| Argraffu'r canllawiau llawn

Digwyddiadau a chiniawau codi arian

Digwyddiadau a chiniawau codi arian

Bydd taliadau a wneir tuag at dalu costau cinio neu dderbyniad a drefnir gan neu ar ran derbyniwr a reoleiddir yn cyfrif fel nawdd.

Er enghraifft, mae unigolyn yn talu £5,000 i noddi cinio a drefnir gan Aelod o Senedd yr Alban (MSP). Mae hyn yn cynnwys bwrdd yn y cinio i’r unigolyn a’i westeion.

Mae’n rhaid i’r MSP wirio bod yr unigolyn yn rhoddwr a ganiateir cyn iddo dderbyn y rhodd a’i hadrodd i’r Comisiwn, gan ei bod yn uwch na’r trothwy adrodd o £2,230 ar gyfer derbynwyr rheoledig unigol.

Er enghraifft, mae cwmni’n talu £15,000 i noddi cinio a drefnir gan gymdeithas aelodau i hyrwyddo polisïau gyda’r bwriad o’u mabwysiadu gan blaid. Mae hyn yn cynnwys enw a logo’r cwmni yn cael eu harddangos ar faneri yn y cinio ac ar y bwydlenni.

Mae’n rhaid i’r gymdeithas aelodau wirio bod y cwmni yn rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd a’i hadrodd i’r Comisiwn, gan ei bod yn fwy na’r trothwy adrodd o £11,180 ar gyfer cymdeithasau aelodau.

Os ydych yn gwerthu tocynnau i ginio neu dderbyniad sydd wedi ei drefnu gennych chi neu ar eich rhan, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw costau mynediad i ddigwyddiadau’n cyfrif fel nawdd.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cyfrifo gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad, gan y bydd y gwahaniaeth rhwng y gwerth a’r swm sy’n cael ei dalu i chi yn cyfrif fel rhodd nad yw’n nawdd os yw’r gwerth hwn yn fwy na £500.1

Er enghraifft, mae cymdeithas aelodau yn gwerthu tocynnau i’w chinio. Mae costau’r digwyddiad fel a ganlyn:

  • gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person: £30
  • pris tocyn: £120

Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol y gwasanaeth a ddarperir fesul person a’r swm a godir yn £90. Gan nad yw gwerth y rhodd yn fwy na £500 yn yr achos hwn, nid oes rhodd wedi ei gwneud.

Yn yr un digwyddiad, mae’r gymdeithas aelodau hefyd yn gwerthu byrddau i 10 o westeion.

  • gwerth marchnadol pob bwrdd: £300
  • pris y bwrdd: £1,000

Yn yr enghraifft hon, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth pob bwrdd a’r swm a godwyd yn £700. Bydd unrhyw un sy’n prynu bwrdd yng nghinio’r gynhadledd felly’n rhoi £700 i’r gymdeithas aelodau. Gan mai rhoddion gwerth mwy na £500 gan ffynhonnell a ganiateir yn unig y gall y gymdeithas aelodau eu derbyn, dim ond y rhai a ganiateir fydd yn gallu prynu bwrdd.

Cyhoeddiadau

Os ydych chi’n derbyn taliadau tuag at gostau paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad mewn perthynas â’ch gweithgareddau gwleidyddol, bydd hyn yn cyfrif fel nawdd.

Er enghraifft, mae cwmni’n talu £12,000 i noddi cyhoeddiad gan gymdeithas aelodau i hyrwyddo polisïau o fewn y blaid. Mae hyn yn cynnwys enw a logo’r cwmni yn cael eu harddangos yn y cyhoeddiad a chael ei hyrwyddo fel partner ymchwil ar y cyd.

Mae’n rhaid i’r gymdeithas aelodau wirio bod y cwmni yn rhoddwr a ganiateir cyn iddi dderbyn y rhodd a’i hadrodd i’r Comisiwn, gan ei bod yn fwy na’r trothwy adrodd o £11,180 ar gyfer cymdeithasau aelodau.

Os ydych yn gwerthu hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol, ni fydd hyn yn nawdd gan nad yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion yn eich cyhoeddiadau ar y gyfradd fasnachol yn cyfrif fel nawdd.

Er mwyn cyfrifo a yw taliadau a wnaed i roi hysbysebion mewn cyhoeddiad yn rhodd, rhaid i chi gyfrifo’r gyfradd fasnachol i godi tâl am yr hysbysebion hyn. Y gyfradd fasnachol fydd y gyfradd gyfartalog ar gyfer hysbysebion tebyg a gynigir gan ddarparwyr masnachol.

Os bydd rhywun yn talu mwy na’r gyfradd fasnachol am hysbyseb mewn cyhoeddiad, bydd swm llawn y taliad yn cyfrif fel nawdd. Mae hyn oherwydd na fyddai'r eithriad yn gymwys mwyach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026