Yn ôl cyfraith etholiadol, mae yna reolau y mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol a rhai sefydliadau ac unigolion eu dilyn mewn perthynas â’r rhoddion y maent yn eu derbyn. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogaeth a roddir trwy daliadau nawdd, sy’n fath o rodd yn ôl Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Mae’r rheolau o ran nawdd yn gymwys at y canlynol:
Pleidiau gwleidyddol cofrestredig
Ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig
Ymgyrchwyr cofrestredig mewn refferenda
Aelodau pleidiau a deiliaid swyddi etholedig
Cymdeithasau aelodau
Ymgeiswyr mewn etholiadau
Gan fod taliadau nawdd yn fath o rodd, mae’r rheolau arferol o ran yr hyn a ganiateir yn gymwys atynt, megis gyda phob math arall o rodd.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r rheolau o ran nawdd a mathau eraill o daliadau y caiff yr unigolion a’r sefydliadau uchod eu derbyn tuag at eu digwyddiadau, cyhoeddiadau a gweithgareddau eraill.