwir yn 'drydydd partïon cydnabyddedig'; yn ein canllawiau ni, rydym yn galw trydydd partïon cydnabyddedig yn 'ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig'.
Beth yw deunydd etholiadol?
Mae dau fath o ymgyrch di-blaid: ymgyrchoedd lleol ac ymgyrchoedd cyffredinol.
Ar gyfer ymgyrchoedd lleol, deunydd etholiadol yw deunydd cyhoeddedig megis taflenni a hysbysebion y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd mewn etholiad.
Rydym yn cynnig cyngor a chanllawiau ar y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol ond nid ydym yn eu gorfodi.
Mater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron fydd penderfyniadau ar ymchwilio i droseddau argraffnodi ar ddeunydd etholiadol mewn ymgyrchoedd lleol a'u herlyn, a dylid cyfeirio unrhyw honiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth i'r heddlu.
Ar gyfer ymgyrchoedd cyffredinol, deunydd etholiadol yw deunydd cyhoeddedig megis taflenni, hysbysebion a gwefannau y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn:
- un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
- pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi, neu nad ydynt yn cefnogi polisïau penodol
- categorïau eraill o ymgeiswyr, er enghraifft, ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ymgeiswyr annibynnol (nad ydynt yn sefyll dros blaid wleidyddol)
Rydym yn rheoli cydymffurfiaeth gyda’r rheolau ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd etholiadol mewn ymgyrchoedd cyffredinol.
Mae yna reolau cyffredinol ar ddeunydd etholiadol, a gweithgareddau ymgyrchu eraill yr ymgymerir â nhw gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cyn etholiadau penodol, a all fod yn gymwys i chi hefyd. Mae'r rheolau hyn yn cynnwys terfynau gwario, rhoddion ac adrodd. Gallwch ddarllen mwy yn ein Canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Beth sy'n rhaid i chi gynnwys?
Ar ddeunydd etholiadol wedi'i argraffu megis taflenni a phosteri, mae'n rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad:
- yr argraffydd
- yr hyrwyddwr
- unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (a heb fod yr hyrwyddwr)
Yr hyrwyddwr yw'r person sydd wedi awdurdodi cyhoeddi’r deunydd.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad lle y gellir cysylltu â chi. Gallwch ddefnyddio cyfeiriad cartref, cyfeiriad swyddfa, neu gyfeiriad busnes. Gallwch hefyd ddefnyddio blwch SP neu wasanaeth blwch post arall.
Os byddwch yn rhoi hysbyseb mewn papur newydd print, nid oes angen i’ch hysbyseb gynnwys enw a chyfeiriad yr argraffydd, ond mae’n rhaid i enw a chyfeiriad argraffydd y papur newydd ymddangos ar dudalen gyntaf neu olaf y papur newydd. Mae’n rhaid i’r hysbyseb gynnwys y manylion eraill, fel sy’n arferol.
Os byddwch yn cael eich talu i gyhoeddi deunydd etholiadol, mae’n rhaid i’r deunydd gynnwys argraffnod sy’n cynnwys manylion pwy bynnag sy’n eich talu. Mae hyn gan taw naill ai nhw yw’r hyrwyddwr, neu rydych chi’n cyhoeddi’r deunydd ar eu rhan.
Ym mhob achos, mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr argraffnod yn rhestru’r holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth gyhoeddi a hyrwyddo’r deunydd.
Mae’n drosedd i argraffydd neu hyrwyddwr gyhoeddi deunydd etholiadol argraffedig heb argraffnod.
Esiampl o argraffnod
Os ydych wedi cofrestru gyda ni fel ymgyrchydd nad yw'n blaid, gall yr hyrwyddwr fod y person y rhoddwyd gwybod i ni amdano fel y ‘person cyfrifol’, neu rywun a awdurdodwyd ganddynt i fynd i wariant, neu’r sefydliad ei hun.
Dylai argraffnod edrych fel hyn:
Argraffwyd gan Armadillo Printing Ltd, 20 Heol y Bari, Caerdydd, LS1 9AB.
Hyrwyddwyd gan J Smith ar ran y Grwp Ymgyrchu, y ddau o 110 Stryd Uchel, Caerffili, ST16 9AA.
Ble ddylech roi'r argraffnod?
Os yw eich deunydd yn ddogfen argraffedig un ochr - megis poster ffenestr - neu lle mae'r mwyafrif o wybodaeth ar un ochr, mae'n rhaid i chi roi'r argraffnod ar ochr yna’r ddogfen.
Os yw'n ddogfen argraffedig amlochrog, mae'n rhaid i chi ei roi ar y dudalen gyntaf neu'r olaf.
Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gyfraith ynghylch ble y mae'n rhaid i argraffnodau ymddangos ar ddeunydd digidol.