Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at 'swm a ganiateir' ym mhob ardal yr heddlu yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar ymgyrchu ar gyfer neu yn erbyn ymgeisydd.1
Mae gan bob ardal yr heddlu ei therfyn gwariant ei hun. Mae'n berthnasol pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd swyddogol.
Dylech gadw cofnod o'ch gwariant, i wneud yn siŵr nad ydych yn mynd dros y terfyn gwariant.
Rhaid i unrhyw wariant dros y terfynau hyn gael ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan asiant yr ymgeisydd perthnasol. Bydd y gwariant awdurdodedig yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd a thuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3