Return to The Electoral Commission Homepage

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

O dan Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012, rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau ynghylch faint y gallant ei wario ar weithgareddau ymgyrchu yn y cyfnod cyn yr etholiadau hyn.

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut mae'r rheolau'n berthnasol.

Beth yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau?

Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. 

Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddilyn rheolau penodol yn y cyfnod cyn etholiadau.

Y mathau o ymgyrchoedd nad ydynt yn bleidiau

Mae dau fath o ymgyrchoedd nad ydynt yn bleidiau, sef:

Ymgyrchoedd cyffredinolYmgyrchoedd lleol

Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:

  • un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
  • pleidiau neu ymgeiswyr sy’n cefnogi, neu sydd ddim yn cefnogi, polisïau penodol
  • categorïau eraill o ymgeiswyr 

Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:

  • un neu fwy o ymgeiswyr
  • mewn etholaeth, ward neu ardal etholiadol arall benodol

Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â chyfreithiau ymgyrchoedd lleol mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Dim ond yn y cyfnod cyn etholiadau y caiff gwariant ar ymgyrchoedd cyffredinol ei reoleiddio ar gyfer yr etholiadau canlynol:

  • Senedd y DU
  • Senedd yr Alban
  • y Senedd
  • Cynulliad Gogledd Iwerddon

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar gyfer mathau eraill o etholiadau ar ein tudalen chwilio ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mai 2024

Ymgyrchoedd lleol mewn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Os ydych yn ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeisydd mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rydych yn dod o dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol.

Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol. Dylid gwneud cwynion ynghylch tor-rheolau posibl i'r heddlu.

O dan y rheolau ar gyfer ymgyrchoedd lleol, mae yna derfynau ar faint allwch wario ar ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr penodol mewn etholaeth neu ardal etholiadol leol. Mae’r terfynau hyn yn wahanol, yn dibynnu ar faint yr etholaeth yn yr ardal berthnasol.

Mae'r terfynau gwario hyn yn cynnwys gwariant ar y mwyafrif o weithgareddau ymgyrchu, gan gynnwys taflenni, cyfarfodydd ac ymgyrchu digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mai 2024

Terfynau gwariant

Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at 'swm a ganiateir' ym mhob ardal yr heddlu yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar ymgyrchu ar gyfer neu yn erbyn ymgeisydd.1 Mae gan bob ardal yr heddlu ei therfyn gwariant ei hun. Mae'n berthnasol pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd swyddogol.

Mae'r terfynau fel a ganlyn: 2

Ardal yr heddlu Terfyn gwariant Ardal yr heddlu Terfyn gwariant 
Avon a Gwlad yr Haf £6,278Norfolk£3,392
Swydd Bedford £2,347Gogledd Cymru£2,674
Swydd Gaergrawnt £3,055Gogledd Swydd Efrog £3,142
Swydd Gaer £4,015Swydd Northampton £2,686
Cleveland£2,155Northumbria£5,507
Cumbria£2,024Swydd Nottingham£4,116
Swydd Derby £3,993De Cymru£4,904
Dyfnaint a Chernyw £6,573De Swydd Efrog £5,030
Dorset£3,003Swydd Stafford £4,314
Durham£2,499Suffolk£2,828
Dyfed-Powys£2,035Surrey£4,345
Essex£6,605Sussex£6,197
Swydd Gaerloyw £2,422Dyffryn Tafwys £8,551
Gwent£2,199Swydd Warwick £2,144
Hampshire £7,345Gorllewin Mersia£4,750
Swydd Hertford £4,260Gorllewin Canolbarth Lloegr £10,080
Glannau Humber £3,557Wiltshire£2,630
Caint £6,433  
Swydd Gaerhirfryn £5,682  
Swydd Gaerlŷr             £3,952  
Swydd Lincoln £2,805  
Glannau Mersi £5,139  

Dylech gadw cofnod o'ch gwariant, i wneud yn siŵr nad ydych yn mynd dros y terfyn gwariant.

Rhaid i unrhyw wariant dros y terfynau hyn gael ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan asiant yr ymgeisydd perthnasol. Bydd y gwariant awdurdodedig yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd a thuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3

Os ydych wedi cael eich awdurdodi i fynd i wariant ymgeiswyr, dylech ddarllen ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mai 2024

Adrodd

Os rhoddir awdurdodiad, bydd angen i'r asiant gynnwys eich gwariant ar y ffurflen gwariant ymgeisydd. Bydd angen i chi roi'r manylion angenrheidiol i'r asiant er mwyn i'r gwariant hwnnw gael ei gynnwys.

Os ydych yn gwario mwy na'r terfyn rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad gwariant a chyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu perthnasol o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mai 2024

Argraffnodau

Pryd bynnag y caiff deunydd etholiadol argraffedig ei gyhoeddi, rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu.

Gweler ein taflen wybodaeth argraffnodau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, am arweiniad ynghylch defnyddio argraffnodau ar ddeunydd etholiadol:

Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol

Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig: Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mai 2024