Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ymgyrchu lleol

Weithiau, bydd pobl yn gwario arian er mwyn hyrwyddo ymgeisydd heb ddarparu na throsglwyddo rhywbeth i'r ymgeisydd ei ddefnyddio neu er budd iddo yn ystod yr ymgyrch. Yn yr un modd, gall pobl wario arian i feirniadu ymgeisydd neu i annog pleidleiswyr i beidio â'i gefnogi.

Gelwir sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau, ond sy'n ymgyrchu ar gyfer neu yn erbyn ymgeisydd, yn ‘ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau’.

Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at 'swm a ganiateir' mewn ardal yr heddlu yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar ymgyrchu ar gyfer neu yn erbyn ymgeisydd. 1  Mae gan bob ardal yr heddlu ei therfyn gwariant ei hun. Daw'n gymwys pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd y swyddogol (gweler Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?)

Mae'r terfynau fel a ganlyn: 2

Ardal yr heddlu Terfyn gwariant Ardal yr heddlu Terfyn gwariant 
Avon a Gwlad yr Haf £6,278Norfolk£3,392
Swydd Bedford £2,347Gogledd Cymru£2,674
Swydd Gaergrawnt £3,055Gogledd Swydd Efrog £3,142
Swydd Gaer £4,015Swydd Northampton £2,686
Cleveland£2,155Northumbria£5,507
Cumbria£2,024Swydd Nottingham£4,116
Swydd Derby £3,993De Cymru£4,904
Dyfnaint a Chernyw £6,573De Swydd Efrog £5,030
Dorset£3,003Swydd Stafford £4,314
Durham£2,499Suffolk£2,828
Dyfed-Powys£2,035Surrey£4,345
Essex£6,605Sussex£6,197
Swydd Gaerloyw £2,422Dyffryn Tafwys £8,551
Gwent£2,199Swydd Warwick £2,144
Hampshire £7,345Gorllewin Mersia£4,750
Swydd Hertford £4,260Gorllewin Canolbarth Lloegr £10,080
Glannau Humber £3,557Wiltshire£2,630
Caint £6,433  
Swydd Gaerhirfryn £5,682  
Swydd Gaerlŷr             £3,952  
Swydd Lincoln £2,805  
Glannau Mersi £5,139  

Ni all ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid wario mwy na'r swm hwn a ganiateir heb awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant i fynd i'r gwariant ychwanegol, a fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. 3

Os bydd ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid yn mynd i wariant sydd uwchlaw'r swm a ganiateir, rhaid iddo roi gwybod am y gwariant ychwanegol hwn i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 4  Mae ffurflen a datganiad ar wahân y mae'n rhaid i'r ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid ei chwblhau er mwyn rhoi gwybod am dreuliau a awdurdodwyd.
 

 

Rhaid i'r treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu cynnwys yn y ffurflen gwariant i ymgeiswyr. 5  Mae arian yr eir iddo gan ymgyrchwyr mewn ymgyrchoedd lleol a awdurdodwyd gan yr asiant yn wariant ymgeisydd ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant. 5

Gall y treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu talu gan y person a awdurdodwyd i fynd iddynt. 5  Os bydd yn gwneud y taliadau, a bod y gwariant dros £50, yna bydd hyn yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdani ar y ffurflen gwariant. 5

Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd a Rhoddion ymgeiswyr.

Dylai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cynllunio ymgyrch leol ddarllen ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. 

Ymgyrchu lleol gan bleidiau

Rhaid i bleidiau fod yn ymwybodol y bydd unrhyw wariant gan y blaid ar ymgyrchu lleol ar gyfer un o'i hymgeiswyr na chaiff ei awdurdodi gan yr asiant, yn cyfrif fel gwariant 5  y blaid. Mewn etholiadau a gwmpesir gan gyfnod a reoleiddir y blaid, rhaid i'r gwariant hwn gael ei gynnwys ar ffurflen gwariant y blaid. 5

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid cael etholiad cyffredinol erbyn 28 Ionawr 2025. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd ymgyrchu yn yr etholiadau ym mis Mai 2024 wedi'i gwmpasu gan gyfnod a reoleiddir y blaid.

I'r gwrthwyneb, dim ond ar y ffurflenni ymgyrchu lleol a ffurflen gwariant ymgeisydd fel uchod y bydd angen i unrhyw dreuliau a awdurdodwyd ymddangos.

Example

Er enghraifft, mae'r asiant yn cytuno i awdurdodi'r blaid i wario mwy na'r swm a ganiateir ar gyfer yr ardal heddlu honno ar wariant i hyrwyddo'r ymgyrchydd. Rhaid i'r asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig cyn i'r blaid wario mwy na'r swm a ganiateir. Yn y senario hwn, mae'r blaid hefyd yn cytuno i wneud y taliadau ar gyfer y treuliau a hyn a awdurdodwyd.

Rhaid i'r asiant roi gwybod am y gwariant hwn a awdurdodwyd ar ffurflen yr ymgeisydd, gan y bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwario'r ymgeisydd. Am fod y blaid wedi talu am y treuliau hyn a awdurdodwyd, rhaid eu cofnodi hefyd fel rhodd i'r ymgeisydd os yw'r gwerth yn fwy na £50. 1

Rhaid i'r blaid lenwi ffurflen a datganiad ar wahân i roi gwybod am y treuliau hyn a chyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau perthnasol o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 2

Gan na roddwyd gwybod am y gwariant ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, nid oes angen rhoi gwybod amdano ar ffurflen 3  gwariant y blaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Rhagfyr 2023