| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw nawdd?

Nawdd yw unrhyw arian neu eiddo arall (eitemau, nwyddau neu wasanaethau) a ddarperir i'r derbyniwr a reoleiddir i helpu, neu y mae'n rhaid tybio yn rhesymol ei fod yn helpu, i dalu costau mewn cysylltiad â:

  • unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (sy’n cynnwys digwyddiadau neu gynadleddau digidol)
  • paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu
  • unrhyw astudiaeth neu ymchwil

lle caiff y rhain eu trefnu gan y derbyniwr a reoleiddir neu ar ei ran.1

Gall nawdd gynnwys trosglwyddo arian neu eiddo i'r derbyniwr a reoleiddir ar delerau masnachol. Hyd yn oed os yw’r derbyniwr a reoleiddir a’r noddwr yn ystyried hyn fel trefniant masnachol, mae taliadau nawdd yn fath o rodd. Mae’r un gofynion adrodd a chaniatâd ar gyfer rhoddion eraill yn berthnasol hefyd i roddion a dderbynnir fel nawdd.

Caiff nawdd ei reoleiddio oherwydd mae’n cael effaith debyg i fathau eraill o roddion. Ar gyfer nawdd a mathau eraill o roddion, mae’r gyfraith yn darparu tryloywder ar fuddion ariannol a ddarperir i’r derbyniwr a reoleiddir.

Pryd mae taliad yn helpu i dalu costau?

Gan amlaf, gellir tybio’n rhesymol bod taliad mewn cysylltiad â digwyddiad, cyhoeddiad neu waith ymchwil yn cael ei wneud i helpu i dalu ei gostau. Mae bwriad y noddwr yn amherthnasol wrth bennu a yw taliad yn nawdd. Os gellir tybio'n rhesymol mai un o ddibenion y taliad yw eich helpu i dalu'r costau hyn, nawdd yw hwn.

Mae'n bwysig ystyried sut y byddai person rhesymol yn gweld y taliad ac a fyddent yn meddwl mai un o ddibenion y taliad yw helpu'r blaid i dalu'r costau hyn.

Nid oes rhaid defnyddio taliad i dalu costau’n uniongyrchol iddo gyfrif fel nawdd.

Prisio nawdd

Gwerth y nawdd yw swm llawn y taliad a dderbynnir gan y noddwr. Ni ddylech wneud unrhyw ddidyniadau ar gyfer unrhyw fudd posibl i’r noddwr neu lle mae costau gwirioneddol y digwyddiad, cyhoeddiad, astudiaeth neu waith ymchwil yn llai na’r swm a dderbynnir gan y noddwr.2

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Awst 2026