Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr, etholiadau lleol yn Lloegr ac Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy, tystysgrif awdurdod pleidleisiwr a gorsafoedd pleidleisio

Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol.

Mae'r Cod hwn yn darparu canllaw i ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadau a heddluoedd ynghylch beth a gaiff ac na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio. 

Mae'r cod hefyd yn darparu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r drosedd o drin dogfennau pleidleisio drwy'r post gan ymgyrchwyr gwleidyddol a'r gofyniad am gyfrinachedd ar gyfer pleidleiswyr post. 

Gellir dod o hyd i arweiniad mwy manwl am droseddau etholiadol yn y canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, sydd ar gael yn:  https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant.

Anfonwyd y Cod at bob plaid wleidyddol gofrestredig ym Mhrydain Fawr, a bydd Swyddogion Canlyniadau yn tynnu sylw'r holl ymgeiswyr a phleidiau sy'n ymladd etholiadau. 

Gall rhai Swyddogion Canlyniadau nodi'r angen i ddatblygu a cheisio cytundeb i ddarpariaethau lleol penodol sy'n ategu telerau'r Cod hwn, er mwyn mynd i'r afael â risgiau lleol a nodwyd. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ymgynghori ag ymgyrchwyr lleol a'r Swyddogion Enwebu cenedlaethol perthnasol yn ogystal â heddluoedd er mwyn sicrhau cytundeb lleol priodol i ddarpariaethau o'r fath, a dylent sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i ymgeiswyr yn lleol a'u bod yn eu deall yn iawn.

Cwmpas y cod hwn

Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r holl bobl hynny sy'n cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymgyrchu yn yr etholiadau hynd a gedwir yn ôl:

  • Etholiadau Senedd y DU (Cymru, Lloegr, a'r Alban)  
  • Etholiadau awdurdodau lleol yn Lloegr
  • Etholiadau cynghorau plwyf yn Lloegr
  • Etholiadau maerol lleol yn Lloegr
  • Etholiadau maerol awdurdodau cyfun yn Lloegr 
  • Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf yn Llundain
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu) yng Nghymru a Lloegr
  • Refferenda awdurdodau lleol yn Lloegr
  • Refferenda Cynllunio Cymdogaethau a Busnesau yn Lloegr 
Etholiadau a refferenda eraill ym Mhrydain Fawr

NID yw'r cod hwn yn gymwys i unrhyw ddigwyddiadau pleidleisio eraill. Gellir dod o hyd i'r cod ymddygiad i ymgyrchwyr ar gyfer mathau eraill o etholiadau datganoledig a refferenda yng Nghymru a'r Alban yma, ac mae hwn yn cwmpasu:

  • Etholiadau cynghorau’r Alban
  • Etholiadau Senedd yr Alban
  • Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd yr Alban
  • Etholiadau Senedd Cymru
  • Etholiadau lleol yng Nghymru
  • Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd Cymru

Terminoleg

Mae rhai o’r pwyntiau yn y cod hwn yn droseddau. Yn y cod ymddygiad hwn, defnyddiwn ‘rhaid’ pan gyfeiriwn at droseddau. Defnyddiwn ‘dylech’ neu ‘dylid’ ar gyfer y rhannau nad ydynt yn droseddau. 

Ystyr y term “ymgyrchydd”

Mae pob cyfeiriad at ymgyrchwyr yn y cod hwn yn cynnwys: 

  • Ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, eu hasiantiaid, eu staff a'u cefnogwyr 
  • Swyddogion, staff, aelodau a chefnogwyr plaid wleidyddol sy'n ymgyrchu mewn etholiad 
  • Pobl a sefydliadau eraill sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn ymgeisydd, grŵp o ymgeiswyr neu blaid mewn etholiad lle maent yn cael eu cyflogi neu eu hymgysylltu gan yr ymgeisydd neu'r blaid wleidyddol 

Ymgyrchwyr nad ydynt wedi’u cyflogi na’u hymgysylltu gan ymgeisydd neu blaid

Rydym yn cynghori'n gryf yr holl bobl a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn ymgeisydd, grŵp o ymgeiswyr neu blaid mewn etholiad i gydymffurfio â'r Cod hwn, hyd yn oed pan nad ydynt wedi’u cyflogi nac yn cael eu hymgysylltu gan ymgeisydd neu blaid wleidyddol. 

Cydymffurfio â'r cod hwn

Dylid codi unrhyw bryderon y cyflawnwyd unrhyw droseddau y cyfeiriwyd atynt yn y cod gyda'r heddlu lleol. 

Dylid codi unrhyw ofidion bod rhannau eraill o’r cod hwn wedi’i dorri gyda’r ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu’r ymgyrchydd dan sylw yn gyntaf. 

Dylid tynnu sylw'r Comisiwn Etholiadol at unrhyw bryderon pellach. Bydd y Comisiwn yn eu codi gyda'r blaid neu'r ymgyrchydd perthnasol os yw hynny'n briodol, a bydd yn cytuno ar gamau priodol i ddatrys y sefyllfa neu atal unrhyw doriad rhag codi eto.