Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr
Cyflwyniad
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) mae rheolaethau ar y rhoddion y gall plaid wleidyddol gofrestredig eu derbyn a'r benthyciadau y gallant eu trefnu. Rhaid i rai rhoddion a benthyciadau gael eu cofnodi a rhaid rhoi gwybod i ni amdanynt. Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion a'r benthyciadau y rhoddir gwybod i ni amdanynt mewn cofrestr ar ein gwefan.
Mae rheolau ar wahân sy'n gymwys i bleidiau sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r canllawiau i bleidiau sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr. Ar gyfer canllawiau i bleidiau yng Ngogledd Iwerddon, gweler Rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.
Pwy sy'n cael rhoddion a benthyciadau?
Gwneir rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a'u hunedau cyfrifyddu (adrannau o blaid nad yw eu cyllid wedi'i reoli'n uniongyrchol gan bencadlys y blaid).
Rhaid i bleidiau benodi rhywun i gael ei gofrestru â ni fel eu trysorydd. Y trysorydd cofrestredig sy'n gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn dilyn y rheolau ar roddion a benthyciadau.
Mae hyn yn cynnwys cynnal systemau addas yn y blaid i sicrhau yr ymdrinnir â rhoddion a benthyciadau'n gywir.
Trysoryddion pleidiau canolog a thrysoryddion unedau cyfrifyddu
Mae trysoryddion pleidiau canolog yn gyfrifol am:
- sicrhau bod y blaid yn cadw cofnodion cyfrifyddu digonol i ddangos ac esbonio'r trafodion y mae wedi ymrwymo iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â rhoddion a benthyciadau
- cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y gellir derbyn y rhoddion a'r benthyciadau hyn
- rhoi gwybod i ni, y Comisiwn Etholiadol, am rai rhoddion a benthyciadau
Nid yw trysoryddion unedau cyfrifyddu yn gyfrifol o dan PPERA am roi gwybod am roddion a benthyciadau, ac nid ydynt yn rhoi gwybod i ni amdanynt ar wahân. Fodd bynnag, dylai trysoryddion unedau cyfrifyddu bob amser ddilyn gweithdrefnau eu plaid. Rhaid iddynt hefyd roi'r holl wybodaeth berthnasol i drysorydd y blaid ganolog pan ofynnir amdani.
I bwy mae'r canllawiau hyn?
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer trysoryddion cofrestredig. Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘chi’ pan fyddwn yn cyfeirio at drysorydd cofrestredig plaid a'i gyfrifoldebau.
Rydym yn defnyddio ‘rhaid’ pan fyddwn yn cyfeirio at ofyniad cyfreithiol neu reoliadol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch hynny, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith.
Diweddariadau i'n canllawiau
Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o'r newid |
---|---|
Awst 2024 | Diweddarwyd i egluro pryd y mae rhoddion nas caniateir yn adroddadwy |