Return to The Electoral Commission Homepage

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Yn ôl cyfraith etholiadol, mae yna reolau y mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol a rhai sefydliadau ac unigolion eu dilyn mewn perthynas â’r rhoddion y maent yn eu derbyn. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogaeth a roddir trwy daliadau nawdd, sy’n fath o rodd yn ôl Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).  

Mae’r rheolau o ran nawdd yn gymwys at y canlynol:

  • Pleidiau gwleidyddol cofrestredig 
  • Ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig 
  • Ymgyrchwyr cofrestredig mewn refferenda 
  • Aelodau pleidiau a deiliaid swyddi etholedig 
  • Cymdeithasau aelodau 
  • Ymgeiswyr mewn etholiadau

Gan fod taliadau nawdd yn fath o rodd, mae’r rheolau arferol o ran yr hyn a ganiateir yn gymwys atynt, megis gyda phob math arall o rodd.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r rheolau o ran nawdd a mathau eraill o daliadau y caiff yr unigolion a’r sefydliadau uchod eu derbyn tuag at eu digwyddiadau, cyhoeddiadau a gweithgareddau eraill.

Beth yw nawdd?

Nawdd yw cefnogaeth a roddir i blaid wleidyddol, neu unigolyn neu sefydliad arall a reoleiddir, sy’n helpu bodloni costau’r canlynol:

  • unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (gan gynnwys cynadleddau neu ddigwyddiadau digidol)
  • paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu 
  • unrhyw astudiaeth neu ymchwil.

Lle nad yw taliad yn gyfystyr â nawdd, gallai fod yn rhodd eto i gyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Awst 2021

Beth yw’r rheolau o ran nawdd?

Dim ond gan roddwr a ganiateir y gellir derbyn taliadau nawdd dros £500 (£50 ar gyfer ymgeiswyr).

Rhaid adrodd am nawdd os yw’r swm rydych yn ei dderbyn gan un ffynhonnell yn fwy na: 

  • £50 yn achos ymgeiswyr
  • £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu pleidiau, aelodau plaid wleidyddol gofrestredig a deiliaid swyddi etholedig
  • £7,500 ar ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig
  • £11,180 ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ymgyrchwyr cofrestredig mewn refferenda a chymdeithasau aelodau 

Rhaid i bawb ar wahân i ymgeiswyr hefyd adrodd am roddion cyfanredol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ychwanegu rhoddion a benthyciadau a ganiateir rydych yn eu derbyn gan yr un ffynhonnell at ei gilydd a’u hadrodd yn y flwyddyn galendr os yw’r cyfanswm yn uwch na’r trothwyon hyn. 

Ar gyfer pleidiau gwleidyddol mae yna drothwyon gwahanol ar gyfer adrodd, yn ddibynnol ar b’un a yw’r ffynhonnell eisoes wedi cyflwyno rhodd neu fenthyciad adroddadwy i chi yn ystod y flwyddyn galendr: 

  • Os ydych eisoes wedi adrodd am y ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr, y trothwy yw dros £2,230. 
  • Os ydych heb adrodd am y ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr eto, y trothwy yw dros £11,180. 

Am ragor o wybodaeth am y rheolau parthed adrodd am roddion a benthyciadau i bleidiau, gweler:

Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr | Electoral Commission

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Chwefror 2024

A oes unrhyw eithriadau i’r rheolau o ran nawdd?

Oes: 

  • Cost mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd, neu ddigwyddiadau eraill - er enghraifft tocynnau cynadleddau pleidiau neu gost mynediad ar gyfer mynychu digwyddiad a drefnir gan neu ar ran plaid, neu unigolyn neu sefydliad a reoleiddir.
  • Pris prynu unrhyw gyhoeddiadau 
  • Taliadau cyfraddau masnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau - ni fydd unrhyw symiau dros y gyfradd fasnachol yn cael eu heithrio a chânt eu hystyried yn rhodd os ydynt yn werth mwy na £500 (£50 ar gyfer ymgeisydd) 
  • Rhai taliadau ar gyfer stondinau mewn cynadleddau 

A yw pob math o hysbysebu wedi ei eithrio?

Nac ydynt. Mae’r eithriad ond yn gymwys at werth masnachol hysbysebion sy’n ymddangos mewn cyhoeddiadau. Er enghraifft, hysbysebion sy’n ymddangos mewn unrhyw gyhoeddiad sy’n nodi polisïau plaid, megis maniffesto cyn etholiad.

Dylai taliadau ar gyfer unrhyw fath arall o hysbysebu, megis baneri mewn digwyddiad neu hysbysebu digidol mewn digwyddiad rhithwir gael eu trin fel nawdd os ydynt yn helpu i fodloni cost y digwyddiad.

Nid yw taliadau hysbysebu nad ydynt yn bodloni cost digwyddiad neu gyhoeddiad mewn unrhyw ffordd yn cael eu hystyried yn nawdd. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu gofod hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad ar-lein heb fynd i unrhyw gostau uniongyrchol ar gyfer y digwyddiad.

Fodd bynnag, os yw rhywun yn talu mwy na gwerth masnachol hysbyseb, bydd y gwahaniaeth rhwng yr hyn a delir ganddynt a’r gwerth masnachol yn rhodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2021

Faint o’r hyn a dderbynnir gennyf sy’n rhodd?

Wrth gyfrifo gwerth nawdd, dylid ystyried cyfanswm y taliad a dderbyniwyd, a’i adrodd os yw dros y trothwyon uchod.

Ni ddylid gwneud didyniad ar gyfer unrhyw werth masnachol, neu unrhyw fudd i’r noddwr etc.

Digwyddiadau a chiniawau codi arian

Os caiff digwyddiad ei gynnal gan neu ar ran plaid (neu uned gyfrifyddu plaid), neu sefydliad neu unigolyn arall a reoleiddir, rhaid i gefnogaeth sy’n helpu i fodloni costau’r digwyddiad gael ei thrin fel nawdd.

Ar gyfer taliadau at le wrth fwrdd mewn cinio a drefnir gan blaid neu unigolyn neu sefydliad arall a reoleiddir, mae’r gwahaniaeth rhwng gwerth y cinio a’r swm a delir yn rhodd.

Trin TAW

Lle bo taliad nawdd yn cynnwys TAW, bydd y cwestiwn o ran a ddylid adrodd am yr elfen TAW fel rhan o’r nawdd yn dibynnu ar y ffeithiau - er enghraifft, pe bai’r blaid wedi bod yn atebol am y TAW pe na bai wedi cael ei thalu, yna mae ei thalu yn fudd i’r blaid a dylid adrodd amdani fel nawdd.

Nawdd gan gwmnïau 

Lle bo cwmni yn gwneud taliad sy’n cael ei drin fel nawdd, mae’r cyfanswm yn cael ei ystyried yn rhodd yn ôl cyfraith etholiadol. Bydd angen i gwmnïau, felly, sicrhau eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw reoliadau perthnasol o ran cyflwyno rhodd wleidyddol o dan gyfraith cwmnïau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2021

Cynadleddau pleidiau a stondinau cynadleddau

Mae nifer o bleidiau gwleidyddol yn cynnal cynadleddau trwy gydol y flwyddyn. Mae yna rai rheolau y dylai pleidiau fod yn ymwybodol ohonynt sy’n ymwneud â thaliadau a dderbynnir ganddynt tuag at eu cynadleddau. 

Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn cynnig gofod i arddangoswyr ar gyfer stondinau cynhadledd. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn nodi bod y Comisiwn yn gosod “cyfradd uchaf” ac ni fydd llogi’r stondinau hyn yn cael ei ystyried yn nawdd hyd at y gyfradd honno. Mae’r Comisiwn wedi gosod cyfraddau uchaf ar gyfer stondinau cynhadledd ffisegol a stondinau cynhadledd digidol fel ei gilydd. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2021

Stondinau cynhadledd ffisegol

Nid oes angen trin taliadau hyd at £15,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin ffisegol 3m x 3m fel nawdd neu unrhyw fath arall o rodd. 

Dylid trin unrhyw beth rydych yn ei dderbyn dros £15,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin 3m x 3m fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Rhaid i chi adrodd am y rhodd hon os yw’r swm a dderbynnir gennych oddi wrth un ffynhonnell dros y trothwy adrodd perthnasol. 

Gall swm pro rata uwch fod yn gymwys at stondinau sy’n fwy na 3m x 3m, ond nid yw’n angenrheidiol cyfrifo swm pro rata is ar gyfer stondinau llai.

Os ydych yn codi pris sy’n uwch na £15,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin sy’n fwy na 3m x 3m, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol i ddangos y trafodiad hwn. Mae hyn yn cynnwys manylion ynghylch maint y stondin, y pris y gwnaethoch ei gymhwyso ati, a sut y gwnaethoch gyfrifo’r pris. Gallem ofyn i weld eich cofnodion at ddibenion sicrwydd.

Os ydych yn defnyddio pris pro-rata uwch ar gyfer stondin cynhadledd sy’n fwy na 3m x 3m, rhaid i bopeth rydych yn ei dderbyn dros y pris perthnasol gael ei drin fel rhodd i’r blaid. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Mawrth 2022

Stondinau cynhadledd digidol

Os yw plaid wleidyddol yn cynnal cynhadledd ddigidol ac yn cynnwys gofod hyrwyddo byw ar y platfform ar-lein y mae’n ei ddefnyddio, gallai gael ei ystyried yn stondin cynhadledd ddigidol. Mae nodweddion arferol stondin cynhadledd ddigidol yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaid bod y stondin ddigidol dim ond ar gael i’w llogi am hyd y gynhadledd ddigidol. 
  • Rhaid bod rhyw lefel o ryngweithio ‘amser real’ rhwng mynycheion a’r arddangoswr.
  • Rhaid iddi fod yn fyw.
  • Hysbyseb neu faner (neu rywbeth cyffelyb) ar y wefan neu’r platfform sy’n lletya (noder: ni fyddai hysbyseb ar wefan heb elfennau eraill yn stondin cynhadledd ddigidol ynddi ei hunan)

Nid oes angen trin taliadau hyd at £7,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin ddigidol fel nawdd neu unrhyw fath arall o rodd. 

Dylid trin unrhyw beth rydych yn ei dderbyn dros £7,000 (ac eithrio TAW) fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Rhaid i chi adrodd am y rhodd hon os yw’r swm a dderbynnir gennych oddi wrth un ffynhonnell dros y trothwy adrodd perthnasol.

Os ydych yn codi pris sy’n uwch na £7,000 (ac eithrio TAW) ar gyfer stondin ddigidol, rydym yn disgwyl i chi gadw cofnodion digonol i ddangos y trafodiad hwn. Mae hyn yn cynnwys manylion ynghylch y pris y gwnaethoch ei gymhwyso ati, a sut y gwnaethoch gyfrifo’r pris. Gallem ofyn i weld eich cofnodion at ddibenion sicrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2021

Digwyddiadau ymylol, derbyniadau a chyfarfodydd

Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn cynnal digwyddiadau ymylol a chyfarfodydd eraill yn eu cynadleddau plaid. Os ydych yn derbyn taliadau i gynnal y digwyddiadau hyn, bydd y taliadau hyn yn cyfrif fel nawdd.

Yn yr achos hwn, gellir ond derbyn taliadau sydd werth £500 a throsodd gan roddwyr a ganiateir. Dylid ystyried gwerth cyflawn y taliad a dderbyniwyd a’i drin fel nawdd, ac felly fel rhodd i’r blaid. Rhaid i’r blaid adrodd am hyn os yw’r swm a dderbynnir gennych oddi wrth un ffynhonnell dros y trothwyon adrodd ar gyfer rhoddion.

Am ragor o wybodaeth am y rheolau parthed adrodd am roddion a benthyciadau i bleidiau, gweler:

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2021

Pecynnau cynadleddau neu ddigwyddiadau

Gall rhai pleidiau, a sefydliadau eraill a reoleiddir, gynnig didyniadau cyffredinol pan fo pecyn eitemau mewn perthynas â digwyddiad yn cael eu prynu gyda’i gilydd, er enghraifft stondin cynhadledd, tocynnau mynediad, a seddi cinio.

Os ydych yn cynnig pecyn cynhadledd, bydd angen i chi ystyried pob rhan o’r pecyn i asesu p’un a yw’n adroddadwy.

Gallai rhai elfennau fod wedi eu heithrio, megis tâl mynediad, tra byddai elfennau eraill y pecyn, megis mathau o hysbysebu nad ydynt wedi eu heithrio, yn cael eu trin fel nawdd os ydynt yn helpu i fodloni costau’r digwyddiad.


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mai 2021