| Argraffu'r canllawiau llawn

Cofrestru etholiadol a cheisiadau am bleidleisiau absennol

Dylai ymgyrchwyr fod yn rhydd i annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio a gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan, os mai dyna'r ffordd fwyaf cyfleus iddynt bleidleisio. 

Gall ymgyrchwyr helpu i roi gwybodaeth i bleidleiswyr am sut i gymryd rhan mewn etholiadau. Dylent annog pleidleiswyr yn y lle cyntaf i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru etholiadol ar-lein neu gallwch rannu ffurflenni cais papur ymysg pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio ac i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol eich cefnogi drwy roi nifer rhesymol o ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol i chi ar gais.  estru a ffurflenni cais am bleidlais absennol i chi ar gais.

 

Registration and absent vote forms should conform to electoral law

Dylai ymgyrchwyr sicrhau bod unrhyw ffurflenni cofrestru etholiadol a ffurflenni cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy yn cydymffurfio'n llawn â gofynion cyfraith etholiadol, gan gynnwys yr holl gwestiynau angenrheidiol a'r opsiynau sydd ar gael i etholwyr.     

Gallwch lawrlwytho ffurflenni cofrestru etholiadol o'r tudalen Gofrestru i bleidleisio (ffurflenni papur) - GOV.UK a ffurflenni cais pleidlais absennol o Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post | Y Comisiwn Etholiadol a Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy | Y Comisiwn Etholiadol

ERO's address should be preferred return address

Dylai ymgyrchwyr sicrhau bod cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol wedi'i ddarparu'n glir fel y cyfeiriad dychwelyd ar gyfer ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol.

Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr wneud eu dewis eu hunain ynghylch sut i ddychwelyd ffurflenni cofrestru a ffurflenni cais am bleidlais absennol, dylech bob amser ddarparu cyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol fel y cyfeiriad dychwelyd. Bydd hyn hefyd yn lleihau'r risg o amheuaeth y gallai ceisiadau wedi'u cwblhau gael eu newid neu eu dinistrio neu fynd ar goll drwy amryfusedd.

Campaigners should send completed forms unaltered to ERO

Dylai ymgyrchwyr anfon unrhyw ffurflenni cais cofrestru wedi'u selio a'u cwblhau neu ffurflenni cais pleidlais absennol a roddir iddynt i gyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol o fewn dau ddiwrnod gwaith o’u cael a chyn y dyddiad cau statudol. 

Os bydd pleidleisiwr yn gofyn i chi gymryd eu ffurflen gais wedi’i chwblhau a’i dychwelyd i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech sicrhau bod y pleidleisiwr wedi selio’r ffurflen mewn amlen cyn ei chymryd. Dylech ddychwelyd ffurflenni yn uniongyrchol i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol i leihau'r risg y caiff ceisiadau am bleidlais absennol eu gwrthod oherwydd bod ffurflenni wedi'u cwblhau yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau statudol cyn pleidlais (5pm ar yr 11eg diwrnod gwaith cyn y bleidlais).

Implications of applying to vote by post or proxy

Dylai ymgyrchwyr bob amser esbonio goblygiadau gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu benodi dirprwy i etholwyr.   

Mae'n bwysig bod etholwyr yn deall na fyddant yn gallu pleidleisio yn bersonol ar y diwrnod pleidleisio os byddant hwy neu eu dirprwy yn gwneud cais am bleidlais bost a bod y cais yn cael ei dderbyn, ac na fyddant yn gallu pleidleisio'n bersonol os bydd y dirprwy a benodwyd ganddynt eisoes wedi pleidleisio ar eu rhan. Er mwyn osgoi dyblygu a rhoi pwysau gweinyddol diangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol, dylai ymgyrchwyr geisio sicrhau nad yw etholwyr sydd wedi'u cynnwys ar restrau pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy cyfredol neu sydd eisoes wedi gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol, yn cyflwyno cais ychwanegol. 

Ceisiadau am bleidlais bost

Pan fydd etholwyr yn llenwi eu ffurflenni cais am bleidlais post, ni ddylai ymgyrchwyr byth annog etholwyr i ailgyfeirio eu pecyn pleidleisio drwy'r post i unrhyw le arall heblaw'r cyfeiriad lle y maent wedi cofrestru i bleidleisio.  

Dylai etholwyr ofalu eu bod yn cadw eu papur pleidleisio a'u pecyn pleidleisio drwy'r post yn ddiogel, a byddant yn gallu gwneud hynny orau yn eu cyfeiriad cartref oni bai fod rhesymau cymhellol pam y byddai cael pecyn pleidleisio drwy'r post yn y cyfeiriad lle maent wedi'u cofrestru i bleidleisio yn anymarferol. Rhaid i etholwyr nodi ar y ffurflen gais y rheswm pam mae angen anfon eu pecyn pleidleisio drwy'r post i gyfeiriad arall.  

Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy

Dylid annog etholwyr i ystyried opsiynau eraill i bobl weithredu fel dirprwy – gan gynnwys perthnasau neu gymdogion, er enghraifft – cyn bod ymgyrchydd yn cytuno i weithredu fel dirprwy.  

I leihau'r risg o amheuon y gall ymgyrchwyr fod yn ceisio rhoi pwysau gormodol ar etholwyr, ni ddylid annog etholwyr i benodi ymgyrchydd fel eu dirprwy. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Hydref 2025