Nawdd
Rydym wedi adolygu ein dull o ymdrin â rhoddion nawdd. Dyma ein canllawiau newydd ar nawdd a fydd yn berthnasol i nawdd a dderbynnir o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Ar gyfer ein canllawiau nawdd cyfredol, gweler Nawdd.
Beth yw nawdd?
Nawdd yw unrhyw arian neu eiddo arall (eitemau, nwyddau neu wasanaethau) a ddarperir i'r derbyniwr a reoleiddir i helpu, neu y mae'n rhaid tybio yn rhesymol ei fod yn helpu, i dalu costau mewn cysylltiad â:
- unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (sy’n cynnwys digwyddiadau neu gynadleddau digidol)
- paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu
- unrhyw astudiaeth neu ymchwil
lle caiff y rhain eu trefnu gan y derbyniwr a reoleiddir neu ar ei ran.1
Gall nawdd gynnwys trosglwyddo arian neu eiddo i'r derbyniwr a reoleiddir ar delerau masnachol. Hyd yn oed os yw’r derbyniwr a reoleiddir a’r noddwr yn ystyried hyn fel trefniant masnachol, mae taliadau nawdd yn fath o rodd. Mae’r un gofynion adrodd a chaniatâd ar gyfer rhoddion eraill yn berthnasol hefyd i roddion a dderbynnir fel nawdd.
Caiff nawdd ei reoleiddio oherwydd mae’n cael effaith debyg i fathau eraill o roddion. Ar gyfer nawdd a mathau eraill o roddion, mae’r gyfraith yn darparu tryloywder ar fuddion ariannol a ddarperir i’r derbyniwr a reoleiddir.
Pryd mae taliad yn helpu i dalu costau?
Gan amlaf, gellir tybio’n rhesymol bod taliad mewn cysylltiad â digwyddiad, cyhoeddiad neu waith ymchwil yn cael ei wneud i helpu i dalu ei gostau. Mae bwriad y noddwr yn amherthnasol wrth bennu a yw taliad yn nawdd. Os gellir tybio'n rhesymol mai un o ddibenion y taliad yw eich helpu i dalu'r costau hyn, nawdd yw hwn.
Mae'n bwysig ystyried sut y byddai person rhesymol yn gweld y taliad ac a fyddent yn meddwl mai un o ddibenion y taliad yw helpu'r blaid i dalu'r costau hyn.
Nid oes rhaid defnyddio taliad i dalu costau’n uniongyrchol iddo gyfrif fel nawdd.
Prisio nawdd
Gwerth y nawdd yw swm llawn y taliad a dderbynnir gan y noddwr. Ni ddylech wneud unrhyw ddidyniadau ar gyfer unrhyw fudd posibl i’r noddwr neu lle mae costau gwirioneddol y digwyddiad, cyhoeddiad, astudiaeth neu waith ymchwil yn llai na’r swm a dderbynnir gan y noddwr.2
- 1. Atodlen 7, paragraff 3(1) a (2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, para. 5(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Pa daliadau nad ydynt yn cyfrif fel nawdd?
Nid yw’r taliadau canlynol yn cyfrif fel nawdd:1
- costau mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill
- pris prynu cyhoeddiadau, neu unrhyw gost arall i’w cyrchu
- taliadau cyfradd masnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau
Er nad yw’r taliadau hyn yn cyfrif fel nawdd, gallant yn hytrach fod yn fath gwahanol o rodd. Os nad yw taliad yn nawdd, dylech ystyried a yw’r taliad yn fath arall o rodd, er enghraifft, rhodd ariannol neu arian a wariwyd yn talu costau rydych wedi’u hysgwyddo.
Costau mynediad
Ni fydd costau mynediad ar gyfer eich digwyddiadau yn cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, tocynnau mynediad i gynadleddau neu ffi fynediad i fynychu digwyddiad a drefnwyd gennych chi neu ar eich rhan.
Fodd bynnag, os byddwch yn codi tâl neu’n cael eich talu mwy na gwerth y gwasanaeth a ddarperir yn y digwyddiad, bydd y swm ychwanegol hwn yn rhodd os yw hyn yn fwy na £500.2 Gweler yr enghreifftiau cyffredin o nawdd am ragor o enghreifftiau ac arweiniad ar hyn.
Hysbysebion mewn cyhoeddiadau
Ni fydd taliadau i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cael eu cyfrif fel nawdd. Er enghraifft, gallwch greu cyhoeddiadau sy’n hyrwyddo polisïau i’r rhain gael eu mabwysiadu gan blaid. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i hysbysebu mewn cyhoeddiadau’n unig ac nid yw’n cynnwys mathau eraill o hysbysebu, megis baneri digwyddiadau.
Er mwyn cyfrifo a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i godi tâl am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd.3 Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn gymwys mwyach.
- 1. Atodlen 7, paragraff 3(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, para. 2(2) a phara. 4(3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, para. 5(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Digwyddiadau a chiniawau codi arian
Digwyddiadau a chiniawau codi arian
Bydd taliadau a wneir tuag at dalu costau cinio neu dderbyniad a drefnir gan neu ar ran derbyniwr a reoleiddir yn cyfrif fel nawdd.
Er enghraifft, mae unigolyn yn talu £5,000 i noddi cinio a drefnir gan Aelod o Senedd yr Alban (MSP). Mae hyn yn cynnwys bwrdd yn y cinio i’r unigolyn a’i westeion.
Mae’n rhaid i’r MSP wirio bod yr unigolyn yn rhoddwr a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd a’i hadrodd i’r Comisiwn, gan ei bod yn uwch na’r trothwy adrodd o £2,230 ar gyfer derbynwyr rheoledig unigol.
Er enghraifft, mae cwmni’n talu £15,000 i noddi cinio a drefnir gan gymdeithas aelodau i hyrwyddo polisïau gyda’r bwriad o’u mabwysiadu gan blaid. Mae hyn yn cynnwys enw a logo’r cwmni yn cael eu harddangos ar faneri yn y cinio ac ar y bwydlenni.
Mae’n rhaid i’r gymdeithas aelodau wirio bod y cwmni yn rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd a’i hadrodd i’r Comisiwn, gan ei bod yn fwy na’r trothwy adrodd o £11,180 ar gyfer cymdeithasau aelodau.
Os ydych yn gwerthu tocynnau i ginio neu dderbyniad sydd wedi ei drefnu gennych chi neu ar eich rhan, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw costau mynediad i ddigwyddiadau’n cyfrif fel nawdd.
Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cyfrifo gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad, gan y bydd y gwahaniaeth rhwng y gwerth a’r swm sy’n cael ei dalu i chi yn cyfrif fel rhodd nad yw’n nawdd os yw’r gwerth hwn yn fwy na £500.1
Er enghraifft, mae cymdeithas aelodau yn gwerthu tocynnau i’w chinio. Mae costau’r digwyddiad fel a ganlyn:
- gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person: £30
- pris tocyn: £120
Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person a’r swm a godir yn £90. Gan nad yw gwerth y rhodd yn fwy na £500 yn yr achos hwn, nid oes rhodd wedi ei gwneud.
Yn yr un digwyddiad, mae’r gymdeithas aelodau hefyd yn gwerthu byrddau i 10 o westeion.
- gwerth marchnadol pob bwrdd: £300
- pris y bwrdd: £1,000
Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth pob bwrdd a’r swm a godwyd yn £700. Bydd unrhyw un sy’n prynu bwrdd yng nghinio’r gynhadledd felly’n rhoi £700 i’r gymdeithas aelodau. Gan mai rhoddion gwerth mwy na £500 gan ffynhonnell a ganiateir yn unig y gall y gymdeithas aelodau eu derbyn, dim ond y rhai a ganiateir fydd yn gallu prynu bwrdd.
Cyhoeddiadau
Os ydych chi’n derbyn taliadau tuag at gostau paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad mewn perthynas â’ch gweithgareddau gwleidyddol, bydd hyn yn cyfrif fel nawdd.
Er enghraifft, mae cwmni’n talu £12,000 i noddi cyhoeddiad gan gymdeithas aelodau i hyrwyddo polisïau o fewn y blaid. Mae hyn yn cynnwys enw a logo’r cwmni yn cael eu harddangos yn y cyhoeddiad a chael ei hyrwyddo fel partner ymchwil ar y cyd.
Mae’n rhaid i’r gymdeithas aelodau wirio bod y cwmni yn rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd a’i hadrodd i’r Comisiwn, gan ei bod yn fwy na’r trothwy adrodd o £11,180 ar gyfer cymdeithasau aelodau.
Os ydych yn gwerthu hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cyfrif fel nawdd.
Er mwyn cyfrifo a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i godi tâl am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd. Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn gymwys mwyach.
- 1. Atodlen 7, paragraff 2(2), paragraff 4(3)(b) a pharagraff 5(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1