Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Senedd y DU neu mewn is-etholiad ym Mhrydain Fawr, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol.
O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn etholaeth.
Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.
Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu.