Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Rhagarweiniad i’n canllawiau i ymgeiswyr

Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i unrhyw un sydd am sefyll fel ymgeisydd neu fod yn asiant mewn is-etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr.

Gall sefyll mewn etholiad fod yn gymhleth, ond gobeithiwn y bydd ein canllawiau yn ei gwneud hi mor syml â phosibl.

Mae ein canllawiau yn nodi'r camau y mae angen i ymgeiswyr a'u hasiantau fynd drwyddynt wrth sefyll mewn is-etholiad Senedd y DU.

Mae'n cynnwys deunydd ffeithiol perthnasol yn ogystal â dolenni i ffynonellau gwybodaeth bellach. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ffurflenni ac adnoddau, y gellir eu cyrchu'n uniongyrchol trwy ddolenni yn y testun.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn Sut i ddefnyddio ein canllawiau.

Amserlen etholiad

Pan fydd is-etholiad wedi'i alw, byddwch yn gallu cael copi o'r amserlen benodol ar gyfer yr etholiad hwnnw gan y Swyddog Canlyniadau.

Sylwch fod deddfwriaeth diogelu data yn berthnasol i brosesu’r holl ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ragor o wybodaeth ynghylch sut mae’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol yn effeithio arnoch chi.

Rydym ni yma i helpu, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gweler Cysylltu â ni am fanylion cyswllt.

Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn

Fel arfer byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio gyda'r gyfraith os ydych yn dilyn y canllawiau hyn.

Rydym yn defnyddio 'rhaid' wrth gyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio 'dylech/dylid' ar gyfer eitemau yr ystyriwn i fod yn arfer da, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol neu rheoleiddiol.

Rydym yn defnyddio ‘chi’ i gwmpasu’r ymgeisydd a’r asiant yn y canllawiau hyn. Pan fyddwn yn sôn am roddion, rydym yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at y person sy’n gyfrifol ar y pryd am ymdrin â rhoddion.