Cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a gorsafoedd pleidleisio
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol.
Mae'r Cod hwn yn darparu canllaw i ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadau a heddluoedd ynghylch beth a gaiff ac na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio.
Gellir dod o hyd i ganllawiau manylach am droseddau etholiadol yn y canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, sydd ar gael yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant.
Mae'r Cod wedi'i anfon at bob plaid wleidyddol gofrestredig ym Mhrydain Fawr, a bydd Swyddogion Canlyniadau yn tynnu sylw'r holl ymgeiswyr a phleidiau sy'n ymladd yn yr etholiadau a'r refferenda datganoledig yng Nghymru a'r Alban a restrir isod yn adran Cwmpas y Cod hwn.
Gall rhai Swyddogion Canlyniadau nodi'r angen i ddatblygu a cheisio cytundeb i ddarpariaethau lleol penodol sy'n ategu telerau'r Cod hwn, er mwyn mynd i'r afael â risgiau lleol a nodwyd. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ymgynghori ag ymgyrchwyr lleol a'r Swyddogion Enwebu cenedlaethol perthnasol yn ogystal â heddluoedd er mwyn sicrhau cytundeb lleol priodol i ddarpariaethau o'r fath, a dylent sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i ymgeiswyr yn lleol a'u bod yn eu deall yn iawn.
Cwmpas y cod hwn
Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r holl bobl hynny sy'n cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymgyrchu yn yr achosion canlynol:
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau cynghorau'r Alban
- Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd yr Alban
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau lleol yng Nghymru
- Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd Cymru
- Etholiadau a refferenda eraill ym Mhrydain Fawr
NID yw'r cod hwn yn gymwys i unrhyw ddigwyddiadau pleidleisio eraill. Gellir dod o hyd i'r cod ymddygiad i ymgyrchwyr ar gyfer mathau eraill o etholiadau a refferenda ym Mhrydain Fawr yma ac mae hwn yn cwmpasu:
- Etholiadau Senedd y DU (yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban)
- Is-etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Refferenda lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu) yng Nghymru a Lloegr
Ystyr y term “ymgyrchydd”
- Ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, eu hasiantiaid, eu staff a'u cefnogwyr
- Swyddogion, aelodau a chefnogwyr plaid wleidyddol sy'n ymgyrchu mewn etholiad
- Pobl eraill a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn ymgeisydd, grŵp o ymgeiswyr neu blaid mewn etholiad
- Pobl a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn canlyniad penodol mewn refferendwm
Cydymffurfio â'r cod hwn
Dylid codi unrhyw bryderon fod y cod hwn wedi ei dorri gyda'r ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu'r ymgyrchydd dan sylw yn gyntaf.
Dylid tynnu sylw'r Comisiwn Etholiadol at unrhyw bryderon pellach. Bydd y Comisiwn yn eu codi gyda'r blaid neu'r ymgyrchydd perthnasol os yw hynny'n briodol, a bydd yn cytuno ar gamau priodol i ddatrys y sefyllfa neu atal unrhyw doriad rhag codi eto.
Cofrestru etholiadol a cheisiadau am bleidleisiau absennol
Dylai ymgyrchwyr fod yn rhydd i annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio a gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan, os mai dyna'r ffordd fwyaf cyfleus iddynt bleidleisio.
Gall ymgyrchwyr helpu i roi gwybodaeth i bleidleiswyr am sut i gymryd rhan mewn etholiadau. Dylent annog pleidleiswyr yn y lle cyntaf i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru etholiadol ar-lein neu gallwch rannu ffurflenni cais papur ymysg pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio ac i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol eich cefnogi drwy roi nifer rhesymol o ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol i chi ar gais. estru a ffurflenni cais am bleidlais absennol i chi ar gais.
Registration and absent vote forms should conform to electoral law
Dylai ymgyrchwyr sicrhau bod unrhyw ffurflenni cofrestru etholiadol a ffurflenni cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy yn cydymffurfio'n llawn â gofynion cyfraith etholiadol, gan gynnwys yr holl gwestiynau angenrheidiol a'r opsiynau sydd ar gael i etholwyr.
Gallwch lawrlwytho ffurflenni cofrestru etholiadol o'r tudalen Gofrestru i bleidleisio (ffurflenni papur) - GOV.UK a ffurflenni cais pleidlais absennol o Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post | Y Comisiwn Etholiadol a Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy | Y Comisiwn Etholiadol.
ERO's address should be preferred return address
Dylai ymgyrchwyr sicrhau bod cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol wedi'i ddarparu'n glir fel y cyfeiriad dychwelyd ar gyfer ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol.
Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr wneud eu dewis eu hunain ynghylch sut i ddychwelyd ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol, dylech bob amser ddarparu cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol fel y cyfeiriad dychwelyd. Bydd hyn hefyd yn lleihau'r risg o amheuaeth y gallai ceisiadau wedi'u cwblhau gael eu newid neu eu dinistrio neu fynd ar goll drwy amryfusedd.
Campaigners should send completed forms unaltered to ERO
Dylai ymgyrchwyr anfon unrhyw ffurflenni cais cofrestru wedi'u selio a'u cwblhau neu ffurflenni cais pleidlais absennol a roddir iddynt i gyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol o fewn dau ddiwrnod gwaith o’u cael a chyn y dyddiad cau statudol.
Os bydd pleidleisiwr yn gofyn i chi gymryd eu ffurflen gais wedi’i chwblhau a’i dychwelyd i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech sicrhau bod y pleidleisiwr wedi selio’r ffurflen mewn amlen cyn ei chymryd. Dylech ddychwelyd ffurflenni yn uniongyrchol i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol i leihau'r risg y caiff ceisiadau am bleidlais absennol eu gwrthod oherwydd bod ffurflenni wedi'u cwblhau yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau statudol cyn pleidlais (5pm ar yr 11eg diwrnod gwaith cyn y bleidlais).
Implications of applying to vote by post or proxy
Dylai ymgyrchwyr bob amser esbonio goblygiadau gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i etholwyr.
Mae'n bwysig bod etholwyr yn deall na fyddant yn gallu pleidleisio yn bersonol ar y diwrnod pleidleisio os byddant hwy neu eu dirprwy yn gwneud cais am bleidlais bost a bod y cais yn cael ei dderbyn, ac na fyddant yn gallu pleidleisio'n bersonol os bydd y dirprwy a benodwyd ganddynt eisoes wedi pleidleisio ar eu rhan. Er mwyn osgoi dyblygu a rhoi pwysau gweinyddol diangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol, dylai ymgyrchwyr geisio sicrhau nad yw etholwyr sydd wedi'u cynnwys ar restrau pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy cyfredol neu sydd eisoes wedi gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol, yn cyflwyno cais ychwanegol.
Ceisiadau am bleidlais bost
Pan fydd etholwyr yn llenwi eu ffurflenni cais am bleidlais post, ni ddylai ymgyrchwyr byth annog etholwyr i ailgyfeirio eu pecyn pleidleisio drwy'r post i unrhyw le arall heblaw'r cyfeiriad lle y maent wedi cofrestru i bleidleisio.
Dylai etholwyr ofalu eu bod yn cadw eu papur pleidleisio a'u pecyn pleidleisio drwy'r post yn ddiogel, a byddant yn gallu gwneud hynny orau yn eu cyfeiriad cartref oni bai fod rhesymau cymhellol pam y byddai cael pecyn pleidleisio drwy'r post yn y cyfeiriad lle maent wedi'u cofrestru i bleidleisio yn anymarferol. Rhaid i etholwyr nodi ar y ffurflen gais y rheswm pam mae angen anfon eu pecyn pleidleisio drwy'r post i gyfeiriad arall.
Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy
Dylid annog etholwyr i ystyried opsiynau eraill i bobl weithredu fel dirprwy – gan gynnwys perthnasau neu gymdogion, er enghraifft – cyn bod ymgyrchydd yn cytuno i weithredu fel dirprwy.
I leihau'r risg o amheuon y gall ymgyrchwyr fod yn ceisio rhoi pwysau gormodol ar etholwyr, ni ddylid annog etholwyr i benodi ymgyrchydd fel eu dirprwy.
Papurau pleidleisio drwy’r post
Ni ddylai ymgyrchwyr byth cyffwrdd â dogfennau pleidleisio trwy’r post unrhyw un arall na'u trin a'u trafod.
Mae’r term “dogfen pleidleisio trwy’r post” yn cwmpasu papur pleidleisio trwy’r post, datganiad pleidleisio trwy'r post, datganiad hunaniaeth, amlenni ar gyfer dychwelyd dogfennau pleidleisio trwy’r post ac amlen sy’n cynnwys pecyn pleidleisio trwy’r post.
Os bydd rhywun yn gofyn i chi am help i gwblhau papur pleidleisio, dylech bob amser gyfeirio'r pleidleisiwr at staff y Swyddog Canlyniadau yn y swyddfa etholiadau, a fydd o bosibl yn gallu trefnu ymweliad cartref os bydd angen. Bydd cymorth ar gael i etholwyr mewn gorsafoedd pleidleisio hefyd.
Campaigners should never observe voters completing their ballot paper.
Ni ddylai ymgyrchwyr byth arsylwi ar bleidleiswyr yn cwblhau eu papur pleidleisio. Os byddwch gyda phleidleisiwr pan fydd yn cwblhau ei bapur pleidleisio, cofiwch y dylai bob amser ei gwblhau'n gyfrinachol.
Dylech sicrhau bod y pleidleisiwr yn selio'r ddwy amlen yn bersonol ac yn syth ar ôl cwblhau ei bapur pleidleisio a'i ddatganiad pleidleisio trwy'r post. Os gofynnir i chi am gyngor, mae'n dderbyniol ac yn ddefnyddiol yn aml esbonio'r broses bleidleisio, ond peidiwch â chynnig helpu unrhyw un i gwblhau ei bapur pleidleisio.
Lle bynnag y bo'n ymarferol, dylech annog pleidleiswyr i bostio'r pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'u gwblhau neu ei ddosbarthu eu hunain. Os bydd pleidleisiwr yn dod atoch neu'n gofyn am help am nad yw'n gallu postio ei becyn pleidleisio trwy'r post wedi'i gwblhau na gwneud trefniadau eraill i'w ddychwelyd mewn pryd, dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau i ofyn iddo/iddi drefnu i'r pecyn gael ei gasglu.
Ymgyrchu y tu allan i fannau pleidleisio
Dylai fod hawl gan ymgyrchwyr i gyflwyno eu negeseuon i bleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio.
Ni ddylai staff gorsafoedd pleidleisio na swyddogion yr heddlu geisio atal na symud ymgyrchwyr sydd fel arall yn cyfathrebu'n heddychlon â phleidleiswyr, ar yr amod nad ydynt yn y man pleidleisio neu'n rhwystro mynediad iddo. Fodd bynnag, dylech sicrhau bod eich dull gweithredu yn gymesur a dylech gydnabod y gall grwpiau o gefnogwyr godi ofn ar bleidleiswyr.
Access to polling places
Dylai ymgyrchwyr gadw mynediad i fannau pleidleisio a'r palmentydd o gwmpas mannau pleidleisio yn glir fel y gall pleidleiswyr fynd i mewn iddynt.
Y Swyddog Llywyddu sy'n gyfrifol am gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio, ac mae'n bosibl y bydd staff yr orsaf bleidleisio neu swyddogion yr heddlu yn gofyn i chi symud os byddwch yn rhwystro mynediad pleidleiswyr i fan pleidleisio.
Cwynion a honiadau ynghylch twyll etholiadol
Dylai ymgyrchwyr fod yn barod i roi datganiad i'r heddlu a chadarnhau unrhyw honiadau ynghylch twyll etholiadol.
Bydd yr heddlu yn ymchwilio i honiadau pan fydd rhywun yn barod i roi tystiolaeth neu ddatganiad yn cefnogi'r gŵyn, ond gall honiadau di-sail ynghylch twyll etholiadol wneud drwg i hyder yn uniondeb y broses etholiadol. Dylech sicrhau eich bod yn hyderus y gellir darparu tystiolaeth i'r heddlu cyn ystyried a yw'n briodol cyhoeddi unrhyw honiad penodol.
Raising concerns about electoral fraud
Dylai ymgyrchwyr sy'n pryderu neu sy'n credu bod twyll etholiadol wedi digwydd, godi'r mater gyda'u hasiant etholiad neu blaid leol, neu gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol neu Swyddog Canlyniadau yr ardal.
Mae'n bosibl y bydd yn gallu esbonio p'un a oes trosedd yn ymwneud ag etholiad wedi'i chyflawni ai peidio, a chyfeirio'r mater at yr heddlu os yw'n briodol neu ddarparu manylion swyddog cyswllt yr heddlu ar gyfer yr ardal berthnasol fel y gall ymgyrchwyr roi gwybod am yr honiad. Dylai pryderon ynghylch torri'r rheolau cyllid gwleidyddol gael eu mynegi i'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol.
Reporting offences to the police
Dylai unrhyw ymgyrchydd sydd â thystiolaeth wirioneddol fod trosedd etholiadol wedi'i chyflawni hysbysu'r heddlu o'r drosedd honno yn syth ac yn ddi-oed.
Os yw'n briodol, bydd yr heddlu yn ymchwilio i'r mater. Mae gan bob heddlu Bwynt Cyswllt Unigol (a elwir yn SPOC) i arwain ar faterion etholiadol ac a fydd yn ymdrin yn uniongyrchol â'r mater neu'n rhoi cyngor i swyddogion yr heddlu lleol. Gall y Comisiwn Etholiadol helpu i ddarparu manylion cyswllt ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol heddluoedd lleol.