Mae dau fath o ymgyrch di-blaid: ymgyrchoedd lleol ac ymgyrchoedd cyffredinol.
Ar gyfer ymgyrchoedd lleol, deunydd etholiadol yw deunydd cyhoeddedig megis taflenni a hysbysebion y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd mewn etholiad.
Rydym yn cynnig cyngor a chanllawiau ar y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol ond nid ydym yn eu gorfodi.
Mater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron fydd penderfyniadau ar ymchwilio i droseddau argraffnodi ar ddeunydd etholiadol mewn ymgyrchoedd lleol a'u herlyn, a dylid cyfeirio unrhyw honiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth i'r heddlu.
Ar gyfer ymgyrchoedd cyffredinol, deunydd etholiadol yw deunydd cyhoeddedig megis taflenni, hysbysebion a gwefannau y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn:
un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi, neu nad ydynt yn cefnogi polisïau penodol
categorïau eraill o ymgeiswyr, er enghraifft, ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ymgeiswyr annibynnol (nad ydynt yn sefyll dros blaid wleidyddol)
Rydym yn rheoli cydymffurfiaeth gyda’r rheolau ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd etholiadol mewn ymgyrchoedd cyffredinol.
Mae yna reolau cyffredinol ar ddeunydd etholiadol, a gweithgareddau ymgyrchu eraill yr ymgymerir â nhw gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cyn etholiadau penodol, a all fod yn gymwys i chi hefyd. Mae'r rheolau hyn yn cynnwys terfynau gwario, rhoddion ac adrodd. Gallwch ddarllen mwy yn ein Canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.