Return to The Electoral Commission Homepage

Rhagarweiniad

Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymgyrchu yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac is-etholiadau ym Mhrydain Fawr.

O Dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau ynghylch faint y gallant wario ar weithgareddau ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau.

Mae’r canllaw hwn yn egluro sut mae’r rheolau’n gymwys.
 

Beth yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau?

Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. 

Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau penodol yn y cyfnod cyn etholiadau.
 

Y mathau o ymgyrchoedd rhai nad ydynt yn bleidiau

Mae dau fath o ymgyrchoedd rhai nad ydynt yn bleidiau, sef y rhain:

Ymgyrchoedd cyffredinolYmgyrchoedd lleol

Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:

  • un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
  • pleidiau neu ymgeiswyr sy’n cefnogi, neu sydd ddim yn cefnogi, polisïau penodol
  • categorïau eraill o ymgeiswyr

 

Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:

  • un neu fwy o ymgeiswyr
  • mewn etholaeth, ward neu ardal etholiadol arall benodol

 

 

Gweler Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: etholiadau cyffredinol Senedd y DU i gael canllawiau ar ymgyrchoedd cyffredinol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mehefin 2024

Ymgyrchoedd lleol

Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Senedd y DU neu mewn is-etholiad ym Mhrydain Fawr, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol.

O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn etholaeth.

Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.

Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mehefin 2024

Terfynau gwario

Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £700 yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholaeth.1  Gelwir hyn yn swm a ganiateir. Bydd yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd yn swyddogol.

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch dyddiadau pleidleisio, a phryd y daw pobl yn ymgeiswyr, ar ein tudalen canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac yn is-etholiadau Senedd y DU. Os ydych wedi’ch awdurdodi i fynd i wariant ymgeisydd, dylech ddarllen ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.

Dylech gadw cofnod o’ch gwariant, i sicrhau nad ydych yn mynd dros y terfyn gwario. 

Rhaid i unrhyw wariant dros y trothwyon hyn gael eu hawdurdodi gan asiant yr ymgeisydd perthnasol. Bydd y gwariant awdurdodedig yn cyfri fel gwariant ymgeisydd tuag at derfyn gwario’r ymgeisydd.2

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mehefin 2024

Adrodd

Os rhoddir awdurdodiad, bydd angen i’r asiant gynnwys eich gwariant yn ffurflen gwariant yr ymgeisydd. Bydd angen i chi roi’r manylion angenrheidiol i’r asiant er mwyn i’r gwariant hwnnw gael ei gynnwys.

Os byddwch yn gwario dros y terfyn, bydd rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad a’u cyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau perthnasol ymhen 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.

Yn y ddwy ddogfen rhaid i chi gynnwys:

  • enw'r etholaeth
  • dyddiad cyhoeddi hysbysiad yr etholiad (gallwch ddod o hyd i hyn gan eich Swyddog Canlyniadau lleol)
  • enw'r asiant etholiadol a awdurdododd y gwariant.
  • enw'r ymgeisydd y mae ei asiant wedi awdurdodi'r gwariant
  • eich enw fel y sefydliad neu'r unigolyn a aeth i wariant

Yn y ffurflen mae'n rhaid i chi gynnwys cyfanswm eich gwariant, a rhaid i chi atodi awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant ar gyfer eich gwariant.

Yn y datganiad mae'n rhaid i chi ddatgan bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir, a chynnwys manylion am y gwariant yr aethpwyd iddo, o dan “y materion yr aed i'r gwariant y cyfeiriwyd ato”.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Gorffennaf 2024

Argraffnodau

O dan y gyfraith, mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu gynnwys manylion sy’n dangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae'n darparu tryloywder i bleidleiswyr.

Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod.

Gall fod angen argraffnodau ar ddeunydd digidol a deunydd argraffedig.

Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol – ledled y DU

Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig: Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mehefin 2024