Os rhoddir awdurdodiad, bydd angen i'r asiant gynnwys eich gwariant ar y ffurflen gwariant ymgeisydd. Bydd angen i chi roi'r manylion angenrheidiol i'r asiant er mwyn i'r gwariant hwnnw gael ei gynnwys.
Os ydych yn gwario mwy na'r terfyn rhaid i chi hefyd gwblhau ffurflen gwariant a datganiad gwariant a chyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu perthnasol o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa etholiadau lleol gan ddefnyddio ein chwiliwr cod post.